Rhagymadroddg1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14

Pobun (1933)

Hugo von Hofmannsthal
cyf. T Gwynn Jones

Ⓗ 1933 T Gwynn Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 8
Pobun

[Taeogion, pa beth fyddent i mi pe cymerwn hwy i'm canlyn—ni byddai hynny ond cymorth prin. (Gan edrych o'i gylch.) A yw'r wledd lawen drosodd a phawb wedi mynd o'r neuadd?]



[Mynd o hono at y bwrdd. Rhai o'r gwahoddedigion eto'n bwyta ac yfed, yn neidio ar eu traed wrth ei weled ac yn ffoi rhagddo. Sudda'r bwrdd o'r golwg i'r llawr.]

Pobun

Onid erys un cymorth arall i mi ynteu, ai un colledig ydwyf innau? Ac yn gwbl unig yn y byd, ai dyna fel y mae hi arnaf eisoes? [A barodd Ef eisoes fy mod yn noeth ac heb ddim gallu,] fel pe bawn eisoes yn gorwedd yn fy medd, a minnau a'm gwaed eto'n gynnes, fy nhaeogion eto'n ufudd i mi, a thai a thrysorau eto'n eiddo i mi? Hai! caned y clychau—-alarwm ynteu, chwithau daeogion, peidiwch ag ystelcian yn y tŷ, dowch allan ataf oll.



Daw'r goruchwyliwr ac eraill yn gyflym.

Pobun

Rhaid i mi fynd ar daith ar frys, a hynny nid mewn cerbyd ond ar droed. Doed fy holl weision gyda mi, dyger fy nghist arian yma, bydd y daith megis ymgyrch byddin, ac felly bydd yn rhaid i mi gael fy nhrysorau i'm canlyn.

Goruchwyliwr

Y gist drom sydd yn y fan draw?

Pobun

Ie, rhag blaen, heb lawer o siarad.



Daw gweision eraill, wyth ohonynt yn dwyn cist drom.

Pobun

Gelwais arnoch ar gyfer taith, a bydd raid i bob un fod yn ufudd i mi. Taith ddieithr a phell iawn fydd hi, yn gofyn am bobl ffyddlon; [rhaid cymryd y daith hon mewn distawrwydd llwyr, ac yr wyf yn ymddiried ynoch am hyn oll.]

Gwas 2

Dyma gist ddigon trom i ladd dyn.

Goruchwyliwr

Gwnewch y peth a baro'ch meistr i chwi.

Pobun

Yn awr, cychwynnwn i'r daith yn dawel iawn, heb yn wybod i neb.



Daw Angau i'r golwg draw.

Gwas 2

Dacw ddiawl yn sefyll ac yn arwyddo arnom aros.

Goruchwyliwr

Na, yr Angau ofnadwy yw. Dacw fo'n dyfod tuag atom yn ei rym a'i lid.



Y Gweision yn gollwng y gist ac yn ffoi a'r Goruchwyliwr i'w canlyn.

Angau

Ti ynfyd, buan yr aeth dy awr drosodd, ac ni ddysgaist tithau eto ddim doethineb. Ni wyddost sut i geisio cydymaith cymwys, a buan y byddi heb un gobaith ac yn dy felltithio dy hun.



Diflanna.

Rhagymadroddg1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14