a1a1, g1a2a3a4

Parc-Glas (2015)

Anton Tsiechoff [Антон Чехов]
add. Roger Owen

Ⓗ 2015 Roger Owen
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 3


ACT TRI
Noswaith yn hwyrach yn yr haf. Mae hi'n raddol dywyllu trwy gydol yr olygfa. Ystafell yn y tŷ wedi'i haddurno ar gyfer parti o ryw fath. Drws yn y cefn yn arwain at yr ardd; ar yr ochr chwith, drws yn arwain at ystafell arall, lle mae 'na gerddoriaeth yn chwarae a pheiriant karaoke. Mae 'na fwrdd gyda bwffe a diodydd wedi'u gosod arni yn yr ystafell. Ymddengys fod yna dipyn o fwyd ar ôl, a bod y rhan fwyaf o'r gwesteion eisoes wedi cymryd peth ohono, gan fod platiau gwag wedi'u defnyddio i'w gweld ar y bwrdd ac o gwmpas yr ystafell. Gwelir BARBARA, a JANE weithiau, yn cerdded drwy'r lle yn ysbeidiol. Ger y drws gwydr yn y cefn, saif BRIAN PENRHIW, ffermwr lleol, sy'n siarad yn uchel gyda grŵp o'i gyfeillion.

Brian

(yng nghanol dweud jôc)...a so nawr 'co fe'n stopo'r cara a mâs ag e i ga'l gweld shwt olwg odd ar y gath. Odd honno'n sgwils yn bob man. 'Blydi hel', medde fe wrtho'i hunan, 'be' wdw i'n mynd i neud nawr?' 'Chwel, alle fe jengyd o 'na streit awei, neu fe alle fe fynd lan i ga'l gair 'da'r perchen. So ma fe'n diseido mai'r peth iawn i neud, reit, y peth onest, yw mynd lan a cnoco ar y drws a gweud wrthyn nhw beth sy' 'di digwydd i'r gath. So ma fe'n sgrapo sbariwns y gath 'ma off yr hewl a'i rhoi 'ddi miwn yn bŵt y car, a bant ag e lan ar y tŷ.

Jane

(yn cerdded rhyngddyn nhw i mewn i'r ystafell) Peidwch gadel i'r boi 'ma roi chi off eich bwyd, bois!



Daw ymatebion oddi wrth y gwrandawyr: 'Ha, ha...'; 'O na, wedi neud yn iawn am un nosweth, Jane...'; 'Gymrith hi fwy 'na ny!'; 'Diawl 'na, drycha ar 'i seis e'!', ac yn y blaen. Mae JANE yn symud i ffwrdd oddi wrthyn nhw.

Brian

Beth odd 'da fi, nawr? O ie. Ta beth, co fe lan at y drws a cnoco, a'r fenyw 'ma'n dod i ateb. 'Sori misus,' medde fe, 'sa i ishie'ch ypseto chi nawr, yndyfe, ond dw i'n credu bo fi di mynd â'r car dros ben eich cath chi.' A honno'n ca'l sioc a, ti'n gwbod, llefen a, 'Chi 'di lladd Jeremy bach ni!', a phethe fel 'ny, yndyfe. Ond wedyn, 'Hang on', medde hi, 'shwt ych chi'n gwbod mai 'nghath i yw e? Be' mae'n drychyd fel?' So ma'r boi yn mynd 'Wel, diawl, rhwbeth fel hyn' -



BRIAN yn gorwedd ar ei hyd ar llawr gyda'i goesau ar led, a'i dafod allan: chwerthin brwd o blith ei griw o gyfeillion. Rhywbryd yn ystod y cyfan, daw PETER, sydd braidd yn feddw, i fewn drwy'r drws ar y chwith a phigo bwydach o'r bwrdd bwffe.

Brian

- a ma'r fenyw yn mynd, 'o, na na na, peidwch â bod mor disgusting. Pwy olwg odd arno fe cyn i chi fwrw fe?' So ma'r boi yn meddwl, a wedyn ma fe'n mynd - (mae'n codi ei freichiau yn yr awyr ac yn rhoi golwg o fraw ofnadwy wrth ddynwared y gath) - 'Fffyyyyyyyyyycin' Heeeel!'



Yn ystod y chwerthin sy'n dilyn y jôc, daw BARBARA i fewn i'r ystafell.

Peter

A, Mrs Lewis!

Barbara

(yn anghyfforddus iawn) Ca dy ben, Peter.

Peter

Www. Touchy.

Barbara

Pryd wyt ti'n mynd i dyddu lan, y?



 allan yn gyflym. Saib.

Brian

(sydd wedi clywed) O, Iysu bach... (Saib.) Ethen i 'm i botsho rownd fan 'na heno, boi.

Peter

Hmmm?

Brian

Ma Eilir bach yn mynd 'i cha'l hi pan droith e lan yn 'diwedd.

Peter

Oh, yeah.

Brian

Ma' heno 'di costi fel y diawl iddyn nhw, a ma' honna mor deit â ellith hi fod...

Peter

Ydy, right.

Brian

Elli di 'm beio hi, gweud y gwir. Iysu, na: ma fe Ger 'di neud y ffradach ryfedda' o'ni ddi 'ma. Hi sy'n treial dala'r slac yn dynn; a 'se hi'n dod i ben â 'i 'fyd, 'se'r fadam arall 'na ddim 'di dod 'nôl biti'r lle...

Peter

Pwy? Jane?

Brian

'Dyw e' m busnes i fi, cofia. Lan iddyn nhw, yndyfe?

Peter

- Errm, ie.

Brian

Meantime, gw' boi, I'm here for the beer. 'Whare teg iddyn nhw! (Mae e ar fin mynd nôl i'r ardd.)

Peter

Chi fel Epicurus.

Brian

Y?

Peter

Chi fel Epicurus. Mae hynna'n agwedd bositif iawn. Rych chi fel Epicurus.

Brian

Yn, be' sda di nawr?

Peter

Mae Groegwr o'r enw Epicurus; chi fel fe.

Brian

Dw i fel fe? O, olreit. (Mae'n rhoi chwerthiniad fach: heb fod yn deall mewn gwirionedd) O, ie ie.

Peter

Oedd e'n credu mai peth pwysica yn y byd yw pleser. Pleasure. Heb pleser, ti ddim yn gwybod pwy wyt ti.

Brian

O?

Peter

Mae rhaid joio.

Brian

O, blydi reit 'fyd!



Yn ystod y sgwrs ganlynol, clywir MARIA o'r ystafell nesaf yn canu gyda'r peiriant karaoke: 'Eternal Flame' gan The Bangles, o bosib; sdim ots pa mor dda mae hi'n canu...

Peter

Ie, ond mae e'n wir. Lot o Gymry, ddim yn gallu joio: mae nhw total Calvinists, yn credu mae byd just yn horrible, fel fath o nightmare, a mae rhaid gweithio, gweithio, gweithio drwy amser, peidio cael hwyl, peidio gadael 'y byd' cael cyfle i ddod mewn i chi. Shut it all out. Fel Barbara - ma hi'n classic Calvinist.

Brian

Ha, ie.

Peter

Ond mae Epicurus yn credu bod y byd yn peth real, nid fel nightmare, nid fel breuddwyd. A rhaid i ni chwilio am bod yn hapus, yn pleser, yma, nawr.

Brian

Wel, na fe 'de. Swno fel good bloke i fi. Beth odd 'i enw fe 'to?

Peter

Epicurus.

Brian

(yn taro'i gan cwrw yn erbyn can PETER, ac yn yfed y cwbl, o bosib) Gwd boi achan.



Sŵn MARIA'n canu yn y cefndir. Mae PETER yn dawel. Saib.

Brian

'Na fe de, dw i off.

Peter

Ie OK.



Mae BRIAN yn mynd; mae PETER yn crwydro i ran arall o'r ystafell. Nid yw BARBARA a JANE yn ei weld pan ddônt i fewn.

Jane

Digon o fwyd ar ôl.

Barbara

(yn ddig am y peth) O's.

Jane

Paid â becso, fe ddaw'r bois 'ma nôl rownd 'to. Unwaith 'ma nhw wedi ifed 'u siâr.

Barbara

Hm.



(Saib.)

Jane

Fe ddeith e.

Barbara

Sdim lot o blydi ots 'da fi ragor.

Jane

Fe ddeith; ma' rhwbeth wedi cropo lan 'dag e, na i gyd.

Barbara

Beth ambiti Gerallt?

Jane

Hm?

Barbara

Ble ma' fe 'di mynd? Ble 'ma fe 'di bod trw'r prynhawn? A heno?

Jane

Sa i'n gwbod. Falle a'th y meeting 'da'r banc mlân -

Barbara

- ma hi'n half past eight, mam. So fe'n y banc amser 'ma'r dydd.

Jane

Wel, falle, na 'dy.

Barbara

Synnen i ddim bod y ddou 'da'i gilydd yn rhywle.

Jane

Gerallt a Eilir?

Barbara

(sŵn braidd yn ddagreuol yn ei llais) Ie!

Jane

O. Na, sa i' credu 'ny.

Barbara

Decstest ti fe 'weth?

Jane

Fe 'na i e nawr. Dere nawr, magu bwcïod yw rhwbeth fel hyn -



Daw sŵn rhywbeth yn torri o'r ardd, a chwerthin mawr.

Barbara

Beth odd hwnna -



Mae hi'n mynd allan. Clywir peth twrw a chwerthin.

Gary

(yn dod i fewn i nôl can arall o gwrw, ac yn chwerthin) Ha, ha, ffyc's sake, Gordon 'di torri pot mâs yn 'r ardd -

Jane

Be' ma fe 'di neud?

Gary

- odd e'n cerdded rownd 'da flower pot 'ma ar 'i ben e! (mynd allan eto) Pissed as a fart!

Barbara

(yn dod nôl i fewn) Pam ma'r dam crwt 'na hyd yn o'd 'ma? Pwy wahoddodd e?

Jane

Goffes i ffono fe, pan o'dd 'na ddim sein o Gerallt. Ddâth e â'r pethe 'ma (mae hi'n cyfeirio at y bwyd) draw jyst cyn saith.

Barbara

(yn mynd drwy'r drws arall i nôl brws) O, blydi hel...

Jane

Gâd e fod, Babs, newn ni fe wedyn! (ond mae hi wedi mynd. Saib.)

Peter

Dim pwynt dweud wrthi hi.

Jane

O, ti sy' na. Pam wyt ti miwn fan hyn?

Peter

Mae Angharad yn siarad yn y ardd.

Jane

Ody. Wel, ddeith hi nôl nawr...



(Saib.)

Peter

Pryd mae Eilir yn dod? I gael y speeches mawr 'da pawb? (Saib.) Sorry, just gofyn -

Jane

- bydde fe'n well i ti beido -



Aiff BARBARA drwodd yn cario'r brws.

Jane

Dyn ni 'm yn gwbod ar hyn o bryd. Ma fe - dyw e ddim 'di bod yn ateb 'i ffôn.

Peter

Ydy Barbara'n gwybod?

Jane

Na 'dy, Peter, 'dyw hi ddim. A ddylset ti 'mo'i phrofocio hi, chwaith.

Peter

Fi ddim wedi.

Jane

Gynne fach: galw 'Mrs Lewis' arni 'ddi -

Peter

- o. Yeah -

Jane

- mae'r holl beth yn ofid iddi.

Peter

Fi ddim really deall pam mae'n nhw'n priodi o gwbl.

Jane

O, gâd hi i fod, 'nei di? Eu busnes nhw yw e. (Saib.) Dw i 'm eishie iddi hi ga'l 'u siomi. Ma hi 'di bod yn anlwcus.

Peter

Mae hi'n rhoi pobl off; mae hi'n eisiau rheoli popeth.

Jane

O, dyw hwnna ddim yn wir, Peter.

Peter

Mae e. Mae hi'n pallu gadael Angharad a fi yn llonydd. Byth! Mae hi'n jealous: nid o fi, ond o ffaith fod fi ac Angharad yn gwybod beth ni'n moyn!

Jane

Ody ddi, wir.

Peter

Ydy! Ni'n caru ein gilydd, ond nid fel, possessiveness, fel mutual respect: ni ddim yn eisiau priodi a ni ddim eisiau plant.

Jane

Hy!

Peter

Mae'n wir!

Jane

A ych chi'ch dou yn teimlo fel 'na, ych chi?

Peter

Ydan!

Jane

Meddet ti.

Peter

Hm?

Jane

Mae'n ddigon rhwydd i ti 'weud 'na nawr, yndyw hi? Mutual respect, wir: 'sda ti'm unrhyw alwade arnat ti 'to. Ti'n ifanc. Beth wyt ti? Twenty-five?

Peter

Dauddeg saith.

Jane

Iysu, mae'n bryd i ti neud rhwbeth â dy hunan. Beth wyt ti'n neud? Byw yn y lle carafáns 'na, mynd o un peth i'r llall, a, ti yn y coleg o hyd - sa i'n credu y gelli di fenu unrhyw beth wyt ti'n 'i neud! Ond na fe, gwyn dy fyd di, so ti'n ddigon hen i wbod gwell.

Peter

Dw i'n myfyriwr allan o dewis -

Jane

O, gronda 'ma -

Peter

- dw i'n myfyriwr o bywyd -

Jane

- 'sda ti 'm clem! 'Sda ti mo'r syniad cynta am bethe! O, ti'n iawn fel wyt ti nawr, wyt; ond fydd pethe'n newid, a pan 'na nhw, 'sdim byd elli di neud amdanyn nhw! A be' wyt ti'n mynd i neud wedyn? Ti a dy mutual respect, pan s'da ti ddim dewis? Fyddi di mor cŵl am bethe wedyn? (Nid yw PETER yn ateb.) Ti'n gwbod, dy oedran di, o'n i'n byw lan yn Llunden, yn gweitho fflat owt, a pob un yn meddwl mod i'n neud jobyn eitha' da ohoni 'ddi. Ond o'n i'n gwbod, bryd 'ny, fod 'na rwbeth ddim yn iawn. A ffinjes i mâs beth odd e cyn o hir, 'fyd. O'n i'n ffili ca'l plant. O'n i'n treial a treial 'da Emyr, ond, na; no gwd. Dim dewis. 'Tough luck,' medde rhywun, 'ti 'm yn ca'l nhw'. So beth o'n i'n mynd i neud? Ishte lawr, dewis a dethol? Iysu nage, bwrw 'mlân, rhyw ffordd: jyst bwrw 'mlân. Peido â dechre gadel i bethe fynd yn drech arna i. (Saib.) A 'na pam nes i fynnu bod ni'n ca'l Babs i ddod aton ni, a mynnu neud i'r holl beth weitho. Bod yn fam iawn iddi. A 'madodd Emyr â fi - gwynt teg ar 'i ôl e. A wedyn, o rywle, ges i Angharad! O'n i'n siŵr na fysen i byth, byth yn ca'l 'y 'mhlant yn hunan, fyth. A wedyn, jyst mâs o ddim byd, on i'n disgw'l. Ar y 'mhen yn hunan, dim gŵr, roces fach 'da fi, un arall ar y ffordd. Plan? Dewis? (Saib.) Ti'n gwbod, nes i drïal torri pob cyswllt allen â'i thad hi. O'n i 'm ishie'i rhannu 'ddi, 'da neb. Ond wedyn fe dda'th e nôl; a gallen i 'm gwadu. O'n i'n 'i garu fe. A 'rhosodd e da fi a wedyn gethon ni Bryn, a - o'n i'n gweud wrtha i 'nhunan, 'ma fe'r tro 'ma, 'ma pethe 'da fi nawr; 'ma beth 'dw i moyn, wastad wedi moyn, o'r diwedd ma fe 'ma. Buodd e 'm dou fis cyn gadel am Auckland. (Saib.) A mlân â fi 'to. A fan hyn o'n i - draw fan 'na (mae hi'n pwyntio tuag at gornel yr ystafell wrth ddrws y gegin) - whech mlyne wedyn, pan ethoch chi â Bryn, druan bach ag e, pan ethoch chi ag e lawr i'r trath i gyd y dwrnod 'ny (mae hi yn ei dagrau nawr). A weles i fe byth wedyn. A na'r diwedd wedyn. Allen i ddim mynd mlân un cam o fan 'ny. O'n i ar goll, a, jyst eisie diflannu. A, God, bennes i lan yn y carchar yn New Zealand! (Rhwng chwerthin a chrïo. Saib.) A nawr dw i nôl, a ma deg mlyne arall 'di mynd heibo a - 'ma lle ddechreuodd popeth! A beth s'da fi i ddangos am y cwbl nawr? Dim, jyst... O Iysu bach, y boen dw i 'di hala ar y ddwy fach arall 'na. Dw i 'di bod yn fam yffyrnol iddyn nhw - shwt ma nhw'n madde i fi, sa i'n gwbod! (Saib.) Ond 'ma lle ddechreuodd e i gyd... (Saib.) Elli di ddim pigo dy ffordd drwy bethe am byth, ti'n gweld, Pete: ma bywyd yn mynd i ddigwydd i ti! A well ti fod yn barod pan 'neith e, achos ma fe'n brofiad ar cythrel.

Peter

Just dweud oeddwn i mai -

Jane

(ei ffôn wedi canu yn ei phoced tra bod PETER yn siarad) - Aros. (Mae hi'n ymbalfalu am y ffôn) O. On i'n meddwl falle mai Gerallt fydde fe. Neu Eilir... (Saib. Mae hi'n edrych ar PETER) O God, Grant o'dd e 'to - tad Angharad; a Bryn. Yn tecsto, o Seland Newydd. Ma fe'n erfyn arna i, bob dydd nawr; i fynd nôl ato fe. Ma fe'n sâl. A dw i'n 'i garu fe, o hyd. Alla i ddim peido, alla i? (Mae hi'n codi'r ffôn yn uchel, a gwasgu botwm) 'Delete'. (Mae hi'n chwerthin.)

Peter

Dim fy busnes i yw e, ond, mae'r bai arno fe. Grant: y dad. If he had stayed instead of...



Saib. Mae JANE yn syllu arno. Yna, yn sydyn, mae hi'n ei daro yn ei wyneb. Aiff PETER allan heb ddweud gair. Mae Jane yn eistedd ar bwys y bwrdd bwyd. O'r distawrwydd, daw sŵn rhywun [GORDON] yn canu 'Love Me Tender' ar y peiriant karaoke.

Maria

(yn dod i fewn) Oh my God, Jane; is Gordon! He sings for me!



Mae hi'n drysu rhwng gwawd a gwefr; mae MARIA yn gwrando arno, yn chwerthin ar brydiau, ond weithiau hefyd yn symud i'r gerddoriaeth. Yng nghanol y gân, daw BARBARA i fewn.

Barbara

Ma hynna'n neis. Pwy sy'n canu?

Maria

Gordon.

Barbara

Ma' fe miwn fan 'na? Ma' fe'n bridd drosto fe i gyd - (Mae hi'n sgubo allan o'r ystafell. Clywir ei llais oddi ar y llwyfan) Gordon! Gordon, oh my God, cer ma's o fan 'na nawr!



Daw'r gân i ben yn sydyn, a chlywir sŵn yr helynt am beth amser cyn iddo ddistewi gyda GORDON yn amlwg wedi gadael.

Maria

Oh! Barbara, is not nice! He was singing!



Daw nifer o'r gwesteion i fewn o'r ardd, lle mae'r helynt nawr yn digwydd. Maent yn cynnwys GARRY a BRIAN. Mae'n nhw'n gwylio'r hyn sy'n digwydd yn yr ardd o hyd.

Brian

Yffarn dân, bois, bryd i ni gwato weden i!

Gary

Ha, ha, fuckin' classic, mun! She's killin' him!

Brian

Odi glei; Iysu, ma' gwd braich 'da hi - o! Yffarn dân! Rhed, Gordon, achan! Ha ha!

Jane

(yn codi ac yn mynd allan drwyddyn nhw) Dewch o fan 'na! Gadwch hi fod! Barbara! Babs!



Daw ANGHARAD i fewn.

Angharad

God, alla i 'm watcho hyn!

Gary

(yn dal i chwerthin a chael ei fodloni gan y cyfan) Ha, ha, sick, man!

Angharad

Dw i'n credu y dylsech chi fynd o 'ma, bois.

Gary

No way!

Angharad

Ma hyn jyst yn embarrassing nawr.

Brian

Ife?

Angharad

Plîs.

Brian

Sdim bai arnot ti'es.

Angharad

Jyst - (Saib.)

Brian

Ie, cym on bois, well i ni fynd - sori, bach.

Angharad

Ma fe'n iawn; 'm ych bai chi yw e.

Brian

Garry, achan - dere. Gâd e nawr.

Gary

Oh come on, myn, ma hwn yn fuckin' epic -

Brian

Paca 'i miwn! Dere. (Mae e'n tynnu Garry nôl o'r drws.) Roith Gwynfor lifft i ni.

Gary

Ma ishe pishad arna i -

Brian

Dere. Stopwn ni ar y ffordd. Ta-ra, bach.



Mae e'n llwyddo i gael GARRY i adael gydag e. Wrth iddyn nhw fynd allan trwy'r drws tua'r chwith, mae'n nhw'n cwrdd ag EILIR.

Eilir

Ych chi off, bois?

Brian

Odyn.

Eilir

Allwch chi aros 's ych chi moyn -

Brian

Na, well i ni, y... Hwyl i ti, boi.



Mae'n nhw'n mynd allan.

Angharad

Beth ddigwyddodd? Ble ti 'di bod?

Eilir

Weda i nawr mewn munud. Iysu dw i'n starfo - (mae'n mynd at y bwrdd) Ma' Ger 'ma 'fyd.

Angharad

'Da ti odd e?

Eilir

Ie. Es i 'dag e. I weld y banc. Odd nyrfs arno fe, ha. (Gan lwytho'i blât) Ma' digon ar ôl 'ma.

Angharad

Odd e'n mynd i'r banc?

Eilir

Ot ti 'm yn gwbod 'ny, 'de?

Angharad

Nag o'n i. Beth ddigwyddodd?

Jane

(yn dod i fewn) Eilir, ma' ishie i ti symud y fan. Dyw'r cars arall ddim yn gelled mynd mâs

Eilir

O, olreit. (Yn rhoi ei blât i lawr ac yn mynd allan.)

Angharad

Be' sy'n mynd mlân, mam? Pam 'ma Wncwl Ger nôl mor hwyr? A Eilir yn dod nawr?

Jane

Sa i'n gwbod, cariad.

Angharad

Fuodd e'n y banc? Wncwl Ger?

Jane

Do.

Angharad

Be' sy'n mynd 'mlân? Gwedwch wrtha i!

Jane

Dw i ddim yn gwbod yn iawn!

Angharad

Ody fe nôl? Ble ma' fe?

Jane

Ma fe'n dod nawr. Â i i ga'l gweld nawr.



Mae hi'n mynd allan eto tuag at yr ardd. Mae ANGHARAD ar ei phen ei hunan am funud. Mae hi'n cerdded o amgylch am gwpwl o eiliadau. Wedyn, mae'n tynnu ei ffôn o'i phoced, ac yn darllen neges destun. Mae hi'n synnu at yr hyn mae hi'n darllen ac yn gwneud galwad ffôn.

Angharad

Ble wyt ti? (Saib fer.) Dwêd e'n Gymraeg... (Saib fer.) She did what? She, she hit you?



Saib. Mae hi'n gwrando ar y llais ar ochr arall y llinell.

Angharad

OK.



Mae'r alwad drosodd. Mae hi ar ei phen ein hun eto am funud, yn anghrediniol. Daw GERALLT a JANE i fewn. Mae GERALLT wedi bod yn yfed.

Gerallt

(wrth weld yr ystafell) Aaaa, neis iawn bois bach...

Jane

Beth wedyn? Dere, dwed wrtha i -

Angharad

Ble ych chi di bod?

Gerallt

Bues i'n dre, trw'r dydd.

Angharad

Fuoch chi'n y banc, do fe?

Gerallt

Na, sa i'n gweud mod i 'di bod fan 'ny, 'fyd -

Jane

Ma hi'n gwbod fod ti 'di bod, Ger -

Angharad

Beth och chi'n neud 'na?

Gerallt

Wel; ti'n gwbod, fel hyn a fel 'na -

Angharad

Odyn ni mewn trwbwl? Wncwl Ger, odyn ni mewn trwbwl, 'da'r banc?

Gerallt

(wedi gafael yn ei ben a rhwbio'i ddwyo dros ei lygaid) Sa i'n gwbod. Saaaa iii'n gwwwbod! (Saib.) 'Ma fyddwn ni am un sbel 'to. A wedyn... pffffftt. (Saib.) Geith e weud 'tho chi nawr. Pan ddeith e.



Saib. Daw BARBARA i fewn, a sefyll wrth y drysau sy'n mynd allan i'r ardd. Mae GERALLT yn mynd draw at y bwrdd ac yn codi rhyw damaid o rywbeth a'i fwyta.

Angharad

O, blydi hel, dw i'n mynd mâs i ôl e.



Aiff ANGHARAD allan.

Gerallt

(ar ôl saib) Ffiles i ga'l 'da nhw i fentyg mwy i ni. Ddim dewis 'da nhw, medden nhw - pwy odd e, ti'n gwbod, mab Craig Simmonds, odd e 'da ti'n 'r ysgol. Crwt hwnnw. Darren. Peth Cwmrâg 'dag e nawr. Ond o'n 'na 'm byd y galle fe neud, medde fe: sori, odd e wedi ca'l gair 'da'r regional be-ti'n-galw-fe a odd hwnnw 'di gweud, 'Na'. So 'na lle o'n i 'de.

Jane

'Da pwy o'dd e 'di siarad?

Gerallt

A, o'n i 'm yn gwbod beth i weud wrtho fe. Odd ddim ots 'da nhw am y da a'r mishîns na dim byd fel 'na, na'r capital assets yn y siop na dim. O'n i'n poor credit rated, medde fe, so no way.

Barbara

So be' sy'n digwydd nawr? Shwt ŷn ni'n mynd i dalu nhw nôl nawr?

Gerallt

O'n nhw 'm ishie'n harian ni! O'n nhw ishe ni mâs!

Jane

Beth?

Barbara

O, Iysu -

Gerallt

O'n nhw' m yn becso dim am y talu nôl, too late; o'n nhw'n mynd i ga'l 'mafel yn y lle, medde fe, a odd e'n mynd i offod ca'l i werthu. Biti whech wthnos 'da ni i glirio o 'ma, odd e'n gesso.

Jane

Mab Craig Simmonds?

Gerallt

Ie.

Barbara

Beth wedyn? Ai 'na fe?

Gerallt

Ddim cweit, 'nag e.



Clywir sŵn EILIR yn dod nôl i fewn drwy'r gegin.

Barbara

Beth 'de; gwedwch wrthon ni!

Jane

Paid â gweiddi, Babs. (Saib.)



Daw EILIR i fewn. Mae'n edrych arnyn nhw am eiliad.

Eilir

So; chi'n gwbod 'de, ych chi?

Gerallt

Jyst â bod.

Eilir

Hm?

Gerallt

Mond am y pishyn dwetha.

Eilir

O.



(Saib fer.)

Jane

Eilir.

Eilir

Wel, ie: wel. (Mae'n mynd yn ôl at ei blât.) Digwydd bod yn dre' o'n i, a weles i Ger, a wedyn...: wel, of'nnodd e i fi - chi'n gwbod - a ethen i 'dag e; so (mae'n troi at GERALLT) es i 'da ti wedyn -

Barbara

(wrth GERALLT) Of'nnoch chi iddo fe?

Gerallt

Do!

Barbara

I ddod 'da chi i'r banc?

Gerallt

Ie!

Barbara

I beth?

Gerallt

Odd rhaid i fi ga'l rhywun i ddod 'da fi!

Barbara

Pam 'na fyse chi 'di gofyn i fi, 'de?

Jane

Aros, Babs. Cer 'mlân, Eilir.

Eilir

Ie, wel. On i'n mynd i fynd ar 'yn ffordd wedyn, ond, wedest ti wrtha i, 'dere 'da fi'. Drychwch: on i 'm yn siŵr am fynd miwn 'na chwaith, ond... wel, on i'n gelled gweld bod ishe bach o support ar Ger, a -

Barbara

- Be' ti'n feddwl, support? -

Eilir

- bo, bo, jyst ishe rhywun i fod yn bach -

Barbara

- pwy support odd ishe arno fe? -

Jane

- Babs, aros funud, nei di -

Eilir

- bach yn gefen iddo fe, na 'i gyd.



Saib. Daw ANGHARAD i fewn yn ystod y distawrwydd anesmwyth.

Angharad

O, co chi. Be' sy' mlân... (mae hi'n synhwyro bod rhywbeth o'i le)

Barbara

Och chi 'di dechre ifed cyn mynd i'r banc, Wncwl Ger?



Saib. Ni all GERALLT ateb.

Barbara

O blydi hel! Pam na allwch chi jyst neud rhwbeth yn iawn am unwaith?

Gerallt

Beth odd y pwynt peido? On i'n gwbod beth on nhw'n mynd i weud!

Jane

Babs, Babs -

Barbara

Ma fe 'di sarnu'r cwbwl lot i ni!

Gerallt

Odd dim byd 'da fi iddyn nhw! Odd 'im byd 'da fi!

Barbara

- Wedoch chi wrthyn nhw bod 'da ni biti whech o fystych odd yn -

Gerallt

- On nhw 'di bygwth a bygwth! -

Angharad

- Fyse ddim ots 'da nhw am hynny, Babs -

Barbara

- barod i ga'l 'u - shwt wyt ti'n gwbod? Shwt wyt ti'n gwbod?

Gerallt

- Ble yffarn arall on i'n mynd i fynd, 'de? -

Angharad

- Achos 'sdim byth ots 'da nhw ffor' ŷn ni'n gweld pethe -

Barbara

- Alle fe ddim fod wedi treial rhwbeth? Rhwbeth? -

Gerallt

- Odd ddim byd 'da fi! Sawl gwaith sy' rhaid i fi weud -



Yng nghanol y gweiddi a'r cweryla, mae JANE wedi symud draw ta y bwrdd. Mae hi'n codi plât sy'n cario Black Forest Gateau cyfan, a'i luchio ar y llawr. Distawrwydd.

Angharad

Mam!

Jane

Byddwch dawel. Eilir; benna beth odd 'da ti i weud.

Eilir

Chi'n siŵr? Wel, wedodd y - y crwt fan 'ny - y, Darren - wedodd e nad odd unhyw ffordd mlân 'da Ger. A bydde'r banc yn mynd â'r lle. Ond wedyn, wedes i wrtho fe y bydden i'n barod i, i glirio'r ddyled ar y lle. In cash. (Saib.) So fe nes i.

Barbara

Pam nethet ti hynny?

Eilir

Er mwyn ca'l roi bach o help. Ac i ni roi dechre ar y plan 'na on i 'di sôn amdano fe 'da chi o'r blân.

Barbara

Polytunnels.

Eilir

Ie.

Angharad

A beth wedodd y boi?

Eilir

Odd ddim ots 'da hwnnw ond bod y ddyled yn ca'l 'i chlirio.

Angharad

So sdim dyled arnon ni nawr, 'de? OK.

Eilir

Wel, nag o's, ond... 'na fe.

Jane

Beth?

Eilir

Ffaelon ni'n dou gytuno ar bethe, a...

Jane

Ti a'r bachan - Darren -

Eilir

- nage. Fi a Ger 'ma.

Angharad

Balloch chi dderbyn yr help? Wncwl Ger?

Gerallt

Pwy sort o ffarmo fydde ar ôl 'da ni fan hyn, gwed? Tasen i'n mynd miwn 'da'r plan 'ma 'sdag e, diawl fydde na 'm byd i ga'l 'ma ond teie glas 'r hyd lle a rhyw car park a swings a... Beth yw hwnnw, gwed? Pwy sort o ffarmo yw hwnna? Diawl, tasen i ishie gweitho mewn lle parco ethen i i fyw yn 'dre! A pigo blydi tomatos am weddill yn o's...! Creaduriaid, achan, gweitho 'da creaduriaid, 'na beth yw ffarmo! Neud fel 'ma dyn wedi ca'l 'i ddysgu 'da'i dad! Yndyfe?

Barbara

Ddim os nag os arian yn'o fe.

Gerallt

Wel, pam sdim blydi arian yn'o fe? (Saib.) 'Na lle o'n i 'da hwn fan hyn (sef EILIR) ar un ochor a Darren Simmonds a'i grys a'i dei fach biws 'r ochor arall. A nes i jyst feddwl, 'fuck it'. Cerwch ag e. Gewn ni werth y stoc a'r mishîns a beth bynnag arall. Ma rhwbeth yn well na hyn.

Barbara

So, so pwy sy' bia'r lle -

Eilir

Brynes i fe. Dw i'n 'i brynu fe. (Saib.)

Gerallt

Bydd ddim rhaid iddi fynd yn acsiwn 'ma.



Saib hir. Mae BARBARA yn cerdded i ganol yr ystafell i gyfeiriad EILIR, yn tynnu'r fodrwy ddyweddïo oddi ar ei bys, a'i daflu i'r llawr yn nghanol y gateau. Aiff allan tuag at yr ardd.

Eilir

Fel 'na ma'i deall hi, 'de.



Mae'n camu draw at y gacen slwtj a chodi'r fodrwy allan ohoni. Mae'n ei gosod yn ei geg i'w glanhau, ac yna'n ei thynnu allan.

Eilir

Hm. Not bad.



Aiff allan drwy'r dws arall.

a1a1, g1a2a3a4