a1a2, g1a2, g2a2, g3a3, g1a3, g2

Absalom Fy Mab (1957)

Albert Evans-Jones (Cynan)

Ⓗ 1957 Cynan
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 2, Golygfa 3


Yr un, mhen dwyawr, sef ar awr y machlud.

Cyfyd y llen mewn disiawrwydd ar Meffiboseth wedi syrthio i gysgu ar y fainc yn ei ddagrau, a'i glog drosto.

Mae yn y cysgod braidd gan fod yr haul ar oledd yn taflu pwll o oleuni oraens trwy Borth yr Ardd, a bydd hwnnw'n graddol droi yn bwll lliw gwaed ar drothwy'r neuadd.

Rhuthra Absalom i'r neuadd trwy Borth yr Ardd mewn llawn arfogaeth, a'i gleddyf noeth yn estynedig. Fe'i dilynir gan Ahitoffel, wedi ymarfogi yntau, yn dwyn lluman Absalom yn ei law chwith a chleddyf estynedig yn ei law dde.

Edrychant o'u cwmpas yn ochelgar. Gwelant y cwpanau gwin hyd lawr a phob argoel fod Dafydd a'i Lys wedi ffoi yn frysiog.

Rhed Absalom i ystafelloedd dirgel y Brenin tra saif Ahitoffel i warchod Porth yr Ardd.

Dychwel Absalom trwy Borth y Brenin.

Absalom
(Yn gweinio'i gledd.)
Dim enaid byw! Mae'r adar wedi ffoi
O gyrraedd ein cleddyfau.

Ahitoffel
(Mewn angerdd.)
Ond nid o gyrraedd
Cleddyf yr Arglwydd am eu drwg weithredoedd.
Yn Llys y Brenin planner baner Barn!
(Gan blannu lluman Absalom yn y soced lle y buasai lluman Dafydd.)
Edrych! Mae un ar ôl... Rhy feddw'n siŵr
Pan ffodd y lleill o ganol gwledd a gwin.



Rhed Ahitoffel ato i fyny'r esgynlawr a'i ysgwyd i'w ddeffro, gan ei droi ar wastad ei gefn. Deil flaen ei gledd wrth ei wddf.

Ahitoffel
Deffro, y meddwyn swrth!

Meffiboseth
(Yn deffro a gweled y cleddyf a sylweddoli'r sefyllfa.)
O! lleddwch fi!
Paham y byddaf byw i weld eich gwarth,
Y bradwyr? Lleddwch fi wrth orsedd Dafydd.

Absalom
(Wrth Ahitoffel.)
Atal dy law!... Llais Meffiboseth yw.
(Gan ddod at Meffiboseth a'i godi ar ei eistedd.)
Cyfod mewn heddwch. Nid oes gennyf gweryl
 thi fy mrawd-dywysog.

Meffiboseth
O! paham
Y rhoddaist glust, fy mrawd, i'r dyn drwg hwn?

Ahitoffel
Dy frawd, ai e?... Penlinia i Frenin Israel.

Meffiboseth
Ni allaf i benlinio; a phe gallwn
Ni phlygwn namyn i Eneiniog Duw.
(Cyfyd Ahitoffel ei gleddyf bygythiol eto.)

Absalom
Gad iddo, arglwydd.
(Fe eistedd gerllaw Meffiboseth ar y fainc â'i fraich am ei ysgwyddau.)
Gwrando Meffiboseth,
Yr wyf mor hoff o'm tad ag yr ydwyt tithau.
Ond llawn o dwyll a dichell yw'r Frenhines.

Meffiboseth
Hi a fu'n pledio drosof.

Ahitoffel
Rhagor o'i dichell,
Er cael cefnogaeth gan Dŷ Saul i'w mab.

Meffiboseth
O mor ddaionus ydoedd trigo o frodyr
Ynghŷd yn Llys y Brenin.

Absalom
Yr wyt ti'n
Rhy ifanc i wleidyddiaeth; ac ni wyddost
Mor enbyd cyflwr Israel.

Meffiboseth
Mi wn hyn,
Mai Dafydd yw fy mrenin i, a'm tad.

Absalom
Ac ni niweidiwn innau ef er dim;
Fe ddown i ddealltwriaeth.—Amdanat ti,
Nac ofna ddim. Ni ddaw i tithau niwed.
Cei aros yma'n Ddistain Llys y Brenin.
A wyt-ti'n fodlon?

Meffiboseth
Nes dychwelo ef.

Absalom
O'r gorau... Ple mae'r goron... Wyddost ti?

Meffiboseth
(Yn troi at yr orsedd i'w cheisio.)
Yr oedd hi yma cyn imi syrthio i gysgu.

Ahitoffel
(Yn gafael yn ei fraich a'i throi.)
'Nawr, dim o'th gelwydd! Ple mae Coron Israel?

Meffiboseth
(Yn eofn.)
Nid oes dim celwydd ynof, fel tydi:
Yr oedd hi yma cyn imi syrthio i gysgu,
Ac fe ddiflannodd.

Absalom
Wyddost ti ddim mwy?

Meffiboseth
Dim mwy. Mi gerfiais gist o dderw i'w chadw.
Diflannodd hi a'r gist; ond sut ni wn.

Absalom
Na phoena ragor. Fe ddown ni o hyd i'r goron.
Ond edrych—gwna gymwynas â mi, 'wnei-di?

Meffiboseth
Os yw'n fy ngallu, heb wneud drwg i'r Brenin.

Absalom
Llychlyd y ffordd wrth deithio yma o Hebron,
A'r haul yn danbaid arnom.

Meffiboseth
(Yn codi costrel a ffiol.)
Fynni-di win?

Ahitoffel
Na! Paid â'i yfed... Dichon bod gwenwyn ynddo.

Meffiboseth
(Yn ddirmygus.)
Nid ydyw gwenwyn yn un o arfau Dafydd.
Edrychwch.
(Fe yf o'r ffiol ei hun.)

Absalom
Na, nid wy'n ofni gwenwyn
Gan Meffiboseth, ond ni ddeisyfaf win.
Mae 'ngenau'n gras,—syched am ffrwyth sydd arnaf
O'r ardd frenhinol wedi'n hymdaith boeth.
Grawnsypiau pêr ac aur-afalau'r brenin,
Y rhain ymrithiai o'm blaen o Hebron yma.
A ei-di i gasglu rhai?

Meffiboseth
(Gan gymryd basged fechan a myned ŵ'r ardd.)
Mi af, wrth gwrs.
Ni fynnai'n Tad fod croeso'i fab yn brin.

Ahitoffel
Sut yr wyt ti'n ei oddef?

Absalom
Does dim twyll
Yn agos iddo. Y mae'n werth ei ennill
O blaid fy hawl,—yr olaf o Dŷ Saul.
Eistedd, Ahitoffel, mae mwy i'w drafod.
Na phrepian Meffiboseth.

Ahitoffel
Eistedd di,
Fy Mrenin, yn gyntaf ar Orseddfainc Israel.

Absalom
(Wedi symud y fantell liwus a adawsid gan Dafydd ar yr orsedd, ac yna sylweddoli'n sydyn mai mantell ei dad ydyw a'i hanwesu'n dyner wrth ei rudd heb i Ahitoffel weled, cyn ei gollwng ar lawr ag ochenaid.)
O! nid fel hyn bûm i'n dyfalu'r foment
Cawn eistedd yn fy nhro ar Orsedd Dafydd.
Yr oedd y Llys yn llawn; ac â llef utgyrn
Y rhoddai 'nhad y goron ar fy mhen,
Wedi i Sadoc fy eneinio i
I gyd-deyrnasu â'm tad; a phawb yn bloeddio
"Duw gadwo Absalom!" a "Duw gadwo Dafydd!"

Ahitoffel
Petai ein byddin heddiw wedi cyrraedd
Caersalem yn ddi-rybudd, felly y buasai.
Naw wfft i'r gwyliwr dwl yn Ninas Hebron
A dybiodd fod Cŵsi ar dy neges di!
Cawsant ddwy awr o rybudd.

Absalom
Nid heb waed
Y dof yn frenin bellach.



Bloedd llais unigol o'r stryd yn y pellter: Byw fyth fo'r Brenin Absalom! Tyrfa o'r dinasyddion yn ymateb: Hosanna!

Ahitoffel
'Rwyt-ti'n frenin.
Eisoes yn serch Caersalem. Gwrando arnynt!



Bloedd unigol arall: Gwyn fyd yr hwn sy'n dyfod yn enw'r Arglwydd. Y Dyrfa'n ymateb: Hosanna i Absalom! Hosanna i fab Dafydd!

Absalom
(Yn wawdlyd.)
Tyrfa Caersalem! Oriog fel y gwynt
Yw honno byth. Heddiw yn frwd "Hosanna,"
Yfory'n bloeddio "Ymaith."

Ahitoffel
Gwrando 'nghyngor,
Mae gennyf ffordd i droi eu ffydd yn ffaith.
Camp fawr tywysog yw marchogaeth teimlad
Y dyrfa.



Saif Hŵsai ym mhorth yr ardd ac ymgrymu tua'r orsedd.

Hŵsai
Henffych well i'n brenin mwy.

Absalom ac Ahitoffel
Hŵsai!

Absalom
Pa fodd nad aethost tithau heddiw
Gyda dy gyfaill Dafydd?... Ai dyma'r tâl
Am ei holl garedigrwydd iti?

Hŵsai
Na,
Yr hwn sydd wrth Arch Duw yw 'mrenin i.
Yr hwn sy'n trigo yma'n Frenin Seion,
I hwnnw mae fy llw.

Ahitoffel
Fy arglwydd frenin
Pan oeddit mewn alltudiaeth yn Gesŵr,
Mentrodd fy arglwydd Hŵsai lid y brenin
Trwy ei gynghori i'th alw adre'n ôl.

Absalom
Do, nid anghofiais hynny, Ahitoffel.
Mwyn yw dy eiriau, Hŵsai. A daethost yma
Yn gyntaf o'r dinaswyr i'm croesawu,
'Rwy'n gwerthfawrogi'r weithred.

Hŵsai
Frenin Seion,
Rhoddais fy nghyngor pwyllog i'th dad Dafydd,
A phwy a wasanaethwn ond y mab
Sydd ar ei orsedd? Megis y bûm i'th dad,
Gad imi fod i'r Brenin Absalom.



Deil Absalom ei law ato. Fe esgyn yntau at yr orsedd a phenlinio i'w chusanu.

Absalom
Croeso i'n plith, Gynghorwr. Eistedd yma.
Rho imi fantais dy brofiadol farn.
(Eistedd Hŵsai ar y chwith i'r orsedd ac Ahitoffel ar y dde.)
F'arglwydd Ahitoffel, trafod yr oeddit
Ffordd i droi oriog ffydd y dyrfa'n ffaith.

Ahitoffel
Dangos dy hun yn berchen eiddo Dafydd.
Gwisg ei frenhinol glog.
(Gan ei rhoi dros ei ysgwyddau.)
Tor i'w drysorfa.
Dos heno i mewn i dŷ ei ordderch wragedd.
(Gan bwyntio'r porth.)
Yna, pan glywo'r dyrfa dy fod yn ffiaidd
Yng ngolwg Dafydd, a'th her yn her derfynol,
Ymrestrant oll o dan dy faner di.

Hŵsai
Cyngor cyrhaeddbell. Sicr o gael y dorf.

Ahitoffel
Un peth ymhellach. Dyro i minnau gatrawd
O filwyr Hebron. Mi erlidiaf heno
Hyd wersyll Dafydd... Ni ddisgwyliant hynny.
Fe'u trawaf hwynt, yn gysglyd a lluddedig,
Fe ffŷ ei osgordd wedi ei syfrdanu;
Ac nid rhaid inni ladd neb ond y brenin.

Absalom
(Yn delwi.)
Chytunais i erioed i ladd fy nhad.

Ahitoffel
Gad hynny imi. Bellach nid oes ffordd arall
I ennill heddwch, a'th goroni di
Heb unrhyw wrthblaid. Fe oroesodd Dafydd
Ei ddefnyddioldeb... Gwêl, mae'i haul ar fachlud
Mewn pwll o waed.
(Gan gyfeirio at y machlud sy'n dwysáu ei liw, o oraens i goch, ym mhorth yr ardd.)

Absalom
(Yn galed arno, a than ei anadl.)
Na! Na!... Fy arglwydd Hŵsai,
Beth yw dy gyngor di?

Hŵsai
Nid da yw cyngor
Y doeth Ahitoffel i ni'r waith hon.
Ti wyddost am dy dad, mai glewion grymus
Yw gwŷr ei osgordd. Nid ar chwarae bach
Y tarfir hwy gan ruthr gwyllt liw nos.
(Yn wawdlyd.)
Atolwg sut mae lladd "neb ond y brenin?"
Capten profiadol ydyw. Mewn rhyw ogof
Bydd ef a'i deulu'n cysgu'n gwbwl ddiogel,
A'r Cedyrn yn eu gwarchod. Hyd y llethrau
Bydd gwyliwr wedi ei osod ar bob craig
O gylch y gwersyll gan gyfrwyster Joab.

Ahitoffel
Gad hynny imi. Fe dduwn ein hwynebau
A disgyn ar bob gwyliwr yn ddi-sŵn.

Hŵsai
Methwch ag un, a deffry hwnnw'r gwersyll;
A Duw a'ch helpo rhag llid Cedyrn Dafydd!
F'arglwydd, mi fûm i'n un o fintai helwyr
Yn fy ieuenctid, ar ôl cenawon arth.
Gwelsom ddau genau'n sleifio i mewn i ogof.
Dringasom ar eu hôl â deg o gŵn
A gwaywffyn. Gollwng dau gi i'r ogof
I'w troi nhw allan. Ond clywsom ffyrnig ru
Y fam, tu fewn, yn boddi sgrech y cŵn
Wrth iddi eu rhwygo. Toc hi ddaeth i'r porth.
Safodd, a'i rhu fel taran hyd y bryn
A'i llygaid fel y mellt. Y peth ffyrnicaf
A welais ar ddau droed. Ie, wyth o helgwn
A adawsom wedi eu darnio o flaen y porth.
A llithro bendramwnwgl i lawr y bryn
Heb ennill cenau... Un peth ffyrnicach sydd
Nag arthes ym mhorth ogof lle mae'i chywion,—
Ei Gedyrn ym mhorth ogof lle mae Dafydd.

Ahitoffel
Pa gyngor gwell a roddai arglwydd Hŵsai?

Hŵsai
Os methiant fydd dy gyrch,—ar ôl y lladdfa
Liw nos ar dy ddilynwyr, torri calon
A wnâi gwŷr Hebron, a llithro adre'n ôl
A gadael ein Tywysog heb amddiffyn.
Gormod o fenter!

Ahitoffel
Menter yw pob rhyfel.

Hŵsai
Eto mae'r pwyllog yn mantoli ei siawns;
A dyma 'nghyngor,—tario yng Nghaersalem;
Arddangos yma holl ragorfraint brenin,
Oni lwyr-gesglir llwythau Israel atom
O Dan hyd Beerseba. Megis tywod
Y môr y bydd ein llu... Wedyn, Dywysog
Dos, ledia hwy dy hun i'w brwydyr gyntaf,
A bydd dy frwydyr gynta'n fuddugoliaeth.

Ahitoffel
(Yn ddirmygus.)
A ph'le bydd byddin Dafydd?

Hŵsai
Wedi encilio
Rhwng muriau rhyw hen ddinas. Ond fe'i tynnwn,
Megis â rhaff, i'r afon â'n llu mawr.
Arswydant rhag ein nifer. A'n telerau
Fydd rhoi ohonynt Ddafydd inni'n fyw.
Ac os ymwâd â'r goron,—ef a Solomon—
Cânt winllan ar y ffin, i'w thrin a'i throi.

Absalom
Hŵsai a roes y cyngor gorau heddiw.

Ahitoffel
Mae'n gyngor ynfyd! Rhaid eu taro heno
Yn sydyn yn eu blinder. Bydd yn rhy hwyr
Erbyn yfory. Ni ddaw siawns fel hwn
Byth eto i ladd y brenin.

Absalom
Pam "ei ladd"?

Ahitoffel
Am na chei heddwch fyth ac yntau'n fyw.
Gŵr gwaedlyd yw; gŵr sy'n dwyn barn ar Israel,
Newyn, a phlâu, a dwys ofidiau fyrdd;
Gŵr sydd â'i ddwylo'n goch gan waed Ureias,
Gad imi ei daro heno â chleddyf barn.

Absalom
Yr un hen stori.—Oni ddwedais wrthyt
Dalu ohono'n ddrud mewn edifeirwch?
Tosturiodd Duw, a hyd yn oed Nathan Broffwyd.
Paham y deli i sôn o hyd am ladd?

Ahitoffel
Fy Mrenin Absalom, offeryn dial
A fuost tithau unwaith yn Llaw Dduw,
Pan blennaist gyllell hir yng nghalon Amnon
Am dreisio dy hoff chwaer. Arhosaist awr
Y dial mewn amynedd; ond, pan ddaeth,
A glywaist ti orfoledd fel llif ffrydiol
Gwaed poeth y treisiwr dros dy law a'th gyllell?
Dyro i minnau'r un gorfoledd heno.

Absalom
(Yn troi ato'n bendant.)
'Chei-di mo'i ladd!

Ahitoffel
Wyt ti'n ynfydu, lencyn?
Rhaid imi ei ladd-o heno!

Absalom
(Yn codi.)
Dyna ddigon
A chofia 'mod i'n fab i Ddafydd Frenin.

Ahitoffel
(Yn derfysglyd.)
O'r gorau! Mab i minnau oedd Ureias!

Absalom
Beth? Mab i ti?

Ahitoffel
Fy mab... Nid mab cyfreithlon:
Llances o Hethiad oedd ei fam; ond Duw
A ŵyr fy nghariad at fy machgen dewr.
Yn ifanc daeth yn Gapten... Mewn sawl brwydyr
Y chwarddodd am ben Angau â Llanciau Joab?
Ac yna fe'i gadawsant; fe'i gadawsant
Ar ganol arwain cyrch tros Frenin Israel;
Ar amnaid eu Cadfridog fe'i gadawsant
O fwriad, fel y cwympai o flaen y gelyn,
A rifai ddeg am un; ac fel y caffai
Y Brenin gysgu'n esmwyth gyda'i wraig.

Absalom
Mae deunaw mlynedd er y trosedd hwn.

Ahitoffel
Beth yw blynyddoedd wrth ddialedd tad?
Anghofiodd pawb;—anghofiodd Nathan Broffwyd!
Ond nid anghofiais i.

Hŵsai
'Fentret-ti ffawd
Achos dy Frenin er dial llid personol?

Ahitoffel
Mae mwy o berygl yn dy gynllun di,—
Ymbwyllo! Oedi! Heno y mae taro
Ag ergyd barn y nef yn nerthu'n cyrch.
Edrychwch! Arwydd sicir!—Machlud haul
Fel pwll o waed wrth borth y llofrudd Dafydd!
(Yn bloeddio a dyrchafu ei gledd.)
Cleddyf yr Arglwydd ac Ahitoffel!

Absalom
(Yn bloeddio'n ôl i'w wyneb.)
Yr wyt ti'n wallgof!

Ahitoffel
(Yn bloeddio'n fygythiol a'r cleddyf yn dal yn ddyrchafedig.}
Gwallgof wyt dy hun!
Rhaid iti roi i mewn i'm cyngor heno.

Absalom
(Yn ail-eistedd yn urddasol ar yr orseddfainc ac yn llefaru mewn llais tawel, oer, haearnaidd.)
'Wyt-ti'n fy mygwth? Wyt-ti'n codi'r cledd
Yn f'erbyn innau, fel yn erbyn Dafydd?

Ahitoffel
(Yn cywilyddio a disgyn ar ei lin, gan newid ei dôn yn llwyr.)
Maddau fy nhymer wyllt, O Frenin grasol,
Anghofia ngeiriau byrbwyll.

Absalom
Cofiaf y lleill,
"Ni leddir brenin gan chwaraewyr gwyddbwyll,
Digon fydd cau o'i gwmpas i'w ddirymu..."
Dilynaf gyngor Hŵsai.

Ahitoffel
(Yn codi'n drist a distaw.)
Mae'r chwarae trosodd,
A minnau'n golwr... Esgusodwch fi...
Mae'n oerach yn yr ardd...



Ymgryma Absalom ei ben mewn caniatâd. Ymgryma Ahitoffel iddo yntau ar y trothwy. Yna try ar ei sawdl a myned allan.

Absalom
(Wrth Hŵsai, wedi saib.)
Ffrind, tywallt win.
(Hŵsai'n bwyllog yn cyrchu'r gwin a'r cwpan a'i estyn iddo, ac yna'n hamddenol yn tywallt cwpanaid iddo'i hun.)

Hŵsai
Ateb arafaidd—hwnnw a ddetry lid.
Diffoddodd dy air tawel ei gynddaredd.
Mae'n cywilyddio eisoes yn yr ardd.
'Rwy'n yfed i'th ddoethineb.
(Yf eto.)

Absalom
Llwydd i tithau!
(Yf eto.)
A diolch am aeddfedrwydd barn a phwyll
Yn lle gwylltineb gwallgo.
(Yfant ill dau eto. Clywir un donc yn unig ar y Gloch Larwm.)
Beth oedd hyn'na?
(Gwrandawant ill dau, ond ni chlywir na thinc na thonc wedyn.)

Hŵsai
Un donc ar y gloch?... Y gwynt oedd yn ei siglo,
(Cyd-yfant eto heb ragor o sylw iddi.)
Cynghorwr gwerthfawr yw'r hen ffrind, ond weithiau
Y mae'n lled fyrbwyll. Pan ddaw at ei goed,
Fe fydd yn llwyr gytuno â ni.

Absalom
'Wyddwn i ddim
Hyd heddiw fod Ureias yn fab iddo.

Hŵsai
Mi wyddwn i. Ond nid yw gwleidydd doeth
Yn gadael i'w deimladau ŵyrdroi'i farn.
Am les y wlad, yn lle defnyddio'i ben.

Absalom
Megis y gwnaethost ti, trwy ddyfod ataf
A'th gyngor, er dy gariad tuag at Dafydd
Fy nhad.

Hŵsai
'Rwy'n gyfaill iddo o hyd. Ond rhaid
Oedd rhoi'r llywodraeth ar dy ysgwydd gref
Er mwyn y wlad, ac er lles Dafydd ei hun.
Byth ni niweidiwn dy frenhinol dad.

Absalom
Na minnau byth. Ac O! mi allwn wylo
Wrth gofio'i groeso... Nid i'w erbyn ef
Y codais i wrthryfel, ond Bathseba.
Hi sy'n rheoli; a pha wir dywysog
A adai i hon ladrata'i etifeddiaeth
I'w phlentyn siawns?

Hŵsai
Tybed, a fyddai modd
Cyn dechrau brwydro, anfon at dy dad
Amodau heddwch? Gan ein bod ni'n gryfach,
Cawn osod amod caeth yn diogelu
Yr orsedd hon i ti.

Absalom
Byth ni chytunai
Tan orfod rhyfel. Ni adai balchder iddo.

Hŵsai
Dwys
A dyrys ydyw problem tad a mab
Ym mhob cenhedlaeth;—y gwrthdaro anorfod;
A'r naill yn caru'r llall yn nwfn y galon
Oni bai falchder... Tybed na fyddai modd
Cynnig amodau i Dafydd?

Absalom
Hollol ofer!
Dychwelai hwy â sen. Ni chyfamodai
Joab nac yntau â rhyw haid o fradwyr.
Minnau, ni siomwn wŷr a fentrodd bopeth
Er mwyn unioni cam â min y cledd.
Bellach, beth bynnag fo, rhaid cario'n hymgyrch
Ymlaen i fuddugoliaeth neu i fedd.



Clywir ysgrech arswydus gan Meffiboseth ger Porth yr Ardd a rhuthra'r bachgen i mewn ar ei faglau trwy bwll coch y machlud, gan lefain eto, wedi ei ddychryn o'i synhwyrau bron. Fe ddisgyn â'i fasged ar risiau'r esgynlawr â'i wyneb mewn parlys o ofn.

Hŵsai
(Yn myned ato i'w gysuro ac eistedd gerllaw iddo ar y grisiau.)
Be' sydd, fy machgen annwyl-i, be' sydd?

Absalom
Ai un o'm milwyr i...?

Meffiboseth
Acw...yn yr ardd...
Rhedais i'w erbyn... 'Roedd yr haul wrth fachlud
Yn dallu fy llygaid... Rhedais i'w erbyn... O!



Cyfyd Hiŵsai, ac o ystlysbost nesaf Porth yr Ardd fe edrych allan a gwêl yr hyn a ddychrynodd Meffiboseth. Delwir yntau dro, ac yna llefara.

Hŵsai
Nac edrych, arglwydd... Mae Ahitoffel
Wedi ymgrogi wrth raff y Gloch Alarwm.



Rhuthra Absalom i ystlysbost pellaf y porth ac edrych allan, a'r machlud gwaedlyd yn lliwio'i wedd. Am ennyd mae yntau'n fud. Yna llefara'n ddwys.

Absalom
"Mae'r chwarae trosodd," meddai, "a minnau'n gollwr."



Bloeddiadau'r dyrfa eto o bellter y stryd: Hosanna i Absalom! Hosanna i Fab Dafydd!

Absalom
(Yn ymgaledu.)
Bellach, beth bynnag fo, rhaid cario'n hymgyrch
Ymlaen, i fuddugoliaeth neu i fedd.


LLEN

a1a2, g1a2, g2a2, g3a3, g1a3, g2