ACT UN Siop Fferm ddigon anniben ei golwg. Mae hi'n gynnar yn y bore ym mis Mai. Mae MARIA KAMROWSKA, merch leol, yn glanhau a pharatoi'r silffoedd. Daw EILIR LEWIS, perchenog y fferm drws nesaf i fewn. |
|
Maria |
Oh. Hello. |
Eilir |
Hello. |
Maria |
'Shwmai'. |
Eilir |
Oh, yes, shwmai, yes. Is the - errr - Big Boy around then? |
Maria |
Big Boy? |
Eilir |
Gerallt. |
Maria |
Oh; no he's not here. |
Eilir |
Oh. So, so are they back yet then? |
Maria |
No, they're not back yet. |
Eilir |
Oh, right, I thought they'd be back by now, I was just passing now, and - er - I thought, yes. You know they were, errrmm, when were they supposed to be back here, when... last night? |
Maria |
Yes. I don't know. |
Eilir |
When was the plane coming in then with them? |
Maria |
Last night? |
Eilir |
Yes. Into the airport. |
Maria |
I think, I don't know. |
Eilir |
Oh, well they must've stopped somewhere then, waited for a while. For a sleep. (Saib.) 'Na fe, 'n gywir reit 'de. |
Maria |
Today I have text. |
Eilir |
Sorry bach? |
Maria |
I get text from Angharad. |
Eilir |
Oh, yes? |
Maria |
Yes, they are on the motorway. |
Eilir |
Oh right, good, good. Yes. When did you get this, then? |
Maria |
An hour. Some more, perhaps. Two hour. |
Eilir |
Oh yes? Where were they then? |
Maria |
Not so much. One hour and some more. |
Eilir |
Yes. Where were they then? |
Maria |
On motorway. |
Eilir |
Yeah, yeah, yeah, where though? Where on the motorway? |
Maria |
M-4? |
Eilir |
You don't know where? She didn't say where, in the text? |
Maria |
Oh. No, I think she say, errm - (mae hi'n nôl ei ffôn, dangos iddo) Pont, Abraham. |
Eilir |
Pont Abraham? An hour ago? |
Maria |
Hour and some more. |
Eilir |
About an hour and a half, then - |
Maria |
Half, yes, 'half'. |
Eilir |
Well, diawl eriôd, they won't be long then. |
Saib. |
|
Eilir |
Well, yes then, passing I was and I thought I'd call in and... you know. |
Maria |
You want to see Gerallt? |
Eilir |
Yes... yes, Gerallt. Yes. |
Maria |
You can stay. |
Eilir |
OK is it? If they're not far off - |
Maria |
Yes. I must work over here - |
Eilir |
No, no, no bach, you carry on - |
Maria |
- for when we open at ten - |
Eilir |
- yes, yes. (Saib.) So, you're here on your own, then? The girls went with him, too? Angharad? Barbara as well? |
Maria |
Yes, I manage the shop on my own. |
Eilir |
Big day for them, isn't it? Haven't seen their mother for donkey's years. Ay, ay. |
Maria |
Angharad has gone to see her. Two times. |
Eilir |
Oh, right? Oh, very good; no, no, it's a long way, New Zealand. Flying all day and all night. Lovely place, though. I went out once. (Saib.) Oh, juw juw, I didn't know that Angharad had been out there. |
Maria |
Yes. She went last time in January. |
Eilir |
Oh, recently then. Did she go on her own? |
Maria |
Yes. |
Eilir |
Well, well. Fair play to her. Young girl on her own. Long way. |
Maria |
She is brave. |
Eilir |
Ie, ie. Don't think Gerallt would go, would he? (Chwerthiniad bach.) Iysu, no! Surprised he went today to meet them. Hell of a job to get him out of here; you need a crowbar! |
Maria |
Yes. |
Eilir |
No, he likes it here, doesn't he? |
Maria |
Yes, he is like very old cat. Dog he likes the people, cat she likes the chair. Likes to stay. |
Eilir |
Ha ha, yes, ay, I've heard that. A dog likes its master, a cat likes its place. |
Maria |
Yes. |
Eilir |
Ie, ie. (Saib.) No, I haven't seen Jane for years. |
Maria |
You know Jane. |
Eilir |
Yes. Well, I don't - well, yes, I'd say I know her. I knew her before she... |
Maria |
Before she go away? |
Eilir |
Oh, duw, yes - |
Maria |
- and before the, her son? He die? I heard about it. |
Eilir |
Oh no, no, no, terrible that was, no; no long before that. I knew her in school. Well, we weren't in the... same class. No no, she was older. |
Maria |
You are not in same class? |
Eilir |
No, no. (Saib.) I remember once, I was by the side of the road down there - |
Clywir sŵn car yn arafu y tu allan. Mae EILIR yn gadael ei feddyliau ac yn mynd allan trwy'r drws i weld pwy sydd yno. |
|
Maria |
Ah, they are here. |
Eilir |
Errrm, no. I don't think so. No it's not... |
EILIR yn mynd allan drwy'r drws. Saib. Sŵn drysau fan yn agor a chau. Clywir peth deialog o'r tu fas. |
|
Llais Eilir |
Beth yw'r rheina sy' da ti de? |
Llais Gordon |
O, shwmai, ym... delivery: jyst ishie roi nhw yn y ffrynt. |
Llais Eilir |
Diawl, a finne'n meddwl bo ti'n dod â nhw i fi achan. (Chwerthin.) |
Llais Gordon |
Na, na. Bocsys 'da fi i'r siop. |
Llais Eilir |
Synno fe ma. |
Llais Gordon |
Pwy? |
Llais Eilir |
Gerallt. So nhw nôl to. |
Llais Gordon |
O. OK. |
Llais Eilir |
Ma hon fan hyn. Neith hi'r tro i ti? |
Llais Gordon |
Ym - o, ie, OK. |
Saib. |
|
Llais Eilir |
Bant â ti de. |
Llais Gordon |
O, ie, OK. |
Daw GORDON i fewn yn cario blwch, a golwg braidd yn swil arno. |
|
Gordon |
Errm, I got these. He wants them for Friday. |
Maria |
OK. |
Gordon |
(Saib.) Hello. |
Maria |
Hi. |
Gordon |
I'm off now. |
Maria |
Ok, bye. |
Gordon |
(Saib.) Bye. See you. (Saib.) |
Aiff GORDON allan. EILIR yn ei wylio o'r drws wrth iddo fynd. |
|
Eilir |
You know him? Gordon Evans. Falmai's boy. You know Falmai, she runs The Ship now. She used to help out up here sometimes. |
Maria |
No I don't know. I don't know anyone. But him I know. |
Eilir |
He had some nice flowers for someone as well. |
Maria |
(Heb fawr o ddiddordeb.) He wants me to go with him. He comes with things, and he stays to talk a long time. |
Eilir |
Oh. |
Maria |
Yes, he's nice guy but not for me. |
Eilir |
Oh right. Oh well, that's how it is, sometimes. |
Maria |
What were you talking before? |
Eilir |
Mm? |
Maria |
Before he come. |
Eilir |
What was I saying? |
Maria |
Talking about Jane. You remember her. |
Eilir |
Oh, yes; oh that, yes. No, it was just, nothing really. Something I remembered. She was - I'd hurt myself, I was very young, a boy, I was only about seven; and she... Well, I'd had a bang, it was, well, it was the old man who did it. My dad. Rough old bugger he was, when he wanted to be. Gave me a hell of a clout for something; that was what he did, wasn't it, when he was in the mood. (Saib.) Anyway, I'd had enough, and I'd gone off to the end of the lane and I was leaving, I wasn't going back. And I was walking up the road and I'd got near here, I could show you now out there where I was; and well, Jane Parc-Glas was coming back home on a bike and she saw me and she stopped. And then she asked what had happened and I said; and she took me in the house and she put a bag from the freezer on it - my eye was all puffing up. They had a freezer... And it was burning, cold, you know? I'd never been in their house before. (Saib.) And well, then she put me on the back of the bike and made me hold on to her and she took me back home. They hadn't even noticed I'd run away. |
Maria |
They didn't notice? |
Eilir |
No. But while I was there with her, I remember she said, in Welsh now, she said, 'Don't you worry, boi bach', she said; 'there'll come a day when the little ones are, are big'. It's a Welsh saying - it sounds a bit different when you, err... Anyway, I remember that. |
Maria |
That's nice. And it was true! |
Eilir |
Ay. (Chwerthiniad bach. Saib.) Ay. Don't think she expected I'd be farming the whole of Rhyd-y-Cefen next door, though. Paid ti â becso, boi bach, ddaw dydd y bydd maaaawr y rhai bychain.' (Chwerthin eto.) |
Clywir sŵn car yn agosáu. |
|
Maria |
I think they are here. |
Eilir |
Are they? (Edrych allan) Oh, yes, you're right too. |
Mae'r ddau yn edrych allan trwy'r drws yn tra bod y car tynnu lan ar y clos gerllaw. Ânt allan at y car, gan adael y llwyfan yn wag am funud. Clywir sŵn sgwrs gymysg y tu allan ar y clos. |
|
Llais Barbara |
O, ma Eilir 'ma. |
Llais Jane |
Dere i fi ga'l moyn - |
Llais Gerallt |
Ma chi 'de! |
Llais Barbara |
So ti'n nabod e? Eilir Rhyd-y-Cefen? |
Llais Jane |
Helo! O! Odw, dw i'n 'i nabod e nawr! |
Llais Eilir |
Shwt ych chi 'te, Jane? |
Llais Jane |
Wel, y Duw Duw, Eilir achan... (sŵn ebychu a chwerthin tro bod JANE yn cofleidio EILIR) a drychwch ar y lle 'ma! O Duw, Duw; shw' wyt ti de? A chi 'di agor y lle ma fan hyn - |
Llais Gerallt |
Ŷn ni wrthi fel y cythrel 'ma! |
Llais Barbara |
A i nôl y bag 'na. |
Llais Eilir |
Wdw, wdw, fel y boi. Cadw fynd 'ch wel. |
Llais Jane |
A ma'r tŷ 'r un peth yn gywir! A 'drycha... |
Llais Angharad |
Gâd e fod am funud, Babs. |
Llais Gerallt |
(i MARIA) Maria, did they bring the stuff? |
Llais Barbara |
Na, mae'n iawn, ma ishie - |
Llais Maria |
Yes, he leave it by the counter. |
Llais Jane |
A, draw dros y bancyn, drycha... |
Llais Angharad |
Hi, Maria! |
Llais Jane |
So fe 'di newid dim... |
Llais Maria |
Hi. |
Daw GERALLT i fewn tra bod y sgwrsio'n dal i fynd yn ei flaen tu allan. Mae'n mynd draw at y cownter, yn codi'r bocs ac astudio'r label sydd arno. Daw MARIA at drothwy'r drws. |
|
Gerallt |
Did they charge you for it today? (Ychydig yn dawelach) Did the boy ask for money? |
Maria |
No. He just leave it. |
Gerallt |
Good thing. |
Maria |
Is not paid for? |
Gerallt |
Not yet, no. It's fine. |
Maria |
I need my money today. |
Gerallt |
End of the week, I told you. You'll be fine. (Mae'n mynd allan.) |
Maria |
(Ar ei ôl) He will be coming back! I don't want to deal! Ahhh! |
Mae hi'n mynd nôl draw at y cownter, yn dechrau ail-afael yn ei gwaith, ac yn dawel ddiawlio GERALLT yn ei hiaith ei hun. |
|
Llais Jane |
Gad 'ni weld beth ma' nhw 'di neud fan hyn 'de. |
Mae hi'n cyrraedd y drws ac yn edrych i fewn. Mae ANGHARAD gyda hi. |
|
Jane |
Waw. Chi 'di neud jobyn fan hyn! |
Angharad |
Babs odd e fwya'. |
Jane |
Ie? |
Angharad |
Ie, buodd hi wrthi yn galed. Hi nath y gwaith papur i gyd, a buodd hi ar ôl y banc a'r cwbwl. A cario llwythi 'fyd! |
Jane |
Ma fe'n neis. |
Angharad |
Odi, ma fe'n OK. |
Jane |
A boudy odd e'n arfer bod! Dw i'n cofio do miwn 'ma pan o'n i'n fach... a ogle'r da a'r gwair, a'r cêc. Odd wenoliaid yn arfer nythu lan fan 'na. O, Duw,... (mae hi'n ddagreuol nawr) mae 'na jyst cymint o bethe... A ma'n nhw ma o hyd... |
Angharad |
Mam... |
Jane |
Na, dw i'n iawn. Wfff! Ma'r llefydd ma'n jyst dod â pethe nôl i ti. |
Angharad |
Odyn. |
Jane |
A chi 'di bod ma drw'r amser a finne 'di mynd o 'ma. |
Angharad |
Do, ond buon ni'n iawn. |
Jane |
O 'nghariad bach i. Beth o'n bod arna i? |
Angharad |
Ni jyst yn falch bo ti'n ôl nawr. |
Gerallt |
(yn dod i fewn) Ie wir, be sy' mlân 'ma 'de? |
Angharad |
Jyst siarad am y siop. |
Gerallt |
Biti ddouddeg mil gostodd hi i ni neud e lan. |
Jane |
Odd Angharad yn gweud. Neis. |
Gerallt |
(yn gweld bod JANE wedi bod yn llefen) Ie, ie. (Saib.) Ddim cweit 'r un peth, ddo. Â gweld y lle'n llawn da godro. Se fe 'm yn hapus. |
Jane |
Pwy, Dat? Ti'n meddwl? |
Gerallt |
Wel, sa i'n gwbod... |
Jane |
Ma' golwg deidi arno fe. (Saib.) Shw' ma' fe'n mynd 'da chi? |
Angharad |
(ar yr un pryd â GERALLT) Wel, ma fe'n - |
Gerallt |
(ar yr un pryd ag ANGHARAD) Iawn. Ol reit. Na, ma fe'n iawn. Good trade 'da ni ar bwys yr hewl fan 'yn. |
Angharad |
Ôs, yn yr haf; ond dyw e 'm yn talu digon yn gaea'. |
Gerallt |
Ma fe'n iawn, diawl eriôd... |
Angharad |
(wrth JANE) Ellith Babs weud wrthot ti. |
Gerallt |
O Iysu, paid gadael i honno ddechre 'to... |
Angharad |
Ni'n dod i ben â hi. Jyst. |
Jane |
Ie. Dw i'n gweld. |
Saib. |
|
Gerallt |
(wedi gostwng ei lais ychydig) Na fe, sdim ishie i ni gadw mlân ambiti'r pethe ma nawr; 'n enwedig â fe biti'r lle ffor' hyn. |
Angharad |
Eilir? Ma hwnnw siŵr o fod yn gwbod yn barod - |
Gerallt |
- o, yffarn dân - |
Jane |
Shwt? |
Angharad |
Wel, ma fe â Babs 'di bod yn - wel - sort of mynd mâs. |
Jane |
Beth, Babs a - |
Angharad |
- Shhhh, Mam! - |
Jane |
(gan sibrwd) - Hi a Eilir? - |
Angharad |
Wel, dim ond sort of. |
Jane |
- Whare teg iddi - |
Angharad |
Ie. |
Jane |
Beth ti'n feddwl, 'Sort of'? |
Gerallt |
Gadwch chi, 'newch chi? |
Angharad |
'Sneb yn gwbod beth sy'n mynd 'mlân a gweud y gwir. Sa i'n credu bod Babs yn gwbod yn iawn 'i hunan. |
Gerallt |
O, Iysu, dw i'n mynd o 'ma. (Wrth iddo adael) Oi! Maria! It's ten to ten now! |
Jane |
Ma' fe bach yn touchy am y peth, odi fe? |
Angharad |
'M bach; fel ma' fe. |
Jane |
Ddim 'i ferch e yw hi. Na'n un i, cweit, o ran hynny. |
Angharad |
Hi sy'n cadw pethe i fynd 'ma. |
Jane |
Whare teg iddi hi. Goffodd hi wmla am 'i lle eriôd. (Saib.) Tair blwydd ôd odd hi, pan dda'th hi aton ni gynta'; ond ot ti'n gweld e bryd 'ny - odd hi'n benderfynol o gâl dy sylw di. Wel ffilodd yr hen Emyr â godde' pethe, a fuodd e 'm yn hir cyn 'i heglu 'ddi. 'Ti odd eisie', medde fe wrtha i; a bant ag e. Odd rhyw fenyw 'dag e'n barod bryd 'ny dw i'n meddwl. So ddethon ni nôl fan hyn. (Saib.) Dw i'n cofio bod miwn 'ma 'da Babs, yn dangos y sheds iddi; a hithe'n gofyn, 'Ble ma buwch wedi mynd? Ble ma buwch wedi mynd?'. Wedes i bo' nhw'n 'di mynd ar 'i holidays. Odd hi'n gwbod mai dwli odd hynny; ond odd hi'n benderfynol - os mai ffarm odd e, odd rhaid ca'l da yn y boudy a moch yn twlce a defed a ieir a hwyaid, a'r cwbwl i gyd. Ac os on nhw wedi mynd ar 'u holidays, odd e'n bryd 'u câl nhw nôl, iddi hi ca'l whare ffarm. (Saib.) Odd hyn cyn i fi ga'l ti, ar ôl yr holl amser 'na o feddwl na allen i byth. Do. |
Daw MARIA a BARBARA i fewn. Mae MARIA'n ei thywys i edrych ar ddarn o'r llawr. |
|
Barbara |
No, it's all right. It looks OK; it'll do. |
Maria |
It's OK? |
Barbara |
Yes. |
Maria |
I tell him. |
Barbara |
I know you did, but he doesn't want to listen. |
Maria |
I tell him again. |
Barbara |
Just needs a bit of scrub over here. |
Maria |
Let me see. |
Barbara |
It's OK, Maria, I'll do it in a while. I don't think we'll get many in today anyway. |
Jane |
Mae'n edrych yn neis iawn 'da ti mewn fan hyn, cariad. |
Barbara |
Ma fe'n OK. 'Se fe'n well tasen ni'n gelled neud mwy. A câl mwy o adverts yn 'papur a phethe. |
Jane |
Ddylsen i fynd miwn i'r tŷ; sa i 'di gweld y lle 'to. |
Barbara |
 i i nôl y cesys o'r car. |
Jane |
Na, paid. Dw i ddim yn meddwl - |
Barbara |
- Ma fe'n iawn, mam, fe â i nawr - |
Jane |
- Sdim hast, mae'n OK. |
Daw GERALLT i fewn â bagiau o'r car yn ei ddwylo. Mae EILIR yn ei ddilyn. |
|
Gerallt |
'Na lle ma'r rhein i gyd, t'wel. |
Barbara |
On ni jyst yn mynd i - |
Jane |
- Na, na, Ger - |
Barbara |
- dere â rheina i fi - |
Angharad |
- aros, Babs - |
Gerallt |
- cer di â nhw os ti moyn - |
Jane |
- peidwch, ddim 'to. (Saib.) Sa i'n meddwl y galla i fynd mewn 'na 'to ta beth. |
Saib. |
|
Eilir |
Wel, tra bo chi i gyd 'ma, 'de; a sori 'mod i'n torri ar draws eich, eich - digwyddiad chi, on i'n meddwl y bysech chi 'di câl bach o amser 'rôl cyrraedd getre erbyn hyn. Ond ma rhwbeth on i eishe dod lan 'ma i weud, wrth gymint ohonoch chi ar y tro â gallen i a gweud y gwir. |
Gerallt |
Be' sda ti 'de? |
Eilir |
Falle bod e 'm yn un busnes i fi, ond jyst meddwl helpu mâs peth wdw i. (Saib fer.) Ma lle bach teidi 'da chi 'ma, reit ar bwys yr hewl, a ma hwn fan hyn, y siop 'ma 'dach chi, ma' hwn yn neud yn, wel, yn weddol; ma hi'n fenter fach nêt. Ond ma pethe'n newid nawr, on'd ŷn nhw. Ma prisie pethe, wel chi'n gwbod cystal â neb, ma'n nhw'n anwadal ar y diawl; ac os ych chi'n rhedeg siop fel hyn, ma ishie rhwbeth sbeshal i ddod â phobol miwn atoch chi. 'Na beth sy'n becso fi yw bo chi'n trial neud y pethe rong 'ma - ŷch chi lan yn erbyn llefydd sy'n gwerthu pethe'n jepach o lawer na allwch chi neud. |
Gerallt |
Wel, yffarn dân - |
Eilir |
Na, na, na, dw i'n, sa i'n gweud hyn i dynnu lawr beth ych chi'n 'i neud, sa i'n - drychwch, cynnig sy' 'da fi, reit? Ych chi'n gwerthu'ch stwff eich hunan fan hyn - ma fe'n grêt, popeth yn 'i dymor, neis iawn. Ond soch chi'n mynd i gadw pethe i fynd fel 'na. Rwbeth bach yw hwn i roi boost fach i'r pethe erill sy' 'da chi - y bîff a'r tato a'r pethe erill 'ny - pick your own a pethe fel 'na. A ma hynna'n iawn. Ond, bois, ma ishie i chi bwsho mâs yn fwy! Ma ishie i chi werthu fe'n bellach na jyst yn fan hyn. A ma ishie mwy o bulk arnoch chi. Neu fydd y siop 'ma ddim yn ddigon o faint i ddala'i hunan lan ar 'i draed pan ma pethe'n mynd yn fain arnoch chi. |
Angharad |
Gwerthu'n stwff ein hunen ŷn ni ishie neud - |
Jane |
Aros funud, Anji. Beth odd y cynnig 'ma odd 'da ti, 'de, Eilir? |
Eilir |
Wel, shwt fysech chi'n teimlo, tasen i'n dod miwn 'da chi ar y busnes gwerthu 'ma ond bon ni'n 'i neud e'n fwy o faint? On i'n meddwl, allen ni godi polytunnels lan fan hyn, a trial tyddu pethe rownd y flwyddyn, hala'r stwff mâs i lefydd erill, siope lleol i ddechre, farm shops erill, cwpwl o restaurants - y rhai neis sy' rownd ffor' hyn; rhwbeth i ga'l yr enw mâs 'na, bildo brand lan 'chwel? A wedyn, os fydd bach o fynd arno fe, allwn ni weitho fe lan 'to o fan 'ny, a dechre gwerthu mwy o stwff i'r supermarkets ac i lefydd fel 'na - os fydd na ddigon o alw, ac os ôs ŷn ni moyn. Ond ddim ond ar ôl i ni weitho'r brand lan yn gynta': achos wedyn, os fydd rhywun yn dod miwn yn gompetition i ni - a ma'n nhw'n siŵr o neud - ma'r enw 'da ni. Neud popeth allwn ni i gynnal hwnnw, a falle wedyn os ddeith rhywun mwy o lawer miwn yn ein erbyn ni, os fydd pethe'n dechre troi, fe allwn ni werthu hwnnw 'fyd. (Saib.) Na'r plan odd da fi. |
Gerallt |
Wel, blydi hel. Ma' rhywun 'di bod yn siarad 'da ti, 'nd ôs e? |
Angharad |
Hisht wncwl Ger - |
Gerallt |
- o dere o 'na - |
Barbara |
- sa i'n credu bod ishie bod fel 'na - |
Jane |
'Rhoswch funud. Dw i bia'r lle 'ma 'fyd. Eilir, drycha: diolch iti am y cynnig, ond mae'n rhy gynnar i fi feddwl am bethe fel hyn. Newydd gyrra'dd nôl wdw i, a ma ishie i fi ga'l 'y mhethe i'n hunan mewn trefen cyn bo fi'n dechre meddwl am stwff fel hyn. |
Eilir |
Dw i'n deall 'ny. On i 'm yn gwbod mai nawr och chi'n golygu dod nôl, neu 'sen i 'di gadel hi am un sbel. Ond - wel, wrth gwrs - ma'r amser yn dechre mynd bach yn bring 'fyd. |
Jane |
Odi fe? Be' ti'n weud? Be' ti'n feddwl? |
Eilir |
- Drychwch, 'dyw e 'm yn fusnes i fi - |
Gerallt |
- gwêd beth sy' 'da ti i weud - |
Barbara |
- gadwch e fod i siarad. |
Jane |
Dere 'mlân 'te, Eilir. |
Eilir |
Wel, deall on i fod 'na limit wedi câl i roi, 'nd ôs e? Ar yr amser ma'r banc yn rhoi i chi i dalu'n ôl? |
Jane |
Talu beth nôl? |
Eilir |
O. |
Jane |
Talu beth, beth s'da ni i dalu'n ôl? |
Angharad |
Mam - |
Jane |
Ôs dyled arnoch chi, 'de? |
Angharad |
- peidwch - |
Jane |
Ŷch chi mewn dyled? Ger? Beth sy'n mynd 'mlân - wyt ti mewn dyled? |
Gerallt |
A shw' ma' hwn fan 'yn wedi dod i wbod yn busnes ni? - |
Eilir |
- Well i fi fynd o 'ma - |
Gerallt |
- ôs glei! (Saib.) |
Eilir |
Wela i chi 'to, bois. |
Barbara |
Dda' i 'da ti i'r car. |
Eilir |
O. Ie; ie, OK. |
Mae'n mynd allan, a BARBARA yn ei ddilyn. Saib. |
|
Gerallt |
Wel, y jiawl eriôd... |
Jane |
Ody 'ddi'n ddrwg arnot ti, 'de? |
Gerallt |
'Dyw hi 'm yn sbesial iawn, na 'dy. |
Jane |
Shw' ma' dyled wedi mynd arnoch chi, 'de? Shwt all dyled fod wedi mynd ar y lle 'ma? |
Gerallt |
Pethe 'm yn talu. |
Jane |
Ie? |
Gerallt |
Ie! Fyse ti 'm yn deall! (Yn sydyn, mae'n cau'i ddwrn ac yn rhwbio'i ben ag e yn galed. Saib.) A, wel, falle, arhoson ni miwn yn y lla'th yn rhy hir cyn 'i phaco'i lan. A gethon ni beth arian am y da pan ethon nhw; ond wedyn dreion ni gwpwl o bethe erill, a weithon nhw ddim cystel. A, wel, ot ti wedi mynd o 'ma, so odd rhaid i ni neud rwbeth. A wedyn fe gethon ni - fe ges i - mam, sbel fach cyn iddi farw, i roi'r lle nôl ar morgej, i ni ga'l bach o gapital i ddechre gweitho pethe lan 'to. |
Jane |
O, Iysu bach, Ger - |
Gerallt |
- man a man i ti ga'l gwbod nawr, yndyfe. Treial neud y gore ôn ni, na 'i gyd. Odd e'n job ar diawl i Mam i gadw popeth at 'i gilydd rhwnt popeth - |
Jane |
- Dw i'n deall 'ny - |
Gerallt |
- wyt ti 'de? Ca'l a cha'l odd hi i gadw gafel ar y merched, a tithe wedi mynd o 'ma; neu fyse Social Services wedi mynd â nhw! |
Angharad |
On i'n fourteen, Wncwl Ger, 'se nhw ddim wedi mynd â fi o 'ma, a odd Barbara'n eighteen yn barod. |
Gerallt |
Wel, ie, ond do'n ni ddim mor siŵr â 'ny ar y pryd, o'n ni - |
Angharad |
Falle ddim - |
Gerallt |
(dan deimlad) - odd e'n hen ofid ar diawl i dy famgu, tra'i bod hi. |
Saib. Clywir sŵn car EILIR yn gyrru i ffwrdd. Ymhen rai eiliadau, daw BARBARA yn ôl i fewn. |
|
Barbara |
Be' sy' mlân? (Does neb yn ei hateb.) |
Jane |
So, o fan 'ny dda'th yr arian i dalu am hwn? (sef y siop) |
Gerallt |
Ie: a 'i gynnal e ar y dechre. |
Jane |
Ôs arian yn dod miwn, 'de? |
Gerallt |
Wel, ôs. Bach o struggle yw hi, ar brydie. Ond wedyn... |
Barbara |
So ni 'di neud lot o arian 'leni. (Mae GERALLT yn tuchan.) Ni'n treial cwpwl o leins newy', ond ma fe'n cymryd amser i bobol ddod i arfer â nhw. A ma Aldi a rheina 'da ti. |
Angharad |
Ŷn ni'n colli arian. |
Barbara |
Funud 'ma. Ond ma' siawns 'da ni i wella pethe erbyn diwedd yr haf. |
Angharad |
Os ddeith pobol biti'r lle, os cewn ni dywydd. |
Barbara |
Mae'n addo hi'n sbeshal. |
Angharad |
Ody, yn yr Express, ti'n gwbod pwy nonsens sy' 'da rheini. |
Barbara |
Fe wellith pethe, OK. Mond i ni gadw gweitho. |
Angharad |
Ma'r holl beth bach yn ffârs os ti'n gofyn i fi. |
Barbara |
Sdim byd yn bod ar y syniad, jyst ishie bach o lwc sy' arnon ni. |
Mae ffôn ANGHARAD yn canu. |
|
Angharad |
Helo... oh hi, ie... wel, OK, dere lan yn y fan. A bit later on, OK? Ym... na, ma' fe'n iawn (mae hi'n cerdded tuag at y drws wrth siarad), jyst not this exact minute. Falle... (mae hi'n cerdded allan drwy'r drws; y sgwrs yn parhau) |
Mae BARBARA a GERALLT yn syllu ar ei gilydd am funud. Mae BARBARA yn codi'i hysgwyddau ato. |
|
Angharad |
(daw ANGHARAD nôl i fewn)...OK, bye. (wrth roi'r ffôn gadw) Pete odd e. Peter Treesman. Odd e'n meddwl galw lan. |
Jane |
Ma fe 'r hyd lle o hyd, ody fe? |
Angharad |
Ody, ma fe'n byw lawr yn pentre'. |
Gerallt |
Yn y caravan park yn Blaenllan. |
Angharad |
'M ond yn y gaea. |
Gerallt |
Ody fe'n dod lan 'de? |
Angharad |
Wedes i wrtho fe i beido. Am sbel. |
Barbara |
'Na fydde ore. |
Jane |
Mae'n iawn. Dethed. Chi'n ffrindie 'da'ch gilydd, ych chi? (Saib. Mae ANGHARAD yn awgrymu'n gynnil ei bod nhw.) Wel, na fe 'de, ma fe'n bownd o ddod lan 'ma rhywbryd. A bydd rhaid i fi weld e yn pen draw, on' bydd e? |
Gerallt |
Dw i'n mynd i gael gweld ble ma'r roces 'na 'di mynd. (mae'n codi ac yn mynd allan) Maria! {Saib.) |
Jane |
Ma fe'n gwbod 'mod i nôl, ody fe? Pete, Peter. |
Angharad |
Ody, dw i'n credu; wedes i wrtho fe. Ma fe'n gwbod boch chi'n dod nôl. Ond ddeith e ddim heddi. |
Jane |
Na ddeith. OK, de. (Saib fer.) Ddim 'i fai e o'dd e, dw i'n gwbod. Dw i'n gwbod, a dw i 'm yn bod yn deg ag e. Ond alla i ddim peido â meddwl: tase fe 'di bod â'i feddwl ar 'i waith, tase fe 'di gweld beth odd yn digwydd yn gynt, na fyse Bryn wedi... o, sdim iws meddwl nawr os e - |
Barbara |
Nethon nhw'r gore gallen nhw, Mam - |
Jane |
Do, do, do, dw i'n siŵr do fe. A welodd ddim un ohonoch chi'r peth yn digwydd, chwaith. Odd e wedi mentro o'i ddwfnder, 'n un bach i! A erbyn iddyn nhw ga'l e mâs odd hi'n rhy hwyr. |
Angharad |
Fe weithodd Peter arno fe gystal ag y galle fe. |
Jane |
Do. Do, do. Fan hyn o'dd e! Fan hyn fuodd e! (Mae hi yn ei dagrau nawr.) |
Daw MARIA i fewn. Mae hi'n sylwi ar JANE. |
|
Maria |
Sorry, I didn't mean to - |
Barbara |
It's OK. |
Maria |
I was out in store room. |
Barbara |
Ger found you, did he? |
Maria |
Yes, I was... |
Barbara |
It's all right; she's just a bit upset. They've been talking about Peter - Treesman; you know, Angharad's friend. You might not know him. He was the one who trïed to help Bryn - our little brother - on the beach. |
Maria |
Yes it's OK. |
Barbara |
She'll be all right in a minute or two. |
Maria |
I will carry on here. |
Barbara |
Errm, yeah, OK. |
Saib. |
|
Angharad |
 i i'r tŷ i weitho dished i ni. |
Jane |
(yn ceisio siglo'i hun o'i gwewyr) Ie, ti'n iawn. |
Barbara |
(am y bagiau) Chi ishe i fi gario'r rhein draw i chi? |
Jane |
Ma'n iawn bach, gad nhw fod lle ma' nhw am y tro. |
Barbara |
Ti'n siŵr? |
Jane |
Wdw, cariad, sdim ishie nhw arna i am un sbel. |
Mae JANE ac ANGHARAD yn cychwyn am y drws bach sy'n arwain tuag at y tŷ. |
|
Jane |
Ond dw i 'di gadel 'y mag bach i yn y car. Cer i ôl hwnnw os ti moyn. |
Barbara |
Iawn. |
Mae BARBARA yn mynd y ffordd arall, am y drws mawr sy'n arwain nôl at y clos. Wrth iddi fynd drwyddo, mae'n cwrdd â PETER. |
|
Peter |
O. Sori. Ddrwg gyda fi. |
Barbara |
O. Hi. |
Angharad |
(yn troi nôl a'i weld) Peter! |
Peter |
Hi. |
Angharad |
On ni ddim yn disgwyl y byddet ti - |
Peter |
- na, wel, sori, surprise oedd e fod. |
Jane |
Surprise? |
Peter |
Ar ddiwedd y lôn oeddwn i pan ffonio. |
Angharad |
Ma Mam 'ma. |
Peter |
Yeah, ydy. Sori. |
Jane |
Hello Peter. |
Peter |
Helo. Shwmai. Dw i'n siarad Cymraeg nawr. |
Jane |
Wyt. Gwd. Let me see you. Gad fi ddrychyd arnat ti. |
Mae hi'n edrych arno. Saib. Ti 'di newid. 'Di heneiddo. You look a lot older. Crwt ysgol ôt ti pan es i o 'ma. A nawr wyt ti 'di tyddu. Wyt ti'n ddyn. |
|
Peter |
(chwerthiniad bach nerfus) Ydw. |
Jane |
Beth wyt ti'n neud dyddie 'ma what do you do now? |
Peter |
O, dw i'n ceisio gorffen PhD. Mewn Environmental Science. |
Saib. Mae JANE yn syllu arno. Yna mae hi'n estyn ato ac yn cyffwrdd â'i ben. |
|
Jane |
Ma dy wallt di'n dechre teneuo, Peter. |
Peter |
Yeah, ydy. Stressing out, I guess. |
Saib. Yna mae JANE yn chwerthin yn uchel; os chwerthin yw hyn. Mae'n hi'n tawelu wedyn. |
|
Jane |
Dere i'r tŷ 'da ni. |
Peter |
Iawn, OK. |
Jane |
Ie. Surprise. |