s1s2s3s4s5s6s7s8s9s10s11s12s13

Sdimbydineud (2014)

Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw

Ⓒ 2014 Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw
Permission is required before performing or recording any part of the play.

Scene 12


GOLYGFA 12

Cyflwynydd

Ond os – yn y cyngor sir cyfoes – ystyr 'natural selection' a threfn Darwin yw...

Cyfarwyddwr

They musn't win!

Cynghorydd

(Yn benisel.) Can't win.

Cyflwynydd

Ateb y cynghorwyr a wnaeth yn siwr na fyddai gan dirfeddianwyr y plasau a'r ystadau mawr ddim gafael ar y cyngor sir...

Cyflwynydd 2

A'r cenedlaethau a'u dilynodd a drodd un o siroedd tlotaf Cymru yn sir arloesol o ran amaethyddiaeth a'r Gymraeg – y cyfan o fewn un pecyn cyfoethog o'r enw Addysg...

Cyflwynydd

Eu hateb nhw i...

Swyddog Cyfreithiol

Na. Ddim yn bosib o gwbl. Amhosib.

Cyflwynydd

Fyddai...

Pawb

Gwnewch hi'n bosib!

Cyflwynydd

Dyna'ch gwaith chi.

Pawb

Gwnewch hi'n bosib.

s1s2s3s4s5s6s7s8s9s10s11s12s13