1-300301-600601-900901-12001201-15001501-18001801-21002101-2400

Pleser a Gofid (1787)

Thomas Edwards (Twm o'r Nant)

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Llinellau 901-1200
Cân
Sy'n llid rhwng nef a llawr,
Gofidiau syn olynol,
Tufewnol eto'n fawr,
Cydwybod flin a dibaid floedd,
Sy'n gwaeddi'n g'oedd, a'i gwaed yn gaeth;
Bu Suddas ffals, bu Esau ffol,
Bu Cain a Saul yn cwyno'i saeth,
Duw, Duw, a wnelo i bawb anelu byw,
Trwy gadw a'r draul cydwybod rydd,
Ond ê, ddaw'r dydd, bydd brudd y briw,
Ffydd gre'r creadur newydd eiff i'r ne';
Fe dderfydd poen, fe dderfydd byd,
Fe dderfydd gofid gydag e'.


Enter Madam Boddlondeb.

Boddlondeb
Pwy sydd yma'n taenu canu cwynion?
Drwg genyf adlais cân anfodlon.

Rheswm Natur
Fi, Rheswm Natur, sy' mewn caethder,
A gormod gofid ar ei gyfer.

Boddlondeb
O pa'm na foddlonwn i'n Creawdwr,
Pa fath bynag fyddo'n cyflwr?
Dysgwn ymostwng i'w rymusder,
A'n hamgylchiade mewn iach hyder.

Mae Paul yn rhoddi pur gyf'rwyddwyd,
Pa fodd i ymddwyn mewn hawddfyd ac adfyd,
I fod yn llawn, neu fod mewn prinder,
Mewn helaethrwydd neu gyfyngder.

Boddloni tan y cystudd tryma',
Bod mewn addfwynder ac iseldra;
Bod fel Dafydd gyda Simei,
Poen fall deithydd, pan felldithie.

Dysgwn garu Duw'r goleuni,
Pob peth a weithia er daioni;
Ac os na ddysgwn fod yn foddlon,
Mae pob peth ini dan felldithion.

Rheswm Natur
Ofni yr ydwy' fod rhyw fagl,
Yn moddlondeb cnawd a thymer ddiofal;
Rhai'n cael eu byd heb groes na blinder,
Yn chwyddo i fynu gan eu balchder.

Boddlondeb
Diame fod rhai felly'n byw;
Ond pan aeth Dafydd i gysegr Duw,
Dealle'u diwedd hwynt i'r eitha',
Bod cwymp a dinystr ar eu gwartha'.

Rheswm Natur
Mae dynion eraill anfoddlongar,
Rhai segur, diog, an'wyllysgar,
Cenfigenus ac aflawen,
Yn tynu croese i'w pene eu hunen.

Dyna rai gydd yn ymrwystro,
O eisie cael pob peth i'w plesio;
Balchder ac anesmwythder meddwl,
Sy'n tynu llawer un i drwbwl.

'Rwy'n canfod hyn yn nhrefn gwladwrieth,
Fod llawer iawn o anllywodreth;
Esgeulus anghymedrol fywyd,
Sy'n penu gafel poen a gofid.

Boddlondeb
Mae llaw Rhaglunieth yn ddirgeledd,
Yn godde'i rai ddyfetha'u mawredd;
Fel goddef gynt i Adda gwympo,
Er hyny'n dyner a llaw dano.

Nid pechod hwnw na'i hiliogeth,
A'i gwnaeth ef yn ddall o'i enedigeth,
Ond fel yr amlygid gallu'r Silo,
Wyrthie mwyndeg wrth eu mendio.

Rheswm Natur
Mae tlâwd a dall mewn newyn a noethni,
Yn gyflwr annymunol ini;
Er hyny'r doeth sydd foddlon dano,
Da ydyw ei ddilyn, doed a ddelo.

Boddlondeb
Mae'n gofyn hyn trwy bob caledi,
I ddyn i ymestyn a'i holl egni,
I wneud ei ore'n help yr Arglwydd,
I wella'i gyflwr trwy onestrwydd.

Ar hyd y nos bu rhai'n ymboeni,
Mewn aflwydd, blinder, a thylodi;
Pan daflent y rhwyd wrth air y Mawredd,
Tu dehe'r llong, hwy gaent ddigonedd.

A'r gwahan glwyfion oedd yn sefyll,
Yn y porth cyn mentro i'r gwersyll;
Ond pan fentrasant at Raglunieth,
Hwy gaent yn hylwydd lawn gynalieth.

Peth mawr cael gras a gwir foddlonrwydd,
I fentro'n gwbwl ar yr Arglwydd,
Tu hwnt i ofid, llid a chyffro,
Gwyn eu byd y sawl a'i caffo.

Rheswm Natur
Ffarwel, Boddlondeb, addfwyn galon,
A diolch i chwi am eich cynghorion;
Adroddwch ragor yma eto,
I rai'n gywreindog sydd yn gwrando.

Boddlondeb
Braint a heddwch i'r gydwybod,
Boddloni yn mhob peth ond ar bechod;
I hyn mi ganaf rai penillion,
Er anog pawb i fod yn foddlon.

Cân
(Cân ar "Billericay".)
O b'le mae'r holl ofidiau
A'r plaau sydd yn ein plith?
Ond 'ddiwrth yr aflan anian wyniau
A'r melys chwantau chwith,
Mae melldith barn cyfiawnder
Yn egrarnom ni,
Tra fo'm yn aros mewn anwiredd,
Swn llygredd sarphaidd sy'.
A rhaid yw deffro dyn
I weled ei ddrwg wyn,
Cyn delo mewn cwyn dilys,
Fel mab afradlon gwarthus,
Yn dlawd alarus lun.
Rhaid gwasgu'r grawnion llawn,
Cyn delo eu nodd yn iawn;
Rhaid clwyfo cyn cael meddyg,
'Does ar yr iach diysig
Mo'i ddiffyg ef na'i ddawn.

Fel hyn mae llais yr Arglwydd,
A'i ddoeth berffeithrwydd ef,
A'i faith ragluniaeth, wir ganlyniad,
Yn alwad ini o'r nef;
Dwfr, tân, a gwyntoedd creulon,
Peryglon o bob rhyw,
Sydd wrthddrych hynod ini ganfod
Awdurdod gallu Duw:
Pob profiad gallu prudd,
Pob gofid serthfyd sydd,
Yn rhywbeth fel o rybudd
I'n galw ni at yr Arglwydd,
Yn cael hoff arwydd ffydd,
Os cawn ni nerth o'r nef
I ymorphwys arno ef,
Mewn gwir uniondeb gwaraidd
Ni a gawn, ni a gawn ddigonedd,
Yn groywaidd o'i law gref.

Ar bwy gorphwysodd Abel
Yn ddirgel, ond ar Dduw;
Ac Enoc hefyd, enw cyfion,
Ga'dd foddion ganddo i fyw;
Ffydd ffyddlon yn 'raddewid
Oedd hyfryd i Abraham,
Ei groes ragluniaeth a ganlynodd,
Nis gwyrodd naws ei gam;
Boddloni ar lwybrau ffydd
Yw'r gylfaen benaf sydd;
Ymddiried yn yr Arglwydd
'Roedd Moses, Job, a Dafydd,
Trwy'r prawf a'r cystudd prudd;
O! ryfedd, ryfedd ras,
Uwchlaw pob gofid cas,
Trwy gael boddlondeb goleu,
Gwell pryd o ddail na seigiau
O gigau breintiau bras.

Yn mha rhyw gyflwr bynag,
Medd Apostol dinag Duw,
Tan bob helbulon gofid calon,
Mi ddysgais foddlon fyw;
Boddlondeb ffydd, a hyder,
Bydd ddoethder mawr i ddyn,
A gweddi fywiol, dduwiol, ddiwad,
Â'r teimlad yn gyttun;
Os croes yw'n hoes o hyd,
Gan bwys gofidiau'r byd,
Boddlonwn yn yr Arglwydd,
Cawn adael heibio'n ebrwydd
Y byd a'i dramgwydd drud;
Cynaliodd Duw mewn gwên,
Y tlawd a'i blawd a'i 'sten,
Gweddiwn am gael profiad
O'i gerydd yn ei gariad,
A'i ymweliad i ni, Amen.

Boddlondeb
Ffarwel 'rwan, mi af ar gerdded,
Gobeithio fod rhyw rai'n ystyried;
Gwirionedd Duw sy'n dda yn mhob agwedd,
A hwn a'n barna ni yn y diwedd.


Enter Mr. Rondol Roundun.

Rondol
Ol! syn imi f'areth, Sian a fu farw,
Wel, bychan y gwyddwn yr awn yn wr gweddw:
Bhoi gwraig lysti, iachus mewn bedd,
Mae gan ange ryw gyredd garw.

O! mi f'aswn foddlonach yn fy nghalon,
Glywed claddu holl wragedd y cym'dogion;
Na chladdu Sian oedd lan ddilys,
Wraig drefnus, hyderus dirion.

O! mor ddaionus oedd hi, newydd ei hened,
Yn gweithio ac yu hwylio pawb gan gyniled;;
Ac yn trefnu ei theulu heb gelu'n gall,
Nis gwn i, mewn gwall mo'm colled.

Hi fydde'n gwneud mewn blwyddyn,
Er cysur, lawer cosyn:
Ni fydde'n dyfod fyth i dre',
O unlle cystal enllyn.

Ond am un llestr 'menyn, hi ga'dd gan enw,
A dim ond darn penog oedd yn y twb hwnw,
Ac o achos hyn bu gwragedd sir Fflint,
Yn taeru mewn helynt arw.

Nid oedd yn y byd, 'rwy'n coelio,
Ei gonestach hi am drin ysto;
Ond ambell farsiant cyfrwys iawn,
Fydde'n tynu penau mawn o tano.

Ond ne' gole i'w hened, pe gwelwn i haner,
Oedd ynddi hi o fendith a chyfiawnder;
Pe bae cyn onested bawb trwy'r wlad,
Ni fydde ddim lliwiad llawer.


Enter Mr. Pleser.

Pleser
Holo, Rondol, wr hylaw ar wndwn,
Mae rhywbeth yn eich pigo chwi, debygwn.

Rondol
O taw, taw gwell genyf i ti,
Ar fyrder dewi a'th fyrdwn.

Pleser
O cym'rwch amynedd, yr hen wr mwyna,
A chodwch eich calon, 'ry'ch yn edrych yn wla.

Rondol
O! ni ddichon un dyn sydd mewn croen,
Ddirnad y fath boen sydd arna'.

Mi gladdes wraig lan hawddgar,
Brydferthaf ar wyneb daear;
Nid oes i neb na dydd na nos,
A goelia 'r fath achos galar,

Pleser
Wel, gwendid mawr i chwi gwyno am dani,
Oni arosodd ei chytundeb gyda chwychwi?
Hyd wahaniad ange nis gwrthode hi ei bywyd,
Y darfu'r hen rwyd briodi.

Rondol
Peth mawr ydyw cariad, ni waeth iti dewi,
Mi gefes i golled syn am dani.

Pleser
Wel, ni chewch chwi mo'ni eto ar dir,
Fydde lanach i chwi'n wir foddloni.

Chwi glywsoch hen air yn dweyd yn groyw,
Byw gyda'r byw, a'r marw gyda'r marw;
Fe alle cewch eto wraig ddirus,
Ac aur hwylus ar ei helw.

Rondol
Pe cawn wraig bob dydd, fydda'i byth mor ddedwyddol,
A chael un mor lân a Sian Ddefosionol.

Pleser
Mae rhai'n magu merched eto'n ffri,
Ei chystal, os oedd hi'n orchestol.

Gwell i chwi 'mroi i gym'ryd eich pleser,
Nid oes ddim yn y byd ond ei amser;
Mae genyf farwnad a phrofiad ffri,
I'ch cysuro am dani'n dyner.

Rondol
Marwnad i Sian, wel iechyd i'th 'sene,
Braidd na 'wyllysiwn i glywed y geirie;
Ond ni roi fyth fath glod ar frys,
Yn gyhoeddus ag a haedde.

Pleser
Wel, dyma fi trwy'ch cenad,
Ar burnaws yn dechreu'r barwnad.

Rondol
'Rwy'n ofni bydda' i'n wylo'n swrth,
Wag lewyg, wrth ei glywed.

Cân
(Cân ar "y Ddimeu Goch".)
Chwychwi wragedd lygredd lun,
Bydd a'u gwyn am ga'lyn golud;
Mawr yw'ch rhyfyg yn mhob rhyw,
Yn rhwyldaidd i'w gyrhaeddyd;
Cym'rwch siampl ddyfal ddefod,
O ran mae'ch einioes mewn och! hynod,
Achwyn dirfawr, i chwi'n darfod.
'Roedd hon yn ddynes anian ddoniau,
A gogoniant iddi gyneu,
Ni fedd hi yma rwan ddimau.

Hi aeth o'r byd mae'n chwith i'w bol,
Am lawn ddigonol giniaw;
A chan na ddaw hi fyth yn ol,
Mae'n drwm i Rondol wrando;
Clywed cwyniad c'leta cynen,
A llais ehodiad llaes eu haden,
Taera dim o'r ty i'r domen,
Chwerw gwaedd y moch a'r gwyddau,
A'r hwyaid anwyl aeth yn deneu;
Ow golli Sian, mae gwall i'w 'senau,

Mae'r lloiau bach yn brefu'n gaeth,
A'r buchod llaeth yn beichio,
A'r gaseg farchnad, goesreg fwyn,
Mae hynod gwyn gan hono.
Och! o'r achos ni cha'r ychen,
Na'r wyn llywaeth, awr yn llawen,
Ond eu gwarchae heb odid gyrchen,
Ni waeth pe dryllid yr hen droellau,
Fe dorwyd calon troad chwiliau,
Nerth y gweuoedd aeth o'i couau,

Oer yw'r aelwyd arw nith,
Mae dwned chwith am dani;
I'r cwn a'r cathod cethin floedd,
Awch wallus oedd ei cholli;
Ac ni chai llygod byth mo'u llwgu,
Hi gadwa'r yd i gyd i fraenu
Heibio'n warthus heb ei werthu,
A'r tylodion, hwy hi a'a lediai,

1-300301-600601-900901-12001201-15001501-18001801-21002101-2400