ACT IV YN BIRMINGHAM Golygfa 1 —Ar yr heol. —Lle mae RHYS LEWIS ar ymweliad a'r Carchar. —Yn clywed yr hen "Gaersalem" yn cael ei chanu ar yr heol. —Yn cyfarfod WIL BRYAN, ac yn mynd gydag ef î weld 65 Gregg Streel. |
|
Rhys |
(wrtho ef ei hun) Dyna'r gorchwyl ene drosodd, ac mae'n dda gen i mod i wedi dwad yma. Waeth i mi droi i edrych am lety.—(Clywed chwibiannu.) Dyna'r hen "Gaersalem". Wyddwn i ddim fod y Saeson yn ei harfer o'r blaen. Mi gaf weld,—mae y chwibianwr yn dwad ffordd yma. |
Cwrdd a'u gilydd yn y stryd. |
|
Wil |
Wel, yr hen ganfed! Ai ti wyt ti, dywed? |
Rhys |
(yn synn) Nid Wil Bryan? |
Wil |
Wil Bryan! At your service. Wyddost ti pwy weles i rwan just? |
Rhys |
Na wn i. |
Wil |
Wel, mi weles yr hen Niclas yn dwad allan o'r lle yna, a mi canlynais o, a mi weles 'i fod o yn byw ar hyn o bryd yn 65 Gregg Street, ac mi ddois yn ol yma i edrych welwn i chwaneg o'r breed, a strange to tell, dyma tithe. Ond be ydi'r row? O ble yn y byd mawr y doist ti? Wyst ti be, rydw i wedi meddwl am danat ti filoedd o weithie, ac wedi bod yn gofyn, tybed fase Rhagluniaeth yn ein tymblo ar draws ein gilydd rywdro. Ond tyrd adre hefo fi. Does gynnom ni fawr o ffordd i'r crib acw. Fyddwn ni 'run dau funud hwy yn mynd heibio'r ty, 65 Gregg Street. Mi danghosa i o i ti. Tyrd. |
Exit o'r stryt. Enter y'r crib. |