g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13

Sdimbydineud (2014)

Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw

Ⓗ 2014 Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 3


GOLYGFA 3

Cyflwynydd

(Wrth ei gweld yn dadebru.) Na welliant. (Yn troi at y gynulleidfa.) A beth y'n ni ma i neud?

Wel, os y'ch chi'n gynghorydd neu yn uchel swyddog sir â blew sensitif yn eich trwyn, sori – ond ma heno'n mynd i neud bach o ddolur, ar brydiau. Ond nid neud dolur yw'r nod. Nid noswaith fod yn gas wrth bobol ma' rhai ohonyn nhw wedi dewis, o'u gwirfodd, i'n gwasanaethu ac eraill wedi dewis, drwy broffesiwn, i weithredu er ein lles. Ond fe fydd hi'n boenus iddynt, sdim dowt. Oherwydd y'n ni'n mynd i gwestiynu. Dyna'n nod. Cwestiynu gyda'n gilydd. Cwestiynu beth? Wel, pethe fel...

Siwt mae un ohonom Ni...



(Person crac / protestiwr tanbaid / dinesydd huawdl – darpar gynghorydd sy'n mynd i'w dweud hi fel mae hi.)

Cyflwynydd

...yn troi yn...

Cynghorydd

(Yn ddiflas a di-galon.) Helo. Fi yw'ch cynghorydd lleol, a... wel... Fi'n sori, ond – sdimbydineud. Nago's wir, sdimbydineud.

Cyflwynydd

Ie, yn un ohonyn Nhw

Cynghorydd

Dim o gwbwl. Sori.

Cyflwynydd

Iawn.

Cynghorydd

Dim. Dim-yw-dim.



Rhywun yn arwain y cynghorydd bach i sefyllfa neilltuol tra'i fod e/hi yn dal i fwmian yn ymddiheuriol i'w hunan.

Cyflwynydd

Na'r cwestiwn cyntaf. Siwt ma hynny'n digwydd? Yn ail, mi fyddwn, mi fyddwn yn cwestiynu...

Cyflwynydd 2

Siwt mae aelod o blaid mae eu maniffesto yn dweud...

Llefarydd Plaid

(Â llenyddiaeth Plaid Cymru yn ei llaw.) Ry' ni am ddatblygu polisïau cadarn er mwyn diogelu'r iaith Gymraeg. Dyna pam ry' ni'n credu mewn ysgolion bach ac yn barod i'w gwarchod. Ar bob cyfrif.

Cyflwynydd 2

Yn troi yn Arweinydd Cyngor sy'n gwneud hyn...



(Os yn bosib...) Dangos ar sgrin cofnodion cabinet Dydd Mawrth diwethaf (neu newyddion cyffelyb).

Yr arweinydd yn sefyll yn edrych yn ddwys wrth i ni weld / glywed y cyhoeddiad.

Daw bw-an o gyferiaid y gynulleidfa.

Arweinydd

Sori. Aroglwch y coffi. Dyma'r realiti.

Cyflwynydd 2

Mewn geiriau eraill – Sdimbydineud.

Cyflwynydd 1

Ac, yn olaf, byddwn hefyd yn cwestiynu siwt...

Cyflwynydd 3

Siwt mae crwt bach neis, cefnogwr brwd o'r Urdd ac yn hoff o whare rygbi...

Cydchwaraewr

Pasa'r bêl, Eifion. Pas y blydi bêl!...

Cyflwynydd 3

Yn troi yn...



Eifion yn eistedd ar dŷ bach. Codi. Troi ac archwilio wrth sychu ei dîn. Ebychiad boddhaus wrth wasgu'r fflysh

Eifion

A! Un da. Un arall da.

Cyflwynydd 3

Ie – yn real gachwr.

Cyflwynydd 1

Ie. Y'n ni'n mynd i fod yn cwestiynu'r pethe hyn o ddifri ac...

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13