Rhagymadroddg1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14

Pobun (1933)

Hugo von Hofmannsthal
cyf. T Gwynn Jones

Ⓗ 1933 T Gwynn Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 12
Gwas 1

Paham y sefwch, meistres, yma? Pa beth y sydd arnoch, a ydych ddim yn teimlo'n dda? A fynnech fynd adref i'ch gwely yn lle mynd mor gynnar i'r offeren?

Mam Pobun

A ydym ni ynteu mor hwyr? A ydyw'r offeren wedi dechrau eisoes? Mi glywaf hefyd seiniau gogoneddus, fel pe bai'r angylion oll yn canu!

Gwas 1

Nid ydym yn hwyr o gwbl, ac ni chlywaf i ddim, nac uchel nac isel.

Mam Pobun

Yr wyf i'n ei glywed a gwn yn fy nghalon mai canu nefol yw, canant ger bron gorsedd Dduw. Oblegid fy annwyl fab y canant, yr wyf yn teimlo bod ei enaid wedi ei iachâu yn yr awr dywyll hon o'r nos. [Cymodwyd ef â'r Arglwydd Dduw, am hynny, marw a allaf innau yn ddedwydd a pharod. Gwrandawyd ar fy ngweddi fawr,] a gwn fy mod yn mynd fy hun ger bron gorsedd fy Nghrewr, ac y caf yno fy mab annwyl. Ar fyr y gollyngi dy wasanaethferch i mewn i'th lawenydd fry. Amen.

Gwas 1

Oni ddeuwch chwi, meistres? Y mae'r amser yn mynd, y mae'r wawr yn torri eisoes.



Ant.

Rhagymadroddg1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14