Rhagymadroddg1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14

Pobun (1933)

Hugo von Hofmannsthal
cyf. T Gwynn Jones

Ⓗ 1933 T Gwynn Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 3
Mam Pobun

Fy mab, y mae'n llawen gennyf dy weled, canys mawr boen i'm calon yw na bydd gennyt nemor amser i ymddiddan â mi, gan faint dy brysurdeb gyda phethau'r byd.

Pobun

Mae awel yr hwyr yn ddrwg ei naws, a'ch iechyd chwithau'n wan a bregus, fel na allaf beidio â phryderu wrth eich gweled yma. Oni ddowch i mewn i'r tŷ?

Mam Pobun

A ddoi di gyda mi ac aros gartref?

Pobun

Am heno ni all hynny fod.

Mam Pobun

Felly, ni ddigi di ddim wrthyf am dy gadw yn y fan yma.

Pobun

Poeni yr wyf am eich iechyd chwi—hwyrach y caem ryw gyfle eto.

Mam Pobun

Am fy iechyd i nid rhaid iti mo'r poeni; yr wyf i eisoes ag un troed yn y bedd; nid oes arnaf i ddim pryder am fy iechyd yn y byd yma, ond yn hytrach am fy iechydwriaeth yn y byd tragywydd. Ai tynnu wyneb yr wyt ti, fy machgen i, pan fyddaf yn sôn am hynny? Ac a fyddai'n beth annymunol gennyt pe bawn i'n gofyn iti a yw d'enaid ti'n troi tuag at Dduw? Ai ymystwyrian a fynni di a cholli d'amynedd? Ai dewisach gennyt fod yn euog o bechod [yn hytrach na throi i mewn i ti dy hun o ddifrif a meddwl fel y dylit am dy Dduw? Ac eto, rhwng heddiw ac yfory, gallai ddyfod cennad oddi wrtho ef yn sydyn a'th alw ger bron Gorsedd ei farn Ef i roddi iddo Ef gyfrif clir o'th holl fywyd ar y ddaear.]

Pobun

[Fy mam, nid gwawdio yw f'amcan i, ond mi wn mai hoff iawn gan yr offeiriaid fwgwth pobl; dyna'u hunig amcan yn y byd—lladd ar gyfoeth, os gennym ni y bydd, er mwyn ei gael at eu gwasanaeth eu hunain. Gresyn yw meddwl na wnant ddim ond pwnio rhyw syniadau tywyll ym mhennau hen bobl a rhai afiach.]

Mam Pobun

[Yn rhywle arall y bydd y tywyllwch yn dew, ond clir a golau yw'r syniadau hyn. Y sawl a wnêl ddaioni yn ei ddydd, daw cadernid bryd i hwnnw, a bydd hwnnw orfoleddus yn awr angau, am y bydd iddo ef ddedwyddwch. O, y sawl a gofio yn ei galon bob amser am awr angau, am hwnnw nid rhaid i galon mam ddwyn na phryder na phoen.]

Pobun

[Yr ydym ni'n Gristnogion da, yn gwrando ar bregethau, yn rhoi elusennau, ac yn byw'n ddibriod.]

Mam Pobun

Ond sut, pan gano utgorn y Farn, y gelli di roi cyfrif clir am dy holl olud i Dduw, fel y caffech naill ai marwolaeth ai bywyd yn dragywydd? Fy mab, peth drwg ydyw marw, a pheth gwaeth fyth yw llygredigaeth dragywydd.

Pobun

Nid wyf i eto brin ddeugain mlwydd oed, ac ni chaiff neb drwy orfod beri i mi beidio â'm pleserau daearol.

Mam Pobun

A fynni di guddio dy ben yn y tywod, ac oni weli di'r angau, a ddichon syrthio arnat un adeg?

Pobun

[Yr wyf yn ieuanc o galon ac yn iach drwodd a thro, a mynnaf fwynhau fy mywyd. Fe ddaw'r amser yn ddigon buan pryd y bydd cymwys i mi edifarhau ac ymroddi.]

Mam Pobun

[Y mae bywyd yn llifo heibio fel dwfr, ac nid yn hawdd y try'r meddwl.]

Pobun

[Fy mam, diflas yw'r ymddiddan hwn i mi; dywedais eisoes nad oes gennyf heddiw mo'r egwyl.]

Mam Pobun

[Fy mab annwyl!]

Pobun

[Bryd arall, mi fyddaf yn ufudd iawn ac yn barod i'ch gwasanaethu.]

Mam Pobun

[Y mae f'ymddiddan yn ddiflas ddigon gennyt ac y mae hynny yn dyblu fy nhristwch innau. Fy mab annwyl, y mae rhywbeth yn dywedyd wrthyf na byddaf i ddim yn hir eto gyda thi, baich arnat eto, efallai, am ryw chydig bach, ac yna canu'n iach a mynd oddi yma; ond eto byddi di dy hun ar ôl yma, fy mhlentyn heb neb i'w gynghori.] Felly, gwrando un gair eto, rhag dy flino ag ymddiddan hir—cofia'r Arglwydd dy Dduw, a hefyd roddion mawr Ei ras; y saith sagrafen sanct, [o'r rhai y daw pob lles i ni a chymorth i'n gwendid bawb ohonom ym mhob modd, a nerth i ni at daith y bywyd hwn].

Pobun

Pa beth—

Mam Pobun

Yr wyt yn ŵr golygus, a chariad gwragedd wrth dy fodd. [Ac oni roes ein Prynwr ni, a wybu bopeth ar y ddaear, ac a wnaeth bopeth er ein lles, oni osododd Ef Sagrafen sydd yn newid y peth a fynni di ac yn ei droi o fod yn chwant i fod yn lendid?] A fynni di fyth ymdrôi mewn chwant a bod yn ddieithr i gyflwr glân briodas?

Pobun

[Fy mam, mi wn yr ystori hon yn dda.]

Mam Pobun

[Eto, ni throes dy galon di ddim.]

Pobun

[Ni ddaeth yr amser i hynny eto.]

Mam Pobun

[Ac eto, ag angau mor agos!]

Pobun

Nid wyf yn dywedyd nac ie na nage.

Mam Pobun

Felly rhaid i minnau fod fyth mewn pryder.

Pobun

Daw dydd eto yfory.

Mam Pobun

Pwy a ŵyr pwy a'i gwêl?

Pobun

Peidiwch â phoeni heb achos, fe'm gwelwch yn ŵr priod eto, yn sicr.

Mam Pobun

Fy mab annwyl, am y gair yna, boed fy mendith arnat; [llawer o ddiolch am dy glywed yn addef peth mor dda].

Pobun

[Nid sôn yr oeddwn am heddiw nac yfory.]

Mam Pobun

[Cyhyd ag na bo'r ewyllys yn erbyn hynny, bydd calon mam yn fodlon iawn lle ni chaffer ond y gair lleiaf a fo da. Nid yw dy fwriad ond bychan a gwan eto, ond y mae'n tueddu at beth sanctaidd] ac y mae'r ateb hwn a roddaist yn tynnu baich trwm oddi ar fy nghalon i.

Pobun

Nos da, nos da, fy mam, gobeithio y cewch orffwyso'n dawel.

Mam Pobun

Mi gaf, fy mab annwyl; ac y mae i mi fel pe bai sain mor fwyn â sain pib a thelyn i'w chlywed yn adseinio yn d'eiriau di! Ni bu'r dyddiau hyn heb arwyddion a gweledigaethau o'r fath i mi. Cymeraf hwy fel rhybudd y byddaf innau farw yn fuan iawn.



A ymaith.

Pobun

Fe glywaf innau adsain felly hefyd! Ai rhyfeddod yw hynny, meddwch chwi? O, na, peth a ddigwydd yn naturiol yw, er na wn i ddim ychwaith pa fodd i'w esbonio. Ac yn awr, nid yn unig i'm clyw y daw, ond hefyd o flaen fy llygaid.



Daw meistres Pobun yno, gyda chwaryddion a bechgyn yn dwyn ffaglau.

Pobun

Ha, dyma hi, f'anwylyd, y mae fy nghalon eisoes yn hiraethu amdani. Chwaryddion yn ei chanlyn yn llu a hithau'n dyfod i'm ceisio.

Meistres Pobun

Y sawl a fynno gadw pawb i ddisgwyl yn rhy hir amdano ac yntau'r pennaf o'r cwmpeini oll, yna bydd raid myned gyda symbalau a ffaglau i'w geisio a'i ddwyn at ei ddyletswydd.

Pobun

Y mae d'oleuni di yn drech na'r ffaglau oll, a'th eiriau'n bereiddiach na sain telyn. Y mae hyn oll i mi yr awr hon fel balm i glwyf agored.

Meistres Pobun

Yr oeddwn yn tybio, cyn i mi gyrraedd atat, fod rhywun yma yn d'ymyl yn peri rhyw ddrwg ti.

Pobun

A roddi di gymaint o bris arnaf nes sylwi ar bethau felly? Nid rhyw hen ddyn annymunol ydwyf iti felly, mewn gwirionedd?

Meistres Pobun

Mae'r geiriau hyn yn peri poen i mi, ac ni ddisgwyliwn monynt gennyt chwaith. Ni'm denir i gan bob rhyw hogyn gwirion, tydi dy hunan yw fy nghariad i—a'm gŵr.

Pobun

Yr wyf yn wir yn teimlo'n ieuanc o galon ac o'm rhan fy hun yn ddigon tebyg i hogyn, ac os wyf wedi peidio â bod yn hogyn erbyn hyn, y mae fy nheimlad lawn mor dyner.

Meistres Pobun

Peth hy yw cariad hogyn, peth heb barch; peth tyner, mawr ei fryd, yw cariad gŵr. Bydd ei law ef yn hael a'i fryd yn gyson, hynny fydd yn tynnu merched ato.

Pobun

Pan goffaer dyn am angau, a'i fod yntau'n brudd ei fryd, bydd gweld d'anwyldeb di yn ddigon i chwalu'r meddyliau trymllyd.

Meistres Pobun

Y mae'r gair yna'n gyrru ofn arnaf. Y mae angau fel sarff wenwynig, yn gorwedd o'r golwg dan y blodau—ni ddylid byth mo'i deffroi hi.

Pobun

F'anwylyd, a berais i boen i ti? Gadawn iddi ymguddio dan y blodau; na boed i ni gofio dim yn y byd am un sarff, ond am ddwy yn cofleidio'n annwyl.

Meistres Pobun

A adwaen innau'r ddeubeth hyn, a pha beth yw eu henwau?

Pobun

Dy freichiau annwyl di ydynt hwy, a mynnwn orwedd ynddynt.



Rhydd gusan iddo, a choron o flodau, a ddygir iddi gan un o'r hogiau, am ei ben. Dring rhai o'r bechgyn i fyny gan wasgar blodau a llysiau peraroglus. Cyfyd bwrdd o'r llawr, wedi ei osod yn barod a'i addurno â goleuadau. Gerdda Pobun a'i Feistres at y grisiau sy'n arwain i fyny. Daw'r gwahoddedigion, deng mab a deng merch ieuainc, i mewn o'r naill du a'r llall tan ddawnsio a chanu.

Y Prif Gantor
(Yn canu.)
Mae cyfaill wedi'n galw
Sef Pobun ei hun,
Yr haelaf ar y ddaear,
A hithau ei fun;
Cawn brofi pob llawenydd
A mwynder i ddyn,
Ac yntau wedi'n galw
I'w annedd ei hun.

Y Cwbl
(Yn canu.)
Cyd-ganwn ni o galon
I ddeuddyn mor lân,
Heb bryder na gofalon
I'n cof naci'n cân;
Bydd gymwys i'w diddanu
Ddwyn ffaglau o dân,
A dawnsio a chanu
I ddeuddyn lawen lân.

I bawb rhoed a ofynnai,
Ein dewis bob un,
I fab y fun a fynnai,
A'i mabi bob mun;
Bydd lawen inni blethu
Y blodau a'u gwau
Yn arlant, heb fethu
Diddanu bryd y ddau.

Cyd-ganwn o lawenydd
Un-galon i gyd,
A phawb ag ysgafn hyder,
Di-bryder eu bryd;
Symudwn ni i ganlyn
Y gwŷn yn ein gwaed,
Cawn gofio drwy ein bywyd
Y gwynfyd a gaed.

Rhagymadroddg1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14