Rhagymadroddg1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14

Pobun (1933)

Hugo von Hofmannsthal
cyf. T Gwynn Jones

Ⓗ 1933 T Gwynn Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 14


Daw Pobun i lawr mewn gwisg wen laes. Ffon pererin yn ei law, eì wyneb yn welw fel angau, ond wedi newid ei olwg. Â tuag at y lleill.

Gweithredoedd Da

[Oni theimlais i fod Pobun yn dyfod? Ie, ef ydyw, a daw yma. Yr oedd rhywbeth yn dywedyd wrthyf mai ef ydoedd. Fe allodd fodloni ei Arglwydd, 'rwy'n teimlo drwy f'aelodau oll y nerth at ehedeg fry!]

Pobun

Weithion, rhowch i mi yn ffyddlon eich dwylaw, cefais y cymun Sanct. [Bendigedig a fo'r sawl a barodd i mi hyn ac a roes i mi hefyd gyngor da. Bellach, boed diolch i chwi am aros mor ofalus amdanaf gyda gweddïau dyfal.] Ac weithian, gadewch i ni gychwyn ar y daith. Doded pawb ei law ar y ffon hon a chanlyned fi i'm bedd.

Gweithredoedd Da

Ni thynnaf i mo'm llaw oddi ar y ffon cyn bod y daith ar ben.

Ffydd

Mi safaf gyda thi megis y sefais gynt gyda Iwdas Maccabaeus.



Ant i fyny'r llwyfan. Daw Angau ymlaen a'u canlyn. Safant wrth y bedd.

Pobun

(Gan gau ei lygaid.) Weithion, rhaid i mi fynd i'r bedd, sydd cyn ddued â'r nos. Trugarha wrthyf yn dy holl-allu, Arglwydd!

Ffydd

Safaf yn d'ymyl a gwyliaf di.

Gweithredoedd Da

A deuaf innau gyda thi, Pobun.

Pobun

O Arglwydd Waredwr, aros gyda mi, arnat y galwaf am drugaredd.

Gweithredoedd Da

(Gan ei gynorthwyo i'r bedd a'i ganlyn ymo.) Arglwydd, boed dawel ein diwedd ni, i'th lawenydd di yr awn i mewn.

Pobun

[(Yn y bedd fel na weler onid ei ben a'i ysgwyddau.) Gan iti fy mhrynu'n rhydd, cadw eto f'enaid fel nas coller ac fel yr esgynno atat Ti yn y dydd diweddaf gyda theulu'r gwaredigion.]



[Sudda o'r golwg.]

Ffydd

Weithion, fe orffennodd ei ddynol daith. Saif yntau gerbron ei Farnwr yn llwm a noeth a'i weithredoedd yn unig gydag ef, a hwythau'n gyfnerth iddo ac yn eiriol drosto. Bendithiant ef; tybiaf mai lleisiau'r angylion a ddaw i'm clyw, a hwy yn galw ar yr enaid tlawd i blith eu nefol raddau.



Angylion yn canu.

LLEN

Rhagymadroddg1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14