a1a1, g1a2a3a4

Parc-Glas (2015)

Anton Tsiechoff [Антон Чехов]
add. Roger Owen

Ⓗ 2015 Roger Owen
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 2


ACT DAU
Cae gwair wedi'i glirio. Bêls gwair ar wasgar. Noswaith braf yn hwyr ym mis Mehefin. Mae GORDON yn pwyso yn erbyn un o'r bêls ac yn chwarae gitâr tra bod MARIA ar y ffôn yn tecstio.

Gordon

You should teach me some Polish songs.

Maria

Why?

Gordon

Well, I dunno; I thought it might be nice.

Maria

Nice, why is this nice?

Gordon

(Saib.) I - just thought you'd like to. That's all. You know, it's just - good to share. Isn't it?

Maria

Poland is shit hole.

Gordon

O. (Saib.) Oh well -

Maria

And I am never going back.

Gordon

You don't miss it, then?

Maria

I miss some things.

Gordon

Like what, then?

Maria

My family. Some of my family. Some of them are here, live in UK; but not so close.

Gordon

Anything else?

Maria

The Polish food. Everything here is like always with chips, and chips and chips. Even when you live on farm, you are always eat the things from freezer, from supermarket. Why you don't like your own food?

Gordon

That's what Barbara round here keeps saying. To anyone who'll listen.

Maria

It's true, she is right.

Gordon

(Saib.) So you like it here then?

Maria

Yes, it's OK.

Gordon

Pretty, isn't it? The land round here.

Maria

Yes, it's pretty, yes, but you don't get money here. More than in Poland, but not enough.

Gordon

Is that why you came?

Maria

Yes; no job in Poland. And when I come I see little box in paper which say about job in shop here. So I come and I work for a few days and Gerallt say I stay on, so I stay on. And I work on my English and in shop.

Gordon

But why here then?

Maria

Accident. I get off train and think, this is far enough. Then look at paper.

Gordon

So you don't know anybody around here then?

Maria

Nobody. I don't know nobody. But it's OK.

Gordon

All right then. You got a - boyfriend, back in Poland?

Maria

(Saib. Mae hi'n edrych arno.) No. I have one before. But then, he die.

Gordon

Oh no, shit; sorry, I didn't mean to -

Maria

No. It's OK. I have enough of him, Gordon; so I kill him. And then I leave Poland and come here. (Saib.) I kill him with gun. He die.

Gordon

Seriously?

Maria

You don't believe? Look at my eyes. You think I don't kill?

Gordon

(Mae GORDON yn syllu i fyw ei llygaid hi. Saib.) Oh... my God.

Maria

What you think?

Gordon

This is freaking me out now. I think I'm going to go, OK? (Mae'n dechrau symud i ffwrdd.)

Maria

You think is not true?



Clywir sŵn injan motor beic yn agosáu ac arafu. Tra bod GORDON yn straffaglu i roi ei gitâr i gadw yn ei gasyn, mae'r injan yn diffodd. Clywir llais yn galw rhywbeth o du fewn i'r helmet, ond nid yw'n ddealladwy.

Gary

(wrth dynnu'r helmet o'i ben) Olreit, de? Gordo! Be' ti'n neud fan 'yn, boi?

Gordon

Dim byd.

Gary

(am y gitâr) Ti 'di bod yn whare hwnna, wyt ti? Y ffycin' banjo 'na sy 'da ti. Be' ot ti'n neud 'de? Whare love songs, rhwbeth i ga'l codi bach o fynd ar hon, ife? Y'all right, Maria!

Maria

Ti'n nabod hi?

Gary

Iysu, odw. Ma' hon yn rial haden, achan.

Gordon

You know Garry?

Maria

A bit, yes.

Gordon

I thought you didn't know anyone?

Gary

(Mae GARRY'n chwerthin yn uchel.) Ffycin classic, mun!

Maria

Gordon: remember, I kill my boyfriends!

Gary

Nice one. Wedes i fod hi'n haden, 'twel, 'ndo fe? Coming for a spin?

Maria

You have helmet?

Gary

Oooh yess. Paid ti becso fel 'ny gw' girl.

Maria

OK then I come. Bye Gordon!

Gary

Dda i nôl â hi miwn un pishyn iti, Gordo. Ha, ha! Neu falle ddou!



Mae'n nhw'n ymadael, ac ymhen ychydig eiliadau clywir sŵn y beic yn tanio ac yn symud i ffwrdd. Saib.

Gordon

Bolycs!



Mae'n dechrau cicio'r belen wair. Heb yn wybod iddo, mae EILIR wedi bod yn ei wylio.

Llais Eilir

(oddiar y llwyfan) Oi, nawr 'de; be' sy' mlân 'da ti, 'de? Bydd rhaid i rywun ddod i bago rheina lan 'fory. Sa i'n credu bydd y perchen yn rhy chuffed i weld 'i fêls e 'di striwo dros y lle i gyd.

Gordon

O. Na. Helo. Na. Sori.

Eilir

(yn ymddangos) Beth o'n bod 'da ti 'de?

Gordon

Dim byd.

Eilir

Ie, glei.

Gordon

Sdim ots.

Eilir

(wedi saib) Sa i'n credu ddeith ryw lawer o'r ddou 'na gyda'i gilydd. Ma fe'n rhy ddwl; a dw i'n credu y deith honna i ben â'i handlo fe'n iawn. O gwneith. (Saib.) Ond, 'na ni. Ti 'di gweld unrhyw un ohonyn nhw biti'r lle 'ma heno?

Gordon

Ath Gerallt a - beth yw enw hi? -

Eilir

Pwy? -

Gordon

- yr un 'na sy wedi dod nôl -

Eilir

Jane; 'i whâr e -

Gordon

- Ie. O, 'na pwy yw hi? Waw. On ni 'm yn gwbod.

Eilir

Ishie i ti gadw 'lan, boi.

Gordon

Jane, OK; anyway, ath hi a Gerallt lawr ffor' 'na biti hanner awr nôl. Weles i nhw'n cerdded heibo.

Eilir

O, reit. Wedon nhw pryd fydden nhw nôl lan?

Gordon

Na. Wedodd Gerallt wrth Maria i fynd getre.

Eilir

Na fe 'de. Falle a 'i draw i'r tŷ i weld os ôs unrhyw un 'na, 'de.



(Saib. Mae EILIR yn dechrau mynd ar ei ffordd i gyfeiriad y tŷ.)

Gordon

Mae Barbara draw 'na.

Eilir

O ie? (Saib.) Falle 'na i aros fan hyn 'de.

Gordon

On i'n meddwl bod -

Eilir

- ie, o't glei -

Gordon

Chi 'm yn...?

Eilir

Rhyw siort. Odyn. (Saib.) Odi fe'n fusnes i ti, 'de?

Gordon

Well i fi fynd.

Eilir

Ie; weden i.



Mae GORDON yn straffaglu i ymadael. Allan. Mae EILIR yn canu i'w hunan ('Yr Arad Goch', efallai). Tra'i fod wrthi, clywir lleisiau JANE a GERALLT ymhellach i ffwrdd.

Eilir

(yn galw arnyn nhw) Oi oi!



Saib. Mae ateb yn dod yn nid yw'r gynulleidfa'n ei glywed.

Eilir

Shw' mae heno 'de? (Ateb.) (Am y bêls) Y bois wedi bod heibo 'da chi, 'de? (Clywir mwmian ateb o bell.) Buon nhw 'm yn hir wrthi.

Llais Gerallt

Naddo, diawl, miwn a mâs.

Eilir

Ffordd ore o'i 'neud hi.

Llais Gerallt

Ie, siawns.

Eilir

Weithith hi second cut i chi? Y? Eith hi'n second cut 'da chi cyn benith hi?

Llais Gerallt

(GERALLT a JANE yn ymddangos yn ystod hyn) Gronda ar hwn, second cut, wir. Geith e fod; ga'n nhw bori fe. 'R ôl i ti dalu am y compownd sdim diawl o ddim ar ôl 'da ti.

Jane

Elli di brynu peth miwn os ôs rhaid. (Saib fer.) 'N gelli di?

Gerallt

(Saib fer.) Galla.

Eilir

Iawn 'de, gwd. Chi'n - chi'n deall pam 'dw i 'ma, glei?

Gerallt

Os mai ar dy ffordd i'r YFC wyt ti, boi, ti biti bymtheg mlyne'n rhy hwyr. (Chwerthin.)

Eilir

Meddwl mynd i ga'l - y - gair â'r banc o'n i. Ambiti'r plan 'na nes i son amdano fe. Y dydd o'r blân?

Gerallt

Ie, ie.

Eilir

Yn y siop 'da chi.

Jane

Dw i'n cofio. (Saib.)

Eilir

Beth amdani 'ddi 'de? Chi 'di ca'l chat am bethe?

Jane

Naddo. I weud y gwir wrthot ti.

Eilir

So chi 'di gweld y pethe 'na 'nes i roi at 'i gily'? Y papure 'na, 'da'r -

Gerallt

Naddo fi.

Eilir

Nath 'im Barbara ddangos nhw i chi?

Gerallt

Odd rhwbeth 'da hi 'fyd; ond es i 'm i ddrychyd ar hwnnw, naddo... Odd y contractors yn dod.

Jane

Beth odd 'da ti, 'de?

Eilir

Wel. Fel business plan odd e; o'n i 'di gweitho mâs coste polytunnels a phethe, a meddwl shwt allen ni dreial ca'l bach o siâp ar bethe lan 'ma.

Gerallt

O ie; a beth o' 'da ti mewn golwg, 'de?

Eilir

Wel, fyse fe'n well i chi ddarllen y peth ro's i at ei gilydd.

Gerallt

Na, dere, 'chan; man a man i ti weud e nawr.

Eilir

OK 'de. Wel, ma rhaid i ni - fydde fe'n help i chi a help i fi tasen ni'n neud hwn fel dou bartner. Os godwn ni mwy a mwy ohonyn nhw bydd rhaid ni ga'l planning, a ma fe 'bach yn gomplicated wedyn a odi fe'n cownto fel change of use. Ond os newn ni fe lan 'da chi, ffor' hyn, ni'n fwy tebyg o ga'l e, achos ma fe'n bart o'r siop a'r busnes sy' 'da chi. 'Mystyn be' sy' 'da chi ych chi fydde fe wedyn, a ddim change of use. A chi'n agosach at yr hewl 'fyd.

Jane

O. Wel, 'na fe te.

Gerallt

A ble ti'n mynd roi'r pethe 'ma. Y tunnels 'ma?

Eilir

Wel, ma gwd access 'da chi lan fan hyn, yn y caea' rownd cefen tŷ. Fydde 'm ishie mynd i osod llwybyr ffor' 'ny a tarmaco.

Gerallt

Tu ôl y tŷ?

Jane

Yn Parc yr Onnen?

Eilir

Hwnnw s'da chi gythyreb â'r iet hir 'na?

Gerallt

Yr un bren? -

Jane

- un bren sy' ar dop yr Onnen.

Eilir

Nage, y llall 'de.

Gerallt

Y Rhos? O, Duw. Ma' gwd gwair yn dod yn honno.

Jane

Os.

Gerallt

Dat yn arfer gweud mai hwnnw odd yr un gore odd i ga'l.

Eilir

Ie, ond faint gewch chi am hwnnw yn 'diwedd?



Daw ANGHARAD a PETER i fewn; hwythau wedi bod yn cerdded y caeau.

Angharad

Helo, Eilir.

Eilir

Shwmai bach.

Peter

Shwmae.

Eilir

All right, Pete.

Angharad

Beth sy' 'mlân?

Jane

O, siarad am y pethe ŷn ni.

Gerallt

Ie. (Saib.) Cer mla'n, 'de.

Eilir

Gweud o'n i na chewch chi'm llawer o werth am y gwair 'na yn y parc top 'da chi -

Jane

- Y Rhos -

Eilir

- ie, na fe, hyd yn ôd os ych chi'n bwydo'r bîff 'na sy' 'da chi ag e. Man a man ych chi iwso'r tir 'na am rwbeth arall.

Peter

Mae beef - beef production - yn creu llawer iawn o methane.

Eilir

Ody. Ma hynny 'fyd.

Gerallt

(wrth PETER) O, paid ti â dechre pitsho miwn.

Peter

Bob buwch, tri chant liter bob dydd.

Gerallt

O blydi hel -

Jane

Sawl un o'r rhein wyt ti'n meddwl godi, 'te, Eilir?

Eilir

Wel, 'na beth sy' ishie i ni ga'l siarad amdano fe. Ond yn 'diwedd, a bod 'na farced am y stwff, allen nhw gyfro'r parc cyfan.



(Saib.)

Gerallt

Ma hwn yn mynd i gosti.

Eilir

Wrth gwrs 'i fod e, odi, yn dechre, 'nd yw e. Ond 'na pam fydde fe'n neud sens i'r ddou ohonon ni neud e 'da'n gily'. Safien ni arian wrth 'i neud e lan fan hyn, a gallen i roi bach o gapital ato fe ar y start i ga'l dechre pethe bant. A fysen ni'n rhannu'r profits, wedyn, a phethe.

Jane

Neu'r coste.

Gerallt

Neu'r golled. (Saib.) Wel 'na fe 'de.

Eilir

Beth ych chi'n feddwl? Chi'n pallu gweud 'tha i!

Gerallt

Ma fe'n swno fel bach o risg i fi.

Eilir

Ie, ond yffarn dân, Gerallt, ma' ishie i chi neud rwbeth - a blydi gloi 'fyd! - neu fe eith y banc â'r lle wrthoch chi!

Gerallt

Wel, ethen ag e 'de! Os mae 'na beth ma'r diawled eisie!



(Saib.)

Eilir

Sdim rhaid iddyn nhw ga'l cyfle i neud. 'Na i gyd dw i'n weud.

Jane

Bois, dw i'n credu bod chi'i gyd wedi gweud digon am un nosweth.



(Saib.)

Eilir

Well i fi fynd 'de. (Saib.) 'Mond paso on i'n neud. Hwyl bois.

Jane

Hwyl i ti Eilir.

Angharad

Ta ra.

Peter

Hwyl fawr, Eilir.



(Mae e wedi mynd.)

Gerallt

Y blydi Barbara 'na'n agor 'i phen yw hyn i gyd.

Angharad

Ma 'dag e boint, 'ddo, Wncwl Ger. 'Ma ishie i chi neud rhwbeth.

Gerallt

Ni yn neud rhwbeth! Ni wrthi drw'r dydd bob dydd!

Angharad

Ie, ond 'dyw e ddim yn gweitho.

Gerallt

Ma fe yn gweitho; amser y flwyddyn yw hi. 'S gewn ni gwd haf, fydd visitors yn dod rownd a gewn ni'r siop miwn i brofit; werthwn gwpwl o'r cr'aduried 'sda ni 'mlân biti November ffor' 'na, a byddwn ni'n iawn. Ddewn ni drw' gaea' dim problem a wedyn allwn ni bwsho pethe mlân flwyddyn nesa'.

Angharad

Wedoch chi 'na llyne'.

Gerallt

Do, ond pwy sort o haf gethon ni flwyddyn dwetha', gwed? Odd y tywy'n yffyrnol!

Jane

Elli di ddim bod ar ofyn y tywy' drw'r amser -

Angharad

- Ond be' chi'n mynd i neud leni?

Gerallt

Ma 'da fi gwpwl o seins newy' i roi lan ar ben 'r hewl. 'Rhen rai 'di ffado beth, on'd ŷn nhw. A ma rhein yn fwy o seis. Rodwn ni un lawr biti'r gornel ffor' 'na, a'r llall lan 'bwys iet Pen Dole, bydd hynny'n dipyn o help. 'Sdim ishie mynd i godi 'en dai glás dros y lle fel ma fe'n gweud. A sa i'n rhoi nhw ar y Rhos, 'de, Iysu bach, no way.



(Saib.)

Jane

Be' wyt ti Pete yn weud 'de?

Angharad

Mam, 'sdim ishie roi Pete ar y sbot fel'na -

Jane

- Ti'n gwbod am y pethe 'ma, ndwyt ti, Pete?

Gerallt

Ie, dere â 'dy Environmental be'-ti'n-galw i ni.

Jane

Be' wyt ti'n weud y dylen ni neud?

Peter

(Saib fer.) Wel, mae cnychu anifeiliaid yn beth wael -

Gerallt

Ha, ha, ha, ffycin hel, odi glei! -

Jane

- O Ger, paid â bod yn blentynnedd -

Gerallt

(yn dal i chwerthin) - sa i'n credu bod hi 'di mynd mor dynn â 'na arnon ni, 'fyd! -

Angharad

- o, come on -

Peter

- what's the matter? -

Angharad

It's OK.

Peter

Why is he laughing?

Jane

It's just - it's 'cynhyrchu': producing. You said something else.

Angharad

It's all right, Pete, ignore him.

Gerallt

Ie, ie, sori boi. O diawl, ma rhaid i chi ga'l laff weithe, 'nd ôs e?

Angharad

Dyw e 'm yn funny, Wncwl Ger.

Jane

Go on Pete. You were saying about farming.

Peter

Yeah: well - raising animals for meat on farms -

Angharad

Say it in Welsh, Pete.

Jane

Yes, go on, Peter -

Peter

- I know, but -

Jane

- don't worry about him.

Gerallt

Ie, der' mlân. Sori boi. Come on, now. We all make mistakes, Pete bach.



(Saib.)

Peter

Mae ffermio anifeiliaid i cig yn beth gwael am y - hinsawdd, oherwydd methane. Os oes llawer iawn o anifeiliaid - cows - mae llawer iawn o methane, ac mae methane yn wael iawn fel greenhouse gas. Ma fe'n peryglus iawn. So, os mae llai o anifeiliaid, llai o bobl yn bwyta cig, mae llai o methane. Ond dyw e ddim mor syml; oherwydd mae - wel lot o resymau, errm: mae llawer o pesticides yn cael eu defnyddio yn ffermio - errm - llysiau, ac mae rheini yn peryglu ecosystem i gyd, y pesticides, achos mae'n lladd bees (beth yw bees?) -

Angharad

- (bees: gwenyn) -

Peter

- mae'n nhw'n lladd y gwenyn, a does dim pollination, a mae lladd y - insects - yn dinistrio y food chain, so dim, dim adar a anifeiliaid gwyllt. So mae systemic collapse. Ac mae GM hefyd. Mae organic i gael ond dyw pobl, lot o pobl, ddim eisiau talu. It's expensive, a does dim digon i roi bwyd i pob un. Mae problem i gael yn popeth, whatever. Mae ffermio yn problem.

Jane

Beth ddylen ni neud, 'te?

Gerallt

Beth fyset ti'n neud ambiti fe 'de? What would you do then?

Peter

Fi? Wel, does dim ateb. Mae jyst carry on, a ceisio gwneud pethau da. Pethau bach, ond yn pethau da. Tyfu bwyd dy hun, a gwneud corbon footprint bach iawn. A just cadw 'mlaen i trïo byw yn syml gyda dim llawer o stuff. Mae pawb yn medru gwneud rhywbeth, microprojects. A just peidio give in. Gweithio, gweithio, gweithio. Never underestimate the power of individual advocacy.



(Saib.)

Gerallt

Ie, ie.

Jane

Hmh.



(Saib.)

Peter

Gobeithio chi'n deall. I hope you -

Jane

O ie, ie -

Gerallt

- na, na, ti'n iawn -

Jane

- ie, ie, paid â becso -

Gerallt

- na, na, ti'n gwella, it's coming on, boi. The Welsh; ma fe'n dod mlân 'da ti.

Peter

Oh, good.

Gerallt

Ie. Ay, ay.



(Saib.)

Jane

It's lovely tonight, isn't it?



Saib eto. Yn y tawelwch, fe ddaw sŵn o'r pellter; fel sŵn llinyn yn torri. Mae'r atsain yn raddol ddistewi. Saib.

Angharad

Beth odd hwnna?

Gerallt

Mm?

Angharad

Y sŵn 'na. Glywoch chi fe?

Gerallt

Pwy sŵn?

Jane

Glywes i rwbeth.

Angharad

Did you hear something? A noise?

Peter

I thought it was a heron.

Jane

No, I don't think so.

Gerallt

O, rhwbeth 'da nhw lawr yn gwaelod ffor' na.

Jane

Hmh. (Saib.) Ych.



(Saib.)

Jane

Well i ni fynd, ife?

Gerallt

Ie, wir. Man a man.

Peter

Who's that walking down there?

Gerallt

Hmm?

Peter

Pwy yw dyn yn cerdded? Yna.

Gerallt

O? Duw, sa i'n gwbod.

Jane

Weden i 'i fod e ar goll.

Angharad

Ma fe'n edrych yn hen.

Gerallt

Diawl, -

Peter

- yeah, he looks lost -

Gerallt

- nage Jim y Graig -

Peter

- mae fe ar goll -

Gerallt

- Jim y Graig yw hwnna! Beth ma fe'n neud lan fan hyn, 'de?

Jane

O, fe? Jim, odd yn arfer -

Gerallt

- Iysu, on i'n meddwl bod e wedi hen fynd i'r home - Jim! (Mae e'n cerdded i ffwrdd tuag at y dyn.) Jim achan!

Angharad

Dda i 'da ti. (Yn mynd allan.)

Llais Gerallt

Jim! Be' chi'n neud lan ffor' hyn?



Clywir sŵn mwmial ateb o'r pellter.

Jane

Odd e'n arfer gweitho lan 'ma. He used to help out up here, years ago. Relief milker.

Peter

Oh.

Llais Gerallt

Na, na, ma'r godro wedi benu, Jim. Mae nhw wedi ca'l mynd o 'ma. (Jim yn mwmial.) Ma'n nhw wedi benu.

Jane

(Saib.) Another ghost from the past...

Llais Gerallt

Ie. Ie, ie. (Clywir mwmial llais JIM.) Nage, Angharad yw hon. Angharad. (Mwmial.) Angharad.

Llais Angharad

Angharad. (Mwmial.)

Llais Gerallt

Dowch lan i'r tŷ 'da ni nawr; i chi ga'l dished. (Mwmial.) Na, na, dowch 'da ni.



Clywir sŵn JIM yn mwmial siarad drwy'r amser. Mae'n nhw'n ymddangos. Mae GERALLT ac ANGHARAD yn tywys JIM yn ofalus. Mae'r tri yn siarad ar draws ei gilydd.

Llais Gerallt

Dished fach dwym, neith hi ddaioni i chi -

Angharad

- dewch ffor' hyn, Jim -

Jim

- a 'ma fe 'di dod i ben â benu, 'de, doth e i ben ag e -

Gerallt

- do, do -

Jim

- gwair ffein dag e iddyn nhw -

Gerallt

- odd, 'na chi -

Jim

(wrth JANE) - a shw' chi heddi, 'de, shw' chi heddi -

Jane

Helo.

Jim

(am PETER) A hwn yw'r mishtir 'da chi, ife?

Peter

Oh -

Jane

- o, na, nage -

Gerallt

- ie, ie, 'na chi -

Angharad

- na, ie, 'na fe, dewch chi ffor' hyn, Jim -

Jim

- Ie, ie, un ar ôl y llall, yndyfe -

Gerallt

- 'na chi -

Jim

- dilyn 'u hôl 'i gily' 'ma nhw -

Gerallt

- odyn, odyn - dere 'da ni, Jane -



Mae'n nhw'n diflannu i'r asgell. Y sgwrs a'r mwmial yn mynd yn ei flaen.

Jane

- o; OK, ie -

Llais Jim

- 'r un channel, bob tro 'da nhw -

Llais Gerallt

- 'nd ôs e 'fyd -

Jane

- cer 'di nôl at Peter, bach -

Llais Angharad

- ife? Chi'n siŵr? -

Jane

- ie, ie -

Llais Gerallt

- Jane! Dere -

Jane

(wrth fynd allan) - ie, ie - (Daw Angharad yn ôl i fewn.)

Angharad

Whiw.

Peter

Ie. Poor old guy.

Angharad

Mam bach yn pissed off bod e ddim yn 'i nabod hi...

Peter

Yeah. Ha. (Saib.) Gobeithio bod nhw ddim yn teimlo'n - errm - angry -

Angharad

- yn grac -

Peter

- 'N grack? -

Angharad

- 'yn grac', ie -

Peter

- wow, great word. Ok, ie, 'yn grac' am beth ddwedais i. Am y ffermio?

Angharad

O, na, sa i'n credu.

Peter

Achos mae rhai pobl yn teimlo'n grac am newid pethau.

Angharad

Jyst dweud o't ti.

Peter

Mae e'n really bwysig, though. Ddim jyst ni yn edrych ar ôl byd natur yw e; ma fe'n edrych arnon ni hefyd? Ni'n rhan o'r system. Ni'n newid y system, a'r system yn newid ni. Mae holl beth yn balance, ti'n gwbod? Ond nid ni sy'n cadw'r balance, rhywbeth arall sy'n cadw'r balance a ni mewn yn - un o'r - cups; yn y scales. Ni mewn yn hwnna, nid yn y canol.

Angharad

OK...

Peter

Ni ddim yn gallu meddwl beth sydd yn y canol. Pawb wastad yn meddwl mae nhw yw y canol, a mae'r byd jyst yn pasio o flaen wyneb chi? Fel mae e ar screen? Everyone just assumes that they're a privileged spectator, looking at the world, and that their point of view is the best one there is. And that's the problem. We're not looking at the world, we never can. We're just in it, looking...

Angharad

Dw i'n deall, dw i'n deall, ie! (mae hi'n chwerthin)

Peter

Mae cymaint i gneud er mwyn newid pobl, a'r ffordd mae pobl yn - behave. A nid jyst pobl, ond ni hefyd, ie. Ond dw i'n dal i credu y gall peth ennill. Ddim rhy hwyr, ddim rhy hwyr; jyst angen gneud lot, lot, lot o waith! Lot o waith drw'r amser!

Angharad

Oes, ti'n iawn!



(Saib.)

Peter

Rhaid i bawb weithio, creu trefn sy'n ffitio'r - enivronment. Mae cymaint o ffordd o feddwl - teulu, gwlad, brand loyalty - mae nhw jyst yn nuts, mae nhw'n broblem enfawr. Rhaid i ni cael syniadau newydd, nid jyst am yr - hinsawdd, am ffermio ac ati; ond am ni'n hunain. Am bywyd, am beth ŷn ni isho - am cariad. Pwy, a beth ŷn ni'n caru: it can't just be a fantasy about finding 'the one' any more. Yn cau ti i ffwrdd o bawb arall. Rhaid iddo fe bod yn fwy, bod yn gwahanol. Cariad at bopeth! Gadael fynd. Let things go: possessions, places, people. A jyst bod.

Angharad

Ma' hynny'n galed i lot o bobol - gadel pethe i fynd; Mam a Wncwl Ger a'r lle 'ma...

Peter

It's not even theirs any more! It's mortgaged! It's crazy!

Angharad

Ie, ond fan hyn 'ma'n nhw'n perthyn. It's in their blood.

Peter

But that's my point! If you just break with all of that stuff, you find the whole world. All you've got to do is lift your head up from that one little, stupid patch of land under your feet! Look. Ahead.

Angharad

(Saib. Chwerthiniad bach.) I like it when you're like this, from the heart.



Saib. Daw BARBARA i fewn, wedi cynhyrfu.

Angharad

O, hiya. On ni ar ein ffordd nawr. Ti'n iawn?

Barbara

Dw i newy' fod yn siarad 'da Eilir. Dda'th e draw i'r tŷ; on i'n jyst yn benu golchi llestri swper.

Angharad

Ie?

Barbara

Ie. (Saib.) Oh my God, Anj -

Angharad

Be' sy'n bod?

Peter

Ym, dw i'n mynd. Draw i'r -



Mae'n symud i ffwrdd. Saib.

Angharad

Be' sy'n bod? Be sy' 'di digwydd?

Barbara

Dw i 'm yn siŵr - my God ma hwn yn - (Saib. Mae hi'n cymryd anadl ddofn, a hanner-chwerthin) - nath e ddechre siarad, a - dw i'n credu, dw i'n credu bod e 'di gofyn i fi briodi fe!

Angharad

Beth? Seriys?

Barbara

Ie.

Angharad

Eilir?

Barbara

Ie!

Angharad

A beth wedest ti?

Barbara

Dw i'n credu wedes i 'ie'.

a1a1, g1a2a3a4