g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13

Sdimbydineud (2014)

Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw

Ⓗ 2014 Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 10


GOLYGFA 10

Cadeirydd

Reit, symud mlan nawr at eitem 21. Ry' chi gyd, dwi'n gobeithio, wedi darllen y dogfennau polisi perthnasol yn ofalus dwi'n gobeithio. Mae'r penderfyniad sydd da ni i neud heddi ddim yn fater rhwydd. Mae'n fater sydd eisoes wedi codi cryn gynnwrf yn y sir – ac yn ardal Tregaron yn arbennig. Wna'i alw nawr ar yr aelod cabinet – Seimon – Seimon Bosib - sydd â chyfrifoldeb am y materion hyn i gyflwyno'r argymhelliad y byddwn yn pleidleisio arno, mas-law. (Troi ato.) Seimon...

Aelod Cabinet

Diolch, Mr/Mrs Cadeirydd. Wel, yn syml, fel y'ch chi'n gwbod, mae Caerdydd wedi bod yn pwyso arno ni i gydymffurfio â'r holl siroedd eraill ac i baratoi polisi newydd yn berthnasol i'r mater hwn. Leicwn i gymryd y cyfle hwn, gyfeillion, i ddiolch yn ddidwyll iawn i swyddogion yr adran am eu gwaith caled – dros y deunaw mai diwethaf hyn – yn paratoi'r polisi newydd – ac i'r Cyfarwyddwr yn arbennig. Ry' ni mor ffodus yng Ngheredigion bod da ni Gyfarwyddwr sydd yn deall ffordd Caerdydd o feddwl mor dda, ac sydd felly yn gallu sicrhau ein bod ni, fel cyngor, yn cael yr arweiniad gore posib.

Nawr, o fewn y polisi newydd mae yna un oblygiad sydd wedi codi – fel y soniodd y Cadeirydd – wedi codi dipyn o stŵr yn ardal Tregaron yn arbennig. Dwi'n cydymdeimlo'n fawr â'u consyrn, wrth gwrs. Ond os y'n ni i fabwysiadu'r polisi – fel mae Caerdydd moyn i ni neud, ontife – wedyn does dim dewis. Bydd rhaid cymryd y camau yn ardal Tregaron mae Is-Adran 3, tudalen 173, paragraff 28.9 yn eu hamlinellu.

I gyflwyno i chi union fwriad y polisi, dwi'n troi yn awr am gymorth pensaer y polisi – yr un sy'n deall yr holl oblygiadau yn well na'r un ohonom – Y Cyfarwyddwr.

Cyfarwyddwr

(Sylwedd y cyflwyniad.) Mae cynnal y ffordd bob cam o'r naill dref i'r llall yn costi £miliwn – 30% yn fwy na'r cyllid sydd yn dod oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Dyma'r unig ffordd o gadw'r ffordd fawr o Tregaron i gyfeiriad Aberystwyth ar agor. Os y'ch chi am gadw'r hewl o dregaron drwy Dyncelyn a Bronnant ar agor, does dim dewis ond ei chau o ledrod ymlaen.

Os na wnawn ni hyn mae'n fwy na thebyg y bydd Caerdydd yn ei chau yn gyfangwbl.

Am y flwyddyn neu ddwy gyntaf, mi fydd y cyngor yn darparu arhosfan arbennig yn lledrod le bydd ymgynghorwyr ar gael i helpu gyrrwyr sydd am fynd i Aberystwyth ddewis pa un o'r aml hewlydd bach a llwybrau marchogaeth y bydd y sir yn dal i ddarparu fydd yn gweddu orau i'w anghenion.

Mi fydd y darn o'r hewl (o Ledrod i Lanfarian) a ddiddymir yn cael ei chodi a'i defnyddio i ddarparu maes parco newydd ar gyfer Canolfan yr Eliffant – canolfan groeso a dehongli ar gyfer ymwelwyr a agorir unwaith y daw bedd y blydi eliffant i glawr.

Mae'r cyngor wedi sicrhau grant o £98.7 miliwn gan gronfa RDP i chwilio am y blydi eliffant.



Yn ystod y cyflwyniad, defnyddir negeseuon powerpoint, megis...

Powerpoint 1:

Having a policy is like having a car. You don't need to understand exactly how it works. But you won't get anywhere without it.

(Wank R Bigtalk, American Institute of Useful Quotations.)

Powerpoint 2:

Map ardal Tregaron-Aberystwyth.

Powerpoint 3:

Map ardal Tregaron-Aberystwyth + hewl fawr.

Powerpoint 4:

Argymhelliad:

Ffordd Tregaron-Aberystwyth: Cynnal am 6.8 milltir yn unig o mis Medi, 2014 ymlaen.

Powerpoint 5:

Eich dewis:

Opsiwn A (Argymhelliad y Gyfarwyddiaeth – cydymffurfio â chanllawiau Ll.C.C.)

Opsiwn B (Dod o hyd i arbedion eich hunain / creu polisi newydd / ymateb Ll.C.C.?)

Powerpoint 6:

Nifer pleidleiswyr yn ardal opsiwn A =

Powerpoint 7:

Chi sydd i ddewis.



Y cyfarwyddwr yn eistedd. Yn y drafodaeth ddilynol...

Cynghorwyr yn codi cwestiynau ffeithiol / meintiol (cwestiynau glo mân heb ddim tân oddi danynt). Yr Aelod Cabinet yn ail-gyfeirio pob cwestiwn at y Cyfarwyddwr. Y Cyfarwyddwr ag ateb i bob cwestiwn – gan gyfeirio at y tudalen a'r golofn / paragraff perthnasol yn yr Adroddiad. Wedi tri neu bedwar tebyg...

Cynghorydd mentrus yn gofyn odi'r bwriad o ddifrif ac yn dechrau cwestiynu'n ddiwyd ac yn ddoeth. Yn y pen draw, mae'n cynnig gwelliant: Codi toll ar y faniau home-delivery (ASDA, Tesco etc) sy'n defnyddio hewlydd y sir a defnyddio'r arian i gynnal y ffordd hyd o Ledrod i Lanfarian.

Cynnwrf o fewn y cynghorwyr cyffredin. Torf go lew ohonynt yn leico'r syniad hwn. Cefnogaeth yn dechrau adeiladu. Y Cyfarwyddwr yn cynnig bod y syniad yn un diddorol. Mae'n barod ystyried os yw'n bosibilrwydd realistig.

Troi at Arbenigwyr Cyfreithiol am eu barn. Yr Arbenigwr Cyfreithiol yn datgan bod y peth yn amhosib. Gwbl amhosib. Ar arwydd, yr olygfa'n rhewi...

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13