g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13

Sdimbydineud (2014)

Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw

Ⓗ 2014 Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 13


GOLYGFA 13

Cyflwynydd

Yr hyn sy'n gwneud diwylliant y...

Llais 1

Na. Mae'n amhosib.

Cyflwynydd

Diwylliant y...

Llais 2

Sdimbydineud.

Cyflwynydd

Mor bosib – mor bwerus o bosib yw'r ffaith mai...

Cyfarwyddwr 1

Er fod y rhan fwyaf ohonom ni, gyfarwyddwyr y sir, yn siarad Cymraeg – yn rhugl – yn naturiol – â balchder 'fyd, y gwir yw y'n bod ni'n...

Cyfarwyddwr 2

Meddwl yn Saesneg.

Cyfarwyddwr 1

Odyn. Ry' ni. Eitha clefar, mewn ffordd. Dwi'n neud e nawr. Yr eiliad hon.

Cyfarwyddwr 2

A fi. Siarad Cymraeg. Ond meddwl yn Saesneg. Ma' rhaid i ni.

Cyfarwyddwr 1

O's. Na'r unig ffordd.

Côr y Cynghorwyr
I Gaerdydd mi drof fy wyneb
O Gaerdydd daw gwyn fy myd:
Y mae grym a phob rhyw arian
Yn diferu ohono i gyd;
Y Cynulliad,
Ar ei blesio mae fy mryd.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13