Pleser |
Mi eis gyda nghâr Tubal, ni fu erioed mo'n tebyg; Wrth glywed gôf yn dulio haiarn a dur, I ddyfeisio mesur miwsig. Ac felly 'rwy'n Bleser eto, Trwy natur yn crychneidio, Am rai fo a ffidl wrth eu clun, Neu delyn yn eu dwylo. |
Gofid |
Felly 'roedd Saul yn Israel, Yn cael heddwch gan y cythrel; Ond pan ddystawo pob ystwr, Mae Gofid yn siwr mewn gafel. Gwreiddyn euogrwydd, cydwybod effro, Gofid a melldith wnaeth.i Gain ymwylltio; A chalon g'ledwch fel Pharo ddiglod, I'w ddirnad, oedd y nod oedd arno. Felly pan gollo rhai'r gwirionedd, Hwy gym'rant eu pleser yn mhob agwedd, Pe gwelit heddyw, mae ef fel o'r blaen, Yma blant i Gain ddigonedd. |
Pleser |
Ni waeth i ti p'un, mae rhei'ny weithie, Yn caru pleser yn eu calone; Eu dull a'u cerddediad ar bob cam, Ydyw siarad am blesere. |
Gofid |
Wel, os ceir Pleser dipyn heno, Bydd Gofid, cyn y fory, yn dechre cyfeirio; Ni cheir Pleser cnawdol am fawr hyd, Na fo Gofid gydag efo. |
Pleser |
Wel, edrych di ar foddion, Ac ymddygiad y boneddigion; Ond ydyw rhei'ny'n cael o hyd, Yn fwynedd y byd a fynon' |
Gofid |
Ond ydyw'r boneddigion o'u mawrhydi, Yn gwerthu tiroedd, ac yn tori, Ac yn gadel eu gwlad o fan i fan, Mae Gofid yn rhan i'r rhei'ni. |
Pleser |
Ni chymer boneddigion fawr o ofidi, Oni thorant eu gyddfe neu eu perfeddi; Am eu bolie a'u chwante tra bo ynddynt chwyth, Mae'u naturieth nhw byth yn tori. |
Gofid |
Pan darffo'r hen anian, mae natur yn oeri, Mae'r balchder a ffrwgwd, a'r sibrwd yn sobri, Dyna ddaeth a'r afradlon gynt Am ei helynt i ymholi. |
Pleser |
Peth caled ydyw barnu Pa fodd mae'r doethineb mawr yn trefnu; Os ychydig fon'ddigion alwyd o'u bai, Mewn rhinwedd mae rhai er hyny. |
Gofid |
Digon gwir fod rhai'n cael eu gwared Trwy ofid, ac erlid, a chaethiwed; Gwasgfeuon y byd a th'lodi yn nglyn Sy'n dwyn llawer dyn i deimlad, |
Pleser |
Tu hwnt i bob teimlad na chyfiawnder, Y gwyr o gyfraith sy'n mynu eu Pleser; Nid ydynt hwy'n hidio dyn na Duw, Ond myn'd yn un byw o bwer. Mae'u rhwyde hwy'n cyrhedd fel gwe'r coryn, A'u rhwysg a'u mawr osgo trwy'r byd yn goresgyn; Gellir gweled cleisie ar Ddyffryn Clwyd, Ac yn mache Llwyd Pen Mechyn. |
Gofid |
Wel chwi glywsoch fel ca'dd yr Aiphtied, Ddyodde llawn gystudd rhwng llau a locustied; Ond mae pla'r cyfreithwyr yn fwy o frad, I wneud dyben y wlad 'rwy'n tybied. Wrth ddilyn y gyfreth areth erwin, Llaweroedd aeth heddyw heb na thy na thyddyn; Rhyfedd os nad oes dial a braw, Rhyw ddiwrnod a ddaw arnyn'. |
Pleser |
Wel, llawer gwell a fyddwn ni er hyny, Fod cyfreithwyr ffoglud yn uffern yn ffaglu; Os byddwn nine'r boblach ga'dd flinder y byd, O genfigen yn cydfygu. |
Gofid |
Cyn barn mae dadlu, dyma'r bywyd Y dyle'r annuwiol gael ei newid; 'Does ragor i'r cyfoethog na'r tylawd A rodio'n ol y cnawd a'i ryddid. |
Pleser |
Gâd heibio'r cyfreithwyr, a thro tuag adre', At y bobl gyffredin a'r offeiriade; 'Rwy'n gweled rhai canolig rhwng gwych a gwael, Yn siwrach o gael plesere, |
Gofid |
Plesere diawledig sydd i rai tylodion, Yfed a gwario, dyna fyd gwirion; A'r gwpan yn sêl, heb gael prin fara sych, A'r Gofid crych yn y crochon. |
Pleser |
Wel, y ffermwyr i'w hateb a'i pia hi eto, Maent hwy'n byw'n weddus ar ben eu heidde. |
Gofid |
Rhwng trethi ac ardrethion, a balchder serth, Mae Gofid anferth yno. A'r bon'ddigion geirwon sydd ar eu gore, Am eu troi nhw'n ddinerth o'u tir a'u meddiane; A hwythe'r offeiried yn gollwng i'r diawl, Mor nodawl yr eneidie. Rhwng y cythrel a'r bon'ddigion, Mae hi'n helynt lidiog ar dylodion, 'Does dim esmwythder i'w gael o hyd, Yn un o'r ddau fyd i ynfydion. |
Pleser |
Nis gwn i ai celwydd ai gwir yw coelion, Fod rhai wedi'u genii Ofid ac i gwynion;. Ac mai 'chydig yn'y byd a gânt O fwyniant, gwnant a fynon'. |
Gofid |
O, siarad annghall yw son am dynged, On'd oes gras i ragflaenu pob rhyw blaened? Onide ni waeth i ddynion ddilyn eu chwant, 'Run foliant a'r anifeilied. Beth ydyw'r darllen a'r holl bregethu? Ond galw dynion i gael daioni; O ran mae'n rhaid i bob un ymroi, Droi wyneb o'i drueni. |
Pleser |
Wel, ymro di'n fynych, mi dd'wedaf ine, Fod rhai'n byw'n siriol yn eu Plesere; Wrth ganu a dawnsio, a ffwndro'n ffol, Gytunol efo'r tane. |
Gofid |
O, dynion gonest sy'n dawnsio ac yn canu, Angylion i'w gweled, ond diawlied i'w teulu; Pleser naturiol yw clywed swn tant, A'r wraig a'r plant yn nadu. |
Pleser |
Peth hawddgar yw dynes wenlan groen dene, Wedi ymwisgo â dull odieth, yn hardd ei dillade. |
Gofid |
Wel, os bydd iddi hithe ddilyn ei chwant, Aiff ei dillad yn gant o dylle. |
Pleser |
Wel, wfft i ti Gofid, on'd wyt yn mhob gafel, Yn dyfod yn o ryfedd, nod y dafarn a'r efel. |
Gofid |
Ffarwel i ti rwan, mi âf ar fy rhod, Ond na feddwl fy mod yn ymadel. |
Exit. |
|
Pleser |
'Rwy'n meddwl ac yn ofni Nad hawdd ymado â thi; 'Ran y peth a hauo ni yn ein blys, Raid ini'n ofidus fedi. Mae'n gorfod i lawer am fyw'n rhy lawen, Gario eu gofid ar eu cefen; Nid oes am boeni mawr a bach Mo'i ddewrach ar y ddae'ren. Mae'n rhaid i'r hen wrachod, lle codo fe'i wrychyn, Nid gwiw gwneud cuchie, rhy hwyr fydd cychwyn; Gan gario'u cyde, a'u codie, a'u cêr, Rhag ofn ei wedd egr ddygyn. Fe fedr ystwytho'n enbyd, A digloi cymale dioglyd, A gwneud i bawb fo'n chwenych byw Feddwl am ryw gelfyddyd. Gwneiff i rai rhag newyn ysgubo simneue, Carthu tai bach, a chario carpie; Rhai'n nadu ac yn crefu, yn llymion eu crwyn, Rhai a ballads er mwyn eu bolie. Felly mae Gofid, os ceiff rai mewn gefyn, Yn burion scoolmeistar, fe wneiff iddynt ymestyn; Os byddant i onestrwydd yn rhy stiff neu'n rhy falch, Fe'i tyniff y gwalch nhw i'r tenyn. Gan hyny'n bwyllus, dymunwn bellach, Gael myn'd â rhyw fusness drwy'r byd a'i fasnach, Heb ormod Gofid na Phleser chwaith, Mae hono'n daith fwy doethach. |
Exit. Enter Rondol Roundun, y Cybydd. |
|
Rondol |
Wel, y mae hyn yn aflwydd gerwin, Ni alla'i ddangos fy wyneb na fo i mi wenwyn; Rhyw garpiach fawiach yn gwaeddi ar f'ol, A'm galw i Rondol Roundun. Ond mi ddweda' i'r hanes fel 'rwy' heno Yn Rondol Roundun, os gwnewch chwi wrando; Chwi glywsoch am y Roundied fu ar hynt, Presbyterians oedd gynt yn 'styrio. Ac wrth y rhai'n o'r dechre Fe lynodd fy mhobline, A'u dilyn hwy'n glir mewn tref a gwlad Y bydde 'nhad a 'nheidie. Ni fynent hwy o hyd eu hamser Ddim son am grefydd Eglwys Loegr; Ond y Presbyterians yn mhob rhyw, 'Rwyf fine'n byw 'run faner. Mi briodes wraig dda iawn ei theimlad, Ni fu 'rioed un dostach am y Methodistied, Ac yn wir mae hi am y byd gerbron, Ac yn ddigon calon galed. Mae hi'n wraig arafedd, addfwyn, rywiog, Ac yn edrych yn llonydd, ond hi gogiff y llwynog; Os caiff hi ymgais ar fantais fwyn, Hi a ddirwyn yn gynddeiriog. 'Rydwy' i'n lew erwin am hel arian, Ond mae hi'n well o'r haner am dynu ati'i hunan; O rhyfedd mor gyfrwys y bydd hi'n gwneud gwên, Wrth fachu rhyw fargen fechan. Hi ddywed cyn deced, os bydd un ffordd a dycia, Ac a ddeniff i'w gwinedd y cryf fel y gwana'; O, mor wyliadwrus y bydd hi o hyd, A'i gofal am y byd yn gyfa'. Hi a hidla wybedyn, mae'n rhy onest i beidio, Ac a lynca gamel 'run pryd dan ymgomio; Ni choelie neb wrth weled ei ffull, Ei bod hi gystal ei dull am dwyllo. Hi aeth heddyw i'r capel i wrando rhyw berson, 'Rwy'n disgwyl y bydd hi yma'n union; Dyma hi'n dwad, os ydw' i'n fyw, Caf yn addas ryw newyddion. |
Enter Sian Ddefosionol. |
|
Sian |
Wel, yma'r ydych chwi'n ymrodio? |
Rondol |
Ie, Sian druan, na chym'rwch gyffro; Rhowch glun i lawr am dipyn bach, Mae pobpeth yn iach, gobeithio. |
Sian |
'Roedd y gwydde'n pori'n ddyfal, Yn y cwitie, yn mhorfa'r catal; A'r gwas yn y ty, yn eiste' wrth y tân, Efo Susan acw'n sisial. |
Rondol |
Mae hyn yn helynt erwin, Ni wnes ond troi 'nghefn oddiwrthyn', I fyn'd i'r llofft i roi pwys o wlan I'r fwdach gan Sian Ddolfadun. |
Sian |
Ar ol i chwi ei bwyso fe iddi, A gawsoch chwi arian ganddi? |
Rondol |
Haro, do, doedd fawr yn fy mryd Goelio un mynud mo'ni. Ond a wyddoch chwi pwy fu'n ceisio Phioled o yd, a'i choelio? |
Sian |
Pwy bynag oedd hi, 'roeddych yn ffol Os darfu i chwi, Rondol, wrando. |
Rondol |
Ni wrandewes i mo'r pethe, Ni cha'dd hi damed, na gwerth dime; Mi a'i pecles i'w ffordd, ni bu'm i dro, 'Rhen garen, dan grio'i gore. |
Sian |
Wel, pwy oedd y Lady, nis gwn i amcan? |
Rondol |
Gwraig eich Mr. Hughes, o'r Hendre Lydan. |
Sian |
Go chwith i hono fyn'd hyd y byd, I ymorol yd heb arian. |
Rondol |
Wel, beth a wnewch i ddiawlied meddalion, Oni all'sent hwy edrych yn well at eu moddion? 'Does fater fod rhaid i rai fyw'n fain, Mae gofid i'r rhai'n yn gyfion. |
Sian |
Os awn ni i ranu'n pethe, Fe ddaw gofid arnom nine; 'Ran bod yn rhy hael sy'n peri o hyd Rai'n isel eu byd mewn eisie. |
Rondol |
Mi weles i lawer o ffermwyr cryfion, Wrth fyw'n uchel ac yn wychion, Wedi myn'd trwy'r cwbl drwbl dro, Heb ddim golud yn bur ddigalon. |
Sian |
Roedd rhywun wrthyf heddyw'n traethu, Fod eich ffrynd o Gaerfawnog yn mron tori i fynu. |
Rondol |
'Rwy'n amhe'n wir fod y gwalch yn wan, Mi greda fy hunan hyny. O ran fe fu'n ceisio prynu dau eidion Geny' am ddegpunt onid coron; Ac yn crefu arna'i yn nghysgod perth, Am ei goelio fe nerth ei galon. |
Sian |
Ie, eu coelio'n nhw'n siwr 'rwy'n gweled, Nid oes i fawr ymddiried; Mae'r ffermwyr a'r porthmyn yr un peth, Yn ddidoreth am gastie diried. |
Rondol |
Y porthmyn, mae'r diawl yn rhei'ny, Ni byddant hwy dro'n gwneud mil gwerth eu crogi; Wrth goelio'u celwydd hwy a'u brad, O! faint ga'dd y wlad ei thlodi. 'Fe dora chwilgi o borthmon diffeth Am dair neu beder mil ar unweth; 'Nol hyny'n pwnio am wneud compound, A dyna i chwi sound farsiandieth. Os can' hwy'r plate arian, ni wiw cadw twrw, Hwy fyddant yn fancrups digon hoyw; A da os cyrhaeddant goron y bunt, 'Nol tori, mae'n helynt arw. |
Sian |
Wel, dywedwch i mi eto, Rondol, Pa fodd mae'n nhw'n tori mor annaturiol; Ac yn colli cyment mewn cyn lleied amser? A glywch chwi, mae rhyw ddrwg yn Lloegr. |
Rondol |
Oes, mae yn Lloegr laweroedd o ddryge, Ond ni fydde ddim cyment pe 'rosent hwy gartre'; Na chyment chware lottery noeth, Na phuteinied mor uchel eu pene. Mae porthmyn Cymru pan elont yno 'Run fath a phethe wedi gwylltio; O! fel y gwelir hwy yn eu gwanc Tua'r Irish Bank yn 'sboncio. |