a1a2, g1a2, g2a2, g3a3, g1a3, g2

Absalom Fy Mab (1957)

Albert Evans-Jones (Cynan)

Ⓗ 1957 Cynan
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 2, Golygfa 2


Yr un,—bythefnos yn ddiweddarach. Yn hwyr brynhawn. Cadwyni o flodau lliwus a gerlantau yn addurno'r neuadd.

Gyfyd y llen ym miwsig a llonder dawns ddwyreiniol synhwyrus, ac y mae llawr y neuadd wedi ei glirio ar gyfer y Ddawns hon gan y Gordderchau o flaen y Brenin a'i westeion. O'r deg Gordderch, bydd rhai yn eistedd ar risiau'r esgynlawr tan ganu eu hoffer cerdd a'r gweddill yn dawnsio. Gyfodwyd y fainc hir i fyny ar yr esgynlawr, ar osgo, i'r dde o'r orseddfainc, a'r fainc fer i'r chwith.

Fe eistedd y Brenin ar yr Orseddfainc; ac ar ei dde fe eistedd yn y drefn hon: Bathseba, Solomon, Meffiboseth a Hŵsai. Ar chwith ar y droedfainc Abisêg (gyda'r delyn); ac ar y fanc fer, Joab. Gerlantau am bennau pawb ond y Brenin. Ffiolau a chostrelau gwin gan y cwmni, a chaethferch yn gweini arnynt gan weled nad erys ffiol neb yn wag. Pawb yn eu dillad gŵyl. Y Brenin yn gwisgo mantell ysgafn liwus. Coron o flodau am ben Abisâg. Joab, wedi diosg ei lurig a'i helm, a'i gleddyf yng nghornel y neuadd, er ymlacio mewn gloddesi a gwin. Efallai ei fod ef a Hŵsai eisioes braidd "dan ddylanwad"; nid yn feddw ond bod eu gerlaniau wedi disgyn braidd ar osgo!

Pawb o'r cwmni llawen yn cymeradwyo'n frwd ar derfyn y ddawns,—a'r dawns-wragedd yn encilio trwy Borth y Gwragedd.

(Dyna'r agoriad delfrydol, ond oni cheir digon o adnoddau yn y cwmni i gyflwyno'r ddawns uchod, fe ellid cyflwyno rhan o ysbryd y peth gan un ddawnsreg yn unig i ganlyn record addas o fiwsig Dwyreiniol.)

Hŵsai
(Yn gweiddi'n frwd, er bod braidd yn floesg ei leferydd.)
Dawnsio ardderchog!
(Yn ceisio eto'n ddistawach, gan sylweddoli ei fod wedi gweiddi gormod yng ngŵydd y Brenin y tro cyntaf. Yn gyfrinachol megis:)
Dawnsio ardderchog, f'arglwydd frenin, —cystal
Â'th loyw win i lonni calon hen.
(Gan edrych yn ddwys ac yn hir yng ngwaelod ei gwpan gwag, a'r lodes yn prysuro v'w lenwi.)

Dafydd
Mi fûm yn ifanc ac yr wyf yn hen;
Gwelais sawl gwae a gwynfyd, ond ni welais
Ffïol llawenydd yn fy myw mor llawn.

Joab
Am in gael byw i weld y dwthwn hwn
I Dduw bo'r clod.

Hŵsai
(Yn dynwared esgyniad colofn fig â'i ddwylo.)
Cael gweled mwg yr aberth
O flaen yr Arch yn esgyn!

Joab
Cael clywed Sadoc,
Offeiriad nef, heddiw ar ran ei frenin
Yn codi ei lef mewn mawl i Dduw.

Dafydd
A chlywed
Y bobol yn ymuno yn ein diolch
Am gymod bythol rhwng y tad a'r mab.

Joab
Yfwch, gyfeillion, eto i lwydd y brenin,
A phob rhwyddineb, i'w fab Absalom.
Yn Ninas Hebron heddiw.
(Cyd-yfant gan lefain.)
Llwydd i'n Brenin!

Hŵsai
Ac Absalom ei fab!



Yfant eto—ond nid Bathseba. Cuwch sydd ar ei hwyneb hi.

Joab
I goroni'n gwledd.
Atolwg rhoed ein telynores fwyn
Salm gyda'r tannau.

Abisâg
Yn llawen. Dyma salm
A wnaeth y Brenin at y dwthwn hwn
(Yn ei chanu gyda'r iannau.)

Llonder y Brenin yn ddi-lyth,
O Arglwydd, yw dy nerth;
A'i holl hyfrydwch a fydd byth
Preswylydd Mawr y Berth.

Achubaist flaen ei weddi daer
A hael rasusau'r nen;
Gosodaist, megis coron aur,
Lawenydd ar ei ben.

Oherwydd iddo wneud ei nyth
Yng nghysgod allor Duw,
Y Brenin nid ysgogir byth...



Yn ddisymwth torrir ar draws y salm gan lef gyffrous Cŵsi ynrhedeg drwy'r ardd tua'r neuadd. Fferrwyd y gân ar wefusau Abisâg a throes pawb tua'r porth.

Cŵsi
Brad! Brad!! Brad!!!
(Rhed i mewn gan ddisgyn ar ei lin o flaen y Brenin, ac ymladd am anadl.)

Joab
(Ar ei draed.)
Pa beth sy'n bod? Pa beth a wnaeth gwŷr Hebron?

Cŵsi
Cyhoeddi Absalom yn Frenin Jwda.

Joab
Yr wyt ti'n drysu. Ni chydsyniai byth.

Cŵsi
Mae Absalom eisoes yn teyrnasu yn Hebron,
Calon gwŷr Jwda a aeth ar ei ôl.

Dafydd
Ai saff Ahitoffel, ein Prif Weinidog?

Cŵsi
Barn Duw a'i hyso! Ef yw tad y drwg.
Bradwr! Rhagrithiwr! Cythraul o lwynog ffals!

Hŵsai
Onid yw am ddychwelyd i Gaersalem?

Cŵsi
O ydyw, F'arglwydd, mae'n dychwelyd heddiw.

Hŵsai
Caiff roddi cyfrif am ei oruchwyliaeth.

Cŵsi
Ar flaen eu byddin y daw Ahitoffel,
Tan gario baner teyrn-fradwriaeth Absalom.
(Cyffro mawr drwy'r Llys. Eistedd y Brenin yn syfrdan.)

Joab
(Yn sobri tipyn wrih glywed hyn, ac fel milwr profiadol yn meddwl am y cam ymarferol cyntaf yn wyneb y perygl.)
Ar flaen eu byddin? A chyrhaeddant heddiw?

Cŵsi
Rhedais bob cam... Cyrhaeddant hwy 'mhen dwyawr.



Cyffro mawr drwy'r Llys. Bathseba'n gafael am Solomon. Pawb ar eu traed ond y Brenin a Meffiboseth.}

Joab
Estyn fy arfau... Cân y Gloch Alarwm!
Tyn wrth ei rhaff nes clywo'r ddinas gyfan!



Cyfyd Gŵsi i ufuddhau. Teifl Joab ddwfr oer tros ei wyneb i lwyr sobri, ar ôl bwrw i'r llawr yn ddirmygus y gerlant flodau a oedd am ei ben, a'i sathru'n ddig).

Dafydd
(Yn syfrdan.)
Byddin i'm herbyn tan fy mab fy hun,
A baner brad yn llaw fy Mhrif Weinidog.
Ni roes Duw ddarllen wyneb.



Wedi estyn ei arfau o'r gornel i Joab, a gadael ar Abisâg ei arwisgo, rhuthra Cŵsi trwy Borth yr Ardd, ac yna o'r golwg tyn wrth raff y Gloch Alarwm—tinciadau cyflym, cyffrous, haearnaidd.

Feu hatebir gan Utgorn Alarwm o dŷ y Gwŷr o Gard. O'r pellter clywir sŵn cyffro a llefau'r ymgynnull.

Dychwel Cŵsi i Borth yr Ardd â'i gleddyf yn ei law. Rhuthra'r Gordderchau i Borth y Gwragedd yn frawychus i wybod achos yr alarwm a'r cyffro, a safant yno'n un twr ofnus.

Dafydd
(Yn codi trwy ymdrech.)
Solomon,
Cyrch di fy nghledd a'm helm a'm tarian imi.
(Â Solomon i stafell y Brenin i'w cyrchu.)
Bathseba, estyn dithau fantell gynnes.
O dan y sêr y byddi'n cysgu heno.



Gwna'r Gordderchau le iddi basio rhyngddynt i Dŷ'r Gwragedd i'w chyrchu). Ymddengys Beneia trwy Borth yr Ardd tan lawn arfogaeth.

Beneia
(Wedi saliwt â'i gleddyf.)
Clywsom y Gloch Alarwm! Gelwais y Gard.
Atolwg, fy Nghadfridog, be' sy'n bod?

Joab
Absalom sydd yn teyrnasu yn Hebron.
A bydd ei fyddin yma ym mhen dwyawr.

Beneia
Y bradwr ffiaidd!
(Gan boeri i'r llawr mewn dirmyg.)
... O! mi wyddwn i
Er pan adferaist ef i ffafr y Brenin...
Beth yw d'orchmynion?

Joab
Caeer holl byrth y ddinas.
Brysied pob gwyliwr i'w le ar y mur.
Wrth Borth y Glyn gosoder y Cerethiaid;
A'r Gethiaid o dan Itai wrth Borth y Ffynnon;
Fe gymer y Brenin a minnau Borth y Meirch
A Thŵr y Ffyrnau.

Dafydd
(Â'r hen filwr ynddo'n ddeffro.)
Nage, fy Nghadfridog,
Nid yw Caersalem i'w dinistrio er dim.
Ni allem ddianc mwy na blaidd mewn trap.

Joab
Beth yw dy gyngor?

Dafydd
Ffoi ar frys i'r anial,
Nyni a'n gosgordd. Fel yn nyddiau Saul
Awn eto ar herw i'r gwyllt. Yn y diffeithwch
Fe ddichon dyrnaid ddal i herio llu.
Ac yn y gwyllt bydd ffordd i atgyfnerthion
Ein cyrraedd o holl Israel, nes cael byddin
Fo'n ddigon mawr i drechu'r bradwyr hyn.
Ymladd am amser 'rwyf.

Joab
(Yn llawn edmygedd.)
Duw! Dyna'r tinc
A hoffwn yn dy lais pan oeddit iengach.
Ogof Adŵlam oedd dy blas bryd hynny,
Ninnau, o'n cuddfan, yn dal i herio Saul;
Ac myn y nef, gwych yw dy gynllun eto!

Gapten Beneia, trefna'r llu. Ymdeithiwn
Dros Afon Cedron, a llechwedd Bryn Olewydd,
A chroesi Rhyd Iorddonen am y gwyllt.

Beneia
Purion, Gadfridog... Rhyw orchymyn pellach?

Joab
Oes. Mae pob milwr i drafaelu'n ysgafn.
Dim ond ei arfau. Ymborthwn ar y wlad.

Beneia
Fy Arglwydd Frenin, trefnaf y llu i'ch disgwyl.



Ac wedi'r saliwt try ymaith ar ei sawdl.

Dwg Solomon helm a tharian a chleddyf ei dad, ac erbyn hyn bydd wedi gadael ei gerlant yn stafell y brenin. Diosg y brenin ei fantell ysgafn, liwus, a'i gollwng ar yr orsedd. Cynorthwya Abisâg Solomon i arwisgo'i dad.

Dafydd
(Wrth newid ei goron am yr helm, a'i gosod ar y fantell, liwus ar yr orsedd.)
"Pob milwr i drafaelu'n ysgafn."—Hon
Ni bu ond pwysau arnaf. Felly safed
Fan yma i'r neb a fyddo'n Frenin Seion.
Os Duw a'm dychwel, da... Ac onid e,
Mae helm yn fwy o gysur i ffoadur,
A chleddyf na theyrnwialen.
(Tyn y llafn a rhed ei fawd ar hyd ei fin.)

Hŵsai
Duw a'm helpo!
Ni chredais fyth y gwelwn Frenin Israel
Yn ei hen ddyddiau eto'n trin y cledd.
Rhowch gledd i minnau!

Dafydd
Na, hen gyfaill, gwrando.
Yr wyt ti'n ddeg a thrigain; ac ar daith
Trwy'r anial baich a fyddit arnom.

Hŵsai
Rhaid
Im wasanaethu 'Mrenin yn awr y praw.

Dafydd
Ti gei fy ngwasanaethu... Aros yma
A chymer arnat ochri Absalom.
Felly y rhenni eu cyngor... Anfon allan
Negesydd â'u cynlluniau hyd ein gwersyll.
Gosod dy feddwl pwyllog i ddirymu
Cyngor Ahitoffel.

Joab
Bydd awch dy feddwl
Yn brwydro dros ein teyrn fel awch fy nghledd.

Hŵsai
(Yn cusanu ymyl gwisg y Brenin mewn ufudd-dod.)
Rwy'n ufuddhau, fy Mrenin, ond goddefer
Im ddod i'th hebrwng hyd at Afon Cedron.
Ath adael yno â chusan gŵr di-frad.



Gwasga'r Brenin ei ysgwydd mewn gwerthfawrogiad o'i ffyddlondeb.

Daw Bathseba trwy Borth y Gwragedd tan ddwyn mentyll cynhesach i'r Brenin a Solomon a hithau. Syrth ei llygad mewn syndod ar y goron a adawyd ar yr orsedd.

Dafydd
Yn barod, fy Mrenhines? Doeth y gwnaethost
Ddwyn mentyll gwlân i gysgu tan y gwlith.
Encilied ein gordderchau i gadw'r tŷ
(Gan eu hysgubo ymaith ag ystum gorchmynnol ei fraich.)
Hyd ein dychweliad yma...
(Enciliant yn ofnus.)
Ac Abisâg,
Doeth fyddai i tithau ffoi i dŷ dy dad.
Yn Sŵnem. Mi anfonaf was i'th hebrwng.

Abisâg
Nac erfyn arnaf i ymado â thi,
Fy Iôr a'm Brenin tirion. Oni ddwedais
"Dy delynores ydwyf heddiw a byth?"
Lle trig fy Mrenin, yno y trigaf i.



Gorffwys llaw'r Brenin ar ei phen mewn bendith. Rhed Ahimâs i mewn trwy Borth yr Ardd a disgyn ar ei lin o flaen y Brenin.

Ahimâs
Cyfarch ffyddlonaf oddi wrth fy nhad Sadoc,
Sydd newydd glywed. Archodd fi ar frys
I redeg yma o'r Cysegr â'r neges hon:
"Os myn y Brenin weled Arch yr Arglwydd
Yn arwain allan heddiw ar flaen y llu
I'r anial gyda'th osgordd, dweded y gair..."
Mae chwech ohonom a'i cyfrifai'n fraint
Cael rhoi ein hysgwydd tani, a chario'i bendith
A bendith Sadoc gyda thi lle'r elych.

Dafydd
Fy niolch byth i Sadoc ac i'w fab,
Ond nid ymedy'r Arch. Â dawns a chân
Y cyrchais hi i'w gosod yng Nghaersalem,
Ac yng Nghaersalem mae hi i aros byth.

Ahimâs
Mi a'th ganlynaf, pa le bynnag yr elych.

Dafydd
Mae gennyf amgen gwaith it, Ahimâs,
Mwy enbyd hefyd.

Ahimâs
Dyro imi'r fraint.

Dafydd
Aros yn Seion fel rhedegwr Hŵsai.
Bydd mab offeiriad uwchlaw pob drwgdybiaeth.
Ar ôl i Hŵsai ddysgu eu cynllwynion
Dwg di ei neges im, a chei ymrestru
Yng ngosgordd Llanciau Joab ddydd y frwydyr.

Ahimâs
(Wedi sefyll a gogwyddo'i ben mewn gwerthfawrogiad o ymddiriedaeth fawr y Brenin.)
Fy Mrenin grasol!

Abisâg
(Gan estyn ei deheulaw.)
Ffarwel, Ahimâs.



Croesa yntau ati a chymryd ei llaw gan syllu'n fud i'w llygaid. O'r pellter clywir eto'r Utgorn Alarwm.

Joab
Utgorn Beneia! Mae'r Gwŷr o Gard yn disgwyl.

Dafydd
(Gan ledio'r ffordd.)
Deuwch, ffyddloniaid Dafydd... Tua'r anial!



Fe gychwyn Meffiboseth gydag ef ar ei ffyn baglau. Saif Dafydd gan edrych arno'n syn a sychu deigryn o'i lygaid.

Dafydd
(Â'i law ar ei ysgwydd.)
Na, na, fy machgen ffyddlon! Ni all cloff
Fyth ganlyn gyda byddin.—Ar ffyn baglau!
Aros sydd raid i ti.

Meffiboseth
(Mewn dagrau.)
O, Frenin mawr a thirion,
Pa beth a wnaf os collaf wedd dy wyneb?
Heb wên y gŵr fu'n codi'r tlawd o'r llwch
Syrthiodd yr haul o'r wybren. Beth a wnaf?

Abisâg
Dangos dy rodd i'r Brenin.

Meffiboseth
Mae'n rhy hwyr!

Abisâg
Bu'n cerfio cist, i'w Frenin gadw'r goron
Ynddi bob nos; a'i fwriad oedd cyflwyno
Ei waith yn anrheg heno wedi'r wledd.

Dafydd
Pa le y mae hi?

Abisâg
Cuddiodd hi tan y fainc
Nes dod o'r awr.

Meffiboseth
(Mewn dagrau.)
Taw! Bellach mae'n rhy hwyr.

Dafydd
(Yn dyner iawn, gan estyn ei ddwylo allan ato.)
'Roi-di mo'r anrheg imi, Meffiboseth?



Estyn Meffiboseth gist fechan, gywrain, gerfiedig, oddi tan y fainc a'i rhoi yn nwylo Dafydd mewn distawrwydd. Mae'r dagrau'n treiglo i lawr gruddiau'r ddau.

Dafydd
Diolch, dywysog hoff... Rwy'n dweud "Nos da"
Yn awr wrth Goron Israel.
(Gan ei rhoi yn y gist a gosod honno ar yr orsedd, ar y fantell liwus.)
Ond os daw bore
Buddugol fy nychweliad, galwaf arnat:
"Dwg im fy nghoron yn ei phrydferth gist"...
(Gan gusanu ei rudd.)
Ffarwel, Fab Jonathan!

Meffiboseth
(Yn torri i lawr yn llwyr.)
Ffarwel, fy Nhad!



Wedi i'r Brenin ei basio i gyfeiriad Porth yr Ardd, fe ddisgyn Meffiboseth ar ei wyneb ar hyd y fainc gan guddio'i wyneb yn ei freichiau mewn ymdrech i atal llefain allan. Er ei fod yn beichio wylo, a'i ysgwyddau'n tonni gan ing, ni chlywn ddim cri o'i enau, ond ambell igian dwys.

Fe â pawb allan ond Meffiboseth, sy'n dal i wylo ar ei wyneb ar y fainc. Y Brenin a Joab ar y blaen: Bathseba, Solomon a Hŵsai'n dilyn. Wrth fynd drwy'r Porth cyfyd Joab faner Dafydd o'i soced ger y Porth, a'i chario allan yn ddyrchafedig. Ennyd ar eu holau, Abisâg yn cario'r delyn. Ahimâs yn ei hebrwng. Wrth basio heibio i Meffiboseth rhoes hi ei llaw'n dyner ar eí ysgwydd mewn cydymdeimlad; eithr ni chododd ef mo'i ben.

Ahimâs
(Yn dyner wrth Abisâg ger y Porth, wedi i'r lleill gilio.)
Onid oes fantell gennyt erbyn heno?

Abisâg
(Tan wenu arno.)
Ni fu dim siawns i'w chyrchu.

Ahimâs
(Yn diosg ei fantell fer ei hun a'i gosod o'r tu ôl yn dyner ar ei hysgwyddau hi.)
Cymer hon,
Mae min ar nos yr anial.

Abisâg
(Gŵyra hithau ei phen yn ôl ato'n serchus gan sibrwd yn fwyn iawn.)
Ahimâs,
Duw a'th warchodo nes cawn eto gwrdd.



Yn dyner, ddiarwybod bron, am y tro cyntaf cusana yntau ei hwyneb estynedig tros ei hysgwydd. Dring ei llaw hithau mewn anwes al ei wallt. Yna try Ahimâs yr eneth â'i hwyneb ato. Yn ddisymwth gesyd hithau ei thelyn i lawr, ac y maent ym mreichiau ei gilydd mewn cusan hir. Gwahanant; cyfyd Abisâg y delyn ag ochenaid. Yna, mewn distawrwydd dwys, cerddant allan. law-yn-llaw fel plant.

A'r llwyfan wedi bod yn wag am ennyd, oddieithr am Meffiboseth sy'n dal i wylo yn ddistaw ar ei wyneb ar y fainc, wedi ei lapio'i hun yn ei glog, dychwel Bathseba yn wyllt a llechwrus. Wedi, edrych o'i chwmpas yn ofnus, cerdda'n lledradaidd at yr orseddfainc heb i Meffiboseth ei chlywed; cifia gist y goron oddi yno, ac wedi ei chelu tan ei mantell llithra allan yn gyflym a distaw trwy'r ardd.

Clywir Utgorn Beneia yn wan yn y pellter, yna wyla Meffiboseth ei ing allan fel un â'i galon bellach wedi torri.

LLEN

a1a2, g1a2, g2a2, g3a3, g1a3, g2