Mam Pobun |
Fy mab, y mae'n llawen gennyf dy weled, canys mawr boen i'm calon yw na bydd gennyt nemor amser i ymddiddan â mi, gan faint dy brysurdeb gyda phethau'r byd. |
Pobun |
Mae awel yr hwyr yn ddrwg ei naws, a'ch iechyd chwithau'n wan a bregus, fel na allaf beidio â phryderu wrth eich gweled yma. Oni ddowch i mewn i'r tŷ? |
Mam Pobun |
A ddoi di gyda mi ac aros gartref? |
Pobun |
Am heno ni all hynny fod. |
Mam Pobun |
Felly, ni ddigi di ddim wrthyf am dy gadw yn y fan yma. |
Pobun |
Poeni yr wyf am eich iechyd chwi—hwyrach y caem ryw gyfle eto. |
Mam Pobun |
Am fy iechyd i nid rhaid iti mo'r poeni; yr wyf i eisoes ag un troed yn y bedd; nid oes arnaf i ddim pryder am fy iechyd yn y byd yma, ond yn hytrach am fy iechydwriaeth yn y byd tragywydd. Ai tynnu wyneb yr wyt ti, fy machgen i, pan fyddaf yn sôn am hynny? Ac a fyddai'n beth annymunol gennyt pe bawn i'n gofyn iti a yw d'enaid ti'n troi tuag at Dduw? Ai ymystwyrian a fynni di a cholli d'amynedd? Ai dewisach gennyt fod yn euog o bechod [yn hytrach na throi i mewn i ti dy hun o ddifrif a meddwl fel y dylit am dy Dduw? Ac eto, rhwng heddiw ac yfory, gallai ddyfod cennad oddi wrtho ef yn sydyn a'th alw ger bron Gorsedd ei farn Ef i roddi iddo Ef gyfrif clir o'th holl fywyd ar y ddaear.] |
Pobun |
[Fy mam, nid gwawdio yw f'amcan i, ond mi wn mai hoff iawn gan yr offeiriaid fwgwth pobl; dyna'u hunig amcan yn y byd—lladd ar gyfoeth, os gennym ni y bydd, er mwyn ei gael at eu gwasanaeth eu hunain. Gresyn yw meddwl na wnant ddim ond pwnio rhyw syniadau tywyll ym mhennau hen bobl a rhai afiach.] |
Mam Pobun |
[Yn rhywle arall y bydd y tywyllwch yn dew, ond clir a golau yw'r syniadau hyn. Y sawl a wnêl ddaioni yn ei ddydd, daw cadernid bryd i hwnnw, a bydd hwnnw orfoleddus yn awr angau, am y bydd iddo ef ddedwyddwch. O, y sawl a gofio yn ei galon bob amser am awr angau, am hwnnw nid rhaid i galon mam ddwyn na phryder na phoen.] |
Pobun |
[Yr ydym ni'n Gristnogion da, yn gwrando ar bregethau, yn rhoi elusennau, ac yn byw'n ddibriod.] |
Mam Pobun |
Ond sut, pan gano utgorn y Farn, y gelli di roi cyfrif clir am dy holl olud i Dduw, fel y caffech naill ai marwolaeth ai bywyd yn dragywydd? Fy mab, peth drwg ydyw marw, a pheth gwaeth fyth yw llygredigaeth dragywydd. |
Pobun |
Nid wyf i eto brin ddeugain mlwydd oed, ac ni chaiff neb drwy orfod beri i mi beidio â'm pleserau daearol. |
Mam Pobun |
A fynni di guddio dy ben yn y tywod, ac oni weli di'r angau, a ddichon syrthio arnat un adeg? |
Pobun |
[Yr wyf yn ieuanc o galon ac yn iach drwodd a thro, a mynnaf fwynhau fy mywyd. Fe ddaw'r amser yn ddigon buan pryd y bydd cymwys i mi edifarhau ac ymroddi.] |
Mam Pobun |
[Y mae bywyd yn llifo heibio fel dwfr, ac nid yn hawdd y try'r meddwl.] |
Pobun |
[Fy mam, diflas yw'r ymddiddan hwn i mi; dywedais eisoes nad oes gennyf heddiw mo'r egwyl.] |
Mam Pobun |
[Fy mab annwyl!] |
Pobun |
[Bryd arall, mi fyddaf yn ufudd iawn ac yn barod i'ch gwasanaethu.] |
Mam Pobun |
[Y mae f'ymddiddan yn ddiflas ddigon gennyt ac y mae hynny yn dyblu fy nhristwch innau. Fy mab annwyl, y mae rhywbeth yn dywedyd wrthyf na byddaf i ddim yn hir eto gyda thi, baich arnat eto, efallai, am ryw chydig bach, ac yna canu'n iach a mynd oddi yma; ond eto byddi di dy hun ar ôl yma, fy mhlentyn heb neb i'w gynghori.] Felly, gwrando un gair eto, rhag dy flino ag ymddiddan hir—cofia'r Arglwydd dy Dduw, a hefyd roddion mawr Ei ras; y saith sagrafen sanct, [o'r rhai y daw pob lles i ni a chymorth i'n gwendid bawb ohonom ym mhob modd, a nerth i ni at daith y bywyd hwn]. |
Pobun |
Pa beth— |
Mam Pobun |
Yr wyt yn ŵr golygus, a chariad gwragedd wrth dy fodd. [Ac oni roes ein Prynwr ni, a wybu bopeth ar y ddaear, ac a wnaeth bopeth er ein lles, oni osododd Ef Sagrafen sydd yn newid y peth a fynni di ac yn ei droi o fod yn chwant i fod yn lendid?] A fynni di fyth ymdrôi mewn chwant a bod yn ddieithr i gyflwr glân briodas? |
Pobun |
[Fy mam, mi wn yr ystori hon yn dda.] |
Mam Pobun |
[Eto, ni throes dy galon di ddim.] |
Pobun |
[Ni ddaeth yr amser i hynny eto.] |
Mam Pobun |
[Ac eto, ag angau mor agos!] |
Pobun |
Nid wyf yn dywedyd nac ie na nage. |
Mam Pobun |
Felly rhaid i minnau fod fyth mewn pryder. |
Pobun |
Daw dydd eto yfory. |
Mam Pobun |
Pwy a ŵyr pwy a'i gwêl? |
Pobun |
Peidiwch â phoeni heb achos, fe'm gwelwch yn ŵr priod eto, yn sicr. |
Mam Pobun |
Fy mab annwyl, am y gair yna, boed fy mendith arnat; [llawer o ddiolch am dy glywed yn addef peth mor dda]. |
Pobun |
[Nid sôn yr oeddwn am heddiw nac yfory.] |
Mam Pobun |
[Cyhyd ag na bo'r ewyllys yn erbyn hynny, bydd calon mam yn fodlon iawn lle ni chaffer ond y gair lleiaf a fo da. Nid yw dy fwriad ond bychan a gwan eto, ond y mae'n tueddu at beth sanctaidd] ac y mae'r ateb hwn a roddaist yn tynnu baich trwm oddi ar fy nghalon i. |
Pobun |
Nos da, nos da, fy mam, gobeithio y cewch orffwyso'n dawel. |
Mam Pobun |
Mi gaf, fy mab annwyl; ac y mae i mi fel pe bai sain mor fwyn â sain pib a thelyn i'w chlywed yn adseinio yn d'eiriau di! Ni bu'r dyddiau hyn heb arwyddion a gweledigaethau o'r fath i mi. Cymeraf hwy fel rhybudd y byddaf innau farw yn fuan iawn. |
A ymaith. |
|
Pobun |
Fe glywaf innau adsain felly hefyd! Ai rhyfeddod yw hynny, meddwch chwi? O, na, peth a ddigwydd yn naturiol yw, er na wn i ddim ychwaith pa fodd i'w esbonio. Ac yn awr, nid yn unig i'm clyw y daw, ond hefyd o flaen fy llygaid. |
Daw meistres Pobun yno, gyda chwaryddion a bechgyn yn dwyn ffaglau. |
|
Pobun |
Ha, dyma hi, f'anwylyd, y mae fy nghalon eisoes yn hiraethu amdani. Chwaryddion yn ei chanlyn yn llu a hithau'n dyfod i'm ceisio. |
Meistres Pobun |
Y sawl a fynno gadw pawb i ddisgwyl yn rhy hir amdano ac yntau'r pennaf o'r cwmpeini oll, yna bydd raid myned gyda symbalau a ffaglau i'w geisio a'i ddwyn at ei ddyletswydd. |
Pobun |
Y mae d'oleuni di yn drech na'r ffaglau oll, a'th eiriau'n bereiddiach na sain telyn. Y mae hyn oll i mi yr awr hon fel balm i glwyf agored. |
Meistres Pobun |
Yr oeddwn yn tybio, cyn i mi gyrraedd atat, fod rhywun yma yn d'ymyl yn peri rhyw ddrwg ti. |
Pobun |
A roddi di gymaint o bris arnaf nes sylwi ar bethau felly? Nid rhyw hen ddyn annymunol ydwyf iti felly, mewn gwirionedd? |
Meistres Pobun |
Mae'r geiriau hyn yn peri poen i mi, ac ni ddisgwyliwn monynt gennyt chwaith. Ni'm denir i gan bob rhyw hogyn gwirion, tydi dy hunan yw fy nghariad i—a'm gŵr. |
Pobun |
Yr wyf yn wir yn teimlo'n ieuanc o galon ac o'm rhan fy hun yn ddigon tebyg i hogyn, ac os wyf wedi peidio â bod yn hogyn erbyn hyn, y mae fy nheimlad lawn mor dyner. |
Meistres Pobun |
Peth hy yw cariad hogyn, peth heb barch; peth tyner, mawr ei fryd, yw cariad gŵr. Bydd ei law ef yn hael a'i fryd yn gyson, hynny fydd yn tynnu merched ato. |
Pobun |
Pan goffaer dyn am angau, a'i fod yntau'n brudd ei fryd, bydd gweld d'anwyldeb di yn ddigon i chwalu'r meddyliau trymllyd. |
Meistres Pobun |
Y mae'r gair yna'n gyrru ofn arnaf. Y mae angau fel sarff wenwynig, yn gorwedd o'r golwg dan y blodau—ni ddylid byth mo'i deffroi hi. |
Pobun |
F'anwylyd, a berais i boen i ti? Gadawn iddi ymguddio dan y blodau; na boed i ni gofio dim yn y byd am un sarff, ond am ddwy yn cofleidio'n annwyl. |
Meistres Pobun |
A adwaen innau'r ddeubeth hyn, a pha beth yw eu henwau? |
Pobun |
Dy freichiau annwyl di ydynt hwy, a mynnwn orwedd ynddynt. |
Rhydd gusan iddo, a choron o flodau, a ddygir iddi gan un o'r hogiau, am ei ben. Dring rhai o'r bechgyn i fyny gan wasgar blodau a llysiau peraroglus. Cyfyd bwrdd o'r llawr, wedi ei osod yn barod a'i addurno â goleuadau. Gerdda Pobun a'i Feistres at y grisiau sy'n arwain i fyny. Daw'r gwahoddedigion, deng mab a deng merch ieuainc, i mewn o'r naill du a'r llall tan ddawnsio a chanu. |
|
Y Prif Gantor |
(Yn canu.) Mae cyfaill wedi'n galw Sef Pobun ei hun, Yr haelaf ar y ddaear, A hithau ei fun; Cawn brofi pob llawenydd A mwynder i ddyn, Ac yntau wedi'n galw I'w annedd ei hun. |
Y Cwbl |
(Yn canu.) Cyd-ganwn ni o galon I ddeuddyn mor lân, Heb bryder na gofalon I'n cof naci'n cân; Bydd gymwys i'w diddanu Ddwyn ffaglau o dân, A dawnsio a chanu I ddeuddyn lawen lân. I bawb rhoed a ofynnai, Ein dewis bob un, I fab y fun a fynnai, A'i mabi bob mun; Bydd lawen inni blethu Y blodau a'u gwau Yn arlant, heb fethu Diddanu bryd y ddau. Cyd-ganwn o lawenydd Un-galon i gyd, A phawb ag ysgafn hyder, Di-bryder eu bryd; Symudwn ni i ganlyn Y gwŷn yn ein gwaed, Cawn gofio drwy ein bywyd Y gwynfyd a gaed. |