1-300301-600601-900901-12001201-15001501-18001801-21002101-2400

Pleser a Gofid (1787)

Thomas Edwards (Twm o'r Nant)

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Llinellau 1501-1800
Gofid
Ond delw Cesar i Cesar, neu'r diawl os oes eisie,
A'r twyllwr i'r twyllwr aed pob un i'w tylle.

Pleser
Hawdd gen'ti siarad rhyw hen syrwrw.
Rhaid i mi fyn'd i Cocking sy'n rhywle tuag acw,
Lle byddant hwy'n galonog yn damnio ar eu glinie,
Ac yn mron myn'd yn siwrwd gyda'u plesere.

O! fel y mae holl fwriad nhwy'n groch eu lleferydd,
Yn dodsio ac yn betio, ac yn pwtian eu gilydd;
Hai'r brithgoch, hai'r brithwyn, hai'r llwydyn llidiog
Diawl tynwch o'u gilydd, dyna i chwi geiliog.

Gofid
Wel erbyn y c'odont i chwilio'n pocede,
Mi fyddaf fineu o bergl'n dwad atynt hwy'r bore,
A dolur i'w clole ar ol bod yn clulian,
Mewn blinder ac aflwydd oherwydd eu harian.

Rhai'n bloeddio ac yn soundio, rhai eraill mewn syndod,
Rhai'n llaesu boche wedi colli gwerth buchod,
Un arall yn y gornel a dolur o'i gerne,
A'i geiliog yn gorpws, a'i ddillad yn garpiau.

A dyna i chwi ynfydion yn llwyr bendifadu,
Wedi i felldith eu pleser a'r diawl eu cwplysu:
O b'le ceiff y rhei'ny drugaredd na rhinwedd,
Ond lle dalio hwy'n dewis, a diawl yn eu diwedd.


Exit.

Pleser
Wel chwi glywsoch hen ddiarhebion,
Mae gyda'r cî y cerdd ei gynffon;
A chyda'r drwg y rhed i dre',
'R drwg arall a'i droie geirwon.

O ran pob cyffelyb elfen
A ymgais yn ddiamgen:
Pe ca'i'r dyn annuwiol fyn'd i'r ne'
Fe'i gwele'n rhyw le aflawen.

Mae'r dafarn yn fwy difyr,
At chwedl y pechadur;
Fel yr hwch i'r domen mae'n fwy iach,
A hynotach i'w hen natur.

Ond cofiwn ei ddiwedd a chym'rwn ein dewis,
Mae'r ange mor onest ag un yn yr ynys;
Ni wneiff e ddim byd ond ein tynu ni i ben,
Lle cwympo'r pren yr erys.


Enter Mr. Rondol Roundun.

Rondol
Holo, boys fy 'neidie, ni fu erioed ffasiwn adeg,
A'r lwc oedd i mi briodi'r siopwraig:
Rwy'n meddwl nad oes o Ben-y-graig
I Lunden wraig mor landeg.

A dweyd y gwir, 'roedd Sian o'r gore,
Ond mae hon yn amgenach fil cant o weithie;
Bydde rhyfedd gan galon llawer un
Mor hoffusawl mae'n hi'n trin ei phwyse.

Mae ganddi mewn ffwndwr, ni all neb ei ffeindio,
Rhyw smic yn ei bysedd, hi wneiff i beth bwyso;
Ac ryw sut gyda'i bawd yn rho'i mesur bach,
Ni fu erioed un â delach dwylo.

Hi wneiff i rai'i choelio yn mhob goruchwylieth,
'Ran mae hi'n gwaceres, ac yn bur gwick ei hareth
Ni ddywed hi'n amser uwch ben ei ffair,
Am dani hi air ond unweth.

Peth ffiedd yw fflatro, bydd ffylied pen sitrach,
Gwneyd gormod o siarad, 'does dim sydd oerach;
'Rwy'n barnu dynion dystaw sad,
O grefydd yn gwneud marchnad gryfach.

Dyma hwy'r Methodistied yn rhai pur dostion
Yn nghylch yn un stori ag oeddym ni'r Presbyterion,
Ond Mae'r Cwaceriaid yn fwy fest,
A gonest mewn bargenion.

Er fod y Dissenters i mi'n grwgnach,
Mi af fi'n Gwacers pe b'ai hwy goegach;
O ran mae gwr a gwraig a'u ffydd,
Un grefydd yn ddigrifach.

Yr ydwy'n credu mewn cu ryddid,
Mai'r Cwacers a'i pia hi yn mhob bywyd,
Can's mae hwy'n gyfoethogion, ac yn helpu'n dda
Eu gilydd gyda'u golud.


Enter Mr. Pleser.

Pleser
How now, Mr. Rondol Roundiad?
Pa fod, y gwr gloyw, 'ry'ch chwi'n ymglywed?

Rondol
Na alw'n Roundiad mo'nai'n hwy,
'Rwy'n caru'n fwy'r Cwaceriaid.

Pleser
Wel, Roundiad a Cwacers edr'wch acw,
A droigoch yn barod yn eich trwst a'ch berw?
'Rwy'n ame y troi'r chwi cyn y Sul
Yn fastard mul am elw.

Rondol
Ni waeth i ti dewi â'th ofer siarad,
Mae'r wraig yn Gwaceres, ac yn haeddu cariad.

Pleser
Ai crefydd y wraig a'th achub di'n ffraeth?
Ow, Rondol, ti eist yn waeth na'r Indiad.

Rondol
'Rwy'n coelio fod o ddifri'
Rai'n dda o bob sect a party.

Pleser
Wel, rhaid iddynt sefyll ac ymroi
Wrth ras, heb droi na throsi.

Ond eich crefydd chwi'n ddiragor.
Sydd yn eich enw, a'ch cyweth, a'ch onor,
Ac lle byddo'r galon yn llon ei llais,
Yno mae trais y trysor.

Rondol
Oni werthai'n nhrysore,
A'm cyweth, a'm ty, a'm caee;.
A mi a'i hadferteisiaf, fel ag y b'o tyst,
I'w gweled hyd y pyst a'r gwalie.

Pleser
Wel, fydde'n anodd gan eich calon
Werthu'ch holl dda a'i ranu i'r tlodion?

Rondol
Nid wrth ranu na phrynu'n ffri
Y medde i fy moddion.
Ac nid oes dim achos, yr ydwy'n ame,
Fod neb yn dlodion mwy na mine.

Pleser
Wel, yr oedd rhaglunieth, areth iach,
Yn dweyd amgenach gyne.

Rondol
Wel, dyweded fel y myno ni choelia'i fyth mo'ni,
'Ran mi wn i'r hanes lawer o rieni,
Ac mae diogi ac oferedd, neu ddrwg ryw fodd,
A'i dylydodd hwy i dylodi.

Pleser
Fe geir clywed cyn pen hir ddyddie,
Pa sut a fydd arnoch chwithe;
Pe gwyddech am y felldith sydd yn eich nyth,
Ni werthech chwi byth mo'ch pethe.

Rondol
Ond ydwy'n amheuthun i mi werthu mhethe?
I gael bod yn siopwr ag arian sypie.

Pleser
Gwerthu cig hwch i brynu cig moch,—
Gwnewch y peth a garoch ore.

Rondol
Mae ffair Gaer yn nesu bydd y wraig mewn eisio
Cael arian hynod erbyn hòno.

Pleser
Trwy lawer o arian, a bod yn daer,
Ceir brasder Caer a Bristo.

Rondol
Fe fydd genyf arian yroedd,
Mi allaf gountio llawer o gantoedd.

Pleser
Mae digon o lwnc, ni choeliaf lai,
I ymweled â rhai miloedd.

Rondol
Wel rhy hwyr i mi fyn'd adre'n union,
Mi gaf eto helynt arw yn setlo fy materion;
Rhaid i mi edrych arnaf fy hun yn glên,
Neu dygyd a wneiff yr hen wein'dogion.


Exit.

Pleser
Wel, gwir yw'r ddiareb ragorol,
Pob llwybr ceunant a red i'r canol:
Peth anhawdd iawn yn tynu dyn
O'i elfen ei hun yn wahanol.

Mae natur yn gadarn arw
Beunydd mewn gwryw a benyw,
Yn enwedig anlladrwydd ieuenctyd llawn,
Peth hynod iawn yw hwnw.

Mae llawer o arfer ar gyfer Gofid,
Canu cerdd i gynghori ieuenctid;
Mi ro'f fine ar ganiad glymiad glir,
Heb lwgr, y gwir o'i blegid.

Cân
(Cân ar "Dorsetshire March".)
Ieuengctyd ffri, gwmpeini per,
Sy'n caru ofer bleser blysig,
Ac yn dilyn unig daith,
Naturiaeth ry faith ryfyg;
Ond er fod rhyddid yn eich rhan,
Chwi ddylech wiwlan gyfan gofio,
'R erdeiniodd doeth Greawdwr dyn,
Yn addas derfyn iddo,
Ond pob creadur eglur hyglod,
Ych a'r asyn wedi eu gosod,
Sy'n troi tan wybr gan adnabod,
Gallu defod, gwell na dyn:
Mae hyny'n g'wilydd i ni'n gwyn,
Y moch a'r ceirw, a'r meirch o'u cyrau,
Ehediad awyr, hyder diau
A edwyn fanoedd en terfynau,
Naturiaeth ffrwythau,
Maent oll i'w nod yn well na ni.

Ond ydyw'n dost mor ddrwg yw dyn,
A Duw ei hun wedi ei wahanu,
I wneud yn wir, ar nod y nef,
Ei ewyllys ef a'i allu?
Gosodwyd bywyd ger ein bron,
Ac am fyw'n waelion—mae marwolaeth,
A dewis marw'r y'm ni'n llwyr,
Ddisynwyr, trwy'r gwasanaeth:
Dewis pechod, nod anhydyn,
Sydd a marwolaeth yn ei ddilyn:
Y siwgwr chwant mae cant yn derbyn,
Eithaf gwenwyn gwarth a chnawd,
Ac byth eu cnoi am borthi cnawd.
Rhyfeddol amlwg mor ddideimlad,
Wawd anmarchus, ydyw merched,
A maint sy' o siamplau goleu gweled,
O rai wnai fyned yn rhy fall
Mewn gafael Gofid gwendid gwall.

Os dianc meibion am ryw hyd,
'Rych chwi'n y Gofid, o ran gafael,
Fel llawer meinwen, gangen gu,
A ga'dd ei nesu'n isel.
C'wilyddio'ch wyneb, aflwydd chwith,
Wrth fyn'd i blith pob rhith o ddynion,
A'ch ffryndiau llon oedd gynt gerllaw,
Dry gwegil draw yn goegion;
A'ch hen gariadau, eiriau oerwedd,
Wrth eich pasio'n codi bysedd,
A chodlant siarad chwedlau guredd,
Afiach agwedd, ar eich ol,
I'ch poeni'n ddwys, a'ch pen yn ddol
Ac heblaw'r cwbwl, drwbwl driban,
A faeddo'r-bobl, fe ddaw'r baban;
Dyna'r ergyd, Gofid gyfan,
Chwi fyddwch truan, bron eich tranc,
Mewn galar llwyr am goelio'r llanc.

A gwaeth na'i goelio, gwythen gas,
Os cym'ra'n fas y gwnes ei goesau,
A'ch gadael chwithau, gwyrthiau gwan,
I'ch pwnio tan eich poenau.
Cwyd y plwyf rhag cadw plant,
A heliant warrant helynt oeredd;
Mae amryw blag a Gofid blin
O drin a dilyn dialedd.
Hwn yw'r pechod, hynod hanes,
Dechreu dychryn dyn a dynes;
Mae amryw leidr a lladrones
Oddiwrth y business yma'n bod,
Mewn gwallau'r clwyf yn colli clod;
Ac amryw'n dilyn cam-dystiolaeth,
Hyll afrywddaidd, a llofruddiaeth,
I geisio cuddio'u llygredigaeth,
Anian bariaeth yn y byd,
Er na phery hyny o hyd,
Meddyliwch oll o ddilyn chwant,
Os rhai a ddihangant yn ddihangol,
Rhaid i'r sawl sy'n tramwy'r farn
Agweddu barn drag'wyddol.
Nid ydyw gwatwar, gleber gwlad,
Na dim siarad ond amserol,
Wrth waedd cydwybod ddrwg e' rhan
A phoenau anorphenol.
Gan hyny ieuenctid ahyddid rhodus,
Meibion, merched, nid anmharchus,
I chwi ystyried yn dosturi,
Wyliadwrus waelod iawn,
Rhag myn'd i'r llid o'r mwynder llawn;
Ni cheir y melus heb y chwerw;
Dull doe'n ol nid eill dyn alw.
Ceisiwn heddwch cyson heddyw,
Y fory'n feirw gallwn fod,
Heb obaith newid byth y nod.

Pleser
Wel, cofiwch hyn o ganiad ofer,
Onide fe ddaw Gofid ar eich cyfer;
Pan eloch chwi i 'winedd yr hen was,
Fe dderfydd eich blas ar bleser.


Exit.
Enter Rondol y Cybydd.

Rondol
Dyma fine'ch ewythr Rondol, chwith i chwi wrando!
Mi gefes o'r diwedd fy llwyr andwyo;
Ni wel'soch chwi ddyn yn unlle ar droed,
Mwy trwstan erioed, 'rwy'n tystion.

O'r felldith fawr oedd i mi,
Wneyd â'r siopwraig hòno air siapri,
A gwae fy nghalon wneud tro mor ffol.
Afreidiol a phriodi,

Hi a'm twyllodd i werthu'r cyfan,
Gynta' gellid o'm ty ac allan;
Ac felly darfu i mi'n ddifeth,
Bynorio pob peth yn arian.

Ond oeddwn yn fy meddwl fy hun yn glyfar,
Y byddia arian i'w llogi, yr awn yn wr lliwgar,
Gan ddisgwyl fod ganddi hithe'n 'stor,
Rai cantoedd yn nror y counter.

Ond hithe ni feddai fawr o foddion,
Na dim guineas, nac arian gwynion,
Ond bocsiad llawn, na wnai nhwy ddim lles,
Ysbariodd hi o bres byrion.

A dechre hel llyfre wedi'r holl afrad,
A rhuo bod arian beth didoriad;
Wedi iddi goelio'r wlad ar led,
A rhoi gormod o gred i grwydried.

Beth a wnes ine, pan glywes hyny,
Ond rhoi beili a chyfreithiwr i safnrythu;
Ac ni chaed fawr fantes yn odid fan,
Ond rhai diles rhy wan i dalu.

Ac wedi'r cwbl hi a'm perswadie
I ddod i ffair Gaer, y doi pobpeth o'r gore:
Ac felly ni aethom yno'n llawn,
A chadarn iawn ein code.

Ac ar ol myned yno, 'roedd hi'n denu
At y dealers lle'r oedd lleia i dalu,

1-300301-600601-900901-12001201-15001501-18001801-21002101-2400