a1a1, g1a2a3a4

Parc-Glas (2015)

Anton Tsiechoff [Антон Чехов]
add. Roger Owen

Ⓗ 2015 Roger Owen
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 4


ACT PEDWAR
Bore braf ym mis Medi. Mae'r siop wedi'i wacáu, a'r cynnyrch sy'n weddill wedi'i osod mewn blychau yn barod i'w gasglu. Mae ambell liain llwch wedi'i gosod dros y silffoedd a welwyd yn Act 1, mewn ymdrech ddigon aneffeithiol i awgrymu gofal. Mae ANGHARAD a BARBARA wrthi yn helpu i glirio a sgubo'r lle. Saif PETER ar un ochr, braidd yn ansicr ynglŷn â beth i'w wneud yn y sefyllfa bresennol.

Angharad

Sdim ishie i ti fynd i ryw drwbwl mowr, Babs.

Barbara

Dw i'n gwbod.

Angharad

Fe 'na nhw hynna i gyd pan ddown nhw. Onibai fod nhw'n tynnu'r lle lawr.

Barbara

'Na pam dw i'n neud e.

Angharad

Fair enough. (Mae sŵn yn dod o'i ffôn hi. Mae hi'n ei chodi yn ddi-gynnwrf, yn ôl hen arfer.) Gwyn Maes Ganol. Gweud wrth Jane i alw heibo cyn bod hi'n mynd. (Saib fer.) Neith hi ddim.

Barbara

Pam ma nhw'n dy decsto di, 'de?

Angharad

Achos bo mam 'di ca'l gwared o'i ffôn.

Barbara

Dw i'n gwbod 'ny. (Saib.) Ond allen nhw alw ar ffôn y tŷ fan 'yn, siawns?

Angharad

Wel, gallen, ond...

Barbara

Ond beth?

Angharad

O, Babs: sa i'n gwbod, falle bod pobol bach yn shei i ffôno aton ni funud 'ma.

Barbara

'O dan yr amgylchiade', ife?

Angharad

Ie, a... falle bo nhw 'm yn gwbod beth i weud.

Barbara

Beth m 'sori bo chi'n colli'r lle'? Sneb 'di marw, o's e?

Angharad

Nag o's, ond... Falle fyse fe'n haws tase rhywun wedi.

Barbara

Falle bo' nhw'n ofon siarad â'r whâr rong. Ma nhw'n gwbod be' ma'n nhw'n ga'l 'da ti.

Angharad

Wel -

Barbara

So nhw eisie siarad â'r 'slapen' rododd gic i Lewis bach druan -

Angharad

Paid nawr -

Barbara

'Yr hen bitsh fach â'i' -

Angharad

- o, plîs. (Saib.)

Barbara

Mi roden i gic i'r bastard se'ch 'ny. A dw i'n gwbod ble 'fyd.



Mae'r ddwy yn chwerthin am foment. Peter yn edrych braidd yn anesmwyth. Mae ffôn ANGHARAD yn canu eto.

Barbara

Cachgwn.

Angharad

Ha. PPI. (Gwasgu 'delete'.)

Barbara

Wel, o leia' so'r rheini wedi pwdu ata i.

Angharad

Ha.



Mae BARBARA yn chwerthin eto, ond gellir clywed chwerwedd ynddo. Saib.

Angharad

Ddylset ti ga'l un ti'n gwbod.

Barbara

Falle 'na i. Ond bydd land line 'da hi ta beth.

Angharad

OK, ond plîs rho'r number i fi cyn bo ti'n mynd -

Barbara

- fe 'na i! OK? Dw i'n gwbod dy number di eniwei, so os anghofia i... (Saib.)

Angharad

'Sdim ishie i ti, ti'n gwbod.

Barbara

O's, ma ishie.

Angharad

So ti'n nabod neb 'na!

Barbara

Dw i'n nabod Eleri!

Angharad

A neb arall!

Barbara

Sdim ots!

Angharad

O's, ma' 'na! (Saib.) Babs, dere i aros 'da fi, 'de. Ma'n OK, on'd yw e, Pete?

Peter

Ie, wel, ie, OK, ym -

Barbara

Sa i'n cwtsho lan 'da chi'ch dou mewn carafán drw'r gaea' -

Angharad

- jyst am sbel -

Barbara

- nadw, Anj, sa i'n mynd i.

Angharad

Mae Leicester yn bell.

Barbara

Dw i'n mynd i ôl yr Hoover.

Angharad

Sdim ishie i ti.

Barbara

Dw i'n mynd i ôl yr Hoover.

Angharad

Fydd ddim ots 'da nhw am y llawr.

Barbara

(gan edrych i fyw llygaid ei chwaer) Dw i'n gwbod. (Â allan.)



Mae ffôn ANGHARAD yn canu eto.

Angharad

O, blydi hel... (mae hi'n edrych ar y rhif cyn ateb) - o! Helo: hiya Margaret. (Saib.) Na, sa i'n credu ni; ody fe 'biti'r lle, 'de? (Mae hi'n crwydro ar hyd y lle wrth siarad.) Faint o'r gloch? Wel, I suppose y galle fe wedyn 'de... Ond - (Saib.) - na, sa i'n credu bod neb lan fan hyn wedi'i weld e'. 'Sneb 'di gweud dim ta beth. (Saib.) Ody - ie, ie - ody number Eilir 'da chi? Ôs - ôs, ma un 'dag e - ie, ond allech chi roi ring iddo fe lawr yn Rhyd-y-Cefen, 'fyd -



Wrth iddi siarad mae GERALLT yn dod mewn drwy'r drws yn frysiog ac o fewn dim i daro i mewn iddi. Mae'n cerdded heibio iddi'n ddiamynedd ac yn mynd draw at rai o'r blychau ar y llawr. Mae yntau ar y ffôn, ac yn siarad yn reit uchel. Mae ANGHARAD ac yntau'n siarad ar draws ei gilydd, nes ei bod hi'n cael digon ar geisio cystadlu â'i lais ef, ac yn crwydro allan drwy'r drws.

Angharad

- ody, ody, ond 'na fe. (Saib.) S'im byd i neud, nag o's. Do, fe na'th e. O, na, na, na, na bydda i 'biti'r lle; jyst ddim lan fan 'yn na i gyd. 'Ma hi'n mynd bant, odi. Wel, bydda, byddwn ni'i gyd... (erbyn hyn fe ddylai hi fod wedi mynd)

Gerallt

- yes - o, Iysu, watcha ble ti'n - yeah, there'll be sixteen of them. No, the smaller ones. Sixteen, yes. (Saib.) Well, you know; we bought in bulk, didn't we... ay: ha! thought we'd shift them. (Saib.) Two o' clock? (Saib.) Well, if you could, yeh. (Saib.) No, that 'd be great, if he's around with you. He knows where things are. Yeh, yeh. Good. Yeh - yeh, yeh - yeh, thanks Geoff. Will do. Cheers.



Mae'n diffodd a rhoi'r ffôn i lawr. Mae'n edrych o'i gwmpas. Ymhen ychydig, fe ddaw ANGHARAD yn ôl i fewn.

Angharad

Sori, on i'n siarad â Margaret, Y Garn. Ma Jim 'di mynd ar goll 'to.

Gerallt

Ma'n bryd iddo fe ga'l mynd i rhywle 'da nhw, poor bugger.

Angharad

Sneb 'di weld e ar hyd lle, o's e?



GERALLT yn siglo'i ben.

Angharad

Gobeitho bod e 'm 'di bwrw lan am ffor' 'yn 'to. Odd hi'n mynd i roi look fach rownd y sieds 'to.

Gerallt

Gwd. 'S da ni'm amser i fynd i whilio hwnna nawr.



Daw JANE a BARBARA i fewn o gyfeiriad y tŷ. Mae BARBARA'n cario'r hoover.

Jane

(yn ddigon ysgafn) Drychwch beth ffinjodd Babs! (Mae botel fechan o siampên ganddi yn ei llaw) Ma fe siŵr o fod 'na ers blynydde.

Angharad

O ie, credu mai Mamgu brynodd hwnna.

Barbara

O'n i'n credu 'ny 'fyd.

Jane

O't ti'n gwbod bod e 'na? (am yr Hoover) Rho hwnna lawr!

Barbara

Dan stâr? O'n.

Jane

Beth o't ti'n mynd i neud 'te? Gadel e 'na?

Barbara

Ie.

Jane

O Babs, be' sy'n bod 'na ti? Ishe i ni agor hwn cyn bo ni'n mynd!

Barbara

Newch be' chi moyn.

Jane

Diawl, ôs: ni sy' bia fe! So ni'n gadel hwn ar 'i ôl!

Peter

(am y botel) Hm. Mae'n un dda.

Angharad

S'im cwpane 'da ni.

Jane

O, cym on, be' yw'r ots sy'!

Gerallt

Bydd e'n ôl reit i ifed, 'te?

Peter

Ma fe'n vintage.

Angharad

(chwerthin) Wel, dw i'n mynd gynta' 'te.

Peter

Mae'n dweud y blwyddyn arno fe.

Barbara

(yn bygwth gadael) Ga i e wedyn.

Gerallt

O ie -

Jane

O dere Babs, aros.

Barbara

Na, mae'n iawn.

Gerallt

Cym on, es.

Jane

Barbara...

Barbara

Mewn munud, OK. Dw i jyst ishie... (mae'n mynd allan tuag at y tŷ.)

Jane

Pfff.

Gerallt

Bydd hi'n iawn nawr. Dowch te, bois.



Mae JANE yn agor y botel. Bloeddiadau, ychydig yn wantan.

Jane

Dere 'te, Anj; ti odd moyn e gynta'.

Angharad

Ody fe'n OK?

Gerallt

Bydd rhaid ti dreial e!

Jane

So ni'n gwbod!

Peter

Dylai fod yn iawn.

Angharad

OK, OK...



Mae hi'n yfed; yna'n dal ei llaw dros ei cheg am foment. Saib.

Jane

Wel?

Angharad

Ma fe'n lyfli.

Gerallt

Ha ha!

Jane

Dere â bach i fi 'de.

Angharad

Ma fe'n rîli neis.

Jane

Mmmm.

Gerallt

Ddim gormod ar 'tro, nawr.

Angharad

Dw i 'm yn lico siampên fel arfer -

Peter

Ga i drïo hefyd?

Jane

Ie, Pete bach, go on -

Gerallt

A i gynta'.

Peter

Mae'n iawn, ie.

Gerallt

Duw, ffein 'fyd.

Angharad

Whare teg i mamgu.

Gerallt

Ie wir.

Peter

Mae e di - last. It's lasted well.

Jane

It has.



Ymddengys EILIR wrth y drws. Yn raddol, mae'r lleill yn sylwi ei fod yno.

Eilir

Shwmai bois.

Jane

O. Helo; on i 'm yn -

Gerallt

- Be' ti'n neud ma, de? -

Jane

- disgwyl dy weld ti heddi.

Eilir

On i'n meddwl... well i fi ddod lan i ddymyno'n dda i chi. 'Na i gyd.

Jane

O. OK. Whare teg i ti 'fyd.

Eilir

Ŷn ni 'di bod yn gymdogion am flynydde.

Jane

Do.

Eilir

Chi'n - y clirio'r seler, ych chi?

Jane

Ha. Ie, odyn.

Gerallt

Odyn, odyn; ma' cwpwl o bethe 'da fi i ôl, a gweud y gwir -

Eilir

Ôs e?

Gerallt

Ôs - (mae'n mynd allan yn eithaf brysiog)

Jane

Ger, paid nawr -

Llais Gerallt

Mae'n olreit -

Angharad

Af i ar 'i ôl e -

Jane

Na, arhosa di fan 'yn -

Angharad

Na, na -

Jane

Mi a i -

Angharad

Mae'n iawn -



Mae JANE ac ANGHARAD wedi mynd. Mae EILIR a PETER yn syllu ar ei gilydd am foment.

Peter

(gan gynnig) Er - Champagne?

Eilir

Na, mae'n iawn, boi - emm - well i fi beido. I've got the four by four, lan ar bwys yr hewl. (Saib fer.) OK. Falle 'se fe'n well i fi -

Peter

Fi a Angharad yn aros yn lleol. For a while.

Eilir

Iawn. Neis.

Peter

Byddwn ni'n OK.

Eilir

Siŵr y byddwch chi.

Peter

Mae 'da fi project.

Eilir

Ôs e? O, gwd.

Peter

Soil conservation ar gyfer manned space missions.

Eilir

Duw, duw. (Saib. Nid yw PETER yn ymhelaethu.) Gwd 'de. (Saib.) Ble ma' Ger yn mynd, 'de? Wyt ti'n gwbod - beth yw 'i blans e?

Peter

Na. Dyw e ddim yn dweud.

Eilir

O, na, na. (Saib.) Ym, - ody Maria 'ma o hyd, ti'n gwbod?

Peter

Ie. Mae hi yn y tŷ.

Eilir

O, gwd. Reit. Ym - falle bydde fe'n well i fi beido -

Peter

- ti ishio i fi fynd nôl hi i chi? (Mae'r mymryn lleiaf o wên wawdlyd ar ei wyneb.)

Eilir

Na, mae'n iawn.

Peter

Ti ddim eisiau bump into someone, yeh?

Eilir

(wedi saib fer) Drycha, boi. Wyt ti a fi wedi deall 'yn gily' 'n weddol hyd yn hyn. 'Se fe'n dr'eni tasen ni'n mynd i gwmpo mâs heddi, on' bydde fe? (Saib.)

Peter

Ti ishio gadael neges? I Maria?

Eilir

Na, mae'n OK - ody ddi'n aros ambiti'r lle, ti'n gwbod? Is she staying locally?

Peter

Ti ishie mynd ar date gyda hi?

Eilir

Nadw, diawl eriôd! Ishie gwbod 'dw i a o's whant gweitho lan 'ma arni ddi. Ma honna'n ben weithwreg o be' dw i'n glywed.

Peter

Fallai bydd Angharad yn gwybod.

Eilir

OK, gwd. Iawn, de. Mi â i.

Peter

Alla i - ym -dweud rhywbeth i ti? Nawr bo ti'n mynd i fod yn larger-scale commercial grower fan hyn?

Eilir

Go on 'te.

Peter

Paid â gneud llanast o water courses fan 'ma gyda fertilizers. Gerallt yn roi gormod o nitrate ar y tir. Rhaid ti gneud soil analysis gyntaf, a cadw check ar nitrogen a phosphorus levels.

Eilir

(gyda gwên fach) OK, 'de. 'Na i watsho mâs.

Peter

Mae pridd yn bwysig, a llawer o ffermwr yn neud pethau wael. They don't mean to, ond ddim yn meddwl long-term.

Eilir

All under control, gwboi.



Saib. Daw JANE yn ôl i fewn.

Jane

Ie, wel. On ni'n jyst yn gweud gwbei wrth y lle a gweud y gwir. (Saib.)

Peter

Chi ishio bach o amser private?

Jane

Na, na, mae'n iawn -

Eilir

- popeth yn iawn, achan, na, na -

Peter

Ym - ie, OK. I'll go and - chwilio am Angharad. (Allan.)

Eilir

Popeth yn iawn, 'de?

Jane

Odyn. Dw i'n hedfan bore 'fory nawr.

Eilir

O reit?

Jane

Overnight ar bwys Heathrow, a wedyn... Lando dydd Iou. Ti'n colli dwrnod cyfan yn yr awyr.

Eilir

Fydd e 'na i gwrdd â ti?

Jane

Na. Dyw e 'm yn ddigon da. So fe'n ca'l dreifo.

Eilir

Fffffwwfff. Druan ag e - druan â ti.

Jane

Mae'n iawn. 'Ma beth dw i moyn.

Eilir

Gwd, gwd.

Jane

Allen i 'm fod wedi dod i ben â 'i onibai bo ti 'di -

Eilir

- Hisht nawr, sdim ishie gweud gair -

Jane

- ddylsen i fod yn talu nôl i ti -

Eilir

- nag wt, diawl, so ti'n neud 'ny, nag wt -

Jane

- ma fe'n lot o arian. Fyse Dat yn mynd off i ben tase fe'n gwbod bo ni'n -

Eilir

Ie, ond, drycha, ma pethe wedi newid ers 'i amser e. (Saib.) Sdim tamed o ots be' fyse fe 'di neud, na be' fyse fe'n gweud. Fe gethon nhw i gyd 'u cyfle, a fe nethon nhw beth o'n nhw moyn. Ac os na nethon nhw, wel, 'u busnes nhw odd hynny. Sdim ishie i ni gario'r baich.

Jane

Falle nag o's e. Ond dyw hi 'm cweit mor rhwydd â hynny chwaith, ody 'ddi? (Saib. Chwerthinad fach.) Iysu Eilir, ti 'di dod yn bell o ga'l lifft ar gefen y beic 'da fi lan ffor' 'yn -

Eilir

- ti'n gofio 'ny?

Jane

Wdw; o ti 'di cwmpo a ca'l y black eye ryfedda' -

Eilir

- do! -

Jane

- a fytest ti lond lle o fisgits 'da ni -

Eilir

- do fe? -

Jane

- do; a gafel rownd 'y nghanol i'n ôl' ffast ar y ffordd nôl -

Eilir

- dw i'n cofio 'ny.

Jane

Siŵr bo' ti'r diawl bach.

Eilir

Ha. (Saib.)

Jane

Os gobeth i ti a Barbara neud rwbeth â'ch gily' 'to?

Eilir

O, sa i'n gwbod 'neu.

Jane

Na'r gofid mwya' sy' 'da fi o fynd o 'ma.

Eilir

'Na i - 'na i dreial siarad â hi cyn bod hi'n mynd off 'de.



Clywir sŵn car yn arafu ac tynnu mewn y tu allan.

Jane

(gan edrych allan drwy'r drws) Pwy sy' 'ma nawr 'de? O, be-ti'n-galw, mab Falmai.

Eilir

Gordon.

Jane

Pethe 'da Ger iddo fe, glei. Finne'n meddwl bod y tacsi 'di dod yn gynnar. (Yn galw) Ma nhw miwn fan 'yn, Gordon! (Saib.) O. (Galw.) Ti'n olreit?

Llais Gordon

Damn right wdw!

Jane

Ti 'di dod i bigo'r bocsys 'ma lan?

Gordon

(Mae GORDON yn ymddangos wrth y drws.) Ie. Falle. Sa i 'm 'bod. Dunno. (Mae e'n chwerthin.)

Eilir

Shwmai, Gord. Ti'n OK?

Gordon

Iep!

Eilir

Beth sy' mla'n 'de?

Gordon

Stopes i'n y siop gynne, 'nd do fe, i ga'l Twix, a Marlboro Lights i mam; a brynes i hwn...

Jane

Beth yw e 'da ti?

Eilir

Scratch card.

Gordon

Iyp.

Eilir

Iysu, enillest ti?

Gordon

One hundred thousand pounds.

Eilir

Naddo! Ga' weld!

Jane

Wir? Sa i'n deall y pethe 'ma.

Gordon

Hei hei hei, dim twtsh!

Eilir

Wow. Ti wedi 'fyd.

Jane

Lwcus!

Eilir

Blydi hel, Gordon, 'na ddiwedd ar gario'r bocsys i ti, boi!

Gordon

'Na i nhw wedyn, ar ôl mynd nôl getre.

Jane

Fydd neb 'ma wedyn, Gordon; ŷn ni'n mynd.

Gordon

Chi'n mynd?

Jane

Ni'n gadel.

Gordon

O.

Eilir

O't ti 'm yn gweld hi bach yn wag miwn fan 'yn 'de?

Gordon

O. Wel, ie, spôs. (Saib fer.) Ody Maria'n gadel?

Jane

Ma hi'n benu 'da ni heddi, ody.

Gordon

Ody ddi 'ma?

Jane

Yn tŷ o'dd hi.

Gordon

Alla i fynd i draw i weld?

Jane

Nawr?

Gordon

Ie.

Jane

Go on, 'de. Ond ma tacsi'n myn â ni cyn bo hir!

Gordon

(yn mynd allan trwy'r drws sy'n arwain tuag at y tŷ.) Maria! Oi! Maria!

Jane

(Saib.) A ma' Garry'n dod i 'phigo hi lan am unarddeg.

Eilir

O, bachan. Ma' 'na fusnes fan 'na 'de.

Jane

Gnethen fel ma' nhw moyn. Dyw e 'm byd i neud 'da fi.

Eilir

Na' 'dy ragor. Ma' 'da ti ddigon i fecso amdano.

Jane

Drycha nawr, Eilir, son nhw'n gwbod. Bo fi 'm yn dod nôl.

Eilir

Son nhw'n gwbod -

Jane

So paid â gweud dim.

Eilir

Weda i 'm byd.

Jane

Allen i byth â meddwl dod nôl a bod y lle 'ma ddim 'da ni.

Eilir

Na, wel. Na, na alla i deall 'ny. (Saib.) Be' ti 'di weud wrthyn nhw 'de?

Jane

Y bydda i nôl 'mhen cwpwl o fishodd. Sdim lot o ots 'da Barbara, ma' hi'n mynd off ta beth. Ond ma' Anji; a Ger, sa i'n gwbod be' neith e'.

Eilir

Lle ma fe'n mynd?

Jane

Ma fe 'di ca'l ryw fflat yn dre', a ma' job 'dag e ar yr Industrial Estate. Pethe bach s'ag e fan hyn a fan draw, dw i'n credu, a dim un o'nyn nhw'n talu. Dyw e 'm lico gweud. Ti'n gwbod shw' ma fe.



Daw BARBARA i fewn.

Barbara

Mam, beth o't ti'n gadel y crwt 'na miwn i'r tŷ? O - (yn gweld EILIR.)

Eilir

Well i fi -

Jane

Na, 'rhosa di. Dw i'n mynd i ga'l gweld be' sy'n digwydd.



Allan yn gyflym. Wrth ei bod hi'n gadael, daw GERALLT i fewn trwy'r drws arall.

Jane

Ger, der' 'da fi; dere 'da fi nawr!

Gerallt

Be' sy' mla'n -?



Mae JANE yn amneidio'n wyllt ato. Mae'n rhythu ati, yna'n gweld bod BARBARA ac EILIR yno. Mae'n deall y sefyllfa o'r diwedd, ac yn dilyn JANE.

Eilir

Ie, wir.

Barbara

Dw i'n dala bus yn Caerfyrddin. Ma' nhw'n 'y ngadel i bant fan 'ny.

Eilir

Ble ei di wedyn 'de?

Barbara

O's ots?

Eilir

Wel,... tr'eni dy weld ti'n -

Barbara

- o, paid â -

Eilir

- goffod, wel na -

Barbara

- paid â neud hyn, Eilir -

Eilir

- bo' ti'n goffod mynd bant -

Barbara

- plîs -

Eilir

- wel, ie, na, ti'n iawn -

Barbara

- onibai fod ti'n -

Eilir

Na, na, na, ti'n iawn. (Saib.) Fyddwn ni' m yn neud dim byd lan 'ma tan fydd hi'n wanwyn o leia'.

Barbara

Na.

Eilir

Falle newn ni bach o waith ar y sieds, ond dim byd mwy na 'ny.

Barbara

Na.

Eilir

'Redig a bach o slurry. (Saib.)

Barbara

Ie.

Eilir

O 'm ishie i ti fod wedi cl'au'r llawr. Ti 'di neud jobyn fan hyn. (Saib.)

Barbara

Pam?

Eilir

Hm?

Barbara

Pam o' na 'm rhaid i fi fod wedi'i neud e?

Eilir

Wel -

Barbara

Pam?

Eilir

Fydda i'n ail-neud tu fiwn i hwn i gyd. (Saib.) Gweud y gwir, ŷn ni'n mynd i dynnu'r lle 'ma lawr i gyd. Neith e fwy o sens fel lle parco.

Barbara

Diolch am weud 'tha i. Diolch am weud y gwir 'tha i. (Saib. Mae hi'n codi'r Hoover.) Â i nôl â hwn i'r tŷ. (Mae hi'n dechrau mynd am allan.)

Eilir

Sori. Am, ti'n gwbod... wel, pethe.



Mae'n hi'n aros, ac yn syllu tuag ato.

Eilir

Ie.



Mae EILIR yn mynd allan. Mae BARBARA yn araf suddo i'w chwrcwd, yn dal i afael ar yr Hoover. Mae'n hi'n crïo. Ar ôl peth amser, daw JANE yn ôl i fewn.

Jane

O, Babs, 'y mach i... (mae hi'n ceisio'i chysuro) Dere cariad...

Barbara

O'n i jyst ishie perthyn -

Jane

- ie, ie -

Barbara

- o 'm ots 'da fi amdano fe -

Jane

- 'na ti -

Barbara

- o'n i jyst ishie perthyn!



Daw GERALLT ac ANGHARAD i fewn, PETER yn dilyn.

Gerallt

Be' sy mla'n? O.

Angharad

O, Babs -

Jane

Mae'n iawn. Fydd hi'n iawn nawr.

Angharad

Allwch chi 'm gadel a hithe fel hyn.

Barbara

Mae'n iawn -

Gerallt

- ŷn ni gyd yn 'deimlo fe -

Barbara

- fydda i'n iawn nawr.

Jane

Bydd e 'ma nawr.

Gerallt

Cymer dy amser, bach.

Barbara

Na, dw i'n iawn. Dw i'n OK.

Jane

Ti'n siŵr?

Barbara

Wdw. Peidwch â ffysan.



Daw MARIA a GORDON i fewn; mae golwg hapus iawn ar wyneb GORDON.

Maria

I lock the house for you. Here is the key.

Angharad

Thanks Maria. Dropwn ni fe off ar y ffordd.

Maria

I'm going now. Bye.

Jane

I thought you were waiting for - um -

Maria

No, it's OK, he's not coming. I text him.

Jane

Oh; olreit de.

Gerallt

Fel 'na mae 'i deall hi!

Gordon

Iyp. O ie.

Jane

Oh, Maria, Mr Lewis was looking for you.

Maria

Mr Lewis?

Gerallt

Eilir.

Maria

Oh, OK.

Angharad

He's probably still out there.

Maria

It's OK, I have his number.

Gordon

Come on, let's go. (am y bocsys) Dda i nôl i ôl rhein wthnos nesa', OK, Ger?

Gerallt

Iawn...

Maria

Thanks: bye!

Angharad

Bye, Maria!

Jane

Ta-ra, bach!

Barbara

Bye.



Aiff MARIA a GORDON allan.

Gerallt

Blydi hel.

Jane

Gad nhw fod, Ger bach, gei di 'm byd amdanyn nhw.

Barbara

Ma'r sell-by date arnyn nhw jyst â bod lan ta beth.

Jane

Ody fe?

Barbara

Ody.

Gerallt

Ddim 'na'r point.

Jane

'Nghofia nhw. Geith e wared o'nyn nhw.



Sŵn ceir y tu allan. Wrth fod MARIA a GORDON yn gadael, mae'r tacsi wedi cyrraedd.

Angharad

Ma fe 'ma.

Jane

Reit 'de.

Angharad

Watshwch mâs nawr!

Barbara

Pete, ma' bagie Mam ar y chwith; ma' tags arnyn nhw

Peter

These ones?

Barbara

Ie.

Jane

Ody popeth 'da ti?

Angharad

Ma'r Gordon na'n real glown.

Barbara

Dw i'n iawn, mam.

Jane

Nage, Gerallt. Ody popeth 'da ti?

Gerallt

Ma' mhethe i lawr 'da Alun yn barod.

Jane

O, ie. Sdim ishie i chi fynd â'r rheina i gyd ych hunen!



Mae PETER, ANGHARAD a BARBARA yn cario'r bagiau allan.

Peter

Mae'n OK.



Dim ond GERALLT a JANE sydd ar ôl.

Jane

Ma'n nhw 'di mynd â'r cwbl.

Gerallt

Do. (Saib.)

Jane

Co ni 'de.

Gerallt

Ie.

Jane

Ma'r allwedd 'da ti.

Gerallt

Ody.

Jane

Alla i weld e a Mam wrthi o hyd miwn fan hyn o hyd.

Gerallt

Sdim iws meddwl. Cym on.

Jane

O Ger - (mae'n hi'n crïo)

Gerallt

Isht nawr. Dere. 'Nghawlach i yw e i gyd. (mae dagrau yn ei lygaid yntau)



Maent yn cofleidio'i gilydd am foment. Yna mae GERALLT yn torri i ffwrdd. Iawn. Pffffwwww. Ma pethe 'da ni i neud. Bryd i ni glatsho bant â 'i! Dere.

Jane

Ie.



Ânt allan. Clywir sŵn yr allwedd yn troi yn y drws. Sŵn siarad, ffarwelio, ac wedyn, ymhen munud, y tacsi'n gadael. Saib fer. Yn sydyn, mae'r drws nesaf at y tŷ yn agor. Daw JIM i fewn.

Jim

Ie, diawch, na ni 'fyd. Ma' nhw 'di benu fan 'yn 'de. Â i ar 'u ôl nhw nawr, Meg! Ie, ie (chwerthin.) A wedyn, ma hi'n galw nôl ata i, 'Wel y diawl dwl â ti, werthon ni nhw wthnos dwetha'!' Do (chwerthin). A 'na ni. Ca'l nhw miwn, a hala nhw mâs. Na i gyd o'dd hi. (Mae'n mwmial rhywbeth iddo 'i hun na ellir ei ddeall.) Sa i'n gwbod: ddim yr un smell, yw e? Y gwair a'r dom a'r... (Saib. Wedyn yn fwy dig, at ei hun.) Paid â bod yn dwp achan, gâd hi! Gâd hi nawr! (Mae'n mofyn un o'r lleiniau llwch oddi ar y silffoedd ac yn mynd i led orwedd.) Hen ffŵl dwl fuest ti 'riôd. (Mae'n taenu'r lliain drosto.) Dere o 'na nawr... (Ac yn taflu'r lliain dros ei ben i orchuddio'i hun.)



Saib eto. Yn y tawelwch, fe ddaw sŵn o'r pellter; fel sŵn llinyn yn torri. Mae'r atsain yn raddol ddistewi.

a1a1, g1a2a3a4