| |
---|
Gweithredoedd Da
|
Pobun!
|
|
Nis clyw Pobun.
|
Gweithredoedd Da
|
Pobun, oni'm clywi?
|
Pobun
|
(O'r neilltu.) Roeddwn yn meddwl bod rhywun yn galw. [Llais gwan ac eto'n gwbl glir.] Rhoed Duw nad llais fy mam ydoedd. [Y mae hi druan yn hen wraig fethiantus, mynnwn ei harbed rhag yr olwg hon. O, cymer gymaint â bynny o drugaredd arnaf; gad nad fy mam fo hi!]
|
Gweithredoedd Da
|
Pobun!
|
Pobun
|
[Boed y neb y bo, nid oes i mi ddim egwyl at helynt na diflastod y byd bellach.]
|
Gweithredoedd Da
|
Pobun, oni'm clywi?
|
Pobun
|
Benyw glaf yw hi; ni waeth gennyf i—edryched ati ei hun.
|
Gweithredoedd Da
|
Pobun, d'eiddo di ydwyf; erot ti yr wyf yn gorwedd yma.
|
Pobun
|
Pa fodd y gall hynny fod?
|
Gweithredoedd Da
|
(Gan hanner cyfodi.) Gwel, dy holl weithredoedd da wyf i.
|
Pobun
|
[Na'm gwatwar i, yr wyf ar farw.]
|
Gweithredoedd Da
|
[Dyred ynteu ychydig yn nes ataf.]
|
Pobun
|
[Ni wnawn i mo hynny o'm bodd.] Ni fynnwn eto weled fy ngweithredoedd, [ni byddai edrych arnynt wrth fy modd.]
|
Gweithredoedd Da
|
[Yr wyf yn wan iawn a baich mawr arnaf, am na feddyliaist ti erioed amdanaf.]
|
Pobun
|
[Nid rhaid wrth wendid arall yma, ac arnaf innau ddigon o ing ac artaith eisoes.]
|
Gweithredoedd Da
|
Bydd arnat angen amdanaf i. Y mae'r ffordd yn hir echryslon, a thithau heb neb i'th ganlyn.
|
Pobun
|
Er hynny, ar fy mhen fy hun y bydd raid i mi fyned.
|
Gweithredoedd Da
|
Na, mynnaf ddyfod i'th ganlyn, gan mai d'eiddo di wyf.
|
|
Cyfyd Pobun ei olwg.
|
Gweithredoedd Da
|
Oni bai dydi, gallwn ymsymud yn rhwydd, a chydgerddwn â thi lle'r elit.
|
Pobun
|
(Gan fynd ati.) O, fy ngweithredoedd, y mae hi'n galed arnaf. Y mae arnaf fawr angen cyngor da a chynorthwy.
|
Gweithredoedd Da
|
(Gan gyfodi drwy boen ar ei baglau.) Pobun, clywais dy wysio ger bron dy waredwr i'r farn oruchaf. [Oni fynni dy golli, na ddos heb neb onid ti dy hun i'r daith hon, meddaf i ti.]
|
Pobun
|
A fynni di ddyfod gyda mi?
|
Gweithredoedd Da
|
A fynnaf i ddyfod gyda thi i'r daith? A wyt ti'n gofyn hynny i mi, Pobun?
|
Pobun
|
(Gan syllu yn ei llygaid.) Wrth dy weled yn edrych arnaf yn hiraethus, tebyg gennyf na bu yn f'einioes i na chyfaill na chariad, na gwraig na gŵr a edrychai arnaf fel yna!
|
Gweithredoedd Da
|
[O, Pobun, dy fod ti ar awr mor hwyr yn troi at fy llygaid a'm genau!]
|
Pobun
|
[Gwelw a threuliedig yw dy wedd, ac eto 'rwy'n meddwl ei bod yn llawn tegwch; po fwyaf yr edrychwyf arnat, mwyaf y gwae yn fy nghalon, ond bod hwnnw'n gymysg â rhyw dynerwch, fel na wn i ddim pa beth a wnaf. Mi dybiwn pe gallai goleuni dy lygaid ti dreiddio i mewn drwy fy llygaid i, y digwyddai dirfawr lanhad a bendith i druan tlawd. Eto, gwn na ellir hynny mwy, ac nad yw bellach onid megis breuddwyd.]
|
Gweithredoedd Da
|
Pe buasit ti yn deall gynt nad wyf i lawn mor ddiolwg, buasit wedi aros llawer gyda mi [ymhell o'r byd a phob rhyw ddrwg chwarae! Tyred yn nes,—gwan yw fy llais i—aethit at y tlodion megis brawd yn gymwys, gyda chydymdeimlad a gofid, a buasit wedi dechrau eu caru hwy, a'th galon wedi. llawenhau, a minnau, sy mor fethiantus,] buaswn innau, drwy fod yn eglur o flaen dy feddwl, megis llestr dwyfol i ti, megis cwpan a gras yn llifo drosodd ohono i'th wefusau di.
|
Pobun
|
[Ac nid adnabûm innau monot, mor ddall oedd fy ngolwg! Gwae ni! pa fath greaduriaid ydym ni gan fod y fath bethau'n digwydd i ni!]
|
Gweithredoedd Da
|
[Cwpan oeddwn i a safai o'th flaen, a lanwyd hyd yr ymyl gan y nefoedd ei hun. Nid oedd yn y cwpan hwnnw ddim daearol, am hynny, dibwys oeddwn yn dy olwg di!]
|
Pobun
|
[O! pe gallwn dynnu'r ddau lygad allan, ni byddai'r tywyllwch mor arswydus i mi ag yw'r gofid chwerw a dynnodd fy llygaid ffeilsion arnaf ar hyd foes.]
|
Gweithredoedd Da
|
[O, gwae! bellach bydd syched byth ar dy wefus! Ni fynnaist yfed ond o bethau'r byd, ac am hynny, cipiwyd y cwpan oddi wrthyt.]
|
Pobun
|
[Y mae syched poeth eisoes yn rhedeg drwy fy holl wythiennau, a gwanc ymhob synnwyr! Dyna gyflog fy mywyd i!]
|
Gweithredoedd Da
|
[Dyna'r edifeirwch chwerw, llosg, y gofid cudd. O, pe gallent hwy lunio dy galon di o'r newydd, mor ddedwydd fyddai hynny i ni'n dau!]
|
Pobun
|
(Gan ei fwrw ei hun ar lawr.) Deued i'm rhan beidio â bod byth bythoedd! Onid yw pob gronyn ohonof yn awr yn llefain gan ddwfn edifeirwch a gwae gwyllt! Mynd yn f'ôl! ac ni allaf! Dim ond un cynnig eto! Ond ni ddaw hwnnw ddim. Dychryn a gloes! Yn y byd hwn ni cheir byw ond unwaith, yn y byd hwn ni cheir byw ond unwaith! [Gwn bellach beth yw'r gwae sy'n rhwygo'r fron, ac ni wybûm erioed o'r blaen beth y dichon y gair hwn ei feddwl. (Wrtho ef ei hun.) Dod dy hun i lawr yma a bydd farw, dyma dy ddydd!]
|
Gweithredoedd Da
|
(Ar ei gliniau.) O na bai i'r edifeirwch tanbaid hwn fy rhyddhau oddi wrth y llawr! [Gwae na allaf sefyll ar fy nhraed wrth ei ystlys ef yrawr hon. (Sudda ar y llawr.) Mor druan, gwan a chlaf wyf i!]
|
Pobun
|
[Am bopeth fe geir tâl, yn wir! O, Weithredoedd, er mwyn pob peth, na'm gad i'm trybini! Colledig fyddwn felly yn ddiau. Dod gymorth i mi roi cyfrif ger ei fron Ef sydd Arglwydd ar Angau a Bywyd, a Brenin yn dragywydd, ac onid e colledig fyddaf byth!]
|
Gweithredoedd Da
|
[O, Pobun!]
|
Pobun
|
[Na'm gad yn ddigyngor.]
|
Gweithredoedd Da
|
Y mae i mi chwaer, Ffydd y gelwir hi. Pe gadawai hi erfyn arni ddyfod i'th ganlyn ar dy ffordd, a sefyll gyda thi ger bron brawdle Duw!
|
Pobun
|
Galw arni heb oedi, y mae'r amser yn ehedeg ymaith,
|
Gweithredoedd Da
|
[Efallai mai troi oddi wrthyt a wnai, a'th ado i fynd heb gysur i'th fedd, ond pe gwyddit ti ba fodd i lefaru wrthi, fe roddai hithau ei chynorthwy iti.]
|
Pobun
|
[Pe bai dyn heb dafod, fe'i gwnai ing ac angen yn hyawdl.]
|
|
Ffydd yn dyfod.
|
Gweithredoedd Da
|
[Nid rhaid galw'n groch, teimlaf fod y chwaer yn dyfod!] F'annwyl chwaer, y mae'r gŵr hwn mewn cyfyngder tost, a sefi di gydag ef pan drengo? Nid oes i mi mo'r nerth, rhy wan wyf, ni allaf ddadlau drosto.
|
|
Ymollynga.
|