ACT TRI Noswaith yn hwyrach yn yr haf. Mae hi'n raddol dywyllu trwy gydol yr olygfa. Ystafell yn y tŷ wedi'i haddurno ar gyfer parti o ryw fath. Drws yn y cefn yn arwain at yr ardd; ar yr ochr chwith, drws yn arwain at ystafell arall, lle mae 'na gerddoriaeth yn chwarae a pheiriant karaoke. Mae 'na fwrdd gyda bwffe a diodydd wedi'u gosod arni yn yr ystafell. Ymddengys fod yna dipyn o fwyd ar ôl, a bod y rhan fwyaf o'r gwesteion eisoes wedi cymryd peth ohono, gan fod platiau gwag wedi'u defnyddio i'w gweld ar y bwrdd ac o gwmpas yr ystafell. Gwelir BARBARA, a JANE weithiau, yn cerdded drwy'r lle yn ysbeidiol. Ger y drws gwydr yn y cefn, saif BRIAN PENRHIW, ffermwr lleol, sy'n siarad yn uchel gyda grŵp o'i gyfeillion. |
|
Brian |
(yng nghanol dweud jôc)...a so nawr 'co fe'n stopo'r cara a mâs ag e i ga'l gweld shwt olwg odd ar y gath. Odd honno'n sgwils yn bob man. 'Blydi hel', medde fe wrtho'i hunan, 'be' wdw i'n mynd i neud nawr?' 'Chwel, alle fe jengyd o 'na streit awei, neu fe alle fe fynd lan i ga'l gair 'da'r perchen. So ma fe'n diseido mai'r peth iawn i neud, reit, y peth onest, yw mynd lan a cnoco ar y drws a gweud wrthyn nhw beth sy' 'di digwydd i'r gath. So ma fe'n sgrapo sbariwns y gath 'ma off yr hewl a'i rhoi 'ddi miwn yn bŵt y car, a bant ag e lan ar y tŷ. |
Jane |
(yn cerdded rhyngddyn nhw i mewn i'r ystafell) Peidwch gadel i'r boi 'ma roi chi off eich bwyd, bois! |
Daw ymatebion oddi wrth y gwrandawyr: 'Ha, ha...'; 'O na, wedi neud yn iawn am un nosweth, Jane...'; 'Gymrith hi fwy 'na ny!'; 'Diawl 'na, drycha ar 'i seis e'!', ac yn y blaen. Mae JANE yn symud i ffwrdd oddi wrthyn nhw. |
|
Brian |
Beth odd 'da fi, nawr? O ie. Ta beth, co fe lan at y drws a cnoco, a'r fenyw 'ma'n dod i ateb. 'Sori misus,' medde fe, 'sa i ishie'ch ypseto chi nawr, yndyfe, ond dw i'n credu bo fi di mynd â'r car dros ben eich cath chi.' A honno'n ca'l sioc a, ti'n gwbod, llefen a, 'Chi 'di lladd Jeremy bach ni!', a phethe fel 'ny, yndyfe. Ond wedyn, 'Hang on', medde hi, 'shwt ych chi'n gwbod mai 'nghath i yw e? Be' mae'n drychyd fel?' So ma'r boi yn mynd 'Wel, diawl, rhwbeth fel hyn' - |
BRIAN yn gorwedd ar ei hyd ar llawr gyda'i goesau ar led, a'i dafod allan: chwerthin brwd o blith ei griw o gyfeillion. Rhywbryd yn ystod y cyfan, daw PETER, sydd braidd yn feddw, i fewn drwy'r drws ar y chwith a phigo bwydach o'r bwrdd bwffe. |
|
Brian |
- a ma'r fenyw yn mynd, 'o, na na na, peidwch â bod mor disgusting. Pwy olwg odd arno fe cyn i chi fwrw fe?' So ma'r boi yn meddwl, a wedyn ma fe'n mynd - (mae'n codi ei freichiau yn yr awyr ac yn rhoi golwg o fraw ofnadwy wrth ddynwared y gath) - 'Fffyyyyyyyyyycin' Heeeel!' |
Yn ystod y chwerthin sy'n dilyn y jôc, daw BARBARA i fewn i'r ystafell. |
|
Peter |
A, Mrs Lewis! |
Barbara |
(yn anghyfforddus iawn) Ca dy ben, Peter. |
Peter |
Www. Touchy. |
Barbara |
Pryd wyt ti'n mynd i dyddu lan, y? |
 allan yn gyflym. Saib. |
|
Brian |
(sydd wedi clywed) O, Iysu bach... (Saib.) Ethen i 'm i botsho rownd fan 'na heno, boi. |
Peter |
Hmmm? |
Brian |
Ma Eilir bach yn mynd 'i cha'l hi pan droith e lan yn 'diwedd. |
Peter |
Oh, yeah. |
Brian |
Ma' heno 'di costi fel y diawl iddyn nhw, a ma' honna mor deit â ellith hi fod... |
Peter |
Ydy, right. |
Brian |
Elli di 'm beio hi, gweud y gwir. Iysu, na: ma fe Ger 'di neud y ffradach ryfedda' o'ni ddi 'ma. Hi sy'n treial dala'r slac yn dynn; a 'se hi'n dod i ben â 'i 'fyd, 'se'r fadam arall 'na ddim 'di dod 'nôl biti'r lle... |
Peter |
Pwy? Jane? |
Brian |
'Dyw e' m busnes i fi, cofia. Lan iddyn nhw, yndyfe? |
Peter |
- Errm, ie. |
Brian |
Meantime, gw' boi, I'm here for the beer. 'Whare teg iddyn nhw! (Mae e ar fin mynd nôl i'r ardd.) |
Peter |
Chi fel Epicurus. |
Brian |
Y? |
Peter |
Chi fel Epicurus. Mae hynna'n agwedd bositif iawn. Rych chi fel Epicurus. |
Brian |
Yn, be' sda di nawr? |
Peter |
Mae Groegwr o'r enw Epicurus; chi fel fe. |
Brian |
Dw i fel fe? O, olreit. (Mae'n rhoi chwerthiniad fach: heb fod yn deall mewn gwirionedd) O, ie ie. |
Peter |
Oedd e'n credu mai peth pwysica yn y byd yw pleser. Pleasure. Heb pleser, ti ddim yn gwybod pwy wyt ti. |
Brian |
O? |
Peter |
Mae rhaid joio. |
Brian |
O, blydi reit 'fyd! |
Yn ystod y sgwrs ganlynol, clywir MARIA o'r ystafell nesaf yn canu gyda'r peiriant karaoke: 'Eternal Flame' gan The Bangles, o bosib; sdim ots pa mor dda mae hi'n canu... |
|
Peter |
Ie, ond mae e'n wir. Lot o Gymry, ddim yn gallu joio: mae nhw total Calvinists, yn credu mae byd just yn horrible, fel fath o nightmare, a mae rhaid gweithio, gweithio, gweithio drwy amser, peidio cael hwyl, peidio gadael 'y byd' cael cyfle i ddod mewn i chi. Shut it all out. Fel Barbara - ma hi'n classic Calvinist. |
Brian |
Ha, ie. |
Peter |
Ond mae Epicurus yn credu bod y byd yn peth real, nid fel nightmare, nid fel breuddwyd. A rhaid i ni chwilio am bod yn hapus, yn pleser, yma, nawr. |
Brian |
Wel, na fe 'de. Swno fel good bloke i fi. Beth odd 'i enw fe 'to? |
Peter |
Epicurus. |
Brian |
(yn taro'i gan cwrw yn erbyn can PETER, ac yn yfed y cwbl, o bosib) Gwd boi achan. |
Sŵn MARIA'n canu yn y cefndir. Mae PETER yn dawel. Saib. |
|
Brian |
'Na fe de, dw i off. |
Peter |
Ie OK. |
Mae BRIAN yn mynd; mae PETER yn crwydro i ran arall o'r ystafell. Nid yw BARBARA a JANE yn ei weld pan ddônt i fewn. |
|
Jane |
Digon o fwyd ar ôl. |
Barbara |
(yn ddig am y peth) O's. |
Jane |
Paid â becso, fe ddaw'r bois 'ma nôl rownd 'to. Unwaith 'ma nhw wedi ifed 'u siâr. |
Barbara |
Hm. |
(Saib.) |
|
Jane |
Fe ddeith e. |
Barbara |
Sdim lot o blydi ots 'da fi ragor. |
Jane |
Fe ddeith; ma' rhwbeth wedi cropo lan 'dag e, na i gyd. |
Barbara |
Beth ambiti Gerallt? |
Jane |
Hm? |
Barbara |
Ble ma' fe 'di mynd? Ble 'ma fe 'di bod trw'r prynhawn? A heno? |
Jane |
Sa i'n gwbod. Falle a'th y meeting 'da'r banc mlân - |
Barbara |
- ma hi'n half past eight, mam. So fe'n y banc amser 'ma'r dydd. |
Jane |
Wel, falle, na 'dy. |
Barbara |
Synnen i ddim bod y ddou 'da'i gilydd yn rhywle. |
Jane |
Gerallt a Eilir? |
Barbara |
(sŵn braidd yn ddagreuol yn ei llais) Ie! |
Jane |
O. Na, sa i' credu 'ny. |
Barbara |
Decstest ti fe 'weth? |
Jane |
Fe 'na i e nawr. Dere nawr, magu bwcïod yw rhwbeth fel hyn - |
Daw sŵn rhywbeth yn torri o'r ardd, a chwerthin mawr. |
|
Barbara |
Beth odd hwnna - |
Mae hi'n mynd allan. Clywir peth twrw a chwerthin. |
|
Gary |
(yn dod i fewn i nôl can arall o gwrw, ac yn chwerthin) Ha, ha, ffyc's sake, Gordon 'di torri pot mâs yn 'r ardd - |
Jane |
Be' ma fe 'di neud? |
Gary |
- odd e'n cerdded rownd 'da flower pot 'ma ar 'i ben e! (mynd allan eto) Pissed as a fart! |
Barbara |
(yn dod nôl i fewn) Pam ma'r dam crwt 'na hyd yn o'd 'ma? Pwy wahoddodd e? |
Jane |
Goffes i ffono fe, pan o'dd 'na ddim sein o Gerallt. Ddâth e â'r pethe 'ma (mae hi'n cyfeirio at y bwyd) draw jyst cyn saith. |
Barbara |
(yn mynd drwy'r drws arall i nôl brws) O, blydi hel... |
Jane |
Gâd e fod, Babs, newn ni fe wedyn! (ond mae hi wedi mynd. Saib.) |
Peter |
Dim pwynt dweud wrthi hi. |
Jane |
O, ti sy' na. Pam wyt ti miwn fan hyn? |
Peter |
Mae Angharad yn siarad yn y ardd. |
Jane |
Ody. Wel, ddeith hi nôl nawr... |
(Saib.) |
|
Peter |
Pryd mae Eilir yn dod? I gael y speeches mawr 'da pawb? (Saib.) Sorry, just gofyn - |
Jane |
- bydde fe'n well i ti beido - |
Aiff BARBARA drwodd yn cario'r brws. |
|
Jane |
Dyn ni 'm yn gwbod ar hyn o bryd. Ma fe - dyw e ddim 'di bod yn ateb 'i ffôn. |
Peter |
Ydy Barbara'n gwybod? |
Jane |
Na 'dy, Peter, 'dyw hi ddim. A ddylset ti 'mo'i phrofocio hi, chwaith. |
Peter |
Fi ddim wedi. |
Jane |
Gynne fach: galw 'Mrs Lewis' arni 'ddi - |
Peter |
- o. Yeah - |
Jane |
- mae'r holl beth yn ofid iddi. |
Peter |
Fi ddim really deall pam mae'n nhw'n priodi o gwbl. |
Jane |
O, gâd hi i fod, 'nei di? Eu busnes nhw yw e. (Saib.) Dw i 'm eishie iddi hi ga'l 'u siomi. Ma hi 'di bod yn anlwcus. |
Peter |
Mae hi'n rhoi pobl off; mae hi'n eisiau rheoli popeth. |
Jane |
O, dyw hwnna ddim yn wir, Peter. |
Peter |
Mae e. Mae hi'n pallu gadael Angharad a fi yn llonydd. Byth! Mae hi'n jealous: nid o fi, ond o ffaith fod fi ac Angharad yn gwybod beth ni'n moyn! |
Jane |
Ody ddi, wir. |
Peter |
Ydy! Ni'n caru ein gilydd, ond nid fel, possessiveness, fel mutual respect: ni ddim yn eisiau priodi a ni ddim eisiau plant. |
Jane |
Hy! |
Peter |
Mae'n wir! |
Jane |
A ych chi'ch dou yn teimlo fel 'na, ych chi? |
Peter |
Ydan! |
Jane |
Meddet ti. |
Peter |
Hm? |
Jane |
Mae'n ddigon rhwydd i ti 'weud 'na nawr, yndyw hi? Mutual respect, wir: 'sda ti'm unrhyw alwade arnat ti 'to. Ti'n ifanc. Beth wyt ti? Twenty-five? |
Peter |
Dauddeg saith. |
Jane |
Iysu, mae'n bryd i ti neud rhwbeth â dy hunan. Beth wyt ti'n neud? Byw yn y lle carafáns 'na, mynd o un peth i'r llall, a, ti yn y coleg o hyd - sa i'n credu y gelli di fenu unrhyw beth wyt ti'n 'i neud! Ond na fe, gwyn dy fyd di, so ti'n ddigon hen i wbod gwell. |
Peter |
Dw i'n myfyriwr allan o dewis - |
Jane |
O, gronda 'ma - |
Peter |
- dw i'n myfyriwr o bywyd - |
Jane |
- 'sda ti 'm clem! 'Sda ti mo'r syniad cynta am bethe! O, ti'n iawn fel wyt ti nawr, wyt; ond fydd pethe'n newid, a pan 'na nhw, 'sdim byd elli di neud amdanyn nhw! A be' wyt ti'n mynd i neud wedyn? Ti a dy mutual respect, pan s'da ti ddim dewis? Fyddi di mor cŵl am bethe wedyn? (Nid yw PETER yn ateb.) Ti'n gwbod, dy oedran di, o'n i'n byw lan yn Llunden, yn gweitho fflat owt, a pob un yn meddwl mod i'n neud jobyn eitha' da ohoni 'ddi. Ond o'n i'n gwbod, bryd 'ny, fod 'na rwbeth ddim yn iawn. A ffinjes i mâs beth odd e cyn o hir, 'fyd. O'n i'n ffili ca'l plant. O'n i'n treial a treial 'da Emyr, ond, na; no gwd. Dim dewis. 'Tough luck,' medde rhywun, 'ti 'm yn ca'l nhw'. So beth o'n i'n mynd i neud? Ishte lawr, dewis a dethol? Iysu nage, bwrw 'mlân, rhyw ffordd: jyst bwrw 'mlân. Peido â dechre gadel i bethe fynd yn drech arna i. (Saib.) A 'na pam nes i fynnu bod ni'n ca'l Babs i ddod aton ni, a mynnu neud i'r holl beth weitho. Bod yn fam iawn iddi. A 'madodd Emyr â fi - gwynt teg ar 'i ôl e. A wedyn, o rywle, ges i Angharad! O'n i'n siŵr na fysen i byth, byth yn ca'l 'y 'mhlant yn hunan, fyth. A wedyn, jyst mâs o ddim byd, on i'n disgw'l. Ar y 'mhen yn hunan, dim gŵr, roces fach 'da fi, un arall ar y ffordd. Plan? Dewis? (Saib.) Ti'n gwbod, nes i drïal torri pob cyswllt allen â'i thad hi. O'n i 'm ishie'i rhannu 'ddi, 'da neb. Ond wedyn fe dda'th e nôl; a gallen i 'm gwadu. O'n i'n 'i garu fe. A 'rhosodd e da fi a wedyn gethon ni Bryn, a - o'n i'n gweud wrtha i 'nhunan, 'ma fe'r tro 'ma, 'ma pethe 'da fi nawr; 'ma beth 'dw i moyn, wastad wedi moyn, o'r diwedd ma fe 'ma. Buodd e 'm dou fis cyn gadel am Auckland. (Saib.) A mlân â fi 'to. A fan hyn o'n i - draw fan 'na (mae hi'n pwyntio tuag at gornel yr ystafell wrth ddrws y gegin) - whech mlyne wedyn, pan ethoch chi â Bryn, druan bach ag e, pan ethoch chi ag e lawr i'r trath i gyd y dwrnod 'ny (mae hi yn ei dagrau nawr). A weles i fe byth wedyn. A na'r diwedd wedyn. Allen i ddim mynd mlân un cam o fan 'ny. O'n i ar goll, a, jyst eisie diflannu. A, God, bennes i lan yn y carchar yn New Zealand! (Rhwng chwerthin a chrïo. Saib.) A nawr dw i nôl, a ma deg mlyne arall 'di mynd heibo a - 'ma lle ddechreuodd popeth! A beth s'da fi i ddangos am y cwbl nawr? Dim, jyst... O Iysu bach, y boen dw i 'di hala ar y ddwy fach arall 'na. Dw i 'di bod yn fam yffyrnol iddyn nhw - shwt ma nhw'n madde i fi, sa i'n gwbod! (Saib.) Ond 'ma lle ddechreuodd e i gyd... (Saib.) Elli di ddim pigo dy ffordd drwy bethe am byth, ti'n gweld, Pete: ma bywyd yn mynd i ddigwydd i ti! A well ti fod yn barod pan 'neith e, achos ma fe'n brofiad ar cythrel. |
Peter |
Just dweud oeddwn i mai - |
Jane |
(ei ffôn wedi canu yn ei phoced tra bod PETER yn siarad) - Aros. (Mae hi'n ymbalfalu am y ffôn) O. On i'n meddwl falle mai Gerallt fydde fe. Neu Eilir... (Saib. Mae hi'n edrych ar PETER) O God, Grant o'dd e 'to - tad Angharad; a Bryn. Yn tecsto, o Seland Newydd. Ma fe'n erfyn arna i, bob dydd nawr; i fynd nôl ato fe. Ma fe'n sâl. A dw i'n 'i garu fe, o hyd. Alla i ddim peido, alla i? (Mae hi'n codi'r ffôn yn uchel, a gwasgu botwm) 'Delete'. (Mae hi'n chwerthin.) |
Peter |
Dim fy busnes i yw e, ond, mae'r bai arno fe. Grant: y dad. If he had stayed instead of... |
Saib. Mae JANE yn syllu arno. Yna, yn sydyn, mae hi'n ei daro yn ei wyneb. Aiff PETER allan heb ddweud gair. Mae Jane yn eistedd ar bwys y bwrdd bwyd. O'r distawrwydd, daw sŵn rhywun [GORDON] yn canu 'Love Me Tender' ar y peiriant karaoke. |
|
Maria |
(yn dod i fewn) Oh my God, Jane; is Gordon! He sings for me! |
Mae hi'n drysu rhwng gwawd a gwefr; mae MARIA yn gwrando arno, yn chwerthin ar brydiau, ond weithiau hefyd yn symud i'r gerddoriaeth. Yng nghanol y gân, daw BARBARA i fewn. |
|
Barbara |
Ma hynna'n neis. Pwy sy'n canu? |
Maria |
Gordon. |
Barbara |
Ma' fe miwn fan 'na? Ma' fe'n bridd drosto fe i gyd - (Mae hi'n sgubo allan o'r ystafell. Clywir ei llais oddi ar y llwyfan) Gordon! Gordon, oh my God, cer ma's o fan 'na nawr! |
Daw'r gân i ben yn sydyn, a chlywir sŵn yr helynt am beth amser cyn iddo ddistewi gyda GORDON yn amlwg wedi gadael. |
|
Maria |
Oh! Barbara, is not nice! He was singing! |
Daw nifer o'r gwesteion i fewn o'r ardd, lle mae'r helynt nawr yn digwydd. Maent yn cynnwys GARRY a BRIAN. Mae'n nhw'n gwylio'r hyn sy'n digwydd yn yr ardd o hyd. |
|
Brian |
Yffarn dân, bois, bryd i ni gwato weden i! |
Gary |
Ha, ha, fuckin' classic, mun! She's killin' him! |
Brian |
Odi glei; Iysu, ma' gwd braich 'da hi - o! Yffarn dân! Rhed, Gordon, achan! Ha ha! |
Jane |
(yn codi ac yn mynd allan drwyddyn nhw) Dewch o fan 'na! Gadwch hi fod! Barbara! Babs! |
Daw ANGHARAD i fewn. |
|
Angharad |
God, alla i 'm watcho hyn! |
Gary |
(yn dal i chwerthin a chael ei fodloni gan y cyfan) Ha, ha, sick, man! |
Angharad |
Dw i'n credu y dylsech chi fynd o 'ma, bois. |
Gary |
No way! |
Angharad |
Ma hyn jyst yn embarrassing nawr. |
Brian |
Ife? |
Angharad |
Plîs. |
Brian |
Sdim bai arnot ti'es. |
Angharad |
Jyst - (Saib.) |
Brian |
Ie, cym on bois, well i ni fynd - sori, bach. |
Angharad |
Ma fe'n iawn; 'm ych bai chi yw e. |
Brian |
Garry, achan - dere. Gâd e nawr. |
Gary |
Oh come on, myn, ma hwn yn fuckin' epic - |
Brian |
Paca 'i miwn! Dere. (Mae e'n tynnu Garry nôl o'r drws.) Roith Gwynfor lifft i ni. |
Gary |
Ma ishe pishad arna i - |
Brian |
Dere. Stopwn ni ar y ffordd. Ta-ra, bach. |
Mae e'n llwyddo i gael GARRY i adael gydag e. Wrth iddyn nhw fynd allan trwy'r drws tua'r chwith, mae'n nhw'n cwrdd ag EILIR. |
|
Eilir |
Ych chi off, bois? |
Brian |
Odyn. |
Eilir |
Allwch chi aros 's ych chi moyn - |
Brian |
Na, well i ni, y... Hwyl i ti, boi. |
Mae'n nhw'n mynd allan. |
|
Angharad |
Beth ddigwyddodd? Ble ti 'di bod? |
Eilir |
Weda i nawr mewn munud. Iysu dw i'n starfo - (mae'n mynd at y bwrdd) Ma' Ger 'ma 'fyd. |
Angharad |
'Da ti odd e? |
Eilir |
Ie. Es i 'dag e. I weld y banc. Odd nyrfs arno fe, ha. (Gan lwytho'i blât) Ma' digon ar ôl 'ma. |
Angharad |
Odd e'n mynd i'r banc? |
Eilir |
Ot ti 'm yn gwbod 'ny, 'de? |
Angharad |
Nag o'n i. Beth ddigwyddodd? |
Jane |
(yn dod i fewn) Eilir, ma' ishie i ti symud y fan. Dyw'r cars arall ddim yn gelled mynd mâs |
Eilir |
O, olreit. (Yn rhoi ei blât i lawr ac yn mynd allan.) |
Angharad |
Be' sy'n mynd mlân, mam? Pam 'ma Wncwl Ger nôl mor hwyr? A Eilir yn dod nawr? |
Jane |
Sa i'n gwbod, cariad. |
Angharad |
Fuodd e'n y banc? Wncwl Ger? |
Jane |
Do. |
Angharad |
Be' sy'n mynd 'mlân? Gwedwch wrtha i! |
Jane |
Dw i ddim yn gwbod yn iawn! |
Angharad |
Ody fe nôl? Ble ma' fe? |
Jane |
Ma fe'n dod nawr. Â i i ga'l gweld nawr. |
Mae hi'n mynd allan eto tuag at yr ardd. Mae ANGHARAD ar ei phen ei hunan am funud. Mae hi'n cerdded o amgylch am gwpwl o eiliadau. Wedyn, mae'n tynnu ei ffôn o'i phoced, ac yn darllen neges destun. Mae hi'n synnu at yr hyn mae hi'n darllen ac yn gwneud galwad ffôn. |
|
Angharad |
Ble wyt ti? (Saib fer.) Dwêd e'n Gymraeg... (Saib fer.) She did what? She, she hit you? |
Saib. Mae hi'n gwrando ar y llais ar ochr arall y llinell. |
|
Angharad |
OK. |
Mae'r alwad drosodd. Mae hi ar ei phen ein hun eto am funud, yn anghrediniol. Daw GERALLT a JANE i fewn. Mae GERALLT wedi bod yn yfed. |
|
Gerallt |
(wrth weld yr ystafell) Aaaa, neis iawn bois bach... |
Jane |
Beth wedyn? Dere, dwed wrtha i - |
Angharad |
Ble ych chi di bod? |
Gerallt |
Bues i'n dre, trw'r dydd. |
Angharad |
Fuoch chi'n y banc, do fe? |
Gerallt |
Na, sa i'n gweud mod i 'di bod fan 'ny, 'fyd - |
Jane |
Ma hi'n gwbod fod ti 'di bod, Ger - |
Angharad |
Beth och chi'n neud 'na? |
Gerallt |
Wel; ti'n gwbod, fel hyn a fel 'na - |
Angharad |
Odyn ni mewn trwbwl? Wncwl Ger, odyn ni mewn trwbwl, 'da'r banc? |
Gerallt |
(wedi gafael yn ei ben a rhwbio'i ddwyo dros ei lygaid) Sa i'n gwbod. Saaaa iii'n gwwwbod! (Saib.) 'Ma fyddwn ni am un sbel 'to. A wedyn... pffffftt. (Saib.) Geith e weud 'tho chi nawr. Pan ddeith e. |
Saib. Daw BARBARA i fewn, a sefyll wrth y drysau sy'n mynd allan i'r ardd. Mae GERALLT yn mynd draw at y bwrdd ac yn codi rhyw damaid o rywbeth a'i fwyta. |
|
Angharad |
O, blydi hel, dw i'n mynd mâs i ôl e. |
Aiff ANGHARAD allan. |
|
Gerallt |
(ar ôl saib) Ffiles i ga'l 'da nhw i fentyg mwy i ni. Ddim dewis 'da nhw, medden nhw - pwy odd e, ti'n gwbod, mab Craig Simmonds, odd e 'da ti'n 'r ysgol. Crwt hwnnw. Darren. Peth Cwmrâg 'dag e nawr. Ond o'n 'na 'm byd y galle fe neud, medde fe: sori, odd e wedi ca'l gair 'da'r regional be-ti'n-galw-fe a odd hwnnw 'di gweud, 'Na'. So 'na lle o'n i 'de. |
Jane |
'Da pwy o'dd e 'di siarad? |
Gerallt |
A, o'n i 'm yn gwbod beth i weud wrtho fe. Odd ddim ots 'da nhw am y da a'r mishîns na dim byd fel 'na, na'r capital assets yn y siop na dim. O'n i'n poor credit rated, medde fe, so no way. |
Barbara |
So be' sy'n digwydd nawr? Shwt ŷn ni'n mynd i dalu nhw nôl nawr? |
Gerallt |
O'n nhw 'm ishie'n harian ni! O'n nhw ishe ni mâs! |
Jane |
Beth? |
Barbara |
O, Iysu - |
Gerallt |
O'n nhw' m yn becso dim am y talu nôl, too late; o'n nhw'n mynd i ga'l 'mafel yn y lle, medde fe, a odd e'n mynd i offod ca'l i werthu. Biti whech wthnos 'da ni i glirio o 'ma, odd e'n gesso. |
Jane |
Mab Craig Simmonds? |
Gerallt |
Ie. |
Barbara |
Beth wedyn? Ai 'na fe? |
Gerallt |
Ddim cweit, 'nag e. |
Clywir sŵn EILIR yn dod nôl i fewn drwy'r gegin. |
|
Barbara |
Beth 'de; gwedwch wrthon ni! |
Jane |
Paid â gweiddi, Babs. (Saib.) |
Daw EILIR i fewn. Mae'n edrych arnyn nhw am eiliad. |
|
Eilir |
So; chi'n gwbod 'de, ych chi? |
Gerallt |
Jyst â bod. |
Eilir |
Hm? |
Gerallt |
Mond am y pishyn dwetha. |
Eilir |
O. |
(Saib fer.) |
|
Jane |
Eilir. |
Eilir |
Wel, ie: wel. (Mae'n mynd yn ôl at ei blât.) Digwydd bod yn dre' o'n i, a weles i Ger, a wedyn...: wel, of'nnodd e i fi - chi'n gwbod - a ethen i 'dag e; so (mae'n troi at GERALLT) es i 'da ti wedyn - |
Barbara |
(wrth GERALLT) Of'nnoch chi iddo fe? |
Gerallt |
Do! |
Barbara |
I ddod 'da chi i'r banc? |
Gerallt |
Ie! |
Barbara |
I beth? |
Gerallt |
Odd rhaid i fi ga'l rhywun i ddod 'da fi! |
Barbara |
Pam 'na fyse chi 'di gofyn i fi, 'de? |
Jane |
Aros, Babs. Cer 'mlân, Eilir. |
Eilir |
Ie, wel. On i'n mynd i fynd ar 'yn ffordd wedyn, ond, wedest ti wrtha i, 'dere 'da fi'. Drychwch: on i 'm yn siŵr am fynd miwn 'na chwaith, ond... wel, on i'n gelled gweld bod ishe bach o support ar Ger, a - |
Barbara |
- Be' ti'n feddwl, support? - |
Eilir |
- bo, bo, jyst ishe rhywun i fod yn bach - |
Barbara |
- pwy support odd ishe arno fe? - |
Jane |
- Babs, aros funud, nei di - |
Eilir |
- bach yn gefen iddo fe, na 'i gyd. |
Saib. Daw ANGHARAD i fewn yn ystod y distawrwydd anesmwyth. |
|
Angharad |
O, co chi. Be' sy' mlân... (mae hi'n synhwyro bod rhywbeth o'i le) |
Barbara |
Och chi 'di dechre ifed cyn mynd i'r banc, Wncwl Ger? |
Saib. Ni all GERALLT ateb. |
|
Barbara |
O blydi hel! Pam na allwch chi jyst neud rhwbeth yn iawn am unwaith? |
Gerallt |
Beth odd y pwynt peido? On i'n gwbod beth on nhw'n mynd i weud! |
Jane |
Babs, Babs - |
Barbara |
Ma fe 'di sarnu'r cwbwl lot i ni! |
Gerallt |
Odd dim byd 'da fi iddyn nhw! Odd 'im byd 'da fi! |
Barbara |
- Wedoch chi wrthyn nhw bod 'da ni biti whech o fystych odd yn - |
Gerallt |
- On nhw 'di bygwth a bygwth! - |
Angharad |
- Fyse ddim ots 'da nhw am hynny, Babs - |
Barbara |
- barod i ga'l 'u - shwt wyt ti'n gwbod? Shwt wyt ti'n gwbod? |
Gerallt |
- Ble yffarn arall on i'n mynd i fynd, 'de? - |
Angharad |
- Achos 'sdim byth ots 'da nhw ffor' ŷn ni'n gweld pethe - |
Barbara |
- Alle fe ddim fod wedi treial rhwbeth? Rhwbeth? - |
Gerallt |
- Odd ddim byd 'da fi! Sawl gwaith sy' rhaid i fi weud - |
Yng nghanol y gweiddi a'r cweryla, mae JANE wedi symud draw ta y bwrdd. Mae hi'n codi plât sy'n cario Black Forest Gateau cyfan, a'i luchio ar y llawr. Distawrwydd. |
|
Angharad |
Mam! |
Jane |
Byddwch dawel. Eilir; benna beth odd 'da ti i weud. |
Eilir |
Chi'n siŵr? Wel, wedodd y - y crwt fan 'ny - y, Darren - wedodd e nad odd unhyw ffordd mlân 'da Ger. A bydde'r banc yn mynd â'r lle. Ond wedyn, wedes i wrtho fe y bydden i'n barod i, i glirio'r ddyled ar y lle. In cash. (Saib.) So fe nes i. |
Barbara |
Pam nethet ti hynny? |
Eilir |
Er mwyn ca'l roi bach o help. Ac i ni roi dechre ar y plan 'na on i 'di sôn amdano fe 'da chi o'r blân. |
Barbara |
Polytunnels. |
Eilir |
Ie. |
Angharad |
A beth wedodd y boi? |
Eilir |
Odd ddim ots 'da hwnnw ond bod y ddyled yn ca'l 'i chlirio. |
Angharad |
So sdim dyled arnon ni nawr, 'de? OK. |
Eilir |
Wel, nag o's, ond... 'na fe. |
Jane |
Beth? |
Eilir |
Ffaelon ni'n dou gytuno ar bethe, a... |
Jane |
Ti a'r bachan - Darren - |
Eilir |
- nage. Fi a Ger 'ma. |
Angharad |
Balloch chi dderbyn yr help? Wncwl Ger? |
Gerallt |
Pwy sort o ffarmo fydde ar ôl 'da ni fan hyn, gwed? Tasen i'n mynd miwn 'da'r plan 'ma 'sdag e, diawl fydde na 'm byd i ga'l 'ma ond teie glas 'r hyd lle a rhyw car park a swings a... Beth yw hwnnw, gwed? Pwy sort o ffarmo yw hwnna? Diawl, tasen i ishie gweitho mewn lle parco ethen i i fyw yn 'dre! A pigo blydi tomatos am weddill yn o's...! Creaduriaid, achan, gweitho 'da creaduriaid, 'na beth yw ffarmo! Neud fel 'ma dyn wedi ca'l 'i ddysgu 'da'i dad! Yndyfe? |
Barbara |
Ddim os nag os arian yn'o fe. |
Gerallt |
Wel, pam sdim blydi arian yn'o fe? (Saib.) 'Na lle o'n i 'da hwn fan hyn (sef EILIR) ar un ochor a Darren Simmonds a'i grys a'i dei fach biws 'r ochor arall. A nes i jyst feddwl, 'fuck it'. Cerwch ag e. Gewn ni werth y stoc a'r mishîns a beth bynnag arall. Ma rhwbeth yn well na hyn. |
Barbara |
So, so pwy sy' bia'r lle - |
Eilir |
Brynes i fe. Dw i'n 'i brynu fe. (Saib.) |
Gerallt |
Bydd ddim rhaid iddi fynd yn acsiwn 'ma. |
Saib hir. Mae BARBARA yn cerdded i ganol yr ystafell i gyfeiriad EILIR, yn tynnu'r fodrwy ddyweddïo oddi ar ei bys, a'i daflu i'r llawr yn nghanol y gateau. Aiff allan tuag at yr ardd. |
|
Eilir |
Fel 'na ma'i deall hi, 'de. |
Mae'n camu draw at y gacen slwtj a chodi'r fodrwy allan ohoni. Mae'n ei gosod yn ei geg i'w glanhau, ac yna'n ei thynnu allan. |
|
Eilir |
Hm. Not bad. |
Aiff allan drwy'r dws arall. |