GOLYGFA 2 |
|
Cân |
Sdimbydineud-i-neud (1) Pan glywais fod y Cyngor Sir Yn mynd i dorri'r Chweched yn grwn Gofynnais paham I Mam ac i Dat A dyma eu hateb llwm... Sdimbydineud, i neud Sdim ots be' ni'n neud na gweud Os y'n Nhw yn dweud, yn dweud Does dim byd i neud, Sdiawl o ddim i neud. (2) Cysylltais i â'r c'nghorwyr sir, Wedes i: Drychwch, s'o hyn yn iawn, Rhaid i chi sefyll Yn gadarn a chryf Ond hyn oedd eu hateb yn llawn... Sdimbydineud, i neud Sdim ots be' ni'n neud na gweud Os yw'r Swyddogion yn dweud, yn dweud Does dim byd i neud, Sdiawl o ddim i neud. (3) Dyma fi'n holi yn ei glust Y Cyfarwyddwr Mawr ei hun 'Pam wyt ti'n mynnu Lladd cefen gwlad?' Atebodd yntau yn flin... Sdimbydineud, i neud Sdim ots be' ch'n neud na gweud Caerdydd sy'n dweud, sy'n dweud Does dim byd i neud, Sdiawl o ddim i neud. (4) Mi gefais fraw, y dydd o'r blaen, Meddwl am bopeth A aeth i'r llaid – Tafarn a chapel, Ysgol a siop, Clywais fy hun yn dweud... Sdimbydineud, i neud Sdim ots be' ni'n neud na gweud Os y'n Nhw yn dweud, yn dweud... |
Ar draws... |
|
Cyflwynydd |
Hei! Be' chi'n neud? Snapwch mas ohoni er mwyn popeth neu fyddwn ni ddim yn gallu neud beth ddelo ni 'ma i 'neud! |
Pawb yn mynd i'w lleoedd gan ymddiheurio i'r cyflwynydd ac i'w gilydd a sylwi pa mor gatshin yw'r geiriau 'sdimbydineud'. Unwaith ti'n dechrau ei ddweud e wyt ti'n dechrau ei feddwl e! |