Rhagymadroddg1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14

Pobun (1933)

Hugo von Hofmannsthal
cyf. T Gwynn Jones

Ⓗ 1933 T Gwynn Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 9
Pobun

Och, Dduw, faint f'arswyd rhag Angau! Tyrr chwys oer drosof, ac y mae'r ing fel pe bai'n lladd yr enaid yn y corff—pa beth ynteu a ddigwyddodd i mi ar drawiad? [Bob amser, ar ryw oriau gwaeth na'i gilydd, hyd yma cefais hyd i ryw gysur; ni'm llwyr adawyd i erioed, yn ddim ond rhyw ynfytyn truan tlawd; ni bûm erioed lle ni fedrwn sefyll a throi yn f'ôl pan fynnwn.] A ddarfu am fy ngallu yn llwyr, a gymysgwyd fy meddwl fel mai prin y gallaf atgofio pethau bellach? Pwy ydwyf ynteu, ai Pobun, y Pobun cyfoethog o hyd? Dyma fy llaw, dyma fy ngwisg, a'r peth sydd eto yn y fan yma, hynny yw f'arian a'm trysor, drwyddynt hwy gynt, mi fyddwn bob amser yn cael popeth fel y mynnwn. Yn awr, mi fyddaf yn well wrth ei weled yma yn ymyl fy llaw yn fy helbul. [Os gallaf ddal ati felly, ni ddaw nac arswyd nac ing arnaf. Ond gwae fi, rhaid i mi fynd oddi yma—daw hynny'n ebrwydd i'm cof. Daeth y gennad, rhoed y wŷs, bellach rhaid mynd oddi yma. (Gan ei fwrw ei hun ar y gist.) Nid hebot ti!] rhaid i ti ddyfod i'm canlyn, ni'th adawn i ar f'ôl er dim; rhaid dy gael di eto mewn tŷ arall. Am hynny, i fyny â thi ac allan rhag blaen!



Ymegyr y gist yn sydyn—cyfyd Mamon ohoni. Aruthr o faint.

Mamon

Ha, Pobun, pa beth sydd arnat ti? Yr wyt yn frawychus yn dy frys, a chyn welwed â'r calch.

Pobun

Pwy wyt ti, ynteu?

Mamon

Nid adwaenost fy wyneb, ac eto, mynnit fy llusgo oddi yma gyda thi? Dy gyfoeth wyf i, yn wir, dy arian, dy unig beth a'th bopeth yn y byd.

Pobun

(Gan syllu arno.) Nid ymddengys dy wyneb i mi cystal, ni rydd ddim bodlonrwydd, yn wir. Ond nid yw hynny nac yma nac acw, rhaid i ti ddyfod i'm canlyn.

Mamon

Beth bynnag fo rhaid, gellir gwneud hynny oll oddi yma, gwyddost yn dda faint fy ngalluoedd i. Dywed pa beth sydd yn dy boeni, rhof innau gymorth i ti.

Pobun

Fel arall y mae'r amgylchiadau. Gyrrwyd amdanaf o ryw le arall.

Mamon

Oddi...

Pobun

(Gan edrych i lawr.) Ie, ie! daeth cennad ataf.

Mamon

Ai felly y mae hi arnat? Rhaid mynd oddi yma? Ai ê? wela wir! nawdd iti! (Wrtho'i hun.) Felly! Daeth cennad ato i'w ddwyn i'r ochr draw. Wela! bu hynny ar gryn frys. Ni chlywais i erioed o'r blaen am alwad felly.

Pobun

Ac fe ddoi gyda mi, oni ddoi?

Mamon

Dim un cam, 'rwy'n ddedwydd yma.

Pobun

Eiddof i wyt, fy meddiant a'm da.

Mamon

Eiddot ti? Ha, paid â chodi chwerthin arnaf.

Pobun

A wrthryfeli dithau, y felltith, y teclyn!

Mamon

(Gan ei fwrw ymaith.) Aros, cymer ofal! Nid yw dy lid yn ddim yn y byd i mi. Gall fod pethau'n gwbl groes. Myfi sydd fawr, tithau fel corrach. Tydi'r bychan yw'r gwas, ac os buost yn meddwl mai fel arall y byddai, nid oedd hynny ond twyll ac ynfydrwydd.

Pobun

Buost at fy ngalwad i.

Mamon

A mi oedd yn llywodraethu yn d'enaid.

Pobun

[Buost was i mi i mewn ac allan.]

Mamon

[A thithau'n dawnsio wrth fy nhennyn!]

Pobun

Gwas i mi, caethwas i mi oeddit,

Mamon

Nage, mwnci-ar-ben-pric i mi oeddit ti.

Pobun

[Gennyf i yn unig yr oedd hawl i ymhel â thi.]

Mamon

[A minnau fy hun yn d'arwain dithau wrth dy drwyn.] Y penbwl, yr ynfytyn na roes erioed mo'i fys yn y tân, y pen ffŵl, Pobun, dal sylw—yma yr arosaf i, ymha le y byddi di? Pa beth bynnag a rown i yn dy ben, dyna fyddai d'amcan di—y rhwysg, yr ymddangosiad, y balchter a'r ymchwyddo, a rhyw chwant melltigaid, didoriad. (Wrth y gynulleidfa.) Myfi oedd yn cynhyrfu'r cwbl, a'r peth oedd hyd eto yn ei gadw ar ei draed, rhag iddo ddisgyn yn llipryn ar lawr a'i bedwar aelod ar led, a'r peth a'i deil eto a'i ben i fyny, nid yw ond ei arian a'i dda. (Wrth Bobun, gan godi dyrnaid o'r arian o'r gist a gadael iddynt ddisgyn yn ôl.) Hwn! o hwn y tardd egni dy fywyd i gyd, ond syrth yn ei ôl i'r coffr, a chyda hynny dyna ddiwedd ar dy ddedwyddwch. Cyn hir fe byla dy synhwyrau ac ni'm gweli i byth mwy. Nid oeddwn i ond benthyg dros dy ddyddiau ar y ddaear, ac nid af gyda thi mwy, nid af, yma yr arosaf, gan dy ado ar dy ben dy hun, yn gwbl noeth, yn dlawd a gofidus. Ni thâl iti ddim oll daflu breichiau na rhincian dannedd, cei fynd i'r pridd yn noethlymyn groen, yn union fel y daethost o groth dy fam.



Plyg Mamon i lawr. Cau o'r gist hithau. Saif Pobun yn fud. Saib hir. Daw Gweithredoedd Da i'r golwg, fel un gwael ar wely truenus. Hanner cyfyd a galw â llais gwan.

Rhagymadroddg1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14