Drama fydryddol dair-act, gan Cynan
Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Môn, 1957
Lerpwl, Gwasg y Brython
Argraffiad gyntaf: Gorffenaf 1957
(Ac amcan o'u hoedran ar ddechrau'r ddrama.)
Dafydd, brenin Israel a Juda (62)
Y Tywysog Absalom, ei fab a'i etifedd (26)
Bathseba, ei frenhines
Y Tywysog Solomon, ei mab hi a Dafydd (15)
Y Tywysog Meffiboseth, mab Jonathan (18)
Joab, cadfridog Dafydd (40)
Beneia, capten ei wŷr o gard (30)
Abisâg, ei delynores (18)
Yr Henadur Ahitoffel, ei brif weinidog (70)
Yr Henadur Hŵsai, ei ail weinidog (70)
Ahimâs, mab Sadoc yr offeiriad, rhedegwr Dafydd (20)
Cŵsi (yr Ethiop), caethwas a rhedegwr Joab (25)
Gellir ychwanegu:
Caethferched y Frenhines a gordderchau'r Brenin
(Ac yn anweledig) Gwŷr o Gard, Utganwyr, Llueddwyr, etc.
Amser: Tua mil o flynyddoedd cyn Crist.
Digwydd y ddwy act gyntaf yn Neuadd y Brenin yn Ninas Caersalem, a'r olaf ar ben y mur rhwng y ddau borth yn Ninas gaerog Mahanaim. Y mae rhai misoedd rhwng Act I ac Act II, Golygfa 1 ac Act II, Golygfa 2; pythefnos rhwng Act II, Golygfa 1 ac Act II, Golygfa 2; a thri mis rhwng Act II ac Act III. Ar derfyn Act II, Golygfa 2, ac Act III, Golygfa 1, gostyngir y llen am ychydig eiliadau yn unig i ddynodi saib o rai oriau.
Cyflwynedig mewn parch a gwerthfawrogiad i Mr. a Mrs. T. W. Thomas, Pentyrch, a Mr. a Mrs. R. Roberts, Llansannan.
"Rhyfeddaf yn ddirfawr at y modd y llwyddwyd i wneud y cymeriadau'n bobl gyfan a chryno, ac i wneud y stori a'r plot mor glir a diddryswch. Y mae'r elfen ddramatig wedi ei thrafod yn feistrolgar dros ben ac yn artistig o gynnil, ac y mae gafael eithriadol ar y ddeialog drwyddi, a'r cyffyrddiadau barddonol yn ireiddio'r mynegi." Dr. T. H. Parry-Williams, Llywydd Llys yr Eisteddfod.
"Campwaith o ddrama, â mynd, (ie, rhuthr) ynddi. Mae'r gymeriadaeth yn bendant, saernïaeth y ddrama yn rymus a'r fydryddiaeth yn iaith lwyfan drwyddi." Mr. J. Ellis Williams, y dramodydd a'r Beirniad Cenedlaethol.
"Wrth ysgrifennu dramâu seiliedig ar y Beibl, ychydig iawn o ddramodwyr a lwyddodd i'w gwneuthur yn gyffrous mewn theatr ac ar yr un pryd yn deilwng o'u tarddiad mawreddog. Ar ôl darllen Absalom Fy Mab, fy nghred i yw bod Cynan wedi cyflawni'r orchest yn odidog ac wedi rhoi inni ddrama ardderchog, llawn dychymyg o ran cynllun a chymeriadaeth, a'i rhithmau barddonol fel lli'r afon. Fe ddylai hon brofi'n gaffaeliad mawr inni tuag at osod sylfeini'r Theatr Gymreig ar yr amod y rhoddir iddi yr adnoddau cynhyrchu a chyflwyno a deilynga." Mr. Huw Griffith, yr actor adnabyddus.
Cynlluniwyd y siaced lwch gan H. Douglas Williams
5-10 Awst, 1957, Eisteddfod Genedlaethol (Llangefni). Cynhyrchydd: Dewi Llwyd Jones