g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13

Sdimbydineud (2014)

Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw

Ⓗ 2014 Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 4


GOLYGFA 4

Eifion

(Yn torri ar draws.) Sori, ond... y...



Amnaid ar i'r cyflwynydd fynd o'r ffordd.

Eifion

Mi fydd digon o gyfle i bawb i weud ei farn nes mlan. Nes mlan.



Cyflwynydd yn ildio'i le.

Amnaid oddi wrth Eifion i'r cynghorydd.

Cynghorydd

Diolch, Mr Evans. Nawrte, fy mraint i heno – ar ran Arweinydd y Cyngor, a ei mawrhydi, Cyfarwyddwr Addysg Cymru Gyfan Jyst A Bod I Gyd – fy mraint i yw eich croesawu yma i'r cyfarfod cyhoeddus hwn yn Nhregaron. Y cam cyntaf yn y broses Ymgynghorol. Ac – dwi am bwysleisio hyn, ei bwysleisio yn fawr – Ry' Ni Yma I... (Saib hir.) Wwwrando. I... (Saib bron mor hir.) Wwrando. Mae gennym – y tri ohonom – glustiau. A gwaith clustiau yw... (Saib eto.) Grrr...



Cloch / larwm yn canu.

Y tri yn eu heglu hi o gwmpas y theatr cyn cyrraedd yn ôl i'w man cychwyn.

Cynghorydd

Diolch, Mr Evans. Nawrte, fy mraint i heno – ar ran Arweinydd y Cyngor, a ei mawrhydi, Cyfarwyddwr Addysg Cymru Gyfan Jyst A Bod I Gyd – fy mraint i yw eich croesawu yma i'r cyfarfod cyhoeddus hwn yn Llanafan. Y cam cyntaf yn y broses Ymgynghorol. Ac – dwi am bwysleisio hyn, ei bwysleisio yn fawr – Ry' Ni Yma I... (Saib hir.) Wwwrando. I... (Saib bron mor hir.) Wwrando. Mae gennym – y tri ohonom – glustiau. A gwaith clustiau yw... (Saib eto.) Grrr...



Unwaith eto –

Cloch / larwm yn canu.

Y tri yn eu heglu hi o gwmpas y theatr cyn cyrraedd yn ôl i'w man cychwyn.

Cynghorydd

Diolch, Mr Evans. Nawrte, fy mraint i heno – ar ran Arweinydd y Cyngor, a ei mawrhydi, Y Cyfarwyddwr Addysg Cymru Gyfan Jyst A Bod I Gyd – fy mraint i yw eich croesawu yma i'r cyfarfod cyhoeddus hwn yn Llanddewi. Y cam cyntaf yn y broses Ymgynghorol. Ac – dwi am bwysleisio hyn, ei bwysleisio yn fawr...

Arweinydd

(Sibrwd wrth y cyfarwyddwr.) Yr holl gyfarfodydd cau... y... ymgynghori yma, jiw mae'n waith blinedig.

Cyfarwyddwr

Odi. Ond mae'n gwd ffyn, ondywe!

Llais o'r Dorf

Excuse me. Is this meeting going to be all in Welsh?

Cynghorydd

O... y... Haven't you had Offer Cyfieithu?

Llais o'r Dorf

If it's the translation things you mean, they're not working.

Arweinydd

Wnewn ni'r cyfarfod yn ddwyieithog.

Llais o'r Dorf

What?

Arweinydd

We'll do it bilingually.

Cyflwynydd

Sy'n golygu, wrth gwrs, mai hyn fydd y geiriau cyntaf...

Cynghorydd

Gyfeillion, fy mraint i yw eich croesawu yma heno i'r cyfarfod hwn.

Cyflwynydd

A'r geiriau olaf fydd...

Cynghorydd

Nos da.

Cyflwynydd

But everything in between...

Arweinydd

Will be in the Queen's English.

Cyflwynydd

Except for the repetition of certain key words, such as...

Cyfarwyddwr

Yn fy marn proffesiynol i...

Cyflwynydd

And...

Arweinydd

Sori, ond...

Cynghorydd

Sdim byd i neud.

Llais arall o'r llawr

Sdim wahaniaeth pa iaith chi'n defnyddio, ma' pawb yn gwbod beth y'ch chi wedi dod ma i weud.



Y cyfarwyddwr addysg yn dechrau tanio. Bobol o'r llawr yn tanio nôl. Pethe'n dechrau mynd yn wyllt. Y cyflwynydd, drwy arwydd / dyfais yn rhoi stop sydyn ar y gwylltineb.

Cyflwynydd

Ymddiheuriadau, gyfeillion am y colli gafael yn y fan honno ar ein disgyblaeth greadigol. Am eiliad, roedd ein boddhad o dynnu blew o drwyn y cynghorwyr a'r swyddogion mewn perygl o'n dargyfeirio oddi wrth ein gwaith. Oddi wrth y nod o gwestiynu. O holi pam? Siwt? Pryd? (Cyflwynydd yn sefyll o flaen / ger bron y Cynghorydd.) Pam, siwt, pryd, er enghraifft y diffoddodd y tân a arferai losgi ym mola berfedd ein cyfaill yn y fan hon. Mae'r ateb, o bosib, i'w ganfod yn yr un ysgol fydd ddim yn cau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon. Ysgol y Cynghorwyr Newydd.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13