g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13

Sdimbydineud (2014)

Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw

Ⓗ 2014 Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 8


GOLYGFA 8

Bord fechan yn cael ei gosod ar ganol gofod gwag, ganol y llawr. Lliain wen yn cael ei gosod ar y ford. Sedd foethus (Mastermind-aidd) yn cael ei gosod un pen o'r ford. Bwrdd gwyddbwyll yn cael ei osod ar ganol y lliain ar ganol y ford.

Sylwebydd

(Yn cwtsio ar ymyl yr olygfa.) (Sibrwd i feic.) Helo. A chroeso i'r sesiwn Dosbarth Meistr arbennig hon. Mae'r ford, y bwrdd a'r gadair yn barod ar gyfer ymddangosiad y Meistr ei hun. O – a dyma hi'n dod... Arweinydd y cyngor. Cyngor Sir Iawn.

Ac wrth iddi gymryd ei lle wrth y bwrdd, dyma gyfle i fi gyflwyno rhai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd â'r gêm i rai o'r rheolau mwyaf sylfaenol.

Fel y'ch chi'n gweld, mae'r bwrdd yn ymdebygu i fwrdd gwyddbwyll neu ddrafftiau. Ond yn y fan honno, fwy neu lai, mae'r tebygrwydd yn gorffen. Mae'r gêm cabiné – cabinet i'w roi yn ei ffurf Gymraeg – yn gêm go wahanol.

Yn y lle cyntaf, fel y gwelwch chi heno, gêm un chwaraewr yw hi. Ac yn ail – fel y gwelwch chi wrth i'r darnau gael eu gosod, nid du a gwyn yw'r unig liwiau. Eich pleidleisiau chi, gatre, wrth gwrs sydd wedi penderfynu faint o weision sydd gan y Chwaraewyr i'w gwthio o le i le. Fel y gwelwch chi heno, ry' chi wedi rhoi i'r Meistr-Chwaraewr mwy o weision gwyrdd nag unrhyw liw arall. Ond, am fod yma hefyd un gwas coch, twr o rai melyn ac ambell i un gwyn hefyd, does gan y Meistr-Chwaraewr ddim mwyafrif o'i phlaid. Mae hi'n mynd i orfod chwarae gêm glyfar iawn fan hyn er mwyn ffurfio cabinet a fydd yn ei helpu i gadw rheolaeth ar fwrdd y chwarae.

Felly, wrth i'r cloc ar gyfer y sesiwn cyntaf hwn gael ei osod yn ei le...



Gosod y cloc.

Sylwebydd

Mae hi'n canolbwyntio'n galed... Drychwch ar yr holl ganolbwyntio yna... A...



Y Meistr-Chwaraewr yn taro'r cloc.

Sylwebydd

Odi. Mae hi wedi dechrau. Beth fydd ei symudiad cyntaf, tybed? Odi hi'n mynd i drio cael gwared ar rai o'r gweision melyn hynny sy'n sefyll yn ffordd ei gweision gwyrdd?



Llaw y Meistr-Chwaraewr pe bai ar wireddu hynny, yna, yn sydyn yn tynnu nôl ac yn symud y gwas coch.

Sylwebydd

W! Symudiad annisgwyl yn y fan honno. Beth sydd yn ei meddwl, tybed?



Y Meistr-Chwaraewr yn symud gwas gwyrdd dros ben y gwas coch.

Sylwebydd

Aha!



Y Meistr-Chwaraewr yn gosod y gwas coch ymysg ei rhes gefn gan osod gwas gwyrdd ar ei ben.

Sylwebydd

W! Da iawn. Symudiad da. Fel ry' chi'n gweld, trwy'r symudiad yna mae'r meistr wedi troi gwas coch – yr unig was coch – yn was gwyrdd. Coch yw e yn y gwaelod o hyd. Ond gwyrdd yw e i bob golwg. Symudiad craff iawn.



Y Meistr yn paratoi i gyflawni symudiad arall. Ystyried un neu ddau opsiwn. Yn y pen draw yn cyflawni'r un gamp o feddiannu â dau was gwyn.

Sylwebydd

O – Ie. Fel o'n i'n disgwyl, wedi gweld ei symudiad cyntaf, mae hi nawr wedi cyflawni'r un tric a dau was gwyn – dau chwaraewr annibynnol. Un ohonyn nhw, rhyngddo chi a fi, a allai fod wedi peri tipyn bach o drafferth i'r Meistr. Ond ma' hi wedi'i fachu a – ie...



Y Meistr yn gosod y ddau ar y rhes gefn nesaf at y 'brenin' coch/gwyrdd.

Sylwebydd

... fel y'ch chi'n gweld, eu troi o fod yn chwaraewyr annibynnol i fod yn weision gwyrdd. I weld beth yw oblygiadau hynny, draw â ni at y ein sylwebydd, R Ben Igol.

R Ben Igol

Gadewch i ni rewi'r chwarae ar y pwynt yma a gweld, eto, be sy'n mynd mlan mewn gwirionedd. Nawrte, ry' chi'n cofio fy nghyfaill yn dweud mai'r tric yw ffurfio cabinet fydd yn ddigon cryf i'w helpu i reoli'r bwrdd yn grwn.

Wel – wrth feddiannu'r gweision coch a gwyn hyn mae hi ar ei ffordd tuag at y nod hynny. Unwaith mae gyda chi ddau was ar ben ei gilydd, mae gennych was sydd â dwbl y grym. Yn wahanol i'r gweision normal sydd ddim ond yn gallu symud ffor' na neu ffor' na, ma'r uwch-Weision hyn – y gweision Cabinet – yn gallu mynd i ba gyfeiriad bynnag ma nhw am.

A – meddech chi – siwt ma'r Gweision Cabinet yma – os y'n nhw mor rhydd a holl bwerus – ddim yn creu problemau i'r Meistr? Nawrte, mae'r ateb yn yr hyn y'ch chi ddim yn gweld – yr hyn dyw'r camerâu ddim yn gallu dangos i chi. Ond, os edrychwch chi'n ofalus iawn iawn iawn, falle fe welwch chi fod yna rywbeth yn dal y tope gwyrdd wrth y gwaelodion, beth bynnag bo'u lliw. Y'ch chi'n gallu gweld beth yw e? Weda'i wrthoch chi – punnoedd. Wyth mil ohonyn nhw.

Ma' pob un o'r Gweision Cabinet hyn yn cael £8,000 ychwanegol y flwyddyn – o law'r Meistr-Chwaraewr – am yr hawl a'r fraint o wisgo'r goron werdd.

Does gan rein – y gweision cyffredin – dim owns o rym, a gweud y gwir. Allan nhw gico a sgrechen a bygwth fel ma' nhw am. Gwneith hi fawr ddim o wahaniaeth. Ac os penderfynith un o'r Gwesion Cabinet fynd eu ffordd eu hunain, wel 'Ffein' medde'r Meistr. Ond fydd hi'n 'ta-ta' i'r £8,000 ychwanegol wedyn.

Mae cynghorwyr – y rhan fwyaf ohonynt, yn ddi-os – yn gweithio'n galed am y £12,000 a ganiateir iddynt. Mae aelodau'r cabinet – o gofio yr oriau ychwanegol a'r cyfrifoldebau mawr ma nhw'n cario – yn haeddiannol o'r tâl ychwanegol. Ond yr hyn y mae'r system cabinet wedi'i greu yw...

Meistr-Chwaraewr

Gêm. Gêm wleidyddol sy'n rhoi llawer o bŵer yn nwylo – yn y pen draw – un Person. Fi.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13