GOLYGFA 13 |
|
Cyflwynydd |
Yr hyn sy'n gwneud diwylliant y... |
Llais 1 |
Na. Mae'n amhosib. |
Cyflwynydd |
Diwylliant y... |
Llais 2 |
Sdimbydineud. |
Cyflwynydd |
Mor bosib – mor bwerus o bosib yw'r ffaith mai... |
Cyfarwyddwr 1 |
Er fod y rhan fwyaf ohonom ni, gyfarwyddwyr y sir, yn siarad Cymraeg – yn rhugl – yn naturiol – â balchder 'fyd, y gwir yw y'n bod ni'n... |
Cyfarwyddwr 2 |
Meddwl yn Saesneg. |
Cyfarwyddwr 1 |
Odyn. Ry' ni. Eitha clefar, mewn ffordd. Dwi'n neud e nawr. Yr eiliad hon. |
Cyfarwyddwr 2 |
A fi. Siarad Cymraeg. Ond meddwl yn Saesneg. Ma' rhaid i ni. |
Cyfarwyddwr 1 |
O's. Na'r unig ffordd. |
Côr y Cynghorwyr |
I Gaerdydd mi drof fy wyneb O Gaerdydd daw gwyn fy myd: Y mae grym a phob rhyw arian Yn diferu ohono i gyd; Y Cynulliad, Ar ei blesio mae fy mryd. |