Rhagymadroddg1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14

Pobun (1933)

Hugo von Hofmannsthal
cyf. T Gwynn Jones

Ⓗ 1933 T Gwynn Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 13
Ffydd

Pobun, Duw gyda thi! A phan orchmynnaf di, yn awr ac yma, i ddwylaw dy Waredwr, felly boed dy gyfrif heb wall.



Gweithredoedd, wedi bwrw ymaith ei baglau, yn dyfod atynt.

Ffydd

Weithian, bydd di lawen dy fryd; bellach cryfhaodd dy weithredoedd, rhydd ydynt o'u holl gŵyn, a cherddant rhagddynt â chamau sicr.

Gweithredoedd Da

Pobun, wele fi, dy gyfeilles; bendithiaf di yn fy meddwl; rhyddheaist fi o'm gofid, ac yn awr, canlynaf di lle'r elych.

Pobun

[O, fy ngweithredoedd, wrth glywed eich llais, ni allwn nad wylwn innau o lawenydd.]

Ffydd

[Ni wyli ac ni ofidi fyth mwy; na, bydd ddedwydd a llawen dy fryd, canys y mae Duw o'i orsedd yn edrych yn fodlon arnat.]

Pobun

[Am hynny ni cheisiaf i nac oedi nacaros.] Chwi, gyfeillion, gyda'n gilydd yr awn, ac oddi wrthych chwi nid af i mwy.



A i fyny ar ôl y mynach. Erys Gweithredoedd a Ffydd mewn gweddi.

Diawl

(Yn dyfod gan neidio, gweiddi a gwneud arwyddion.) Pobun! aros! Deliwch ef, deliwch, hai! Hwde, di, dyma fi yn dyfod i'th gyrchu, wele fì! Aros, Pobun—draw ag ef! Rhaid ei fod yn fyddar o'i ddwy glust! [Beth a wnai yn y tŷ hwn? Ewch i'w gael allan! Mi ddisgwyliaf yma wrth y ddôr. Gafaelaf ynddo a dygaf ef i'm canlyn. Feallai y bydd raid i mi aros yn hir—bydded! nid wy'n ofni dim amdano,] eiddof i ydyw yn groen ac yn flew, cyn sicred ag y bu neb erioed.

Ffydd

[Saf yna!]

Diawl

[(Heb glywed.) Rhaid mynd y ffordd yma.]

Ffydd

[Nid yma!]

Diawl

[Yn sicr, neges gennyf yma.]

Ffydd

['Does yma ddim lle i'th debyg di.]

Diawl

[Benyw gwerylgar! Gallaf ysgôi. (Â heibio.)]

Ffydd

(Gan sefyll rhagddo.) Nid oes yma ffordd!

Diawl

Rhaid i mi ddisgwyl gerllaw'r ddôr wrth fy swydd, er mwyn mynd ag un a ddaw allan y ffordd yma i'm canlyn ar hyd ffordd arbennig.

Ffydd

Nid ymddiddanaf â thi.

Diawl

Na mi â thithau, af y ffordd acw.

Gweithredoedd Da

Nid oes yma ffordd i ti.

Diawl

[(Gan wasgu ei glustiau.) Twrw! Oferedd! 'Tramgwydd!]

Gweithredoedd Da

[(Gan sefyll eto o'i flaen.) Dim ffordd!]

Diawl

Dim ffordd! dim ffordd! onid oes yma ffordd? [Dim lle i gymaint â throed sefyll, rhoi hwb na naid?] Ai e? Bydd yma ffordd ar unwaith!



Cais fynd drwy drais.

Ffydd

A fynni di setlo'r peth â'th ddyrnau a thorri ar draws ein gweddi? Gwêl pwy sydd yn dyfod yn gyfnerth inni!



Angylion yn dyfod.

Diawl

Ydyw'r cyfeillion hyn hefyd yn y chwarae, heb wybod yn well na segura a rhythu [yn hwyr y nos ac yn gynnar y bore, tra bo pobl eraill, yn sur ddigon, yn edrych at eu gorchwylion?]



[Ni chymer Gweithredoedd Da na Ffydd un sylw ohono, ond dal i weddïo a'u dwylaw ymhleth.]

Diawl

[(Yntau, wrth y gynulleidfa, gan eistedd ar lawr.)] 'Rwy'n gofyn, a oes yma amheuaeth o fath yn y byd? A oes yma ryw fater yn y fantol? Dim oll, dim oll, cyn wired â'm byw. Oes yma rywun yn eistedd yma a daerai yn fy wyneb i na pherthyn y dyn yma ddim i mi? Bolerwr a llyncwr o'r gorau, anlladwr, hudwr, torrwr priodas, [mor ddigrefydd â phagan du, hŷ ar air a gweithred, mor anghofus o'i Dduw â'r bwystfil yn y coed, ysbeiliwr gweddwon ac amddifaid, gormeswr, cenfigennwr, cas at bawb! (Naid i fyny.)] Nid oes gennyf ddigon o eiriau i'w ddisgrifio, a mynn y rhai hyn fy rhwystro rhag cael gafael arno a rhoi tro ar ei gorn gwddw, [gan weiddi, "dos i lawr, gnawd, a bydd farw!" Sôn am ei achub rhagom ni? A ddeliwch ati mewn gwaed oer, heb ofni rhag fy llid, fy nannedd llym a'm dyrnau caead?] A hynny a hawl a chyfiawnder o'm plaid i?

Ffydd

Nid oes lawer o'th blaid di, ac yr wyt eisoes wedi colli 'r chwarae. Bwriodd Duw i'r glorian ei aberth ei hun a'i angau loes, a thrwy hynny dilewyd dyledion Pobun dros byth.

Diawl

Ers pa bryd? Ymha le? Pa fodd? A ddigwydd hyn ar ddim ond gair? [Os bydd un wedi rhoi ei fywyd a'i weithredoedd i ni yn unig, o fwriad ac amcan, faen ar faen ac o ddydd i nos, a dry peth cyson felly ar un amrantiad yn newydd?]

Ffydd

[Try, drwy ddwfn edifeirwch, sydd fel tân yn puro'r enaid oll.]

Diawl

[Hai! chwedl gwrâch a rhagrith noeth! Golchwch i mi'r croen heb ei wlychu! Baldordd! Clebran! Waeth gen i boer na pheth o'r fath!] Tystiolaeth? Dygwch gymaint â gair a roddai i chwi un hawl arno ger bron barn!

Ffydd

Gerbron y farn y mae ef yn ei wynebu, ni saif dy hawliau di ddim—[gorffwysant ar ymddangosiad a thwyll, ar y fan yma a'r awr hon a'r byd hwn, y maent oll yn rhwym mewn amser, wedi eu cau oddi mewn i'w derfynau..]



Clywir cloch gladdu'n canu oddi mewn. Penlina Ffydd a Gweithredoedd.

Ffydd

Pan glywer y clychau hyn yn canu, bydd tragwyddoldeb wedi dechrau.

Diawl

(gan wasgu ei glustiau.) Rhof y gorau iddi, af yn f'ôl, waeth ei adael, pesgwch ef eich hunain; mae cyfog arnaf yma, mi af adref. [(Cyfyd Ffydd a Gweithredoedd.) Ystori deg, cyn gliried â'r haul, ond bod blew yn y cawl er hynny! Deuthum yma'n ddiofal a llawen fy mryd, gan feddwl dywedyd mai myfi oedd y perchen. Ie, gâr, ie, dyna'r darnau'n deilchion! "Does dim ffordd yma. 'Does dim ffordd yma!" Ha! merchetos! Cawl ympryd a gwialen, dyna fel y gwnawn i â hwy! Yma—eu chwythu ymaith. "'Does dim ffordd!" Mi ewyllysiwn losgi'r adyn! A dyma fo'n dyfod mewn crys gwyn yn rhagrithiol ac yn wylaidd dros ben. Nid yw'r byd ond hurt, isel a salw, grym bob amser o flaen tegwch. A fo deg, ffyddlon a deallus, fe'i meistrolir gan gyfrwystra a thwyll.]



 ymaith.

Rhagymadroddg1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14