TY ABEL HUGHES. Golygfa 4 —Lle mae Rhys mewn penbleyh beth i'w wneyd gyda'r Pregethu, ac yn penderfynu y mater. —Miss HUGHES yn boddloni i'w gyngor i osod y busnes. —Dyfodiad WIL BRYAN. —Yn dychrynnu MISS HUGHES. —Hanes y Seiat gan WIL BRYAN. —MISS HUGHES yn cysgu. —WIL yn troi y cloc, ac yn deffro MISS HUGHES er cael ymwared a hi. —WIL yn adrodd wrth RHYS hanes yr helynt yn ei gartref. —Am ei gloewi hi. —Y ffling. —Y ffarwel. Rhys yn siarad ag ef ei hun yn y Parlwr. |
|
Rhys |
Wel, mae yr amgylchiad oeddwn wedi ei hir ddisgwyl wedi pasio. Yr wyf yn awr wedi fy ngalw gan eglwys Bethel i bregethu, ond beth wnaf?—dyna y cwestiwn. Dydw i ddim ond bachgen tlawd, a rhaid cael arian i fynd i'r Coleg. Hwyrach y dylwn i aros adref i gadw y busnes ymlaen efo Miss Hughes. Mae hi wedi cynnyg cyflog dai mi; ond 'rwyf yn meddwl mai mynd i'r Coleg ddylwn er hynny, neu roi fling i'r pregethu yma am byth. Dywedodd fy hen feistr, Abel Hughes, wrthyf lawer gwaith na ddylai yr un dyn ieuanc feddwl am bregethu, heb ar yr un pryd benderfynu treulio rhai blynyddoedd yn y Coleg. Dywedodd Abel wrthyf na fuasai raid i mi fod eisiau dim tra yn y Coleg, ac y disgwyliai ef i mi wneyd Shop y Gornel yn gartref. Ond waeth tewi am hynny. Fuasai wiw i mi son wrth neb am hynny,—choelie nhw mona i. Beth wnai? Wn i ddim. Yr ydw i yn synnu ata fy hun mor ddi-adnoddau ydwyf. Hwyrach fy mod wedi arfer ymddiried mwy yn Abel Hughes nag mewn Rhagluniaeth. Ydi o ddim ond rhyfyg arnaf fynd i'r Coleg heb ddim o fy nghwmpas ond dillad ac ychydig lyfrau. Be ydw i'n siarad? Y cwestiwn ydyw, "Beth a wna i am arian?" 'Does gen i fawr; dyma nhw—(yn tynnu allan ei bwrs, ac yn cyfrif ei arian,—un, dwy, etc.)—chwe phunt a deg swllt a chwe cheiniog! Erbyn byddaf wedi talu rhyw ychydig bethau, a phrynnu rhai ereill, fydd gen i ddim ond digon i dalu fy nhren i'r Bala. (yn dal ei arian yn ei law) |
Enter MISS HUGHES. |
|
Miss Hughes |
Yr ydw i'n mynd i gadw 'rwan, Rhys. |
Rhys |
Arhoswch funud. Mae gen i eisio siarad gair efo chwi. Heb ofyn eich caniatad, yr wyf wedi gwneyd ymchwiliad lled fanwl i amgylchiadau eich diweddar frawd, ac yr wyf yn cael fod digon ar ol i chi fyw yn gysurus arno, ac i chi gael byw i fynd yn hen. Fy nghyngor i ydyw,—gellwch ei wrthod os dewiswch,—gwerthu yr ystoc a'r busnes. Yr wyf yn meddwl y gwn am gyfaill i mi y byddai yn dda ganddo gymeryd popeth oddiar eich llaw. Mae allan o'r cwestiwn i mi aros yma i edrych ar ol y busnes. Yr wyf yn benderfynol o fynd i'r Coleg. Ac yr wyf yn sicr, pe gallech ymgynghori â fy hen feistr, y dywedai ef fy mod yn gwneyd yn fy lle. |
Miss Hughes |
Yr ydw i wedi siarad yn gas iawn lawer gwaith wrthat ti, Rhys. Mi wn y gwnei di fadde i mi. |
Rhys |
Gwnaf; 'ran hynny, ddigies i 'rioed wrthoch chi. |
Miss Hughes |
Roeddwn i wastad yn dy leicio di, mi wyddost o'r gore. Pan ddost ti yma gyntaf, roeddet ti yn wicked iawn, ac Abel mor strict, a mi fyddwn yn wastad yn cymeryd dy bart di, a mi wn fod gennat ti fwy o sense na fi. Y ti ŵyr ore, a mi wnaf fel wyt ti yn deyd. |
Rhys |
Yr wyf yn sicr mai dyna y peth gore i chi, a mae yn dda gen i weld eich bod yn cydweld â mi. |
Miss Hughes |
Bydawn i yn cael rhwfun yn dy le di, fy robio i wnai o, hwyrach, ynte? |
Rhys |
Wn i ddim yn wir. |
Miss Hughes |
Oedd ar Abel rwbeth o gyflog i ti? |
Rhys |
Dim. Yr oeddwn ers mis wedi codi fy nghyflog, hyd i ddydd Sadwrn diweddaf. |
Miss Hughes |
Dyma ti, mi wn y cei yn y College bopeth fyddi di eisio; ond hwyrach na chei di fawr o boced-myni. Dyma i ti bum punt, os nei di gyseptio o honyn nhw. Nos da, Rhys. |
Enter WIL BRYAN, gan fynd ar draws MISS HUGHES, nes syrthio y ganwyll. |
|
Wil |
Ddaru chi ddim dychryn, Miss Hughes, gobeithio? Very sorry, begio'ch pardwn. |
Miss Hughes |
Mi ddarum ddychryn tipyn, William. |
Wil |
Be' ddyliech chi o Rhys am fynd i'r Coleg? |
Miss Hughes |
Ie, ynte, William? (yna mynd i ddarllen a syrthio i gysgu) |
Wil |
Wel, aros di, welis i monot ar ol y seiat y ces di dy alw i bregethu, ond dyma ni, just y peth, 'roeddwn i eisio cael ymgom efo ti. |
Rhys |
Mi wyddwn, Wil, y cawn i'r hanes i gyd gennyt. Sut y bu hi ar ol iddyn nhw ngyrru i allan? |
Wil |
Bydawn i yn rhoi verbatim report i ti, wnai o les yn y byd i ti. Yr unig beth ddaru diclo tipyn ar 'y ffansi i, oedd yr Hen Grafwr yn insistio am i ti bregethu o flaen y seiat iddyn nhw weld ffasiwn stwff sydd ynnot ti, a'r hen Water Wyrcs yn'i ateb o y basa'r cynllun yn un iawn bydaset ti newydd ddwad o'r Merica, a neb yn gwybod am danat ti. Dydw i ddim yn gwybod am ddim arall gwerth ei adrodd wrthot ti, heblaw fod yr hen thoroughbred, Tomos Bartley, pan oeddan ni'n codi llaw o d'ochor di, wedi codi ei ddwy law,—'run fath a phictiwr Whitfield, a hynny, 'roeddwn i yn meddwl, fel apology am the unavoidable absence of Barbara Bartley, owing to a severe attack of rheumatism.... 'Rydwi wedi dwad yma i gael ymgom difrifol hefo ti, ond rhaid cael Miss o'r ffordd. Sut? Mi wn i. |
Troi y cloc, wedi boddloni ei hun fod Miss Hughes yn cysgu, o 11 pm i 1 am, yna tery ei law ar y bwrdd. |
|
Miss Hughes |
(yn edrych ar y cloc) Dear me! fel mae yr amser yn mynd wrth ddarllen. Rydw i'n mynd. Nos da. Peidiwch aros i fyny yn hir. |
Wil |
Love story sydd gennych yn siwr, Miss Hughes. Well i chwi aros peth eto? |
Miss Hughes |
Na, rhaid i mi fynd. (gan oleu y ganwyll) |
Wil |
(yn ei chwythu allan) Mae 'ma ryw draft garw, Miss Hughes. |
Miss Hughes |
Peidiwch ag aros ar eich traed yn hir, fechgyn. |
Wil |
'Nawn ni ddim. Good night, Miss Hughes, happy dreams. |
Exit MISS HUGHES. |
|
Wil |
Bravo! Wel, Rhys, 'rwyt ti wedi cyrraedd y point yr ydw i wedi bod yn edrach am dano ers talwm. Yr wyt ti 'rwan wedi dewis dy brofession; a choelia fi, mae yn dda gen i feddwl mai pregethwr wyt ti am fod. Mae nghydwybod i heno dipyn yn fwy tawel. Mi wn o'r gore mai fi ddaru dy daflu di oddiar y metals, a fum i byth yn hapus nes dy weld ar y metals yn d'ol. Yr ydan ni wedi trafaelio llawer efo'n gilydd, ond yr ydan ni wedi dwad i'r junction heno. Y fact o'r matter ydi, rhaid i ni ffarwelio, fel y mae y gân yn deyd, â'r "Dear happy hours, that can return no more." Yr ydw i am 'i gloewi hi, a hwyrach na wela i monot ti byth eto, a mae ene lwmp yn y ngwddw i wrth i mi ddeyd hynny, mi gymra fy llw. Glywes di am danom ni acw? |
Rhys |
Clywed be, Wil? Dydw i ddim yn dy ddailt di. |
Wil |
Wel, mae hi yn "U P" acw, a mi fydd pawb yn gwybod hynny cyn wythnos i heddyw, a fedra i mo'i sefyll hi. Be ydi'r prospect? Liquidation by arrangement a starvalion! Ac am hynny yr ydw i am 'i gloewi hi. I ble? Wn i ddim. Be fedra i neyd? There's the rub. Fy nyleit i, fel y gwyddost, oedd dreivio ceffyl, a doedd o ddim odds gen i prun ai dreivio llwyth o fara ai dreivio llwyth o ferched ifinc nawn i; ond wythnos i heddyw, fydd gan Hugh Bryan, Provision Dealer, yr un ceffyl i'w ddreivio! Wyddost ti be? Fum i 'rioed o'r blaen yn really down in the mouth. |
Rhys |
Wil, yr wyt ti bron wedi cymeryd fy ngwynt! Sut y daeth pethau i hyn? |
Wil |
Rhy faith i fynd drostyn nhw, was. Y nhad yn rhy grasping,—mi drodd i speculatio. Fifty pounds a month, ddyn bach! Sut yr oedd yn bosib iddo ddal? Hwyrach y bydd pobol yn y ngweld i'n selfish wrth skidadlo, ond fedra í ddim dal y disgrace. A dyna Sus,—poor girl!—fedrwn i ddim edrach yn 'i gwyneb hi. Mae'n lwc nad oes ene ddim byd definite rhyngom ni. Mae'n rhaid i mi fynd,—mae rhywbeth yn fy ngyrru. |
Rhys |
'Rwyt ti wedi ngneyd i'n brudd, Wil. Wnei di dderbyn un cyngor? |
Wil |
Beth ydi hynny, old fellow? |
Rhys |
Treia newid dy ffordd o fyw. |
Wil |
Fedra i ddim, Rhys. Yr oeddwn i wedi meddwl troi dalen newydd ar ol i mi gael fy fling, ond mi gymres ormod o fling. Rydw i'n ffaelio dwad yn f'ol. 'Rydw i past feeling, mae gen i ofn, 'does dim byd yn effeithio arna i. Yr wyf yn teimlo bron 'run fath a Wolsey,—"Had I but served my God,"—mi wyddost am y geirie. |
Rhys |
Wil bach—— |
Wil |
Waeth iti heb siarad! Fedri di ddeyd dim newydd wrthai. Nid wyf ond kid o ran oed, ond yr wyf yn teimlo fy hun yn hen mewn pechod. Be' nes i? (yn codi) Laddes i ryw un? Dim danger! Eis i ar fy spri ryw dro? Dim perygl! Wnes i gam â rhywun? Nid wyf yn gwybod. Rhys, raid i ti wneyd yr un o'r pethe mawr yna i gael dy adael ar ol. Be' nes i? Dim ond lot o bethe bach, Rhys,—canu comîc songs yn lle emynau Williams ac Ann Griffiths; gwneyd sport o dy hen fam dduwiol ac Abel Hughes; mynd at y billiard table gan amlach nag i'r seiat a'r cyfarfod gweddi. Yr wyf wedi cymeryd fy fling, ond cymerais ormod o fling, fel yr wyf yn methu dod yn ol. Yr ydw i yn teimlo yn ddigalon, ac eto, dydw i ddim yn edifeiriol. Yr ydw i yn teimlo remorse, ond yr un blewyn o edifeirwch! Os ydw i'n dallt be' ydi edifeirwch. Ond waeth tewi! Nos dawch. A ffarwel. "It may be for years, And it may be for ever!" |
CURTAIN |