1-300301-600601-900901-12001201-15001501-18001801-21002101-2400

Pleser a Gofid (1787)

Thomas Edwards (Twm o'r Nant)

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Llinellau 1201-1500
Cân
Ni roi hi damaid ond i'w ffrindiau,
Newydd iddi hi fydd dioddeu,

Rondol
Wel, dyma 'ran cariad, i ti haner coron,

Pleser
O'r Cymro teg hwylus, iechyd i'ch calon;
Mi fynaf finau i chwi wraig eto cystal a Sian,
Ddiogel, ac arian ddigon.

Rondol
Pe cawn un gywaethog i ofalu a gweithio,
'Rydwy'n ame y priodwn unweth eto,

Pleser
Mi fedraf i gael dynes i chwi wrth eich bodd,
A chanddi nodd mewn eiddo.

Mae hi'n siopwraig yn byw'n gryno,
Tu allan i Landrillo.;
Ceisiwch ymolchi ac ymloywi'n lân
Eich hunan, a dewch yno.


Exit.

Rondol
Wel, dos di yno heddyw,
Yn gywren i dori'r garw;
Os gwnei di droswyf fargen dda,
Mi dala' gynta' delwy'.

Ond a glywch yma hyn mewn difri',
Mentro mawr ydyw ail briodi;
A chwedl garw cadw, onide,
Weinidogion i chware a diogi.

Tra b'wyf yn eu golwg hwy wnan' ga'lyn,
Pan drothwy nghefn ni wnant fymryn;
Nis gwn i pa beth ar unrhyw dro,
Feddylia'i heno o honyn'.

Mi fyddwn weithie yn credu mor ethol,
Y gallwn ymddiried i'r forwyn sy'n hen ac arferol;
Ond ni waeth imi goelio'r diawl ei hun,
Na hyderu ar ddyn daearol.

Ac os prioda'i siopwraig,
Fe alle gwna'i ddrwg ychwaneg;
Taflu'r cyfan at din y cwd
I dalu hen rwd ar redeg.

Ond mae rhai siopwyr yn byw yn siapus,
Dyna Sion Bentre Foelas, wrth fod yn ofalus;
A ambell rai eraill mewn tref a llan
'N gwneud eiddo anrhydeddus.

A phe gwyddwn ine'n enwog,
Fod hon yn bur gywaethog,
Mi werthwn fy stock a'm holl da byd,
Ac awn yn siopwr clyd fy sipog.

Ond gwyn ei fyd a wydde,
I ymddiried pa beth sydd ore;
'Rwyf bron syfrdanu a gyru ar goll,
Yn erwin fy holl synhwyre.

Mi fyddwn yn cadw gofid o'r neilldu,
Mae fo'n awr mor ddig'wilydd yn do'd gyda mi'r gwely,
Ac yn fy nilyn i'r ty a'r dw'r
Yn bwrdwr ac i'r beudy.

Ond os ca'i wraig a chanddi arian,
Mi fyddaf eto'n ddyn i mi fy hunan,
Ac a wnaf i Ofid a phob drwg hyll,
Wall hyllig sefyll allan.


Enter Anti Sal o'r South.

Sal
Gyda'ch cenad, fy meistr, i chwi'r wy'n ymostwn'.

Rondol
Fydde fwy genyf na phiso roi kick i'ch ffasiwn.

Sal
Och fi'n siwr! aeth y gwr o'i go'.
Mewn danger fy nghicio i'r dungiwn.

Rondol
Mae kicio begers o'r gore debyga'i,
'Ran llawer arian sy'n myn'd i rywrai.

Sal
Wel, rwy'n myn'd ar bedwar ugen oed,
Ac ni bu dwned erioed am dana'i.

'Roedd fy mam, a mamgu, a mam gu hono,
Eu holl fywiolieth hwy oedd trafaelio:
Pe b'ase nhwy'n fyw fe gesech chwi fod,
Yn wr go hynod heno.

Rondol
Pa beth a gawswn i, faeden gynddeiriog!
Sal, Hwy fuasent yn eich witchio chwi'n ysgyfarnog.
Wel, mi glywn ar fy nghalon dori rhes
O'ch danedd chwi g'nawes donog.

Sal
Hawyr, fe fues i mewn p'lase gentlemen,
Ac ni halws nobody fi maes o honyn';
'Ran 'does hayach o'm bath o fewn y byd,
Na pherted am ddywedyd ffortun.

Rondol
Un o b'le ydych, nis gwn i amcan!

Sal
O'r ochr hwnt i sir Glanmorgan,
Ni feddwn ni artre'n un lle dan gred,
Ein dull yw cerdded allan.

Ai ni 'dwaenoch mo Abram Wood fy nghefnder?
Mae hwnw'n trafaelu Cymru a Lloegr.

Rondol
O mi weles ryw sipsiwns hyd y byd,
Yn dygyd yn lled eger.

Ac fe ddarfu'r gêr gythreulig,
Yn y Trallwm wneud tro hyllig;
Ddychrynu'r sessiwn i ffordd o'r hall,
Trwy'u castie uffernol ffyrnig.

Sal
Oni 'llesynt hwy adel gyda'u cyfreithie,
Lonyddwch i drafaelwyr ar eu siwrne?

Rondol
Wel, un o'r breed mewn onor braf,
Yn eich eithaf, ydych chwithe.

Sal
Wel, ie'n siwr, 'da'i ddim i wadu.

Rondol
Nis gwn i fath ffortun ellwch ei draethu,
A fedrwch chwi ddweud y gwir yn siwr
Fath fatch geiff gwr fo' am garu!

Sal
Hawyr, hawyr, medra'n rhywiog,
Ond rhaid yw dodi i mi hur godidog.

Rondol
'Rych chwi fel cyfreithwyr, ni ro'wch ddim traul
Ar eich gwefle, heb gael eich cyflog.

Sal
Oni chlywsoch chwi ddweyd, y Cymro,
Fod gweithio'n rhad yn waeth na rhodio?

Rondol
Wel, faint a gym'rwch geny'n gu,
A'ch talu chwi yn eich dwylo?

Sal
Ni threilia'i mo'm athrylith,
Oni ro'wch i mi'n ddiragrith,
Bicen o facwn cy'd a'mraich,
A haner baich o wenith.

Rondol
Wel, bacwn, beth ydyw hyny fy 'neidie?

Sal
Darn o gig mochyn cy'd ag un o'm mreichie.

Rondol
Wel, chwi a gewch hyny, ond i mi fy hun
Ei dori, wyr dyn, yn dene.
Ond safio nonsense gwirion
Yn hel rhyw ryddredd roddion,
Gwell genyf nag ymdroi'n rhy hir,
Os dywedwch y gwir, roi coron.

Sal
Wel, I don't care, I'll take your coron.

Rondol
Hai, o ran onor, mi rho hi'n union.

Sal
Digon generous weithiau'n bur,
Da gwyddis yw gwyr gweddwon.

Rondol
Nis gwn i pwy lyfre fyddwch yn eu dilyn.

Sal
Hocus, Pocus, and the Wheel of Fortune,
A'r Book of Knowledge, a fedra'i'n dda,
A Chornelius Agrippa grepun.

Rondol
Wel, gadewch gael gwybod rhywbeth bellaoh.

Sal
Moeswch eich llaw aswy, fe fydd yn hawsach?
Oh dear heart! ni welais i yr un
Hyd heddyw yn ddyn dedwyddach.

You are going to court a shopkeeper woman,
O bless my soul! you shall have plenty of arian.

Rondol
Wel, pe gwyddwn eich bod yn dweyd y gwir,
Ni byddwn ddim yn hir yn herian.

Sal
O ewch ar redeg i'ch priodi,
And sooner the better, she is a glorious beauty,
Mae hi wrth eich fortune yma'n rhwydd,
Ddiochel yn digwydd i chwi.

I know by my book y lwc sy'ch dilyn,
Mae cloben o blaned yn explanio'ch fortune;
Cewch arian ddigonedd gyda theg ei gwawr,
A dedwyddwch mawr o'ch tyddyn.

Rondol
Hw, am y tyddyn nid ydwy'n hidio,
Mi werthraf ryw ddiwrnod y cwbl oddiarno.

Sal
Gwelli chwi wyr dyn fod yn siopwr da,
Cewch heddwch gyda'ch eiddo.

Rondol
Wel, os dewch chwi eto fyth ffordd yma,
'Rwy'n erchi i chwi'n dyner ddwad i edrych am dana',
Mae'n fawr genyf roi i chwi dafod drwg
Pan ddaethoch i'r golwg gynta'.

Sal
I wish you good sight, Mr. God bless us,
I will go away to see some other houses.


Exit.

Rondol
Good bye, Madam, I wish you well;
O mae hi'n un ffel ddeallus.

Son a wnawn ni am ryw ofer setlach,
Sian a Sioned, a Rebela o Ddinbych,
They're not fit to open their mouths,
Nid y'nt wrth rai'r South ond sothach.

Er fod hon yn gas ar olwg,
O! mae hi'n dweyd fortune yn bur amlwg;
Gobeithio daw'r cwbl yn eu lle
I mine i'r gole heb gilwg.

A rhyfedd y darfu hi ddweyd mor hynod,
'Mod i am garu'r-siopwraig hono'n barod,
Wel, 'rydwy'n barnu gwybodeth fel hyn,
Huw fadde i mi, yn gryn rhyfeddod.

Ond nid a' i bellach ddim yn ffermwr,
Mi gym'ra' 'myd mwy segur wrth bwyso siwgwr;
Bydd pobl y wlad yn dwad atai'n dwp
Pan elwy'n swp o siopwr.

A gwyn ei fyd yn gryno
Na b'a'wn wedi 'mhriodi unweth eto;
Rhyfedd genyf yn dda fy hun
Na ddar'fase'r dyn fyn'd yno.


Enter Mr. Pleser.

Pleser
Now, Mr. Rondol, ewch er undyn
I setlo a phriodi at ryw offeiriadyn.

Rondol
Peth rhyfedd iawn, debygaf fi
Yw lwc a pharti fortune.
Ac 'rwyt yn meddwl y daw hi o ddifri'.

Pleser
Daw yn y munud os na chellwch mo'ni
'Ran mae siopwr o'r dref yn cadw nâd
A dynion o'r wlad am dani.

Rondol
Wel, rhy hwyr imi wneyd y gore o'm hamser,
Y fi pia hi, onide, Pleser?

Pleser
Ie, ymwnewch ati hi (poeth y bo'ch)
Gynt' galloch yn ddigellwair.

Rondol
Wel, i ffordd yn y munyd dyma fi'n myned.
Early to-morrow I shall be married.


Exit.

Pleser
Cychwynwch yn chwryn, mi ddof ar eich ol,
Ffarwel i chwi Rondol Roundiad.

Wel, hawdd canfod heno'r cwm'ni tyner
Na chais gweddwdod ond byr amser;
Maent am ail-ym'glymu eu gore glâs
Peth garw ydyw blas am bleser.

Ond merciwch chwi fy 'neidie,
Nid ydyw'r drwg ond dechre;
Hawdd yw disgyn i ryw scrap,
Mae llawer shape o siope.

Peth mawr ydyw gormod rhyddid
Anesmwythdra sy'n magu gofid;
Llawer gwr cyfoethog cry':
A ga'dd ei blygu o'i blegid.

Gofid am briodi, a mil mwy gofid gwedi;
Mae dyn yn rhwystro tîn a phen fel maharen mewn mieri.

Cewch eto sport erwinol
Wrth wrando eich ewythr Rondol;
Rwy'n ame ceiff, am blesio'i gnawd
Ei faeddu'n dlawd rhyfeddol.


Enter Mr. Gofid.

Pleser
Gwaed Sion ac Ifan, edr'wch lle mae Gofid,
O b'le 'rwyt ti heno yn rhodio mewn rhyddid?

Gofid
O dramwy'r ddaear ac ymrodio ynddi,
'Run fath a Satan, weithie yn mhob city.

Pleser
'Rydwy'n awr mewn trafferth arw
Gyda Rondol y cybydd sy'n wr gweddw,

Gofid
Oni chlywes ei fod yn dechre rhwystro?
Tori gwaith i mi sydd yno.

Pleser
Mae arnaf gryn helynt yn cerdded ac ymholi;
Y'nghylch yr opiniyne sydd yn yr eglwysi;
Y Methodistied a'r Dissentars,
Sy'n ffaelu ymdopio gyda'r Dippers,

Gofid
Ond ydwyf fine tan boene beunydd,
Wrth deimlo'r fath wenwyn dygn sy'n di'gwydd;
Lle dyle cariad fod yn cyraedde
Mae'r wlad wedi chwiblo gan lid a chabledd.

Pleser
Wel, ond y Dippers sy bron myn'd yn dopie
Mae hwy braidd yr un egwyddor a'r hwyed a'r gwydde
Yn trochi eu gilydd tan ochr y geulan
Fel y golchont hwy bechod mawr a bychan,

Gofid
Mae hwy'n rhoi dyn bychan i farw dan bechod;
Nid oes i hwnw ddim hawl mewn gras na chyfamod;
Maent hwy'n fwy dichell na hwnw yn y dechre
Fu'n cym'ryd plant bychen yn ei freichie.

Pleser
Mae hi y'mhlith crefyddwyr yn lecsiwn gyffredin
Fel pan 'roedd rhai yn bloeddio Miltwn a Watkin;
A rhai'n codi tymer fel glaswellt pen tomen
Na wyddent hwy haner oddiwrthynt eu hunen.

Gofid
Mae llawer o drueni trwy'r byd ar gerdded
A rhai'n barnu beunydd ar eu gilydd yn galed,
Ond pwy all farnu gwas arall pe ba'i fe'n trawswyro?
Ond i'w Arglwydd ei hun mae fe'n sefyll neu syrthio?

Pleser
Mae amlach adar mân yn canu'r bore
Nag a fydd ganol dydd pan fo'r haul yn ole;
Ac felly Lucifer, mab y wawr ddydd,
Rhwng gole a thywyllwch mae ynte'n rhydd.

Ond mae dafad yn mysg pob trwst a thwrddan
Yn adnabod llais ei hoen hunan;
Yr oen eiff at ei fam yn gymwys,
Ac felly'r gwir Gristion at yr eglwys.

Gofid
Mae pob peth i'w elfen yn tynu'n gyson
'Run fath a cheffyl yn piso mewn afon:
Mae cnawd i 'nifeilied, i adar, i bysgod
Naturieth a'u henfyn bob uneun i'w hanfod.

Mae'r dydd yn mron tori derfydd pob twrw
Ni thâl, Wele yma, neu, Wele acw;
Ni cheiff neb oil i'w lamp oddi allan,
Ond yr hyn a gynwysodd yndde'i hunan.

Pleser
A wyddost ti beth, mae amryw'n diflasu
Glywed Gofid yn dynwared pregethu.

Gofid
Yn wir, Gofid a ddyle bregethu fynychaf,
Mae amryw bregethwyr ar yr iachaf.

Ond gwir yw'r gair, trwy gywir gariad,
Ac yn haeddu beunydd bob derbyniad;
Mae'r gwir yn ddidwyll yn gywir i'w ddywedyd
Mewn amser, ac allan o amser hefyd.

Pleser
Wel, gwir a ddywedaf fineu'n union,
Fod amryw yn gwneud cuchie ar y rhai cochion;
Holl bobl goegedd trigolion Pleser,
Ni wel'sant hwy erioed ddihirach amser.

Gofid
Dyna ddengys i chwi yn benaf beth yw bath bryniol,
Fo heb ddelw'r brenin yn gyfreithlon a breiniol,

1-300301-600601-900901-12001201-15001501-18001801-21002101-2400