Y TWMPATH—ETO. Golygfa 3 TOMOS BARTLEY ar y fainc grydd; hen esgudiau o'i ddeutu. MISS HUGHES yn eistedd, a BARBARA yn glanhau. |
|
Miss Hughes |
Mae Rhys yn hir iawn yn dwad. |
Tomos |
O, mi ddaw o yn y munud, gellwch fod yn dawel. Mi gawsoch golled fawr wrth golli yr hen 'Sergia Majiar'. |
Miss Hughes |
Do, wir. Barbara Wn i ddim be ddaw o honoch; wyddoch chi, Tomos? Rhaid i mi ymddiried yn Rhagluniaeth. |
Tomos |
Weles i 'rioed ddioni o'r stori ene. Mae Rhagluniaeth yn gyfalu am bawb ofalith am dano'i hun. Roedd yma ddyn yn byw yn y gymdogaeth yma ystalwm,—cyn i chi ddwad yma,—a 'roedd o dipyn o grefyddwr hefyd, y dyn mwya di-sut at fyw welis i 'rioed, a mi fydde fynte'n wastad yn son am i ni myddiried yn Rhagluniaeth. A wyddoch chi lle bu o farw? Yn wyrcws Treffynnon, poor fellow. Wel, dewch i mi fesur y'ch troed chi, Miss Hughes bach, i aros i Rhys ddod. (Yn mesur y troed.) Wel, ma' gynoch chi droed del,—y dela weles i erioed,—ond un. |
Miss Hughes |
Tybed, Tomos Bartley. Troed pwy oedd hwnnw ynte? |
Tomos |
Wyddoch chi ddim, Miss Hughes. |
Miss Hughes |
Na wn i 'n siwr. Sut y gwn i, 'n te? |
Tomos |
Wel, y troed arall sy gynoch chi, tw bi shwar! |
Enter Rnys, i eistedd yn ymyl Tomos. |
|
Tomos |
Wel, y machgen i, ddoist ti? Barbara 'Steddwch, Rhys. |
Miss Hughes |
Na wir, rhaid i ni fynd. Tomos Dewch chi ddim nes y ca i dipyn o ymgom efo Rhys. Eistedd fan yna, Rhys. |
Rhys |
O'r gore, Tomos Bartley. Prysur iawn ydych o hyd, 'rwy'n gweld. |
Tomos |
Ie, tw bi shwar, trwsio 'sgidie rhwfun o hyd. |
Rhys |
Esgidie pwy yw y rhai yna? |
Tomos |
'Sgidie Wil Pont y Pandy, (gellir nodi unrhyw gymeriad lleol)—welest ti fath draed erioed, ma' nhw fel cwarter i dri, da 'i byth o'r fan 'ma! A 'rwyt ti wedi pendrafynu mynd i'r Bala? Wyst tí be, mi fydd yn chwith gynnon am danat ti, yn fydd, Barbara? (BARBARA yn modio)Bydd, tw bi shwar. Fum i 'rioed yn y Bala, a dydw i ddim yn 'nabod neb ono, ond y ddau ddyn sydd yn dwad yma ar y ffeirie i werthu 'sane, a dynion digon clen ydi'r dynion. Mi faswn i yn leicio yn anwedd gweld y Llyn y daru dyn hwnnw gered ar 'i draws pan oedd o wedi rhewi. Tro garw oedd hwnnw. Pan ddalltodd o be oedd o wedi neyd, mi fu farw ar y spot. Mi fydde nhad yn deyd am rwbath reit saff,—"Fod o can sowndied a chloch y Bala". Just cymer notis o honi hi pan ei di ono. Wyst ti be, pan glywn ni am cheap trip, hidie Barbara a finne 'run bluen pwyntydd a dwad i edrach am danat ti, a hidien ni, Barbara? |
Rhys |
Mi leiciwn eich gweld chi yn arw iawn. |
Tomos |
Mi wn o'r gore y leiciet ti'n gweld ni. Oes yno lawer o honyn nhw, dwed, yn y Bala yn dysgu pregethu? |
Rhys |
Nid dysgu pregethu mae nhw yno, Tomos Bartley. |
Tomos |
O wel, wir, dwed di hynny, achos mi glywais i rai o honyn nhw a doeddwn i yn gweld dim byd ynyn nhw,—i nhast i Well gen i William Hughes, Abercwmant, na'r gore o honyn nhw. Ond dydw i ddim llawer o judge, tw bi shwar. Wel, be yn y byd mawr mae nhw yn ddysgu yno? |
Rhys |
Ieithoedd, Tomos Bartley. |
Tomos |
Hyhy! Pw ieithoedd, dwed? |
Rhys |
Lladin a Groeg. |
Tomos |
Hoho! mi gwela hi 'rwan,—rhag ofn y bydd raid iddyn nhw fynd yn fisionaries, ynte? Riol peth, yn wir. |
Rhys |
Nag ydw. |
Tomos |
'Roeddwn inne yn meddwl hynny. le, am yr ieithoedd 'roeddem ni yn son. Be daru ti galw nhw? |
Rhys |
Lladin a Groeg. |
Tomos |
Tw bi shwar,—Lladin a Groeg. |
Rhys |
Nage. |
Tomos |
Iaith pwy, ynte? |
Rhys |
O, ieithoedd rhyw hen bobol sydd wedi marw er's canrifoedd. |
Tomos |
Ieithoedd pobol wedi marw! Wel, be ar affeth hon y ddaear sy eisio dysgu ieithoedd pobol wedi marw? Gneyd sport o hono i 'rwyt ti, dwed? |
Rhys |
Na, yr wyf yn deyd y gwir yn onest i chi,—maent yn dysgu yr ieithoedd er mwyn y trysorau sydd ynddynt. |
Tomos |
Wel, da i byth gam i geibio os clywais i ffasiwn beth. Gwneyd sport o hono' i wyt ti, Rhys, fel y bydde Bob dy frawd. Cymer di ofal. Beth arall mae nhw yn 'i ddysgu ono, dwed? |
Rhys |
Mathematics. |
Tomos |
Mathew Matic! Mi glywes son am Ned Matio, ond wn i ddim byd am Mathew, tw bi shwar. Be ydi hwnnw, dywed? |
Rhys |
Sut i fesur a phwyso, a gneyd cyfrifon a phethe felly. |
Tomos |
Dene rwbath digon handi, a dene'r rheswm, ddyliwn i ti, fod cymin o brygethwrs yn mynd yn ffarmwrs ac yn shopwrs. Be arall ma nhw yn 'i ddysgu? |
Rhys |
Saesneg a Hanesiaeth. |
Tomos |
Eitha peth. Mae Saesneg yn useful iawn y dyddie yma, a peth digon difyr ydi Hanesiaeth. James Pwlffordd ydi'r gore glywis i 'rioed am ddeyd stori. Pan fyddwn i yn arfer mynd i'r tafarne, mi fyddwn yn dotio ato fo, a 'does dim gwell gen i glywed mewn pregeth na dipyn o hanes. Pan fydd Barbara a finne wedi anghofio'r bregeth i gyd, mi fydd gennom ni grap go lew ar y stori fydd y pregethwr wedi deyd, yn bydd, Barbara?—(BARBARA yn nodio).— Tw bi shwar. Tydw i ddim yn gweld y stiwdents 'ma yn rw helynt am stori chwaith. Yr ydw i'n gweld William Hughes, Abercwmant, yn llawn top iddyn nhw. Wyst ti be, mi ddeydodd William stori y tro dwaetha 'roedd o yma, am eneth fach yn marw, anghofia i byth moni hi tra bo chwythiad yno i. Bydaswn i'n marw ar y clwt, faswn i ddim yn medryd peidio crio pan oedd o yn 'i deyd hi. Ond dywed i mi, ddyliwn fod y ffâr yn go lew ono? |
Rhys |
Nid ydynt yn profeidio i neb. Mae pawb yn gorfod gofalu am dano ei hun. |
Tomos |
Wel, sut yn y byd mawr mae'r bechgyn yn cael profisiwns? Ydyn nhw yn cael hyn a hyn yr wsnos at fyw? |
Rhys |
Nag ydynt; mae nhw yn cael mynd yma ac acw i brygethu, ac yn cael ychydig am hynny, ac yn byw arno. |
Tomos |
Wel, da i byth i Ffair Caerwys os nad y College ydi'r lle rhyfedda y clywis i son am dano. Wyst ti be? Mae o'n taro i meddwl i 'r munud yma fod pob un weles i yn dwad yma o'r College i brygethu a golwg eisio bwyd arno fo, a dydi o ryfedd yn y byd, erbyn i ti ddeyd fel mae nhw'n managio yno. "Hwya bydd dyn byw, mwya wel, mwya glyw." |
Miss Hughes |
Rhaid i ni fynd, yn wir. |
Tomos |
Wel, na i mo'ch stopio chi bellach. Aros, dyma ti, gan dy fod di wedi pendrafynu mynd i'r College, os na fydd o'n ormod trafferth gynnot i'w gario, mi gei ddarn o'r norob 'ma a chroeso. Mi fydd gynnon ni ddigon wedyn. |
Rhys |
Na, fydd arna i ddim angen, yn siwr, Tomos Bartley, diolch yn fawr i chwi. |
Tomos |
Wel, wel! Arnat ti mae'r bai. Mi wyddost fod iti gan' croeso ohono. Nos dawch. |
RHYS yn ffarwelio â ToMos, a Miss HUGHES â BARBARA. CURTAIN |