a1a2, g1a2, g2a2, g3a3, g1a3, g2

Absalom Fy Mab (1957)

Albert Evans-Jones (Cynan)

Ⓗ 1957 Cynan
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 3, Golygfa 1


Tri mis yn ddiweddarach, ar doriad dydd.

Ar ben mur llydan dinas gaerog Mahanâim, rhwng y ddau borth.

Yny rhan dde ôl o'r mur adeiladwyd Disgwylfa ar hanner cylch, megis tŵr isel, agored, canllawog, a dau ris yn esgyn iddo. Cyfyd luman-bren ohoni yn dwyn lluman—y Llew o Lwyth Jwda.

Yn nes i flaen y llwyfan, ar yr ochr hon, y mae pen y grisiau cerrig sy'n disgyn i Borth Mawr y ddinas ac ystafell y Gwŷr o Gard.

Ar eithaf chwith y llwyfan cyfyd Tŵr y Brenin o'r mur, a drws derw yn arwain i'w risiau troellog. Er bod copa'r tŵr hwn o'n golwg, heibio i'r faner sy'n cyhwfan arno, gallwn weled pan gyfyd y llen, y golau'n tywynnu trwy ffenestr ei lofft gyntaf, lle bu'r Brenin a Joab trwy'r nos yn trafod cynlluniau'r frwydr sydd ar ddyfod.

Ar hyd cefn y llwyfan, o'r Ddisgwylfa i Dŵr y Brenin, rhed canllaw castellog y mur (battlements). Yn y gornel a ffurfir rhwng y canllaw castellog a Thŵr y Brenin saif y delyn, a chostrel win a ffiolau gerbron eisteddfa faen.

Yr ydym ni yn y gynulleidfa fel pe baem yn edrych i fyny i'r mur o'r tu mewn i'r ddinas. Gan hynny, ni allwn weled y wlad tu hwnt i'r mur,—dim ond yr wybren. Yn ystod y chwarae bydd yn hanfodol i liwiau'r wybren honno newid o doriad dydd hyd ddyfodiad nos; gan hynny, rhaid wrth seiclorama wedi ei goleuo'n briodol.

Cyfyd y llen ar olygfa o ddistawrwydd ar doriad dydd. Y mae'r Capten Beneia ar ei ddisgwylfa'n edrych allan, a'i lantern gyneuedig ar y canllaw gerllaw iddo. Wrth ben y grisiau cerrig o'r Porth Mawr saif Cŵsi tan arfau. Yn y gornel gerllaw'r delyn, â'i lantern ar lawr o'i blaen, fe eistedd Abisâg a'i phen ar fynwes ei chariad Ahimâs.

Wrth weled bod y wawr wedi torri a'i bod hi bellach yn dyddhau'n gyflym, fe gymer Beneia ei lantern a chroesi at ddrws Tŵr y Brenin. Tery ar hwnnw'n drwm deirgwaith â charn ei gleddyf noeth.

Yn nechrau'r olygfa sy'n dilyn bydd hi'n goleuo yn lled gyflym.

Beneia
Fy Arglwydd Frenin!... Fy Nghadfridog Joab!
Galwaf, yn ôl eich gair... Mae'n doriad dydd.



Symud y goleuni o ffenestr y Tŵr i'w risiau troellog fel y daw'r Brenin a Joab i lawr â lanternau yn eu dwylo. Ymwahana Ahimâs ac Abisâg â chusan hir, ac fe saif Ahimâs gerllaw Cŵsi i dderbyn y Brenin â saliwt.

Ymddengys y Brenin a Joab gan ddwyn lanternau. Bydd Joab yn cario hefyd tan ei fraich chwith sgrôl ac arni fath o blan neu fap o faes y frwydr.

Dafydd
Dydd da, fy Nghapten.


Mae llais y Brenin erbyn hyn yn gadarn, ei osgo'n fywiog, ei feddwl yn llym, a'i eiriau'n bendant.

Beneia
Henffych well, fy Mrenin.
Mae'r haul am godi'n glir ar ddydd dy frwydr.
Clir ar dy fuddugoliaeth y machludo.

Joab
(Yn edrych allan dros y mur.)
Boreddydd clir! Y mae'n arwyddo'n dda
I'n hachos. A diffodded gobaith Absalom
O flaen yr haul brenhinol, fel y diffydd
Y lantern hon o flaen goleuni'r wawr.
(Diffydd ei lantern.)

Abisâg
Rhoed Duw mai gwir y goel.
(Yn diffodd ei lantern hithau.)

Beneia
(Wedi diffodd ei lantern yntau a chroesi i'w ddisgwylfa, ac edrych i lawr tua'r Porth.)
A gaf i alw
Rhingyll ein Gwŷr o Gard i seinio'r utgorn?

Dafydd
Aros, am ennyd. Gad im edrych eto
Lle'r huna ugain mil o'm milwyr ffyddlon
Wrth danau'r gwersyll, cyn troi allan heddiw
I ryfel dros eu brenin.
(Gan edrych allan dros ganllaw'r mur.)
Dywed, Joab,
Am beth y sonia milwyr y nos cyn brwydyr.

Joab
Am amryw bethau:—rhai am wraig a phlant,
Eraill am rannu'r ysbail, ac am lancesi
A gânt i'w treisio yn nhrefi'r gelyn; rhai
Yn rhwygo a rhegi a lladd a llosgi eisoes
Yn feddw braf; ac eraill wrth y tân
Yn sôn yn sobr am fyd gwell wedi'r rhyfel.

Dafydd
A neb yn sôn am farw?

Joab
Na fydd, neb.
Marwolaeth ydyw'r hyn sy'n dod i eraill,
Nid byth i'r dyn ei hun... Ac o'r amryfal
Elfennau hyn yr asiais iti fyddin.

Abisâg
(Yn crynu.)
A'r rhain fydd heddiw'n penderfynu tynged
Achos ein Brenin.

Dafydd
Buont ffyddlon imi,
Pan aeth y miloedd ar ôl Absalom.
Rhoed Duw i minnau gadw'u ffydd yn lân.

Joab
Gwnaethost dy orau iddynt; ac mae plan
Dy frwydyr, tan Law Dduw, yn warant concwest.
Mae'n cyfiawnhau dy deirnos flin, ddi-gwsg
Yn planio trostynt.

Dafydd
Agor-o allan.
Archwiliwn unwaith eto wedd y wlad
Oddi yma, ac awn drosto'r ganfed waith.


Egyr Joab y plan allan ar ganllaw'r mur a phwyntio oddi wrtho brif nodweddion yr olygfa a welant.

Joab
Rhyngom a'r afon dacw Fforest Effraim,
Fel rhyw anghenfil du ar draws y fro;
Fan acw, 'nôl dy blan, bydd maes y gad.

Dafydd
Yn hollol! Rhaid i'w byddin fawr gwtogi
Ei blaen wrth ddod trwy fforest, fel na byddo
Fawr lletach na blaen byddin lawer llai.
A'r coed a ddifa fwy y dwthwn hwn a
Nag a wna'r cleddyf; dyna'n trap ni, Joab!

Joab
Beth yw d'orchmynion olaf?

Dafydd
Rhanna'n byddin
Yn dair; un fintai tan dy frawd, i'r chwith;
Ac un tan Itai'r Gethiad, ar y dde;
A'r drydedd tanat ti a mi'n y canol
I ddenu'r gelyn hyd i graidd Coed Effraim.
Gorchymyn i'r ddwy asgell gelu eu harfau
O dan eu clogau rhag pelydrau'r haul,
Dwy asgell, tu yma i'r coed,—nes iddynt glywed
Banllef dy utgorn yn cyhoeddi rhuthro
O fyddin Absalom ar dy ôl i'r coed.
Wedyn o dde a chwith, 'sgubed yr esgyll
Ymlaen, nes cau tu ôl i Absalom,
Mor ddiymwared ag y caeir trap.

Joab
Mae'n gynllun rheiol, teilwng o'th filwriaeth
Yn nydd dy nerth... Un pwynt a wrthwynebaf,
Nid ei di gyda ni i'r frwydyr hon.
Rhag ofn diffoddi golau Israel.

Dafydd
Pan wêl y llanc fi gyda thi'n y gad,
Ni chredaf y bydd iddo daro'i dad.

Joab
Nid ei di ddim i'r frwydyr y waith hon.
Pe cwympai'n hanner ni, fe safai'n hachos
Tra byddai'n Brenin eto'n fyw. Pe cwympai
Ein Brenin, cwympai'n hachos a'n calonnau,
A'r gelyn a'n difethai â lladdfa fawr.
Gan hynny, gwell i'r Brenin aros heddiw
Tan siars Beneia a chyda'r Gwŷr o Gard
Yn atgyfnerthiad in o Mahanâim.

Dafydd
Gan i chwi fentro'ch einioes dros eich brenin,
Gwnaf innau'r hyn fo da'n eich golwg chwi.
Un peth yn unig a erfyniaf—Bydd
Yn esmwyth, er fy mwyn, wrth Absalom...
Seiniwch yr utgorn!



O'i Ddisgwylfa amneidia Beneia i lawr ar Ringyll y Gwŷr o Gard o'n golwg wrth y Porth Mawr, a seinia hwnnw'r Reveille Hebreig i holl filwyr y brenin y tu fewn a'r tu allan i'r ddinas. Atebir gan wahanol utgyrn pell ac egwan o wahanol gyfeiriadau, a chlywir sŵn byddin yn deffro ac ymharneisio.

Joab
Ffarwel, fy Mrenin.

Dafydd
Ffarwel, Gadfridog glew.
(Gafaelant yn arddyrnau ei gilydd.)

Joab
Os lleddir dy was heddiw'n Fforest Effraim,
Ymffrostia f'anadl olaf mai gwas fûm
I'r milwr mwyaf mawr a fagodd Israel,
Nid Josiwa, ac nid Barac, ac nid Saul,
Nid Abner na Gideon, ond Dafydd Frenin.

Dafydd
Duw a'th warchodo, Joab.

Joab
Ac yn awr
Dangosed f'Arglwydd Frenin ei wedd rasol
I'w filwyr teyrngar fel yr elont heibio.
Safed fan hyn, ar y ddisgwylfa hon,
Lle y'i gwelo pawb, â'i law mewn bendith drostynt.

Dafydd
Mi wnaf.

Abisâg
Os myn y Brenin, af yn awr
I'w llety yn y ddinas er mwyn deffro'r
Frenhines a'r Tywysog Solomon i weled
Y fyddin yn ymdeithio i'r frwydyr.

Dafydd
Na,
Gad iddynt gysgu, tra bo cwsg i'w gael.



Esgyn Dafydd i'r Ddisgwylfa a chyfyd y fyddin fanllef fawr o'i ganfod yno, banllef yn terfynu â'r floedd "Duw gadwo'r Brenin." Amneidia'r Brenin â'i law am ddistawrwydd ac yna annerch ei wŷr.

Dafydd
Diolch, fy milwyr dewr... Y nef a'ch gwared
O fagl yr heliwr heddiw yn y Coed.
Nac ofnwch rhag y saeth a hedo'r dydd,
Na rhag y waywffon, canys Cyfiawnder
Fydd darian i chwi'n erbyn haid o fradwyr,
A Saeth Ymwared Duw a gliria'ch ffordd
Ifuddugoliaeth... A phan ddelo'r awr,
Atolwg byddwch esmwyth wrth fy llanc
A gamarweiniwyd. Dygwch ef at ei dad...
Ymlaen i'r fuddugoliaeth fawr! Ymlaen!



Banllef fawr eto, "Dafydd am byth!", "Ymlaen i'r fuddugoliaeth fawr!", "Ymlaen!"

Disgyn Dafydd o'r Ddisgwylfa wedi codi'r lluman brenhinol o'i soced yno, ac fe'i cyflwyna i ofal Ahimâs.

Dafydd
I'th ofal, Ahimâs, yn awr cyflwynwn
Luman y Brenin yn y frwydyr heddiw,
A hynny er anrhydedd, am it gario
Negesau Hŵsai atom o Gaersalem
Trwy bob enbydrwydd.

Ahimâs
(Yn penlinio i dderbyn y faner a'i chusanu.)
Diolch, Frenin da.

Joab
(Yn saliwtio.)
Yn iach it, arglwydd.

Dafydd
Yn iach, Gadfridog, cofia
Fy ngeiriau olaf ynghylch Absalom.

Joab
Dowch, Ahimâs a Chŵsi! Glynwch wrthyf!



Gan fartsio rhwng y ddau i lawr y grisiau am y Porth. Wedi saliwtio'r Brenin troant hwythau ill dau i ddilyn eu Cadfridog.

Rhed Abisâg trosodd at Ahimâs i ben y grisiau gan rwygo ymaith y broets aur sydd ar ei bron a'i hestyn iddo.

Abisâg
Gwisg hon yn arwydd rhyngom yn y frwydyr,
A'i rhin a'th amddifynno.

Ahimâs
(Dan deimlad dwys gan ei gwasgu unwaith i'w gôl yn gyflym cyn martsio allan ar ôl ei Gadfridog.)
Abisâg!



Cyn gynted ag y cyrhaedda'r Cadfridog i'r Porth Mawr, clywir llef utgyrn, gweryriad meirch yn y cerbydau rhyfel, bloeddio gorchmynion milwrol o bell, ac yna sŵn pib a drwm a martsio pell wrth i'r llu gychwyn tua'r frwydr.

Fe esgyn Dafydd eto i'r Ddisgwylfa, a sefyll yno â'i ddwylo'n estynedig mewn bendith dros ei filwyr wrth iddynt ymdeithio i ffwrdd.

Fel y gwanhao'r sŵn yn y pellter, y mae'r Brenin yn gwegian. Daeth yr adwaith arno, gorff ac ysbryd, a buasai wedi syrthio yn ei wendid oni bâi fod Beneia ac Abisâg wedi sylwi arno a rhedeg mewn pryd i'w gynorthwyo a'i roddi i eistedd ar risiau'r Ddisgwylfa. Yna rhed Abisâg i'r gornel gyferbyn i gyrchu cwpanaid o win a'i godi at ei wefusau, tra bo Beneia'n cynnal ei ben. Dadebra'r Brenin, ond y mae ei lais bellach yn wan a chrynedig.

Dafydd
(Yn y distawrwydd.)
Maen'-nhw wedi mynd bob un! Maen'-nhw wedi mynd!
Sawl un a ddaw yn ôl?... Pwy fyddai'n frenin?
(Cudd ei wyneb â'i ddwylo.)

Abisâg
(Yn dyner iawn.)
Eled fy Arglwydd Frenin i orffwyso;
Bu'r straen yn ormod iti. Cwsg ychydig.

Dafydd
Ni allaf gysgu, a'm byddin ar ei ffordd
I faes y gwaed.

Beneia
Bellach ni elli di ragor
I'w helpu nag a wnaethost eisoes. Tyrd,
(Yn ei helpu i godi.)
Cynhaliaf di i'th stafell wely. Tyrd.

Dafydd
Fy mwriad i oedd aros ar y mur
I ddisgwyl am redegwr o Goed Effraim
Gyda newyddion.

Beneia
Cwsg. Fe alwn arnat
Cyn gynted ag y gwelwn y rhedegwr.

Dafydd
Rwy'n llesg a blin, ond O! ni allwn gysgu
Er mynd i orwedd dro.

Abisâg
Coffa it ganu,
Yn ifanc, am ryw Fugail Da a'th ddug
O'th wae i borfa ir ger dyfroedd tawel,
Ac yno adfywhau dy enaid blin...
Dos gyda'r Capten, gorwedd ar dy wely
Am orig, ac mi ganaf tan y ffenest
Dy salm yn lle hwiangerdd... Pwy a ŵyr
Na rydd y Bugail eto hun i ti,
Fel i'w anwylyd?

Dafydd
Ac fe elwch arnaf?

Beneia
Ar unwaith... Tyred, arglwydd, gorffwys bellach.



Gan bwyso'n drwm ar fraich Beneia fe â'r Brenin i fyny'r grisiau troellog i'w ystafell wely. Wrth basio Abisâg fe orffwys ei law ennyd ar ei hysgwydd mewn diolch â chysgod o wên ar ei wyneb gwelw. Mae ffenestr yr ystafell wely yn agored.

Cyweiria Abisâg y delyn gan eistedd yn y gornel dde tan y ffenestr. Cyn ei bod wedi dechrau canu, fe ddychwel Beneia i ddrws y tŵr, ac wedi ei gau ar ei ôl fe guchia'n wawdlyd i gyfeiriad ffenestr y Brenin.

Sieryd tan ei anadl gan ddynwared yn goeglyd orchymyn olaf y Brenin ynghylch Absalom.

Beneia
"Bydd esmwyth er fy mwyn wrth Absalom." Baw!
(Ar y gair olaf hwn y mae ei lid yn ffrwydro, gan droi blaen ei gleddau noeth i lawr mewn ystum ddirmygus o ladd.)

Abisâg
(Tan ei hanadl, hithau.)
Hist! A thosturia, ddyn, wrth galon tad.

Beneia
(Yn ffyrnig ddistaw wrth groesi'n ôl i'w le fel gwyliwr ar y Ddisgwylfa.)
Pe bawn i'n Joab, fe gâi'r llanc "esmwythyd"!


Ni thâl Abisâg ragor o sylw iddo ond cymryd y delyn i'w chôl a chanŵn dawel gyda'r tannau.

Abisâg
(Yn canu.)
Yr Arglwydd yw fy Mugail cu,
Am hynny llawenhaf,
Gorffwysfa deg mewn porfa ir
Ger dyfroedd clir a gaf.

Ei ofal Ef sy'n adfywhau
Yr enaid mau bob awr;
Hyd union ffordd y deil i'm dwyn
Er mwyn ei enw mawr.

Er rhodio Glyn y Dychryn Du
A'r niwl o'm deutu'n daen,
Os oes gelynion yno 'nghudd,
Y Bugail fydd o'm blaen.

Fe'm dwg i'w babell rhag pob clwy
At arlwy rasol iawn,
Pêr olew croeso fydd fy rhan
A gwin mewn cwpan llawn.

Daioni 'Mugail sy'n parhau
A'i drugareddau i gyd;
A byth ni dderfydd croeso'r wledd
Yn hedd ei babell glyd.



Ac mor dawel â diweddglo'r salm, a'r wybren erbyn hyn yn las ddigwm«wl, yn araf fe gaeir y

LLEN

a1a2, g1a2, g2a2, g3a3, g1a3, g2