GOLYGFA 4 |
|
Eifion |
(Yn torri ar draws.) Sori, ond... y... |
Amnaid ar i'r cyflwynydd fynd o'r ffordd. |
|
Eifion |
Mi fydd digon o gyfle i bawb i weud ei farn nes mlan. Nes mlan. |
Cyflwynydd yn ildio'i le. Amnaid oddi wrth Eifion i'r cynghorydd. |
|
Cynghorydd |
Diolch, Mr Evans. Nawrte, fy mraint i heno – ar ran Arweinydd y Cyngor, a ei mawrhydi, Cyfarwyddwr Addysg Cymru Gyfan Jyst A Bod I Gyd – fy mraint i yw eich croesawu yma i'r cyfarfod cyhoeddus hwn yn Nhregaron. Y cam cyntaf yn y broses Ymgynghorol. Ac – dwi am bwysleisio hyn, ei bwysleisio yn fawr – Ry' Ni Yma I... (Saib hir.) Wwwrando. I... (Saib bron mor hir.) Wwrando. Mae gennym – y tri ohonom – glustiau. A gwaith clustiau yw... (Saib eto.) Grrr... |
Cloch / larwm yn canu. Y tri yn eu heglu hi o gwmpas y theatr cyn cyrraedd yn ôl i'w man cychwyn. |
|
Cynghorydd |
Diolch, Mr Evans. Nawrte, fy mraint i heno – ar ran Arweinydd y Cyngor, a ei mawrhydi, Cyfarwyddwr Addysg Cymru Gyfan Jyst A Bod I Gyd – fy mraint i yw eich croesawu yma i'r cyfarfod cyhoeddus hwn yn Llanafan. Y cam cyntaf yn y broses Ymgynghorol. Ac – dwi am bwysleisio hyn, ei bwysleisio yn fawr – Ry' Ni Yma I... (Saib hir.) Wwwrando. I... (Saib bron mor hir.) Wwrando. Mae gennym – y tri ohonom – glustiau. A gwaith clustiau yw... (Saib eto.) Grrr... |
Unwaith eto – Cloch / larwm yn canu. Y tri yn eu heglu hi o gwmpas y theatr cyn cyrraedd yn ôl i'w man cychwyn. |
|
Cynghorydd |
Diolch, Mr Evans. Nawrte, fy mraint i heno – ar ran Arweinydd y Cyngor, a ei mawrhydi, Y Cyfarwyddwr Addysg Cymru Gyfan Jyst A Bod I Gyd – fy mraint i yw eich croesawu yma i'r cyfarfod cyhoeddus hwn yn Llanddewi. Y cam cyntaf yn y broses Ymgynghorol. Ac – dwi am bwysleisio hyn, ei bwysleisio yn fawr... |
Arweinydd |
(Sibrwd wrth y cyfarwyddwr.) Yr holl gyfarfodydd cau... y... ymgynghori yma, jiw mae'n waith blinedig. |
Cyfarwyddwr |
Odi. Ond mae'n gwd ffyn, ondywe! |
Llais o'r Dorf |
Excuse me. Is this meeting going to be all in Welsh? |
Cynghorydd |
O... y... Haven't you had Offer Cyfieithu? |
Llais o'r Dorf |
If it's the translation things you mean, they're not working. |
Arweinydd |
Wnewn ni'r cyfarfod yn ddwyieithog. |
Llais o'r Dorf |
What? |
Arweinydd |
We'll do it bilingually. |
Cyflwynydd |
Sy'n golygu, wrth gwrs, mai hyn fydd y geiriau cyntaf... |
Cynghorydd |
Gyfeillion, fy mraint i yw eich croesawu yma heno i'r cyfarfod hwn. |
Cyflwynydd |
A'r geiriau olaf fydd... |
Cynghorydd |
Nos da. |
Cyflwynydd |
But everything in between... |
Arweinydd |
Will be in the Queen's English. |
Cyflwynydd |
Except for the repetition of certain key words, such as... |
Cyfarwyddwr |
Yn fy marn proffesiynol i... |
Cyflwynydd |
And... |
Arweinydd |
Sori, ond... |
Cynghorydd |
Sdim byd i neud. |
Llais arall o'r llawr |
Sdim wahaniaeth pa iaith chi'n defnyddio, ma' pawb yn gwbod beth y'ch chi wedi dod ma i weud. |
Y cyfarwyddwr addysg yn dechrau tanio. Bobol o'r llawr yn tanio nôl. Pethe'n dechrau mynd yn wyllt. Y cyflwynydd, drwy arwydd / dyfais yn rhoi stop sydyn ar y gwylltineb. |
|
Cyflwynydd |
Ymddiheuriadau, gyfeillion am y colli gafael yn y fan honno ar ein disgyblaeth greadigol. Am eiliad, roedd ein boddhad o dynnu blew o drwyn y cynghorwyr a'r swyddogion mewn perygl o'n dargyfeirio oddi wrth ein gwaith. Oddi wrth y nod o gwestiynu. O holi pam? Siwt? Pryd? (Cyflwynydd yn sefyll o flaen / ger bron y Cynghorydd.) Pam, siwt, pryd, er enghraifft y diffoddodd y tân a arferai losgi ym mola berfedd ein cyfaill yn y fan hon. Mae'r ateb, o bosib, i'w ganfod yn yr un ysgol fydd ddim yn cau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon. Ysgol y Cynghorwyr Newydd. |