g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13

Sdimbydineud (2014)

Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw

Ⓗ 2014 Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 2

GOLYGFA 2

Cân
Sdimbydineud-i-neud

(1)
Pan glywais fod y Cyngor Sir
Yn mynd i dorri'r Chweched yn grwn
Gofynnais paham
I Mam ac i Dat
A dyma eu hateb llwm...

Sdimbydineud, i neud
Sdim ots be' ni'n neud na gweud
Os y'n Nhw yn dweud, yn dweud
Does dim byd i neud,
Sdiawl o ddim i neud.

(2)
Cysylltais i â'r c'nghorwyr sir,
Wedes i: Drychwch, s'o hyn yn iawn,
Rhaid i chi sefyll
Yn gadarn a chryf
Ond hyn oedd eu hateb yn llawn...

Sdimbydineud, i neud
Sdim ots be' ni'n neud na gweud
Os yw'r Swyddogion yn dweud, yn dweud
Does dim byd i neud,
Sdiawl o ddim i neud.

(3)
Dyma fi'n holi yn ei glust
Y Cyfarwyddwr Mawr ei hun
'Pam wyt ti'n mynnu
Lladd cefen gwlad?'
Atebodd yntau yn flin...

Sdimbydineud, i neud
Sdim ots be' ch'n neud na gweud
Caerdydd sy'n dweud, sy'n dweud
Does dim byd i neud,
Sdiawl o ddim i neud.

(4)
Mi gefais fraw, y dydd o'r blaen,
Meddwl am bopeth
A aeth i'r llaid –
Tafarn a chapel,
Ysgol a siop,
Clywais fy hun yn dweud...

Sdimbydineud, i neud
Sdim ots be' ni'n neud na gweud
Os y'n Nhw yn dweud, yn dweud...



Ar draws...

Cyflwynydd

Hei! Be' chi'n neud? Snapwch mas ohoni er mwyn popeth neu fyddwn ni ddim yn gallu neud beth ddelo ni 'ma i 'neud!



Pawb yn mynd i'w lleoedd gan ymddiheurio i'r cyflwynydd ac i'w gilydd a sylwi pa mor gatshin yw'r geiriau 'sdimbydineud'. Unwaith ti'n dechrau ei ddweud e wyt ti'n dechrau ei feddwl e!

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13