a1a2, g1a2, g2a2, g3a3, g1a3, g2

Absalom Fy Mab (1957)

Albert Evans-Jones (Cynan)

Ⓗ 1957 Cynan
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 3, Golygfa 2


Yr un, ar ôl machludiad haul yr un diwrnod. Dim ond am funud neu ddau y gostyngwyd y Llen y iro yma, er dynodi pasio'r oriau "o godiad haul hyd fachlud hwn."

Ar sedd o faen yn y gornel rhwng y Tŵr a chanllaw'r mur, y mae Abisâg wedi syrthio i gysgu ger ei thelyn, ar ôl straen a blinder ei hir syllu allan am redegwr o'r frwydr, ond deil llygaid profiadol y Gapten Beneia i graffu tua'r gorwel o hyd o'r Ddisgwylfa. O bryd i bryd mae'n cysgodi ei lygaid blin â'i law gan fod y goleuni ar oledd o'r Gorllewin.

Llithrodd y Brenin i drymgwsg lluddedig yn ei stafell wely o'r pryd y bu clywed Salm y Bugail fel balm i'w ysbryd blin ar ôl teirnos ddi-gwsg.

Mae hi'n ddistaw iawn, ond torrir ar y distawrwydd gan ochenaid uchel, flinedig, y Capten wrth ymestyn a dylyfu gên. Wrth y sŵn deffry Abisâg, a llamu ar ei thraed a syllu'n eiddgar dros ganllaw'r mur, tua'r gorwel.

Abisâg
Welaist-ti rywbeth eto? Oes rhyw arwydd?

Beneia
(Yn goeglyd.)
Peth braf yw gallu cysgu ar ganol brwydr.

Abisâg
Chefais-i ond cyntun byr... A oes rhyw newid?

Beneia
Dim newid, na dim arwydd, na dim sŵn.
Weli di Fforest Effraim ar y gorwel
Fel rhimyn du? Am oriau bu fy llygaid
Yn craffu arni a heb weled dim;
Dim, er yr awr y llithrodd ein dwy asgell
I dde a chwith o'i chwmpas i'w hamgylchu.
Am oriau bu fy nghlustiau'n gwrando'n ddwys
Am unrhyw sŵn o'r Fforest. Dim yw dim.
Ac eto mae cymrodyr imi ynddi
Mewn ymdrech ddreng ag angau. Rhwng y cangau
Mae trwst y brwydro'n tarfu'r adar cân,—
Clinc cledd ar helm, clonc gwaywffon ar darian,
Bloeddiadau utgyrn a gweryriad meirch,
Gwaedd y capteiniaid, ac ysgrech sawl llanc
Mewn ing, yn treiglo â saeth yn ei goluddion,
A rhu cynddaredd ei ddialwyr ef.

Abisâg
Ton brwydr, yn ôl a blaen, a thynged gwlad
Yn hongian ar ei brig. Eto, ers oriau
Pam na ddôi sŵn hyd yma o graidd y Fforest
I ddweud eu hynt?... Gwrando!... Mor dawel yw.
Y miloedd ynddi'n marw'r funud hon,
Eto dim siw na miw i siglo'r prennau,
Dim sŵn ym mrig y morwydd.

Ni chyffroir
Tawelwch natur gan gymhelri dyn
A'i nwydau gwallgof. Heno twynna'r lloer
Rhwng cangau'r coed ar oer wynebau'r meirwon
Heb wahaniaethu dim rhwng ffrind a gelyn.

Beneia
Gobeithio i Dduw y bydd Absalom yn eu plith.

Abisâg
Yr wyt ti'n galed.

Beneia
Caled yw gair y nef
Am bob llanc tebyg, a watwaro'i dad;—
"Y fagl a osodwyd ar ei lwybr;
Ei gannwyll a ddiffoddir ganol nos;
Cigfrain y dyffryn sydd i dynnu ei lygaid,
Eryrod rheibus sydd i fwyta'i gnawd."

Abisâg
Och! Meddwl am ei dad.
(Gan syllu allan.)

Beneia
Byth ni bydd llawen.
Tad a genhedlo ffŵl, hyd ddydd ei dranc.

Abisâg
Edrych!... Ar y gwastadedd... Gŵr yn rhedeg!

Beneia
Negesydd ydyw!... Galw ar y Brenin



Rhed Abisâg i fyny grisiau'r Tŵr i ddeffro'r Brenin. Geilw Beneia ar Geidwad y Porth i lawr y grisiau gyferbyn.

Beneia
Geidwad y Porth!

Llais
le, Gapten?

Beneia
Y negesydd!
Agor y porth i'w dderbyn.

Llais
Purion, syr.

Beneia
A galw'r Gwŷr o Gard.


Daw'r Brenin allan ar y mur ag Abisâg yn ei ddilyn.

Dafydd
(Gan edrych dros y canllaw castellog.)
Pa le y mae-o?
Dangoswch-o i mi.

Beneia
(Yn pwyntio.)
Draw ar y gwastad.

Dafydd
(Yn cysgodi ei lygaid.)
Mae'r llygaid hyn yn hen; dwed a oes eraill
Yn rhedeg gydag ef o gwr y coed
Fel ffoaduriaid?

Beneia
Nac oes, neb ond hwn.

Dafydd
Ha! Os ei hun y mae, negesydd yw.

Abisâg
Ynawr 'rwy'n ei adnabod... Cŵsi ddu!

Dafydd
Negesydd Joab. Bydded wyn ei neges.

Beneia
Edrychwch!... Mae gŵr arall erbyn hyn
Yn rhedeg ar ei ôl... Mae bron â'i ddal.

Dafydd
Os wrtho'i hun y rhed, cennad yw yntau.

Beneia
Edrychwch!... Fo sy'n ennill... Pasiodd Cŵsi!

Abisâg
(Yn gyffrous iawn.)
Fy Mrenin, 'rwy'n ei nabod... Ahimâs!

Dafydd
Llanc da yw hwnnw. Newyddion da sydd ganddo.

Abisâg
Coffa i'r Brenin ddweud y gwystlai'i goron
Y trechai'r bachgen Cŵsi mewn tri mis;
A gwir y gair.

Beneia
(Yn llawn cyffro, yntau.)
Y nefoedd! Y fath ras!
(Geilw i lawr grisiau'r Porth.)
Y Gard! Trowch allan er anrhydedd iddynt!
(Llais Ahimâs o'r golwg wrth redeg am y Porth.)
Buddugoliaeth!



Cyffro mawr a banllefau llawen o'r Porth. Rhed Ahimâs i fyny'r grisiau â lluman y Brenin yn oblygedig tan ei fraich. Erbyn hyn nid yw'n gwisgo helm nac arfau. Fe ddisgyn ar lin o flaen y Brenin, a saif ris yn uwch nag ef, ar yr esgynlawr.

Ahimâs
Heddwch, fy Arglwydd Frenin! Bendigedig
A fyddo Duw, a ddaeth i'n cymorth heddiw
Yn erbyn dy elynion. Nid i ni
Eithr i'w enw Ef y byddo clod
Y fuddugoliaeth. Acw, yn nrysle'r coed,
Fe'u lladdwyd wrth y miloedd, ac mae'r gweddill
Yn rhedeg am eu heinioes rhag meirch Itai
(Yn agor a dyrchafu'r lluman.)
Duw a fendithiodd faner Dafydd heddiw.
Rhagor...

Dafydd
(Yn cydio'n ei ddwy ysgwydd.)
Ai diogel Absalom fy mab?


Ni all Ahimâs edrych yn llygaid y Brenin wrth ateb y cwestiwn, ac y mae'n rhy addfwyn i adrodd y caswir wrtho).

Ahimâs
Ar awr y fuddugoliaeth, 'roedd cythrwfl
Ymhlith ein milwyr—bloeddio a chroes-floeddio.

Dafydd
A ddaliwyd y Tywysog yn garcharor?

Ahimâs
Ni allwn aros dim i weld beth oedd.
Fe waeddodd y Cadfridog arnaf: "Rhed;
Brysia â'r fuddugoliaeth at y Brenin!"

Dafydd
Ein diolch, ffrind... Ac fel y cyntaf un
I ddwyn i'r Brenin y newyddion da
Am fuddugoliaeth, coffa'r ddefod hen
Fod y negesydd i gael hawlio'i wobr.
Ar ben dy redeg gwych y dwthwn hwn
Cofiwn dy ddewrder fel negesydd Hŵsai.
Enwa dy wobr, ac fel mai byw yr Arglwydd
Gofyn a thi a'i cei, beth bynnag fo.

Ahimâs
Fy Mrenin grasol a haelionus, rho
Dy delynores fwyn yn briod im.


Am funud syfrdanwyd y Brenin gan gais mor annisgwyl, fel un na ddaeth i'w amgyffred fod carwriaeth rhwng y ddau, nac y gallai ei delynores fod wedi ymddiddori mewn dyn ifanc.

Dafydd
(Tan yr ergyd.)
Fy nhelynores?...
(Yn dawel, heb edrych arni.)
Beth a ddywed hi?

Abisâg
Am ei ffyddlondeb mawr i'w Frenin rhoddais
Fy serch ar Ahimâs o'r cychwyn. Heddiw,
A'r nefoedd wedi ei ddwyn o safn marwolaeth,
Fe'i caraf fel fy ngŵr a'm harglwydd byth.
Yn ôl dy lw, atolwg, gwrando'i gais.

Dafydd
Haws, petai wedi gofyn hanner fy nheyrnas!
Ni fynnwn, ac ni fedrwn byth wynebu
Ar henaint heb dy gân.

Abisâg
Ac ni bydd rhaid.
Arhosaf yn dy Lys fel telynores,
A gwna fy ngŵr yn Gapten ar dy Gedyrn
Am ei wrhydri trosot.

Dafydd
(Yn ei ddyrchafu ar ei draed, a'i droi i'w chwith, a chyflwyno Abisâg iddo.)
Cymer hi.
Ar ei phriodas, Gapten, fe'i gwaddolaf
 gwaddol Tywysoges...
(Wrth Abisâg.)
Wyt ti'n fodlon?

Abisâg
O frenin mawr, haelfrydig.
(Gan gusanu ymyl ei wisg. Ahimâs yn crymu ei ben.)

Cŵsi
(O'r golwg wrih redeg am y Porth.)
Buddugoliaeth!



Cyffro eto islaw a banllefau llawen. Rhed Cŵsi i fyny'r grisiau a disgyn ar ei lin o flaen y Brenin yn yr un fan ag y buasai Ahimâs yn penlinio. Y mae ei gleddau (scimitar) o hyd yn ei ddeheulaw.

Cŵsi
Gwrando fy nghenadwri innau, arglwydd;
Myfi a anfonwyd gyntaf... Dial gwaedlyd
Heddiw a fu ar bawb o'r bradwyr budron.
Miloedd o'u cyrff fydd 'fory'n fwyd i frain
Tan farn y duwiau..

Dafydd
(Yn ddiamynedd.)
Ai diogel Absalom?

Cŵsi
(Yn dynwared ei drywanu ei hun yn ffyrnig deirgwaith â'i gleddau byr.)
Fel hyn... a hyn...a hyn, boed i bob bradwr
A godo i'th erbyn... Felly y bu i'r llanc
Sydd heno'n gelain gegrwth...



Try'r Brenin oddi wrtho wedi ffieiddio, a cherdda heibio i Ahimâs ac Abisâg gan syllu allan i'r cyfnos dros ganllaw'r mur mewn distawrwydd a'i gefn atom. Toc gwelwn ei ysgwyddaw'n dechrau tonni, ac o'r diwedd, dyn hi'r gri galonrwygol.

Dafydd
O, fy mab!
O Absalom, fy mab! O Absalom!



Yn ddall gan ddagrau, fe ymlwybra trwy'r ddôr am Dŵr y Brenin a'i thynnu'n dynn ar ei ôl. Eithr clywn o hyd trwy ffenestr ei stafell ei gri ingol wrth ddringo'r grisiau ac wrth ei fwrw ei hun ar y gwely.

Dafydd
Na buaswn farw drosot-ti, fy mab!



Tosturi mawr sydd yn llygaid Ahimâs ac Abisâg. Gydiant yn ei gilydd mewn cydymdeimlad dwys. Gwên lwynogaidd, fodlon, sydd ar wyneb Beneia ar ei Ddisgwylfa. Deil Gŵsi i rythu i gyfeiriad y ddôr gaeêdig gan fethu dirnad pam yr oedd yn rhaid i'w eiriau plaen am ddiwedd bradwr gyffroi cymaint ar y Brenin.

Cŵsi
(Gan godi ar ei draed o'r diwedd.)
Pob parch i'w dad. Thraethais-i ddim ond y gwir
Am ddiwedd bradwr.

Beneia
Sut y lladdwyd ef?

Cŵsi
Yn awr y fuddugoliaeth, a'n gelynion
Yn rhusio bendramwnwgwl drwy'r coed,
Safodd fy Meistr i dynnu saeth o'i glun
A golchi ei glwyf; a daeth picellwr ato
Gan ddweud mewn arswyd: "Fy Nghadfridog Joab,
Ganllath oddi yma gwelais olygfa syn—
Mae Absalom yn hongian wrth ei hirwallt
Tan dewfrig derwen, a'i anifail mud
Gerllaw'n ei ffroeni, wedi colli ei farchog
Oddi ar ei gefn wrth rusio o dan y gangen...
Mae'r llanc yn fyw!... "O, ynfyd!" medd fy Meistr,

"Paham na threwaist ef ac ennill gennyf
Wregys anrhydedd a deg o siclau arian?"

"Na," meddai yntau, "cofia air y Brenin!
Er mil o siclau byth nis lladdwn ef."

Yna'r Cadfridog, o gawell arfau'r gŵr
A gipiodd yn ei lid dair o'i bicellau
A gwaeddodd arnom, "Hai! Dilynwch fi!"

Ac â'r tair picell, ac Absalom eto'n fyw
Yn hongian felly, brathodd ef trwy'i galon.
A gwaeddodd ar ei lanciau oll i'w daro
A'i roi o'i boen... Felly y trengodd ef.

A chan nad oedd ei gorff dan yr holl glwyfau
Yn gymwys i'w ddwyn adref at ei dad,
Fe'i claddwyd mewn ffos ddofn o dan y coed,
A gosod arno garnedd gerrig fawr;
Ac felly y darfyddo am bob bradwr!


Clywir llais Dafydd elo'n llefain trwy'r ffenestr fel un a fu'n gwrando yntau ar y stori.

Dafydd
O, fy mab Absalom! Absalom, fy mab!

Beneia
(Tan ei anadl wrth Gŵsi.)
Os na chest wobr y Brenin, cei wobr Bathseba!
Prysura'n awr i'w llety yn y ddinas
Ac adrodd wrthi hi dranc Absalom;
Dos, galw hi yma ar frys,—a Solomon!

Cŵsi
'Rwy'n deall, Gapten. Gwnaf yn ôl dy air.
(Prysura ymaith i lawr y grisiau de.)



O'r pellter, yn raddol clywn y fyddin fuddugoliaethus yn dynesu yn sain utgyrn, pibau a drymiau... Erbyn hyn mae hi'n nosi. Cipia Beneia luman y Brenin o law Ahimâs a'i osod eto yn ei soced ar y Ddisgwylfa).

Beneia
Baner y Llew a fo'n croesawu'n harwyr
Buddugoliaethus adref.
(Yn galw i lawr y grisiau.)
Ho yna'r, Gard!
Estynnwch ffaglen imi i oleuo
Baner y Llew fel y bo i'w gweld o bell.



Estynnir ffacl gyneuedig iddo. Gesyd yntau hi i sefyll mewn soced arall ar flaen y Ddisgwylfa fel y bo'i fflam yn goleuo Baner y Brenin. Banllef gan y fyddin o'r pellter wrth ei gweled. Wrth glywed y fanllef orfoleddus honno, fe lefa'r Brenin eto â'i galon ar dorri.

Dafydd
O, fy mab Absalom! Absalom, fy mab!

Abisâg
(Yn ferw o gydymdeimlad.)
Mae'n ormod iddo! O! mae'n ormod iddo!
Gan y fath alar chwerw tyr ci galon
Os dônt i mewn i'r ddinas mewn gorfoledd
Yn sŵn y bib a'r drwm... Dos, Ahimâs,
Os wyt-ti yn fy ngharu, rhed i'w hatal,
Ac erfyn arnynt ddod trwy'r porth yn dawel
I'r ddinas, o ran parch i ing y brenin
A'i alar am e ifab... Rhed, Ahimâs.


Y mae awgrym ei gariad yn ddigon iddo. Rhed allan. Deil sŵn yr utgyrn, a'r pibau a'r drymiau i gynyddu o hyd fel y daw'r fyddin yn nes, nes; a deil yr wybren i dywyllu. Wrth glywed y rhialtwch dyna'r Brenin yn llefain yn uwch eto.

Dafydd
(Drwy'r ffenestr.)
O, fy mab Absalom!

Abisâg
(Mewn dirfawr ing hithau.)
Ni allaf oddef mwy.
(Fe red i droed grisiau'r Ddisgwylfa.)
Er mwyn trugaredd, diffodd fflam y ffaglen.
O flaen y faner, er tawelu'r llu.
Mae'u trwst yn sicr o ladd y Brenin.

Beneia
Beth?
Diffodd y ffaglen sy'n croesawu'r hogiau
Fu'n mentro'u bywyd trosom? Taw, y ffŵl.
Nid mewn tywyllwch y mae derbyn arwyr,
Ond dygant hwythau toc eu ffaglau tân.


Dafydd
Absalom!

Abisâg
Rhaid imi ddiffodd fflam y ffaglen yna!



Rhwng ei chydymdeimlad angerddol â phoen y Brenin a'i ffyrnigrwydd at ddideimladrwydd Beneia, fe ruthra'n hanner-gorffwyll i fyny grisiau'r Ddisgwylfa, eithr rhwystrir hi gan y Capten. Hyrddia'r eneth ei hun yn ofer yn erbyn grym cyhyrog y Swyddog, mewn ymdrech angerddol. A hwythau'n siglo'n enbyd ar y grisiau yn yr ymrafael, yn sydyn hollol distawa pob sŵn y tu allan i'r muriau,—mor sydyn yn wir nes peri i'r ddau ymatal a thorri ymaith oddi wrth ei gilydd mewn syndod. Rhed Abisâg i'w lle arferol wrth y canllaw a syllu allan.

Abisâg
(Wrth sylweddoli achos y distawrwydd.)
Diolch i Dduw, 'roedd Ahimâs mewn pryd.

Beneia
(Yn edrych i lawr o'r Ddisgwylfa.)
Mae rhai o'n milwyr eisoes wrth y Porth
Yn llithro i'r ddinas megis lladron nos,
Fel pe mewn cwilydd.... Os dy fwriad oedd
Gwarthruddo'r bechgyn cywir a fu'n ymladd
Yn erbyn bradwyr, cefaist dy ddymuniad.
(Gan rwbio ei wyneb a gripiwyd ganddi yn eu hymrafael.)
'Disgwyl dy fod di'n fodlon—y gath wyllt!

Abisâg
(Tan ei hanadl.)
Diolch i Dduw, fe lwyddodd Ahimâs.



Yn sydyn clywir llais grymus Joab yn gweiddi'n chwyrn o waelod grisiaw'r Porth, a daw'r Cadfridog i fyny'n frochus â ffagl gyneuedig yn ei law chwith. Y mae rhwymyn gwyn o amgylch clwyf y saeth ar ei glun, ac y mae braidd yn gloff eu gerddediad.

Joab
Pe le mae'r Brenin?... Pe le mae ffrind y bradwyr?
Pa le mae'r dyn sy'n gyrru gwarth ar fyddin
O'i ŵyr ffyddlonaf?

Abisâg
Aros, Gadfridog;
Mae'r Brenin yn ei stafell, —wedi ei glwyfo.

Joab
"Ei glwyfo," meddai hi! Welodd-o'r gwaed
Fu'n llifo'r dwthwn hwn o'n clwyfau ni
Fu'n ymladd drosto?
(Gan gyffwrdd â'i glun.)

Abisâg
Joab, trugarha
Gad iddo efo'i alar am ei fab
Yr un nos hon. Deued y fyddin adref
Yn ddistaw bach drwy'r Porth rhag torri ei galon.

Joab
Yn ddistaw, ai e?... Ers pryd mae telynoresau
Yn rhoi gorchmynion i gatrodau Israel?
(Try oddi wrthi'n sarrug.)
Rhaid imi weld y Brenin.



Ymddengys Bathseba a Solomon yn eu mentyll gorau a'u tlysau ym mhen y grisiau o'r Porth. Cŵsi sy'n eu hebrwng gan ddwyn ffagl o'u blaen. Ymgryma pawb. O dan fraich Bathseba y mae Cist y Goron, a wnaed gan Meffiboseth.

Joab
Fy Mrenhines,
Rhaid imi weld y Brenin. Mae dyfodol
Ei deyrnas yn dibynnu ar hynny'n awr,
A theyrnas Solomon.

Bathseba
Dos, galw arno.



Croesa Joab at y Tŵr, ac â charn ei gledd dyry dair ergyd drom ac araf ar y ddôr dderw. Gwrendy pawb yn astud, ond nid oes ateb. Rhydd Joab dair ergyd drom arall. Yna fe symud i weiddi tan ffenestr y Brenin.

Joab

Agor, O Frenin! Mater bywyd yw!



Yn araf agorir y drymddor, ac yno saif Brenin Israel,—yn hen ŵr loredig a chystuddiedig ei ruddiau a'i enau'n segian, a'i lygaid yn wag a phŵl. Mae'n sioc i bawb ohonynt ei weled. Eithr nid digon yr olwg druenus arno i'w arbed rhag cerydd Joab yn ei ddigofaint.

Joab
Beth ydyw hyn?—Dy fyddin di'n dychwelyd
O drechu deugain mil, a'u Brenin surbwch
Yn sorri yn ei stafell, heb un gair
O ddiolch iddynt am eu holl galedi
Er mwyn dy achub di a'th dylwyth.

Dafydd
(Yn sibrwd trwy wefusau crynedig.)
... Absalom!

Joab
Ie, Absalom, mae'n siŵr! Cafodd ei haeddiant.
Dangosaist tithau nad yw neb o'th weision
Yn cyfrif dim yn d'olwg wrth y bradwr;
Caru caseion a chasâu pob ffrind!

Dafydd
(Yn wantan.)
Na, na, Gadfridog.

Joab
O! mi wn yn burion
Pe Absalom fuasai byw, a ninnau'n feirw,
Da fuasai hynny yn dy olwg di;
A dyna'n tâl a'n diolch!

Dafydd
(Yn llesg.)
Taw yn awr.

Joab
Na wnaf, nes ychwanegu eto hyn—
Hwn ydyw'r peth ynfyta' a wnest erioed,
O'th ran dy hun, o ran parhad dy orsedd,
O ran dy dylwyth... Fel mai byw yr Arglwydd,
Oni ddangosi di dy wyneb heno
O ben y mur i'th filwyr, ni saif neb
Ohonynt gyda thi o hyn ymlaen.
Gwasgara'r fyddin ddewr, ac ni fydd neb
I ddwyn y Brenin adref i Gaersalem
Er sicrhau olyniaeth Solomon.
Tyrd, ymwrola. Dangos dy hun i'th fyddin.

Dafydd
Gwnewch â mi fel y mynnoch: aeth y goncwest
Yn lludw yn fy ngenau. Mae fy nghalon
Mewn bedd yn Fforest Effraim.

Joab
(Yn meddalu beth wedi cyrraedd ei amcan, ac yn cymryd braich y brenin i'w gynorthwyo).
Tyrd, yn awr.



Fe'i cynhelir gan Joab i fyny'r grisiau i'r Ddisgwylfa lle saif rhwng y ffagl oleuedig a'r faner. Gedy Joab ef yno fel delw lonydd o dristwch, a daw i lawr ei hun hyd ganol canllaw'r mur. Rhyngddo a grisiau'r Ddisgwylfa saif Beneia. Rhwng Tŵr y Brenin a chanllaw'r mur saif Abisâg a braich.Ahimâs yn dynn am ei hysgwyddau i'w chynnal. Ger grisiau'r Porth saif Cŵsi, a'i ffagl yn goleuo Bathseba a Solomon ar y gris. Gwaedda Joab ar y fyddin dros ganllaw castellog y mur, â ffagl yn ei law chwith ynlau.

Joab
Ffyddloniaid Dafydd, wele daeth eich Brenin
I'ch derbyn adre'n llawen o'r Ddisgwylfa
Mewn diolchgarwch,—yr hen ryfelwr dewr,
Llew o Lwyth Jwda. Arswyd y Philistiaid,
A chyfaill da pob milwr.
(Banllefau.)
Mae'n dymuno,
Wedi'r fath goncwest, i chwi orymdeithio
Yn orfoleddus at y wledd a'r gwin
Sydd heno yn eich disgwyl yn y ddinas,
Pob catrawd gyda'i gilydd. Mae y pyrth
O led y pen mewn croeso. Ac yn awr
Seiniwch yr utgyrn eto a'r bib a'r drwm,
A thanied pawb ei ffaglen o dân gwyllt
Nes fflamio'r nen.

Parod yn awr?... Ymlaen!



Gyda'r gorchymyn "Ymlaen" mae'n chwifio'i ffagl yn uchel: clywir taranfloedd o gymeradwyaeth, a chwery'r utgyrn a'r pibau a'r drymiau fiwsig yr orymdaith.

Try'r wybren (ar y seiclorama) yn fflamdanllyd gan y miloedd ffaglau buddugoliaethus.

Fel y daw corff y fyddin yn agos, fe arwain Bathseba Solomon at y canllaw gerllaw Beneia, a Chŵsi yn dal i'w goleuo o hyd. Gesyd y Frenhines y gist addurnedig ar lawr wrth y canllaw a thynnu Coron Israel allan ohoni. Yna, fe rydd Beneia help i Solomon ddringo ar ben y gist a chwyfio'i law ar y milwyr wrth iddynt fartsio i mewn drwy'r Porth. Yn sydyn, deil y Frenhines Goron Israel i fflachio uwchben ei mab.

Wrth weled hynny fe gyrraedd gorfoledd y fyddin ei crescendo, a chlywn y banllefau croch.

Banllefau
(Ad lib, hyd gwymp y Llen.)
Solomon! Solomon! Solomon!



Yn y gorfoledd newydd hwn mid oes neb bellach yn cofio am Ddafydd, Pêr-ganiedydd Israel gynt a'i gwaredwr rhag y Philistiaid, na neb yn edrych arno ond Ahimâs ac Abisâg.

Pan ddisgyn y Llen, fe saif y Brenin yno'n ffigur unig, crymedig, pathetig, nad yw'r holl rialtwch hwn yn golygu dim iddo, am fod ei galon wedi ei chladdu yng ngwaelod ffos ddofn o dan y coed yng nghanol Fforest Effraim.

LLEN

a1a2, g1a2, g2a2, g3a3, g1a3, g2