g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13

Sdimbydineud (2014)

Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw

Ⓗ 2014 Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 5


GOLYGFA 5

Croesawydd

Da iawn. Pawb yma?

Reit. Dechreuwn ni.

Croeso i chi gyd yma, i'ch cyfarfod cyntaf yma yn Siambr y Cyngor. A'r peth cyntaf sydd raid i mi wneud yw eich llongyfarch. Llongyfarchiadau i chi un ac oll ar gael eich hethol i fod yn gynghorwyr. Cynghorwyr newydd sir Ceredigion. Ac os ga'i ddweud, dwi'n credu mai chi yw'r cynulliad... (yn chwilio am y gair mwyaf priodol)...y...harddaf o gynghorwyr newydd dwi wedi cael y fraint o'u croesawu yma erioed. (Slipo i Hughie Green am eiliad.) And I mean that most sincerely, folks! Ie'n wir.

Nawrte, gan gofio gymaint o fraint yw bod yn gynghorydd, dwi'n siwr nad oes angen i fi ddweud wrthoch chi mor bwysig yw eich gwaith. A'n gwaith ni – swyddogion proffesiynol y cyngor – yw eich galluogi chi – i wneud popeth gallwn ni – i'ch helpu i sefyll lan dros eich hetholwyr. I gynrychioli buddiannau eich hetholaethau. A gwneud hynny i'r eithaf.

Felly te, i'n helpu ni i'ch helpu chi, mae 'na ryw gwpwl o bethe bach sydd angen i chi ddysgu. A'r peth mwyaf pwysig i gyd yw: siwt ma pleidleisio. (Ffug chwerthin.) Na – nid 'pa ffordd ma pleidleisio. Eich dewis rhydd chi – a chi yn unig – yw hynny, wrth gwrs. Na, yr hyn mae 'nghyfaill i yn y fan hon yn mynd i ddysgu i chi nawr yw siwt ma pleidleisio. Siwt ma bwrw eich pleidlais gan ddefnyddio'r botymau o'ch blaen. Gyfaill...


Hyfforddwr yn cyfarwyddo pawb i...
- Godi'r fraich dde yn uchel i'r awyr.
- Ffurfio pwynt â'r bys pwyntio.
- Gan gadw'r fraich a'r llaw a'r bys yn yr awyr, symud y llygaid i sicrhau pa botwm yw'r targed priodol.
- Gynnu anadl ddofn ac yna...
- Gwyro'r fraich a'r llaw a'r frys mewn hanner cylch tuag at y botwm.
- Wedi cyffwrdd yn gadarn (ond ddim yn rhy gadarn) â'r botwm, cyfrif un-dau-tri (er mwyn sicrhau bod y bleidlais yn cael ei chofnodi). Yna...
- Rhyddhau, gan ddychwelyd y fraich a'r llaw a'r bys i'w gorweddfan arferol.


Hyfforddwr

Ymarfer da y mae'r cyngor yn ei gymeradwyo – arfer pleidleisio â'r llaw chwith hefyd rhag ofn (1) byddwch yn cael damwain ac yn methu defnyddio'r llaw dde, a (2) ar gyfer y diwrnodau hynny y mae llawer o bleidleisio i'w wneud. Ar ddiwrnodau tebyg mi fydd pleidleisio â'r llaw chwith yn eich harbed rhag RVI (repetitive voting injury) / AAB (anaf aml-bleidleisio).



Ar ddiwedd yr ymarfer...

Hyfforddwr

Unrhyw gwestiynau?

Cynghorydd Newydd

O's rhaid codi'r fraich a'r llaw a'r bys mor uchel?

Hyfforddwr

Y... Oes.

Cynghorydd Newydd

O diar. Ma da fi fraich dost, chi'n gweld. Athritis.

Swyddog

Mm. Wna'i edrych i weld a oes modd rhoi hoist yn y siambr i'ch helpu.

Cynghorydd Newydd 2

Sai'n gweld bod ise ny. Sai'n gweld bod ise'r seiens ma o gwbwl, â phob parch. Dim ond gwasgu sy' ise i ni neud, er mwyn popeth. Beth yw pwynt y Lan-yn-yr-Awyr busnes ma i gyd?

Swyddog

Ie, wel... â phob parch atoch chithau hefyd, gan gofio eich bod yn newydd, ynte, y pwynt yw: cadw'ch harweinydd grŵp – y'ch plaid – yn hapus.

Cynghorydd Newydd 2

Beth? Siwt?

Swyddog

Wel, mae'n amlwg, ond-yw-hi. Iddyn nhw fedru gweld pa ffordd y'ch chi'n pleidleisio.

Cynghorydd Newydd 3

Hy. Bydd hynny'n becso dim arna' i. Dwi'n annibynnol.

Swyddog

(Yn trio peidio chwerthin gormod.) Doniol iawn. 'Annibynnol'. Doniol iawn. (Troi at yr hyyfforddwr.) Diolch, gyfaill. Ymlaen at y wers nesaf. Siwt mae swyddogion y cyngor yn gallu eich helpu i ddod i benderfyniad. Nawrte, mae llawer o waith y cyngor yn gymhleth iawn. Mor gymhleth, mae rhai ohonom ni – y staff broffesiynol – ambell waith – ambell-ambell waith – yn cael trafferth deall y materion ry' ni'n eu trafod. Wel, os y'n ni – y staff broffesiynol – yn cael trafferth, pa ddisgwyl i chi – gynrychiolwyr rhan amser – i ddeall. Dyna pam, cyn pob pleidlais fawr mi fydd Swyddogion – Uwch-Swyddogion a Chyfarwyddwyr – y cyngor yn rhoi braslun o'r dewis ger eich bron a chyngor parthed y llwybrau cywir i'w dilyn.

Cynghorydd 4

Gwych.

Cynghorydd 5

Gwd thing. Ma' nhw'n deall y pethe ma.

Cynghorydd 3

Ie. Gwd. A os y'n ni ddim yn cytuno â beth sda nhw i weud fyddai'n gallu cwestiynu nhw wedyn.

Swyddog

Sori. Beth oedd y gair defnyddioch chi fyn'na nawr?

Cynghorydd 3

Y... 'cwestiynu'?

Swyddog

W! Cystal i fi eich rhybuddio nawr, dyw hwnna ddim yn air i'w ddefnyddio yn y siambr hon – yn sicr ddim o flaen Swyddogion.

Cynghorydd 3

(Yn dechrau twymo.) Beth? Be chi'n trio gweud? Sdim hawl da ni gofyn cwestiwn i swyddog?



Ar draws y swyddog, cyn iddo ateb.

Cyfreithiwr y Sir

Mr Swyddog, gai'ch hatgoffa chi fod dim rheidrwydd arnoch chi i ateb cwestiwn y cynghorydd.

Swyddog

Ie, wi'n gwbod, ond...

Cyfreithiwr y Sir

(At y cynghorydd.) Ac ma rhaid i mi bwysleisio wrthoch chi, syr/madam – yn gwbl ddi-flewyn ar dafod – dyma'r tro olaf y byddwch yn gofyn cwestiwn o swyddog yn y siambr hon, ydych chi'n deall.

Cynghorydd

Ie, ond beth os o's swyddog yn y'n camarwain? Yn gweud pethe sydd ddim yn wir.

Cyfreithiwr y Sir

Ddim yn...! Ydych chi, gynghorydd, yn ystyried yr hyn y'ch chi newydd ei ensynio. Ei bod hi'n bosib i Swyddog o'r cyngor sefyll yn y siambr hon â'r bwriad i gam-arwain aelodau etholedig?

Swyddog

Mr/Mrs Cyfreithiwr – cyn i'r drafodaeth hon fynd gam ymhellach, dwi'n credu fod angen i fi ymddiheuro i bawb. Dwi'n rhyw feddwl, falle, fod cam pwysig yn y broses hon o'ch cyflwyno at y gwaith o fod yn gynghorwyr newydd heb ddigwydd. Yn y pecyn gawsoch cyn dod yma heddi a oedd 'na becyn tabledi ynddo – debyg i hwn?



Ateb negyddol gan bawb.

Swyddog

Mm. O'n i'n meddwl falle. Nawrte, cyn i chi fynd o 'ma heddi, ma na becyn i bob yr un ohonoch. Y cyfan sydd raid i chi gofio yw cymryd un bob bore – cyn agor eich i-pad cyngor, os yn bosib.

Cynghorydd

Beth yw'r tabledi. Os enw arnyn nhw?

Swyddog

Oes. Protocol. Llyncwch un dos o Protocol bob dydd ac ymhen fawr o dro mi fyddwch yn gynghorwyr hapus ac esmwyth a braf eich byd. Dim problemau pwysau gwaed na stress na dim. Ac yn awr, ar gyfer y wers olaf heddi...



Hyfforddwr yn dychwelyd ac yn holi pawb i sefyll. Pawb i gymryd llinyn sydd ar eu stôl. Rhoi rhif i bawb yn y siambr. Gofyn i gynghorwyr 1, 3, 5 etc i droi eu cefnau at 2, 4, 6 etc Cyfarwyddo cynghorwyr 2, 4, 6 etc i glymu dwylo 1, 3, 5 etc.

Swyddog

Da iawn. Ry' chi ar y ffordd i fod yn gynghorwyr hyfryd iawn. Ar y ffordd mas mi fydd rolyn o dâp i bob yr un ohonoch i roi dros eich cegau. Ond nawr, cyn i ni orffen, gawn ni gyd blygu pen a dweud gyda'n gilydd y geiriau cysegredig... Mae'n ddrwg gen i, ond sdim byd i neud.

Gyda'n gilydd?

Pawb

Mae'n ddrwg gen' i, ond sdim byd i neud.

Swyddog

A-men.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13