Rhagymadroddg1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14

Pobun (1933)

Hugo von Hofmannsthal
cyf. T Gwynn Jones

Ⓗ 1933 T Gwynn Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 4
Pobun

Croeso i chwi bawb, a diolch i chwi heno am roddi arnaf yr anrhydedd olaf.

Car Tew

Duw fo'n gwarchod, y câr Pobun, beth yw rhyw gyfarchiad fel yna? Beth sydd o'i le arnat?

Meistres Pobun

Pa beth sydd arnat, beth sy'n dy flino?

Pobun

Rhywbeth yn dyfod dros wefus dyn heb yn wybod iddo! Ond, y croeso gorau yn y byd i chwi bawb!

Meistres Pobun

Cymerwch eich lleoedd fel y mynnoch! Chwi fechgyn, dowch â dŵr i ni olchi'n bysedd. (Gan gyfarch Pobun.) Pam y sefi di mor synn? Eistedda ni i lawr.

Pobun

Pam y maent hwy yn eistedd bob un yn ei amdo!

Meistres Pobun

Beth sydd o'i le arnat? A wyt ti'n glaf, dywed?

Pobun

Ha-ha! Rhyw syniad gwrthun ar ddamwain! Mi yfaf gwpanaid o win i glirio rhyw ddylni felly o'r ymennydd.

Meistres Pobun

Eistedd! Dywed ryw air caredig wrthynt!

Pobun

Ai yma y dylech chwi fod, bobl? Yr ydych yn edrych yn union fel estroniaid i mi.



Distawrwydd.

Car Tenau

Yr argen fawr, fy nghâr Pobun, a fynnech chwi'n gyrru ni adref eto?

Car Tew

Ni bydd hynny ddim mor hawdd i chwi, myn gafr, achos y mae'ch cogydd yn un mor dda, a'r gwin heblaw hynny yn twymo'r gwaed. 'Rwyf i'n ddigon cartrefol lle'r wyf.

Pobun

Ie, ie,... dim ond... ond yr oedd yn fy meddwl i gynneu, pan ddaethoch i mewn yma gyntaf, y gallswn eich prynu i gyd a'ch gwerthu wedi hynny hefyd, ac na buasai hynny'n fwy o beth i mi na phe bawn yn torri f'ewin.

Gwahoddedig 1

Beth a wnawn ni o ryw siarad cras fel hyn?

Car Tew

Ni bydd ef ddim yn gyffredin yn siarad fel hyn.

Meistres Pobun

A saif y gair amdanaf innau hefyd?



Edrych Pobun arni.

Gwahoddedig 1

Araith gŵr goludog yn gymwys, peth cwbl hŷ a sarhaus.

Meistres Pobun

Y mae dy lygaid di yn rhythu'n ofnadwy! Am ba beth y mynni di roi cosb arnaf i, dywed?

Pobun

Dy gosbi di, f'anwylyd? Peth pell o'm meddwl i yw hynny—yr wy'n dy garu fel cannwyll fy llygad fy hun. Rhaid fy mod yn rhyw feddwl ar ddamwain sut olwg fyddai arnat pe daethai'r newydd i ti yn sydyn gan rywun fod yn rhaid i mi farw yr awr hon.

Meistres Pobun

Er mwyn cariad Crist, pa beth sydd o'i le arnat, fy nghariad annwyl? Dyma fi gyda thi, gwel fi, eiddot ti wyf, heddiw ac yn dragywydd.

Pobun

Pe gofynnwn A arhosi di gyda mi? A fynni di fod gyda mi'r tu draw megis y tu yma? A fynni di ddyfod i'm canlyn i'r fan draw, a chymryd rhan o'm gwely oer-fel-yr-ia?

Meistres Pobun

Duw fo'n gwarchod!

Pobun

Syrthit yn ddideimlad wrth fy nhraed, fel y byddai raid i minnau edifarhau am ofyn y fath beth? Pe [ceisiwn gennyt ddyfod y ffordd honno, rhewai dy waed yn dy wythiennau; byddai'n artaith ddwbl i minnau, fel bustl a gwinegr ynghyd pe] bai raid i mi edrych a'm llygaid fy hun a gweld na thalai dy lw serchog ddim yn hwy, ac fel y gollyngai dy law fy llaw innau yn y diwedd, ac fel y tynnit dy wefusau oddi wrth fy ngwefusau i yn yr awr olaf! O, gwae! (Ucheneidia.)

Meistres Pobun

Chwi gyfeillion a cheraint annwyl, y mae rhywbeth yn rhyfedd ar f'anwylyd heddiw. Ni wn i ddim i ble i droi. Oni ellwch chwi roi rhyw gymorth i mi? Dyma fo'n sefyll yn ddigalon ac ar wahan, ac yn sôn am bethau sy'n chwithig. Ni welais erioed mono fel hyn o'r blaen.

Pobun

Dduw trugarog!

Meistres Pobun

Ni wn i ddim beth a all fod wedi digwydd iddo.

Car Tenau

Ar f'enaid, Pobun, fy nghâr, a ddaeth iselder ysbryd trosoch? Ac onid do, yna pa aflwydd sydd arnoch?

Car Tew

Mi wn. Y tu ôl i'r talcen y mae'r drwg, rhyw sychter yn yr ymennydd. Mi welais yr un helynt ar fy nhad fy hun, [fe fyddai'n aml fel hyn]. Rhaid iti yfed llwnc er mwyn i'r gwin ireiddio d'ymennydd di. Hwdiwch, hogiau! Poethwch y gwin nes bod yr angerdd yn codi i'r awyr, a dodwch sinamwn a sinsir ynddo.



Poethir gwin yng nghefn y llwyfan.

Morwyn Ieuanc 2

[Mi glywais sôn fod maen i'w gael y tu mewn i'r wennol, a bod y meddygon mawr yn ei ddefnyddio, Chelidonius y gelwir ef.]

Car Tenau

[Nage, Calcedon! Mynych y clywais sôn amdano. Y mae'n fawr ei effaith yn erbyn iselder ysbryd.]

Morwyn Ieuanc 3

'Rwy'n meddwl fy hun mai drwy gydymdeimlad y bydd raid ei wella. Effaith rhyw anadl wenwynig neu'r llygad drwg yw'r peth. Pe bai fy nghariad i'n glaf fel hyn, rhown brawf arno rhag blaen.

Morwyn Ieuanc 2

Prawf ar ba bcth?

Morwyn Ieuanc 3

Dirgelwch yw! Nid gwiw bod sôn amdano gan ryw dafod cyffredin, onid e fe gyll ei rinwedd.

Morwyn Ieuanc 2

Pa le y cefaist ti'r wybodaeth hon?

Morwyn Ieuanc 3

Fe'i cefais unwaith, sut bynnag, ac ni rown moni er pris. Ond mi a'i sibrydaf yn ei chlust.



Cyfyd a mynd a sibrwd yng nghlust y Feistres. Tra bo wrthi deil y lleill wrthy bwrdd i siarad.

Gwahoddedig 1

Pan fo byw dyn o hyd yn rhy dda, bydd hynny'n troi ei waed yn rhy dew. Am ddyn tlawd tan ei bwn, ni ddaw iselder ysbryd ar hwnnw!

Morwyn Ieuanc 1

[Pam na ofynnant i'r chwaryddion daro cainc ar gorn a thant? Dyna'r ffordd i gael gwared o brudd-der bob amser.]

Morwyn Ieuanc 2

Canwn ynteu gân a wnaeth les i ambell un cyn hyn.

Gwahoddedig 1

Ond ni thâl ond cân weddus.

Gwahoddedig 2

Ni bydd hi'n canu ond cerddi cymwys a gweddus.

Gwahoddedig 1

A fedrwch chwi'r gân sy'n dechrau fel hyn, "Ffy'r amser mewn pleserau per?" Yn ôl fy meddwl i, fe ddôi honno â'r sawl a'i clywai hi ato'i hun yn y fan.

Morwyn Ieuanc 1

[Na, gedwch honyna heibio; ai offeiriaid ydym ni? Pa les fydd rhyw gân dduwiol i ni?]

Gwahoddedig 1

[Nid cân offeiriaid moni ddim; fe'i cân y gwyliwr ar ei dŵr pan fo'r haul yn codi.]

Morwyn Ieuanc 1

Mi wn un arall, canwn honno.

Morwyn Ieuanc 2

Ha, beth?

Gwahoddedig 1
(Gan ei chusanu.) Ha, beth?
"Gwedi'r drin cawn godi'r dreth"!

Morwyn Ieuanc 2
["Floret silva undique."
'"Gwae finnau am fy machgen mwyn."]

Gwahoddedig 1
[(Gan ei dynwared.)
"Floret silva undique."
"Gwae hithau am ei bachgen mwyn."]

Morwyn Ieuanc 2
["Ar gefn ei farch aeth ymaith."
"Gwae fi, ple caf gydymaith?"]

Gwahoddedig 2
[(Gan daro i mewn.)
"Mae ciliau gwyrddion lond y coed,
Lle'r aeth fy nghariad chwim ei droed."]



Erbyn hyn bydd Pobun wedi yfed ei win poeth, ac yn edrych o'i gylch gyda gwên hapus.

Pobun

Byddwch lawen, geraint a chyfeillion hoff; nid oeddwn gynneu ddim yn teimlo'n rhyw dda iawn, ond erbyn hyn fe'm gwnaeth y ddiod eto'n iach. Croeso i bawb ohonoch at fy mord gron. 'Roedd rhywbeth megis yn pwyso ar fy mron, ond yn awr, dyma eto ddyblu pleser bywyd. Dedwyddwch yw ein bod ni yma gyda'n gilydd—mae hynny i mi fel gwin gwir lawenydd. Y mae fy nghalon yn fwy na llawn, ni wn i ddim yn wir pa beth a ddywedaf. Peth gwerthfawr yw ein bywyd yn y byd, ysblennydd ydyw bywyd oll o'n hamgylch ni, Ie, serch a chyfeillgarwch, mawr yw eu gwerth, a'r sawl a'u caffo hwy, ni fynn ei galon fwy; [ac os ceir hefyd gân a gwin, llawenydd y tu hwnt i fesur fydd hynny]. Gyfeillion hoff, 'rwyf yn eich caru yn wir; mwynhewch yr awr i'r eithaf oll; na boed eich gyddfau'n segur, doed cân allan, aed gwin i mewn, clymed eich lleisiau yn y gân, a phawb a'i goflaid ganddo'n dynn, [mwynhewch yr awr ddedwyddaf hon â chalon, gwefus, llygad, llaw!] Na boed eisiau hir grefu arnoch, tyrd, dyro inni gân, fy annwyl gâr.

Car Tew

[Fy nghyfaill tenau, gwae ni, gwae ni, cawn glywed ei gân am yr eira oer!]



Canant gan chwerthin.

Car Tenau
(Yn canu.)
Gwae fi, gwae fi, O Wener, gwae fyfi,
O Wener,
E weli faint fy nolur;
Gwae fi!
Pe byddai eira mân
Yn gorwedd ar fy mynwes
Fe'i cadwai'r galon dân
O hyd i gyd yn gynnes,
O gwrando, Wener lân!



Cyd-ganant oll. Clywir sain fygedig clychau. Gwthia Pobun ei wydr oddi wrtho.

Pobun

Ond pa sŵn clychau yw hwnyna? 'Rwy'n meddwl nad arwydd da mono! Sain groch a brawychus, yn gyrru ias a gloes drwy galon dyn! Paham y cân y clychau ar yr awr hon?

Gwahoddedig 1

Nid oes dim yn y byd i'w glywed,

Gwahoddedig 2

A glywodd rhywun ganu clychau?

Morwyn Ieuanc 1

Pa glychau? Beth a ddywedwyd am glychau?

Morwyn Ieuanc 2

Byddai hyn yn rhy gynnar i'r offeren fore!

Meistres Pobun

'Rwy'n erfyn, peidiwch â rhoi'r gorau i ganu.

Gwahoddedig 1

A glywodd un ohonoch chwi rywbeth yn tincian?

Gwahoddedig 2

(Gan chwerthin.) Na thinc na thonc i'm enaid i!

Meistres Pobun

Da chwithau, na thewch â chanu.

Pobun

['Rwy'n erfyn na sonioch ddim mwy am y peth—ni chlywaf mono mwy, pob peth yn dda.]

Car Tew

O ryw ddrwg yn y gwaed y cyfyd peth fel hyn. Mi baraf dwymo cwpanaid o win eto i chwi.

Pobun

Llawer o ddiolch, fy nghâr, ond gadewch hynny.



Eistedda Pobun, a'i Feistres yn ymwasgu ato. Câny gwahoddedigion wrth ben arall y bwrdd eio "Floret silva undique," etc. Tra canont hwy daw Cydymaith Da Pobun a chymer y lle gwag wrth y bwrdd. Fel y gostego'r canu clywir llawer o leisiau'n galw).

Lleisiau

Pobun! Pobun! Pobun!

Pobun

(Gan neidio ar ei draed mewn ing.) Fy Nuw! Pwy sy'n galw arnaf? O ble y gelwir arnaf? Ni byddaf ddedwydd byth eto tra bwyf!

Cydymaith

Pobun, [fy nghar,] yr wyf i ger llaw,

Meistres Pobun

Pobun! Ie, gwel, dyma dy Gydymaith annwyl.

Lleisiau

Pobun!

Pobun

Dywed, fy nghyfaill, pwy sy'n galw "Pobun"' mor groch?

Car Tenau

Atsain ein canu ni sy'n rhedeg yn eich clustiau, efallai.

Pobun

Na, na! Sŵn ofnadwy, yn uchel ac yn gryf, nid yn ysgafn. Fel hyn: "Pobun, Pobun!" ond yn uwch nag y gallwn i ei ddynwared. Yn swnio'n ddieithr ac eto'n gynefin hefyd. O ba uffernol fan y gallent fod yn galw arnaf? Ni chaf i byth ddim cysur eto, na chaf! Yna, yna, eto! Clywch mor groch y maent yn galw "Pobun!"



Clywir y galw fel cynt.

Meistres Pobun

Ni chlywaf i ddim sain.

Car Tew

Ni chlywaf i ddim llef.

Car Tenau

Nac ychwaith un adlais gwan.

Cydymaith

(Gan fynd i ymyl Pobun.) Dy dwyllo y mae dy glust. Y mae golwg drwg arnat. A gaf i d'arwain di i'r tŷ.

Pobun

Pan drof fy ngolwg atoch, daw fy nerth yn ôl i mi, [hynny yw, ni allai'r fath gri ddigwydd ddwywaith yma. Gwna'r goleuni disglair les mawr i mi. Eistedd yn f'ymyl yma, fy nghydymaith,] a boed i'r gwahoddedigion bawb gyrraedd at bethau a'u digoni eu hunain oll. Yfory cymeraf gyfle i ymgynghori â meddyg, er mwyn cael gwared rhag y drybini yma cto.

Meistres Pobun

Rhaid iti addo hynny i mi, f'anwylyd! Mi drengwn o ing a gofid pe'th welwn yn fynych fel yna!



Ant ymlaen gyda'r wledd.

Rhagymadroddg1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14