g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13

Sdimbydineud (2014)

Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw

Ⓗ 2014 Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 9


GOLYGFA 9

Cyflwynydd 1

Mae hynny'n wir, wrth gwrs. Ond dim ond hyd at ryw bwynt. A'r pwynt yw hyn: yng Nghaerdydd, dim ond un sgwâr ar fwrdd Llywodraeth Cymru yw Ceredigion.



Ar y ford tu cefn i gêm Ceredigion, mae un person yn sefyll yn union tu ôl i fwrdd draffts ac un wrth ei ochr. Mae trydydd person (gwas) yn dal y bwrdd ei hunan.

Person 2

Yes, Minister. I suggest that will be an excellent move.

Cyflwynydd 2

Siwt mae excellent move y bwrdd hwn (Llywodraeth Cymru) yn dod yn symudiadau ar y bwrdd hwn (Ceredigion)? Dyw'r ateb ddim gan y ferch hon...

Merch 1

Helo. Fi yw Polly. Polly A.

Cyflwynydd 2

Dyw'r ateb ddim gan y ferch hon chwaith...

Merch 2

Helo. Fi yw Polly. Polly B.

Cyflwynydd 2

Ond y ferch hon – gyda hon mae'r ateb...

Merch 3

Helo. Fi yw Polly. Polly C. Dewch â nhw mewn, bois!



Pawb sydd ar gael yn whilbera / cario parseli trwchus i'r amlwg a'u dosbarthu ymysg y gynulleidfa. Mae pob parsel â phennawd arno sy'n dweud 'polisi' hwn / llall a rhybudd bod rhaid ei ddarllen cyn cyfarfod llawn nesaf y cyngor (fory/drannoeth.)

Tra fod y dosbarthu'n digwydd...

Merch 3

Ac unwaith byddwch chi wedi bennu darllen rheina fydd 'na lwyth arall yn y post i chi yn barod i chi eu darllen â help rhein...



Pawb yn helpu i ddosbarthu cribau ymysg y gynulleidfa.

Swyddog

Cyfarfod cyngor yn dechrau mhen 30 eiliad.



Pawb yn hastu'r gynulleidfa i ddarllen y polisïau.

Swyddog yn ail-adrodd y rhybudd – 15 eiliad / 10 eiliad / cyfrif lawr.

Erbyn hyn, mae pawb wedi ymffurfio yn swyddogion ac yn gynghorwyr ar gyfer y cyfarfod cyngor.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13