GOLYGFA 10 |
|
Cadeirydd |
Reit, symud mlan nawr at eitem 21. Ry' chi gyd, dwi'n gobeithio, wedi darllen y dogfennau polisi perthnasol yn ofalus dwi'n gobeithio. Mae'r penderfyniad sydd da ni i neud heddi ddim yn fater rhwydd. Mae'n fater sydd eisoes wedi codi cryn gynnwrf yn y sir – ac yn ardal Tregaron yn arbennig. Wna'i alw nawr ar yr aelod cabinet – Seimon – Seimon Bosib - sydd â chyfrifoldeb am y materion hyn i gyflwyno'r argymhelliad y byddwn yn pleidleisio arno, mas-law. (Troi ato.) Seimon... |
Aelod Cabinet |
Diolch, Mr/Mrs Cadeirydd. Wel, yn syml, fel y'ch chi'n gwbod, mae Caerdydd wedi bod yn pwyso arno ni i gydymffurfio â'r holl siroedd eraill ac i baratoi polisi newydd yn berthnasol i'r mater hwn. Leicwn i gymryd y cyfle hwn, gyfeillion, i ddiolch yn ddidwyll iawn i swyddogion yr adran am eu gwaith caled – dros y deunaw mai diwethaf hyn – yn paratoi'r polisi newydd – ac i'r Cyfarwyddwr yn arbennig. Ry' ni mor ffodus yng Ngheredigion bod da ni Gyfarwyddwr sydd yn deall ffordd Caerdydd o feddwl mor dda, ac sydd felly yn gallu sicrhau ein bod ni, fel cyngor, yn cael yr arweiniad gore posib. Nawr, o fewn y polisi newydd mae yna un oblygiad sydd wedi codi – fel y soniodd y Cadeirydd – wedi codi dipyn o stŵr yn ardal Tregaron yn arbennig. Dwi'n cydymdeimlo'n fawr â'u consyrn, wrth gwrs. Ond os y'n ni i fabwysiadu'r polisi – fel mae Caerdydd moyn i ni neud, ontife – wedyn does dim dewis. Bydd rhaid cymryd y camau yn ardal Tregaron mae Is-Adran 3, tudalen 173, paragraff 28.9 yn eu hamlinellu. I gyflwyno i chi union fwriad y polisi, dwi'n troi yn awr am gymorth pensaer y polisi – yr un sy'n deall yr holl oblygiadau yn well na'r un ohonom – Y Cyfarwyddwr. |
Cyfarwyddwr |
(Sylwedd y cyflwyniad.) Mae cynnal y ffordd bob cam o'r naill dref i'r llall yn costi £miliwn – 30% yn fwy na'r cyllid sydd yn dod oddi wrth Lywodraeth Cymru. Dyma'r unig ffordd o gadw'r ffordd fawr o Tregaron i gyfeiriad Aberystwyth ar agor. Os y'ch chi am gadw'r hewl o dregaron drwy Dyncelyn a Bronnant ar agor, does dim dewis ond ei chau o ledrod ymlaen. Os na wnawn ni hyn mae'n fwy na thebyg y bydd Caerdydd yn ei chau yn gyfangwbl. Am y flwyddyn neu ddwy gyntaf, mi fydd y cyngor yn darparu arhosfan arbennig yn lledrod le bydd ymgynghorwyr ar gael i helpu gyrrwyr sydd am fynd i Aberystwyth ddewis pa un o'r aml hewlydd bach a llwybrau marchogaeth y bydd y sir yn dal i ddarparu fydd yn gweddu orau i'w anghenion. Mi fydd y darn o'r hewl (o Ledrod i Lanfarian) a ddiddymir yn cael ei chodi a'i defnyddio i ddarparu maes parco newydd ar gyfer Canolfan yr Eliffant – canolfan groeso a dehongli ar gyfer ymwelwyr a agorir unwaith y daw bedd y blydi eliffant i glawr. Mae'r cyngor wedi sicrhau grant o £98.7 miliwn gan gronfa RDP i chwilio am y blydi eliffant. |
Yn ystod y cyflwyniad, defnyddir negeseuon powerpoint, megis... |
|
Powerpoint 1: |
Having a policy is like having a car. You don't need to understand exactly how it works. But you won't get anywhere without it. (Wank R Bigtalk, American Institute of Useful Quotations.) |
Powerpoint 2: |
Map ardal Tregaron-Aberystwyth. |
Powerpoint 3: |
Map ardal Tregaron-Aberystwyth + hewl fawr. |
Powerpoint 4: |
Argymhelliad: Ffordd Tregaron-Aberystwyth: Cynnal am 6.8 milltir yn unig o mis Medi, 2014 ymlaen. |
Powerpoint 5: |
Eich dewis: Opsiwn A (Argymhelliad y Gyfarwyddiaeth – cydymffurfio â chanllawiau Ll.C.C.) Opsiwn B (Dod o hyd i arbedion eich hunain / creu polisi newydd / ymateb Ll.C.C.?) |
Powerpoint 6: |
Nifer pleidleiswyr yn ardal opsiwn A = |
Powerpoint 7: |
Chi sydd i ddewis. |
Y cyfarwyddwr yn eistedd. Yn y drafodaeth ddilynol... Cynghorwyr yn codi cwestiynau ffeithiol / meintiol (cwestiynau glo mân heb ddim tân oddi danynt). Yr Aelod Cabinet yn ail-gyfeirio pob cwestiwn at y Cyfarwyddwr. Y Cyfarwyddwr ag ateb i bob cwestiwn – gan gyfeirio at y tudalen a'r golofn / paragraff perthnasol yn yr Adroddiad. Wedi tri neu bedwar tebyg... Cynghorydd mentrus yn gofyn odi'r bwriad o ddifrif ac yn dechrau cwestiynu'n ddiwyd ac yn ddoeth. Yn y pen draw, mae'n cynnig gwelliant: Codi toll ar y faniau home-delivery (ASDA, Tesco etc) sy'n defnyddio hewlydd y sir a defnyddio'r arian i gynnal y ffordd hyd o Ledrod i Lanfarian. Cynnwrf o fewn y cynghorwyr cyffredin. Torf go lew ohonynt yn leico'r syniad hwn. Cefnogaeth yn dechrau adeiladu. Y Cyfarwyddwr yn cynnig bod y syniad yn un diddorol. Mae'n barod ystyried os yw'n bosibilrwydd realistig. Troi at Arbenigwyr Cyfreithiol am eu barn. Yr Arbenigwr Cyfreithiol yn datgan bod y peth yn amhosib. Gwbl amhosib. Ar arwydd, yr olygfa'n rhewi... |