Rhagymadroddg1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14

Pobun (1933)

Hugo von Hofmannsthal
cyf. T Gwynn Jones

Ⓗ 1933 T Gwynn Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 7
Pobun

[Gwae fi! I ba le'n y byd y trof yn awr am borth?] Tra fum lawen, bu yntau'n gyfaill i mi, [bellach, bychan yw ei ofid ef o'm plegid i.] Mi glywais fyth a hefyd ddywedyd [peth na ddaeth yn agos at fy mhrofiad i nes digwydd i mi heddiw—dyma hwnnw:] Tra bo lwc i ddyn bydd iddo gyfeillion lawer, ond pan dry ei lwc ei chefn arno, fe'i gad y cwbl yntau. Gwae fi, mi welaf hynny'n awr, [ac yr wyf yn mygu gan ing a dychryn.] (Gwel ei geraint yn sefyll ger llaw, a siriola'i wyneb ychydig.) Dacw fy ngheraint yn sefyll yna, fy nghefndryd caredig, sefwch yn agos ataf. [Yr ydych yn wir yn eich union le. Ni wn i am well gair yn y byd na hwnnw. "Mae gwaed yn dewach na dŵr"—fe'i profir gennych heddiw'n llwyr,] a chwithau, yn fy nghyfyngder, yn rhoi i mi gymorth llaw a genau.

Car Tew

Gan bwyll, fy nghâr Pobun. Os gwrandewi arnaf i, dim ond un gair—gan bwyll!

Pobun

Ni adewch chwi monof ychwaith—

Car Tew

Dim ond gan bwyll. Nid am adael y mae'r sôn—cywilydd i mi fyddai'ch gadael mewn trybini,

Car Tenau

Digwydded i chwi ai da ai drwg, cymerwn ein dau ein rhan gyda chwi.

Car Tew

[Cymerwn, fel y dywedwyd, ynwir! Gwelwch ein bod yn ffyddlon i chwi.]

Pobun

O, llawer o ddiolch i chwi, fy ngheraint.

Car Tew

Perthynasau ydym ni!

Pobun

Fe welsoch ddyfod cennad ataf ar orchymyn brenin galluog.

Car Tew

[Do... Mi wn, Pobun... Felly y bu, ond nid wyf i'n deall y cwbl!]

Pobun

Gorchmynnodd i mi gymryd taith.

Car Tew

[Ie, fel y dywedwyd—]

Pobun

[O'r daith hon...]

Car Tew

[Ie, fel y dywedwyd eisoes, "Mae gwaed yn dewach na dŵr."]

Pobun

O'r daith hon, mi wn yn dda, ni ddof i byth yn f'ôl.

Car Tew

[Ha, byth? Yn siwr, lle ni bo dim byd, yno bydd hawl y brenin wedi colli.]

Pobun

[Fy ngheraint, a glywsoch chwi pa beth a ddywedais?]

Car Tew

[Nid wrth glustiau byddar yr oeddych yn llefaru.]

Car Tenau

[Ha, nage'n wir, myn fy ffydd!]

Pobun

[Ni welir monof byth yn f'ôl.]

Car Tew

[Ai sicr gennych i chwi ddeall y gennad yn iawn?]

Pobun

[Myfi?]

Car Tew

[Y geiriau a'u hystyr, a ddeallsoch chwi'r cwbl yn iawn?]

Pobun

[A ddarfu i mi?]

Car Tew

Hynny yw, meddaf i—rhyw ymwelwr heb ei eisiau ydoedd? H'm, gâr!

Car Tenau

Ie, feddyliwn i, trueni am hynny.

Car Tew

Felly'r ydych yn barnu megis finnau? Ie, fel y dywedwyd, ie, Duw'n rhwydd gyda thi, fy nghâr, Pobun, dyna i chwi'r cwbl sy gennyf i i'w ddywedyd.

Pobun

Fy ngheraint, aroswch, gwrandewch arnaf!

Car Tew

[Ond odid nad oes i ti ryw ddymuniad arall? Siarad yn eglur, y câr.]

Pobun

Bydd raid i mi roddi cyfrif yno, [ac y mae gelyn i mi, a bydd hwnnw ar fy ffordd yn rymus iawn o hyd. O, gwrandewch arnaf!]

Car Tew

Pa fath gyfrif, dywed?

Pobun

Cyfrif o'm holl weithredoedd ar y ddaear. [Y modd y treuliais fy nyddiau, a pha beth a wneuthum yn fy nigofaint, ar hyd y flwyddyn, ddydd a nos;] am hynny, er mwyn Crist, da chwi, rhowch gymorth i mi amddiffyn f'achos.

Car Tew

[Beth? Y tu draw? Ai dyna fel y mae hi? Na, Pobun, nid af i yno, ac ni'm cei i i'th ganlyn! Byddai well gennyf fod mewn tywyllwch ar fara a dŵr am ddeng mlynedd!]

Pobun

[Och na bawn heb fy ngeni! Ni byddaf ddedwydd byth mwy, os gadewch fi fel hyn!]

Car Tew

Hai, ŵr! Beth sydd? Cymer galon, ddyn, a phaid â dechrau cwyno! Ond rhaid iti adael i mi ddywedyd hyn—ni ddygi di monof i unwaith ar hyd y llwybr yna.



 ymaith.

Pobun

(Wrth y Car Tenau.) Fy nghâr, oni ddeui di gyda mi?

Car Tenau

Duw annwyl! Y mae cwlwm gwythi yn fy nhroed, peth blin gynddeiriog, Pobun—bydd yn digwydd i mi'n sydyn iawn.

Car Tew

[(Gan aros ennyd a dywedyd dros ei ysgwydd.) Ni elli di mo'n hudo ni, gad hynny heibio, ond y mae i mi enethig lân adref sy'n awyddus dros ben am deithio. Pe bai honno wrth dy fodd, fe'i rhoddwn iti o ewyllys da. Efallai yr ai hi gyda thi i'r daith.]

Pobun

[Na, dangos i mi beth yn wir yw dy feddwl, a ddoi di gyda mi ai aros yma, dyna'r cwbl y mynnwn ei wybod.]

Car Tew

Aros yma, a dymuno pob da i tithau!



Ânt ymaith.

Pobun

[Och Iesu, ai dyna ddiwedd pob peth? Addawsant lawer i mi'n rhwydd, ond wedi'r cwbl, torri eu gair.]

Car Tenau

[(Gan droi unwaith eto at Pobun.) Nid yw'n arferiad gofyn i bobl fynd i ganlyn rhywun ar daith yn y fath fodd; nid yw'r fath beth yn gymwys nac yn iawn, yn ôl fy meddwl i. Y mae gennyt ddigon o daeogion a chennyt hawl i alw arnynt, ond y mae mwy o werth na hynny ar d'annwyl geraint.]



[Â ymaith.]

Rhagymadroddg1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14