1-300301-600601-900901-12001201-15001501-18001801-21002101-2400

Pleser a Gofid (1787)

Thomas Edwards (Twm o'r Nant)

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Llinellau 1801-2100
Rondol
I gael i mi feddwl yn dda fy nghred
Nad oedd fawr ddyled ar y ladi.

Dyna lle'r oedd y dealers hyny mor dalog
Yn ysgwyd dwylo, a chusanu'r hen fyswynog;
A dwad gyda ni i'r dafarn yn gadarn o'u co',
A rhoi i mi groeso gwresog.

Y nosweth hono, ni fu erioed fath wynfyd,
Gwyr Lerpwl, Manchester, a Chaer hefyd,
Yn rhoi i mi bunch, a negus, a liquors yn ffri,
Ac yn dodi, ni fedra'i ddim d'wedyd.

Dweyd wrtha'i, "Good health and success to the business,"
A mine heb fawr o Saesneg, ond tipyn o rodres;
Ond codes i ddweyd Thank ye, yn bur dwt,
Ac a syrthiais pwt i'w potes.

Fe aeth y bwrdd a'r \inkhorns| hwnw lawr mor ronco,
A'r holl lestri trwstan, on'd oedd y ty'n crynu drosto;
A gwaeth na thori'r celfi a cholli'r cawl,
Fe aeth y glasie diawl i'm dwylo.

Ond rhyw sut yn y funud fe'm codwyd i fynu,
Gan ymroi gyda'u gilydd i'm llusgo i'r gwely;
Ffitiach fuase, a dweyd y gwir,
Fod mewn rhyw fudr feudy.

'Doedd ben yn y byd i mi fel y dylase,
Ond gwaed ac aflwydd o'm dwylo a'm gwefle;
Ar ol i mi feddwi a cholli ngho',
'Roedd gwaith repario'r bore.

A'r bore 'doedd hanes am neb ond fy hunan,
Mi a ddechreues fyfyrio yn mh'le rhois fy arian;
Ond y wraig a wnaeth â mi gnot ysdits,
Fe gadwodd y witch y godan.

Ni adawodd hi geiniog i mi'n deg hynod,
Ond rhyw faint o bres yn mhoced fy ngwasgod,
Mi ddechreues waeddi a myn'd o'm co',
Fe ddarfu i mi wylltio hylldod.

Mi redes hyd y grisie, on'd oedd pawb yn ymgroesi,
"For God's sake," medde'r bobl, "what ails the old booby?"'
'Roeddwn fel pe buase gacwn yn codi o'm pen,
Ni fu erioed beth mor ddreng a myfi.

Mi redes hyd y rowses o nerth fy nghalon,
Ac i Manchester Warehouse yn mron myn'd yn wirion,
Ac i ffordd o hyd i'r New Linen Hall,
Ag ymddygiad gerwinol ddigon.

Mi droisym i siop rhyw siapard o Wyddel,
Fe ddechreuodd hwnw scwandro a chware "What d'ye want scoundrel? "
A dweyd, "Go about your business, you son of a whore,"
Mi redes yn siwr am fy hoedel.

Ac yn mlaen a myfi gan ymofyn am dani,
Mi a gyfarfum â rhyw glamp o dorglwyd lusti,
Ac a dynes fy het, ac a dd'wedes yn fwyn,
"A welsoch chwi, 'r gwr mwyn, mo Anni?"

"G—d d—mn you blockhead," ebe hwnw,
A phwy oedd ond y Maer yn haner meddw;
Fe'm hordrodd i'r madhouse at Stephen Hyde,
A pheri rhoi guide i'm cadw.

Dyma rhyw rogues yn codi, ac ynw'i'n cydio,
Rhai'n gwthio'n ewyllysgar, a'r lleill yn llusgo;
A mine'n gwaeddi ar bob discwrs,
Am y wraig, y pwrs a'r eiddo.

Ond fe ddaeth rhyw Gymro ac a darawodd i'r cwmni,
Ac fe ddeallodd fy helynt wrth hir ymholi,
Nhw'm gollyng'son i'n rhydd gan fynu mewn rhoch
Bob ceiniog goch oedd geny'.

A mi ddaethum i'm lodging tan low the latsio,
A garw fu'r dwned imi ar ol d'od yno;
'Roedd rhyw leidr o feili yn ei ledieth,
Wedi myn'd â'm ceffyle i yn eu corffoleth.

Ni feddwn i feddwl cychwyn adre,
Na gwraig, nac arian, na cheffyle;
Mi glywawn ar fy nghalon fyn'd tros ganllaw'r bont,
Oherwydd mor front fu'r siwrne.

A chwedi i mi rywsut gyrhedd adre,
'Roedd beilied Rhuthyn ar y trothe,
Wedi chwalu'r ty o'r gwaelod i'r top,
A gwerthu'r holl siop yn sypie.

Dyna gefes, fel mae mwya' gofid,
Am goello fy ffortun a phob celwydd dybryd;
'Rwy'n hen a thylawd mewn annoeth lun,
Fy ngelyn aeth a'n ngolud.

Desc.
Enter Mrs. Gwirionedd Cydwybod.

Gwirionedd
Wel, tro yma 'rwan, bechadur afrywiog.

Rondol
Ow, mae 'nghalon yn curo fel Pandy Glynceiriog.
Dyma yspryd Sian, 'rydwy'n ofni'n siwr,
Oes na gwraig na gwr trugarog?

Hai! wchw! mwrdwr? er mwyn Go'r Maerdy,
Rhoed rhywun loches imi lechu.

Gwirionedd
Pa beth yw'r dychryn sy'n eich dwyn!
Sefwch yn fwyn i fynu.

Rondol
Nid alla'i ddim sefyll oni cha'i fy safio,
Mae rhyw euogrwydd yn fy rhwygo.

Gwirionedd
Gwneud cam â'r wraig wnaeth drwg ei raes,
A hyny'n blaen sy'ch blino...

Rondol
Ow, Mrs. anwyl, na wnewch ddim camsynied,
Ni wnes i gam â neb a'r aned,
Ond fe wnaeth fy ail wraig â fi gam o'i go',
Dwyn fy arian mewn tro cyn fyred.

Gwirionedd
Pa beth ydyw arian ond gwreiddyn pob drwg?

Rondol
Fe aeth fy arian i heibio 'run fath a mwg.

Gwirionedd
Mae dull y byd yn myned heibio.

Rondol
A garw ydyw'r gofid sydd gydag efo.

Gwirionedd
Meddyliwch am eich ened, er gofid a chyneu.

Rondol
Ni wn i fwy am ened mwy na phen mawnen.

Gwirionedd
Ow, Ow, bechadur mae'n arw dy chwedel.

Rondol
Dim garwach nag eraill pan elo hi'n gwarel.

Gwirionedd
Wel os darfu'r byd a'i ofid eich gwasgu,
Oni adawodd Job dduwiol esiampl i'ch dysgu?
Wedi colli'r holl gwbl, fe ddywed yn berffeth,
Yr Arglwydd sy'n rhoi, ac efe sy'n dwyn ymeth.

Rondol
Pe gwyddwn yn iawn y cawn ddigonedd,
A dyblu 'nghyfoeth fel Job yn y diwedd,
Cael ychen ran pleser ddeg cant yn gyplyse,
Pe bai'r diawl yn fy nguro mi ddaliwn fy ngore.

Gwirionedd
Mae llawer mewn cyflwr gweision cyflog,
A wnant yn wrol wasaneth hanerog,
Heb ddim o zel cryf afel crefydd,
Ond y byd a'r golud yn eu dal wrth eu gilydd.

O! y Prophwyd sanctedd oedd yn credu
Pe bydde heb eidion yn y beudy,
Na dafad yn y gorlan, na ffrwyth ar olewydd,
Eto fe lyne yn yr Arglwydd.

Mae llawer, ysyweth, gwae hwy heddyw yn Seion,
Yn esmwyth eu clustog, yn wresog a breision;
Ac eto heb ystyried i'r ened wirionedd,
Mae llwyddiant yr ynfyd a'u lladd yn y diwedd.

Felly yr wyt tithe, yn dy deithio adwythig,
Yn gwastraffu cu rade y Tad caredig;
Ti weriest ei fawredd yn dy ddrwg arferion.

Rondol
Ond y wraig a'u gwariodd hwy, ffolog wirion.

Gwirionedd
Rhoi bai ar y wraig 'rwyt ti fel Adda,
I esgusodi dy hunan gybydd-dra;
Ymgaddio yn nghysgod prene natur,
Fe a'th chwilir di allan eto'n eglur.

Pe bydde genyt feddylie gonest,
Eiddo'r Creawdwr yw pobpeth a gefest;
Y defed a'r gwartheg, yr aur a'r arian,
Rhaid i ti ateb am y cyfan.

Rondol
Mae'n arw os rhaid i mi ateb eto,
Am bethe ddarfu'r wraig ddistrywio;
Ond pe gwelwn y genawes ddrwg ei bri,
Mi atebwn iddi hi, 'rwy'n tybio.

Yr aflwydd i'w chanlyn, ni fedra'i lai na choelio,
Nad yn y Deheudir y mae hi'n rhodio;
Ran yno mae'r lladron egron wg
A'r siopwyr drwg yn sypio.

A'r holl rai cerdded, sy a'r diawl yn eu corddi,
Yn newid eu gwragedd ac yn ymgrogi;
Maent hwy o sir Benfro i Gastell Nedd,
Yn Morganwg, rhyfedd geny'.

Gwirionedd
Wel, mae dy gynghori di, 'rwy'n gweled,
Fel taro pêl yn erbyn pared;
Son am y gwragedd swnio gogan,
Heb ystyr dim o'th ddrwg dy hunan.

'Rwyt ti 'run foddion a'r neidr fyddar,
Neu'r rhai sy'n eiste'n 'stol y gwatwar;
Mae melldith trueni'r byd a'i aflwydd,
Wedi dy foedro di yn dy ynfydrwydd.

Rondol
A glywch chwi, medda'i, 'r gynulleidfa,
Fe aeth hon i gregethu, gwnaed pawb eu gwaetha';
Mae rhyw beth o grefydd, 'run fath ag ymgrafu,
Ni cha'i lonydd nosweth heb ryw fan yn ysu.

Mi briodes wraig o'r Methodistied,
'Roedd hono'n erwinol yn rhuo am yr ened;
Fe fu agos un waith, gan faint oedd hi'n swnio,
Y troisym ryw fesur, ond fe ddarfu i mi fisio.

Ond priodi'r Gwaceres, hen siopwraig oeredd,
Hono a'm handwyodd i yn y diwedd;
Pe doi hi i'm golwg, neu un o'r colors,
Ni choelia'i na chiciwn i hi efo'i Chwacers.

Gwirionedd
Fe alle trugaredd Duw fod yn egoryd,
I'th achub di a hithe hefyd.

Rondol
Os achubiff ef hi, fe haedde fawl,
Ei gadel i ddiawl a ddylid.

Gwirionedd
Ow, mater mawr dros byth yn gyfan,
Yw colli ened mewn gwall anian.

Rondol
Wel, mater mawr i mine mod,
Wedi colli 'nghod a'm harian,

Gwirionedd
Ow, beth fyddi gwell er arian yn dyre,
A'th ened anfarwol yn nghanol y poene;
Heb gael mwy na Deifas ddim i oeri dy dafod,
Na heddwch na dyben ar bryf dy gydwybod.

Y gydwybod sy'n dy fynwes cofia,
Yw'r cyfaill gore, a'r gelyn gwaetha';
A pha fodd y sefi na chyfri' na chyfran,
Tra fyddych yn tystio yn dy erbyn dy hunan.

Ow! paham 'rwyt ti heddyw mor ddideimlad,
Yn porthi dy gnawd i newynu dy ened,
A cholli gwir ysbryd y bywyd tragwyddol,
I gael dim ond sorod a phleser amserol?

Os marw yn dy bechod a wnei, cais ddychrynu,
Yn y pwll gyda'r diawlied dros byth bydd dy wely;
Gwirionedd Duw'n ddidwyll yw'r oll wy'n ei dd'wedyd,
Derbyniwch ef yn fywiol bob un am ei fywyd.


Exit.

Rondol
O! wyneb fy holl drueni,
Sy'n dechre ymddangos imi;
Mae diawlied uffern yn un byw,
A digllonedd Duw'n fy llenwi.

'Rwy'n gwel'd fy mod, heb gelu,
Fel Cain a Suddas wedi cwbl droseddu;
Fe aeth fy edifeirwch i'n rhy hwyr,
Mae anobeth yn fy llwyr wynebu.

Fe'm carcharwyd yn rhwymyn chwerwedd,
A bustl pob anwiredd;
Fe seriwyd fy nghydwybod â haiarn poeth,
'Rwy'n ddelw noeth o ddialedd.

Os bwriwyd Fransis Spira,
I anobeth a chreulondra;
Os gwnaeth Judas am dano'i hun,
'Rwyf fine yn 'run cyfyngdra.

Mac uffern yn berwi'n barod,
'N gwneud ebwch trwy 'nghydwybod;
O! 'r euogrwydd arna'i sydd,
'Rwy'n beichio oherwydd pechod.

Mi wawdies bob math ar grefydd,
Fy mhleser o'm calon oedd adrodd eu c'wilydd;
'Run fath a chi yn llyfu briw,
Mi neidiwn i'w cernwydydd.

O! mor 'wyllysgar y cablwn y rhai llesga,
Ac mor hoff y dyrchafwn rai drwg mewn cybydd-dra,
O! yr esgus rhagrithiol oedd genyf fi,
I guddio fy nigywilydd-dra.

O! cym'rwch fi'n rhybudd, y cwmni enwog,
Nid oes dim cellwer âg arfe miniog;
O eisie dilyn cydwybod rydd,
Fy niwedd sydd yn euog.

Nid yw hyn ond megys gwatwor agwedd
Cyflwr truenus dyn drwg ei fuchedd;
Ond cofiwch bawb tra f'om ni byw,
Na watworir Duw yn y diwedd.

O! chwi'r rhai sy'n gwrando'r geirie,
Ac yn edrych ar hyn fel chware;
Gwyliwn y daw'n edifeirwch prudd
Annedwydd i'n heneidie.

Daw'r amser y pregethir ar bene'r teie,
'Rhyn a wnaed mewn anialwch a thywyll gornele;
Heddyw yw'r dydd i sefydlu'r daith,
Gwybyddwch nad oes gwaith mewn bedde.


Exit.
Enter Mr. Pleser.

Pleser
Wel, yn enw Pal Isaac, dyma fine Pleser,
Mae hireth am danaf er's hir amser;
Beth fydde 'rwan, gyfan gais,
Gael clywed hoff adlais Ffidler.

Fe fydde'r duwiolion yn dawnsio tipyn,
Ond mae pechod yn ffrydio mewn dawnsio cyffredin.
Anfynych y byddant os cant fawl,
Heb falchder diawl yn eu dilyn.


Enter Mr. Gofid.

Gofid
Wel, dawnsio'r wyt ti, i ddal rhai yn 'runlle,
I rythu llyged ac agor eu cege;
On'd ydyw hi'n amser i bob un
Mewn oedran gychwyn adre.

Pleser
Wel, dyma Ofid yn dwad, rhaid i mi dewi,
Ond eto mi ymffensiaf am hyn o ffansi;
Oni fydd Cyriadogs yn dawnsio wrth siawns?
Rho anair i ddawns y rhei'ny.

Gofid
Ni allaf ddim rhoi anair iddynt,
Maent hwy'n rhydd i wneud fel y clywont arnynt;

1-300301-600601-900901-12001201-15001501-18001801-21002101-2400