a1a2, g1a2, g2a2, g3a3, g1a3, g2

Absalom Fy Mab (1957)

Albert Evans-Jones (Cynan)

Ⓗ 1957 Cynan
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 2, Golygfa 1


Yr un, rai misoedd yn ddiweddarach. Bore teg arall. Saif y delyn wrth y droedfainc ger yr Orsedd. Solomon a Meffiboseth, y ddau mewn gwisgoedd tywysogaidd, ar fainc yr eirchiaid ar y dde i'r neuadd, yn chwarae gwyddbwyll.

Solomon â'i gefn at Borth yr Ardd.

Solomon
(Yn cytuno â sylw a wnaed gan Meffiboseth am Absalom.)
O,... 'rwy'n ei hoffi, ond nid wy'n hoffi ei ddull
O ddenu'r werin.

Meffiboseth
Pam? Pa beth a wnaeth?

Solomon
Cyfododd eisoes blasty iddo'i hun
Sy'n well na'r plasty hwn.

Meffiboseth
Gŵr celfydd yw,
A noddwr i wŷr celfydd; ato y tyn
Talentau newydd y genhedlaeth ifanc
Yn reddfol, fel y darnau dur at dynfaen,
— Penseiri, cerfwyr, a dodrefnwyr gwych,
Rhoes Absalom siawns iddynt...
— Ti sy i fynd.

Solomon
(Yn cofio'n sydyn.)
O, ie,
(Fe symud un o'r darnau. Yn sbeitlyd:)
Syniad gor-newydd oedd cael cerbyd rhyfel
Ar gyfer mab y brenin,—ffasiwn estron—
A deg a deugain o redegwyr buain
I duthio trwy'r heolydd gyda'r meirch
Yn lifrai Absalom... Pam na chaf innau
Gerbyd tywysog?

Meffiboseth
Gwêl,—mi symudaf i
Fy marchog.
(Yn symud y darn.)

Solomon
Cofia, 'rwy'n hoff o'm brawd,
Mae'n hwyliog ac yn llawen a charedig,
Ac yn un da am stori o'i ddyddiau alltud;
Ac mae o'n farchog campus.

Meffiboseth
Campus! A'r Brenin
Yn ymfalchïo'n llon fod ei etifedd
Yn arwr cenedl.



Erbyn hyn daeth Absalom i mewn o'r ardd y tu ôl i Solomon, a saif i wylio'r chwarae heb i'r ddau fachgen sylwi arno. Yn ei law y mae chwip cerbydwr, ac y mae ei wisg yn orwych.

Solomon
"Balchder o flawn cwymp"—
Felly y dysgais i gan Nathan Broffwyd.
Paham mae Absalom yn gyrru ei gerbyd
Bob dydd i'r porth mor fore, a galw ato
Bob gŵr sy'n eistedd yno ag iddo fater
I'w ddwyn gerbron y Brenin? Gwrando'u cŵyn
A chydymdeimlo â dynion o ffordd bell
A fu'n hir ddisgwyl am wrandawiad,—"O!
Na'm gwnaethid i yn farnwr dan y brenin,"—
Hyn yw ei gân,—"buan y caech gyfiawnder."
—Felly y mae'n lladrata eu calonnau
 gwên a geiriau gwag.

Meffiboseth
Gwarchod dy frenin!

Solomon
Does ganddo byth na gair na gwên i'm mam.

Meffiboseth
'Wyt ti am symud?

Solomon
Dyna!
(Yn symud darn.)

Meffiboseth
Tsiec! Rhy wyllt
Oedd dy symudiad.

Solomon
Yna, mi symudaf hwn.
(Yn symud.)

Meffiboseth;
Os felly, edrych yma,—Rhag fy marchog
Ni all dy frenin symud. Fe'th orchfygwyd!

Solomon
(Yn cicio'r bwrdd a'r darnau trosodd ac yn codi mewn tymer hogynnaidd.)
Os felly, i lawr â'r cwbwl gyda'i gilydd!
Brenin a marchog, gwerin ac offeiriad!

Absalom
(O'r tu ôl yn gafael yn ei ben yn chwareus, a'i wthio'n ôl ar fainc, a garwhau ei wallt.)
Yn ara' deg, frawd bach, yn ara' deg!
Y mae ailddechrau rywbryd ar bob chwarae,
—Ar chwarae gwyddbwyll ac ar chwarae teyrnas.
Mynwes yr ynfyd sy'n coleddu siom
Y collwr sâl.
(Yn ysgafn.)
Mae'r werin dost ar lawr
Ar ôl dy chwyldro sydyn; onid braint
Tywysog yw eu codi?

Solomon
(Yn edifeiriol ddigon, wrth eu casglu.)
Bûm yn ffŵl,—
Prepian, yn lle rhoi meddwl ar y chwarae!
(Yn ofnus.) 'Faint glywaist-ti?

Meffiboseth
'Faint glywodd f'arglwydd dwysog
O'n siarad gwag?

Absalom
(Tan wenu.)
Llawn digon imi ddweud
Wrth fy mrawd bach fel hyn.
(Gan ei arwain i'r porth.)
Gwêl, Solomon,
(Clywir y meirch yn gweryru o weld eu perchen.)
Fy ngherbyd ar y ífordd, wrth borth y brenin;
Y grymus Metheg-Ama ydyw gyrrwr
Y ddau farch du, porthiannus. Esgyn dithau
A Meffiboseth iddo, ac fe'ch dwg
Trwy borth y ddinas ac am dro i'r wlad.

Solomon
(Yn awchus.) Ac yno a gaf i gymryd yr awenau?

Absalom
Ti gei,—tan wers a gofal Metheg-Ama;
(Gan deimlo gïau breichiau Solomon.)
A'r dydd y dwedo wrthyf fod dy freichiau
Yn ddigon cryf i drin dau geffyl nwyfus,
Heb droi fy ngherbyd, mi rof anrheg iti—
Cerbyd i ti dy hun â dau farch gwyn.

Solomon
(Yn ei anwesu.)
Fy mrawd haelionus!—Meffiboseth, tyrd!
Brysia ar unwaith! Ple mae'r baglau? Brysia!

Absalom
Gan bwyll!—O wers i wers mae dysgu gyrru
Y cerbyd hwn,—fel cerbyd y wladwriaeth.
(Gan roddi ei freichiau am ysgwyddau'r ddau dywysog bach.)
Gall diffyg pwyll rhwng brodyr droi y ddau.



A'r tri thywysog yn ymdoddi fel hyn mewn chwerthin cyfeillgar, daw'r Brenin o'i ystafell gyda'i ddau Gynghorwr. Fe edrych yn llawen o'r esgynlawr ar y darlun hapus hwn. Ymgryma'r tywysogion ynghŷd iddo, ac Absalom o hyd â'i freichiau am ysgwyddau'r ddau arall.

Dafydd
Dydd da, fy meibion.
(Wrth ei Gynghorwyr.)
Wele mor ddaionus
A hyfryd ydyw trigo o frodyr ynghŷd.
Mae fel yr ennaint gwerthfawr... Mi wnaf gân
Ryw ddydd ar beraroglus rin brawdgarwch.

Absalom
Dydd da i'n harglwydd a'n brenhinol dad.

Hŵsai
Newyn yn Gilgal, a newyddion drwg
O ddinas Hebron, ond mae'r olygfa hon
Yn ddigon i orbwyso pob gorthrymder.

Absalom
Newyddion drwg o Hebron, lle y'm ganed?

Ahitoffel
Ie, o Hebron. 'Roedd ein harglwydd frenin
Yn awr yn trafod Hebron gyda'i Gyngor.

Dafydd
Dwedwch yr helynt wrth fy nhywysogion,
A thraethent hwythau'u barn.

Ahitoffel
Clywch, fy arglwyddi,
O'r cychwyn ni bu Dinas Hebron fodlon
Ar osod ein prifddinas yng Nghaersalem.

Absalom
Nid rhyfedd chwaith! Fy Hebron hardd a hen,
A'i chastell tyrog yng Nghadernid Jwda,
A'i thraddodiadau 'n ôl at Abraham
A Sara, sydd â'u hesgyrn yno'n huno'n
Ogof Macpela; Hebron sydd â'r heniaith
Yn groyw, gadarn, ar dafodau'i phlant,
Nid megis bratiaith y Jebiwsiaid hyn
O'n cwmpas yng Nghaersalem.

Dafydd
Ond mewn cyrch
Y trechais i Gaersalem y Jebiwsiaid,
Trwy ddringo'r gwter i'w caer anorchfygol,
Ai throi hi'n Ddinas Dafydd, gan ei harddu
Ag adeiladau teilwng o Brifddinas.

Absalom
Nid adeiladau sydd yn gwneud prifddinas;
Nid urddas gair y brenin na'i gynghorwyr,
Ond urddas llên ac iaith a hir wasanaeth.

Ahitoffel
Mae Hebron wedi gwrthod treth y Brenin.

Hŵsai
I'w gwario ar Gaersalem, meddant hwy!

Dafydd
Beth yw dy gyngor?

Absalom
(Wrth ei gyd-dywysogion.)
Frodyr da, dywedwch
Beth sydd yn uno cenedl tan brifddinas?

Solomon
Beth sydd yn uno cenedl? Cyfraith union
Brenin yn barnu ei bobol mewn doethineb.
Hyn sydd yn uno cenedl.

Absalom
Meffiboseth?

Meffiboseth
Tegwch bro, a serch ei llwythau'n clymu
Fel y winwydden am y tegwch hwn,—
Ei choed, ei bryniau, ei hafonydd clir.
Y tad yn dysgu i'w fab ar gân ei charu,
A'r fam yn dysgu i'r ferch,—a'r gân a'r iaith
A'r tegwch yn ymdoddi'n un dreftadaeth,
Mor gyfrin, o genhedlaeth i genhedlaeth,
Fe fyddai'n wiw gan ddyn gael marw drosti.



Daw Joab i mewn trwy borth yr ardd. Ymgryma i'r Brenin.

Absalom
Beth sydd yn uno cenedl, F'arglwydd Joab?

Joab
'Does dim sy'n haws i'w ateb,—Byddin gref.
Nid cynnull sydyn haid ar alwad rhyfel
Er atal goresgyniad,—haid â'u calon
Yn toddi wrth sain cyrn, neu garlam meirch.
Rhowch imi fyddin hur yn ein prifddinas,
Gwŷr sydd bob dydd yn trin y cledd a'r bwa;
Yn nofio, yn rhedeg, ac yn ymgodymu,
Yn ufuddhau'n ddigwestiwn; gwŷr sy'n sefyll
Fel clawdd o ddur o flaen taranau'r meirch,
Neu unrhyw ddirgel arf fo gan y gelyn.
Rhowch imi fyddin felly i gadw heddwch,
A bydd ei harswyd ar ein holl gymdogion;
Ac os bydd tref yn Israel hithau'n gyndyn,
Fe syrth fy ergyd arni fel llaw barn.
Does dim sy'n uno gwlad fel byddin gref.

Dafydd
Beth sydd yn uno cenedl, Absalom?

Absalom
Crefydd sy'n uno cenedl, f'arglwydd frenin.
Un Duw, un allor, un teyrngarwch dwys,
Yn asio llwyth wrth lwyth yn fflam un ffydd.
Am hynny, f'arglwydd frenin, dyma 'nghyngor;
Gwneler Caersalem yn brifddinas crefydd
Israel a Jwda gan Orseddfainc Dafydd...
Erys yr Arch o hyd mewn pabell foel,
A ninnau'n byw mewn plasau o goed cedrwydd.
Cyfoder yma Demel genedlaethol,
Un enw gwell y sydd na "Dinas Dafydd,"
A'r enw hwnnw—"Dinas y Brenin Mawr."



O ddechrau ei sôn am Gaersalem fel Prifddinas Crefydd y mae'r lleill tan gyfaredd ei huodledd yn dechrau ei borthi'n frwd, ac yn torri allan. mewn cefnogaeth orfoleddus ar "Dinas y Brenin Mawr". O ddechrau ei gyfeiriadau at Deml, bu Solomon yn cymryd nodiadau ac yn cynllunio Teml ar ei dabled.

Dafydd
"Dinas y Brenin Mawr!" Fy mab ardderchog!
A chan na chodir hon mewn dydd na blwyddyn,
Rhoed Duw hir oes i'm plant i'w sylweddoli.
(Wrth Solomon wedi sylwi arno yn lenwi ei dabledi.)
Pa beth wyt ti'n gynllunio?

Solomon
Teml, fy nhad,
(Gan ddangos y tabledi.)
Y deml sydd i'w chodi ar fryn Moreia
Wrth fwriad Absalom.
(Wrth y lleill o'r cwmni.)
A dyma'i llun.

Meffiboseth
(Yn edmygu'r llun.)
O rhowch i minnau'r fraint o gerfio'i chedrwydd
Yn gnapïau addurn ac yn flodau lili.

Dafydd
Gwyn fyd pob tad â meibion fel y rhain,
Fel un, mewn planio ac mewn cydweithredu,
Er mwyn gogoniant y Goruchaf Dduw.

Ahitoffel
Hyn oll a gymer amser. Eithr heddiw
Y gwrthyd Hebron anfon treth y Brenin
I lys Caersalem. _ Beth a wnawn ni heddiw
 thref wrthnysig?

Absalom
Fy mrenhinol dad,
Nes codi'r deml unol yng Nghaersalem
Fe lŷn pob tref wrth ei huchelfa'i hun.
A chan mai Hebron yw 'nhref enedigol,
Atolwg, gollwng fi yfory, ac af
At allor Hebron. Talaf yr adduned
Fan honno i Dduw am gymod mwyn â'm tad;
Ac felly yr enillwn yr Hebroniaid.

Ahitoffel
Cyngor rhagorol—teilwng o Fab Dafydd.

Dafydd
Llwydded yr Iôr d'ymweliad, Absalom,
A'r un dydd mi offrymaf finnau f'offrwm.
O flaen yr Arch ar allor Duw yng Nghaersalem.

Joab
Ai digon fydd pythefnos i drefnu'r dydd?

Dafydd
Digon. Rhoddaf i Sadoc yr offeiriad
Godaid o arian fel y brysio i brynu
Bustych ac ŵyn ddigonedd at yr aberth,
A phorthi'r sanctaidd fflam â braster hyrddod.

Hŵsai
A'r dydd yr edrych Duw i lawr o'r nefoedd
A gweld dwy golofn fwg, o fawl dwy ddinas,
Derbynied Ef yr ebyrth, a chymoded
Yn ei dangnefedd Hebron a Chaersalem,
Fel y cymododd Ef y tad a'r mab.

Dafydd
Cyhoedder wedi'r aberth wledd a dawns
Ag utgyrn arian i'r dinaswyr oll,
Yn Hebron a Chaersalem. Boed y dydd
Yn ddydd o lawen chwedl trwy'r holl wlad.

Ahitoffel
Ai diogel mynd o'n Twysog Absalom
Ei hun i Ddinas Hebron? Oni ddwedant
"Gyrasom weision Dafydd adre'n waglaw
Mewn dirmyg, pan ddoent yma i gasglu'r dreth.
Mae'r Brenin yn ein hofni; ac yn awr
Gyrrodd Ei fab i geisio ein perswadio;
Hwn ydyw yr etifedd, lladdwn ef."

Joab
Go brin, a chanddo hanner cant o wŷr
Tan arfau'n rhedeg gyda'i gerbyd rhyfel!

Ahitoffel
Gadfridog Joab, dwedaist fod byddin gref
Yn uno cenedl ac yn gwarchod heddwch.
Rho iddo bumcant arall o wŷr traed
Yn osgordd ar ei daith i ddinas Hebron.

Joab
Pum cant! Pum cant o wŷr? Pan wêl gwŷr Hebron.
Fyddin fel honno ar ei ffordd, fe gaeant
Eu pyrth i sefyll gwarchae, ac nid eir
I mewn i'r ddinas ond trwy drais a gwaed.
Pum cant! Yr wyt ti'n gofyn gosgordd brenin!

Absalom
Rho imi ddeucant, Joab.

Joab
Gwnaf, Dywysog,
Deucant o wŷr dewisol tan lawn arfau,
Detholaf hwy fy hun o blith y llu
Yn osgordd deilwng o Dywysog Jwda.

Ahitoffel
Trwy gennad f'arglwydd frenin, mi af finnau
Gyda'r Tywysog. Yn ddiau, fe ddaw Cyngor
Henuriaid Hebron allan i'w groesawu.
Fe fydd eu geiriau fel y diliau mêl,
A wermod yn eu calon o ran y dreth.
(Gyda gwên gyfrwys.)
Rhaid wrth hynafgwr i weld trwy hynafgwŷr
A'u holl ystrywiau politicaidd,

Dafydd
Dos,
A bendith Dduw fo'n dilyn eich cenhadaeth.
Fy mab, gwna'n fawr o air fy Mhrif Weinidog.
Mae'n gweld ymhell; a phwyswn ar ei gyngor
Fel gair y nef ei hun.

Ahitoffel
Gadfridog Joab,
A ddeui dithau i'n canlyn?

Joab
(Wedi ystyried.)
Na, fy lle
Fydd gyda'r brenin ddydd yr aberth mawr.
Eithr anfonaf fy rhedegwr Cŵsi
I'ch canlyn; ac os ymosodir arnoch,
Gyrrwch-o'n gennad fuan ataf fi
I'r Llys. Nid oes yn Israel ei gyflymach.
Fe red o Hebron yma o fewn teirawr.
Dof finnau ag atgyfnerthion yr un dydd.
(Â'i law ar ei gledd.)
A gwae i'r neb fo'n bygwth mab y brenin.

Hŵsai
Gyda fy mrenin yr arhosaf innau
I'w helpu i drefnu'r aberth mawr a'r wledd.

Dafydd
(Yn ysgafn.)
A'r ddawns, fy Arglwydd Hŵsai! Os ydym hen,
Cawn fflach y gwin trwy'n gwaed y dwthwn hwnnw,
A fllach y ddawns trwy'n neuadd wedi'r wledd.

Joab
Os esgusoda'r Brenin fi yn awr,
Mi af yn syth i gynnull gosgordd deilwng
O aer y goron, deucant o'n milwyr gorau,
Cledd ar bob clun, a tharian ar bob bron,—
A galwaf gyda Sadoc yr offeiriad
I erfyn am ei weddi gyda'r antur.

Dafydd
Ie, dos, gadfridog.



Ymgryma i'r Brenin ac ymedy trwy borth yr ardd. Dyna'r meirch yng ngherbyd Absalom yn gweryru eto o weled gŵr yn dod i lawr llwybr yr ardd. Gwrendy Solomon a Meffiboseth yn eiddgar, gan edrych drwy'r porth.

Solomon
Fy mrawd Absalom,
Mae'r meirch yn anesmwytho yn dy gerbyd,
Ac un yn crafu'r ddaear, eisiau mynd.

Absalom
(Â'i ddwylo ar ysgwyddau'i ddau gyd-dywysog.)
Cyn dod o'n Brenin grasol i'w neuadd heddiw
Addewais i'm cyd-dywysogion hyn
Fenthyg fy ngherbyd i roi tro i'r wlad,
A ganiatei-di hynny?

Dafydd
Pwy yw'r gyrrwr?

Absalom
Y grymus Metheg-Ama.

Dafydd
Cerbydwr da!
(Yn chwareus.)
Ymaith, y gweilch, mwynhewch awelon gwlad.



Ymgryma'r ddau dywysog bach i'r Brenin gan wenu a phrysurant allan i'r cerbyd.

Absalom
(Yn atal Solomon er ei frys.)
Hwde!... Dyro fy chwip i Metheg-Ama.
(Solomon yn clecian y chwip.)

Dafydd
Asbri ieuenctid! Pan yw siawns pob dydd
Yn dwyn gwin antur newydd, lond ei gwpan,
Heb ddim o'r gwaddod chwerw sy yng nghwpan henaint.



Daw Abisâg i'r neuadd trwy Borth y Brenin. Ar ei braich chwith fe ddwg fantell y brenin, ac yn ei llaw dde gwpan arian yn llawn gwin llysieuog, meddygol.

Abisâg
(Wedi ymgrymu.)
Na sonied F'arglwydd frenin ddim am waddod.
Wele, mi ddygais iddo gwpan arian
Yn llawn gwin melys, peraroglus. Cesglais
Y llysiau llesol, pêr, â'm llaw fy hun
A'u trwytho yn y gwin er twymo'i ysbryd.
Atolwg iddo yfed.

Dafydd
(Yn cymryd y cwpan.)
Eneth, dygaist
Y peraroglus win i'm bywyd hefyd.
Yfaf hyd atat. Taled yr Arglwydd iddi,
Gynghorwyr, ei hymgeledd i hen ŵr.

Hŵsai
Mae'i llaw ar delyn yn gwefreiddio'n llys,
A'i hulio â blodau hyfryd yn feunyddiol.

Abisâg
A fyn fy arglwydd fynd i rodio heddiw?
Cyrchais dy fantell.

Dafydd
Mynnaf, Abisâg.
(Yn gwisgo'r fantell ganddi.)
Neges sydd gennyf at Sadoc yr offeiriad.
A ddoi-di gyda mi? Cei weld yr Arch.

Abisâg
Yn llawen, f'arglwydd.

Dafydd
Y Cynghorwr Hŵsai,
Tyrd dithau gyda ni i drefnu'r Wyl.

Abisâg
Pa Wyl yw honno?



Rhed Ahimâs, mab Sadoc yr offeiriad, i mewn trwy Borth yr Ardd yn bennoeth. Gŵr ifanc hawddgar 20 oed ydyw, yn gwisgo math o kilt wen rhedegwr. Mae ei gorff yn lluniaidd, athletig; —corff pencampwr sy'n ymgodymu â llanciau Joab ac yn ym- ryson yn eu rhedegfeydd. Fe ddisgyn ar ei lin o flaen y Brenin.

Ahimâs
Henffych well i'r Brenin!
Gras a gwrogaeth oddi wrth fy nhad Sadoc.

Dafydd
Ein cyfarch i fab Sadoc yr Offeiriad!

Ahitoffel
Paham y rhedaist?

Ahimâs
Gweld Joab ar y ffordd
A chlywed braint ein tŷ gan y Cadfridog.
A phan aeth yntau rhagddo i dŷ fy nhad
I lonni ei galon hen â'r fath newyddion,
Fod Brenin Israel heddiw am anrhydeddu
Ein cronglwyd ac ymweliad, rhedais yma
O wir lawenydd i'th hebrwng ar ran Sadoc.
Croeso, O Frenin mawr, i dŷ fy nhad.

Dafydd
Tywalltwyd gras ar dy wefusau'n ifanc.
Cyfod, a hebrwng ni at Was yr Arglwydd.

Abisâg
A diolch am dyredeg... 'Fynni-di win?
(Gan gynnig tywallt gwin o gostrel i gwpan.)

Ahimâs
Dwfr, deg arglwyddes;—yr wyf tan ddisgyblaeth.

Ahitoffel
Nid cwrtais yfed dwfr yn Llys y Brenin.

Abisâg
Nid gwaeth a yfo i'r Brenin mewn dwfr oer
Os yw ei fron heb frad.
(Gan estyn ffiol.)
A dyma ddwfr.



Cymer yniawr cwpanaid o ddwfr. Ymgryma ai y Brenin ac at Abisâg, ac yna yf.

Absalom
Dy enw yw Ahimâs?

Ahimâs
Ie, Dywysog.

Absalom
Ac oni welais-i di gyda Llanciau Joab,
Wrthi'n ymarfer ddoe ar ymgodymu
A thaflu gwaywffon ac ymryson ras?

Ahimâs
Do, f'arglwydd; un o Lanciau Joab wyf.

Absalom
Ac oni welais-i di'n ymryson ras
A Chŵsi ddu, gwas Joab?

Ahimâs
Diau, f'arglwydd.
Cŵsi yw'r rhedwr gorau yng Nghaersalem.

Absalom
Threchaist-ti mono?

Ahimâs
Naddo, syr, ddim eto.

Absalom
"Ddim eto!" Beth yw ystyr hynny?

Ahimâs
(Tan wenu.)
'Rwyf
Ar gwrs ymarfer, ac ni phrofaf win
Nes trechu'r campwr Cŵsi, caethwas Joab.

Absalom
Purion uchelgais, ond 'threchi-di mono byth.
Mae haul Ethiopia'n fflam yn ei gyhyrau.

Dafydd
A dygnwch Iddew ym mwriad Ahimâs!
Gwystlwn fy nghoron arno....Absalom,
Mi ddaliaf iti her am gant o siclau
Y trechir Cŵsi ganddo o fewn tri mis.

Absalom
(Yn chwerthin.)
Am gant o siclau arian?... Bodlon fi!
O fewn tri mis? Rhagorol! Ond, fy nhad,
Mae'r peth fel dwyn dy arian da.

Dafydd
Cawn weld.
'Fethodd fy llygaid ddim eto am redegwr.
Tystion ohonoch, bawb!... Ac Ahimâs,
Gwêl mai tydi sy'n ennill, ac mi roddaf
Y ddau can sicl oll yn wobr iti.

Abisâg
A minnau'r eurdlws hwn sydd ar fy mron.

Ahimâs
Yn ffydd fy mrenin fyth ni allaf fethu.
(Gan ymgrymu ato.)

Abisâg
(Yn dyner a swil.)
A'm hymddiriedaeth innau, Ahimâs?

Ahimâs
(Yn ymateb yn deimladwy gan ymgrymu iddi.)
A'th ymddiriedaeth di, arglwyddes fwyn.

Dafydd
O'r gorau, tywys ni i dŷ dy dad,
Dowch, Abisâg a Hŵsai.



Cyfyd y Brenin o'i orsedd i ddiosg ei goron a'i gosod ar y bwrdd vw chwith. Rhydd Abisâs y fantell amdano gan godi'r cwfl dros ei ben.

Dafydd
A threfnwch chwithau,
Ahitoffel ac Absalom, eich apêl
At bobol Hebron... Hyd yfory, ynteu!



Cerdda allan trwy borth yr ardd â'i law ar ysgwydd Abisâg. Hebryngir hwy o'r tu ôl gan Hŵsai ac Ahimâs. Ymgryma Absalom ac Ahitoffel yn isel i'r Brenin ar ei ymadawiad.

Absalom
Duw gadwo'r Brenin.



Wedi i'r Brenin gilio, cyfyd Ahitoffel y brenin-gwyddbwyll yn ei law oddi ar y clawr.

Ahitoffel
Ni ellir lladd y brenin.

Absalom
(Yn frawychus.)
Beth a ddywedaist-ti?

Ahitoffel
Wrth chwarae gwyddbwyll
Mae rheol od na ellir lladd y brenin,
'Waeth pa mor anobeithiol fyddo'r safle.

Absalom
Ond gellir cau amdano a'i ddirymu.

Ahitoffel
Siŵr iawn,—a dyna derfyn ar y chwarae...

Absalom
Be' ddwedwn-ni wrth bobol Hebron 'fory?

Ahitoffel
Ofer fydd dwedyd dim.

Absalom
Ofer, fy arglwydd?

Ahitoffel
Ofer, tra byddo Dafydd ar yr orsedd.
Fe'u digiodd hwynt, ac ni faddeuant byth.

Absalom
Trwy symud ei brifddinas i Gaersalem?

Ahitoffel
Fe ddoent dros hynny... Yr hyn ni faddau gwlad
I frenin yw priodi gyda'i butain.

Absalom
Hen stori ddeunaw mlynedd! Dwyt ti 'rioed
Yn dal yn ddigllon am yr anffawd hwnnw?

Ahitoffel
Y wlad sy'n dal ei dig. Nid anghofiasant
I frenin Israel yrru capten dewr
I'w dranc tan arfau'r gelyn, am fod chwant
Am wraig Ureias wedi ei wneud mor ffôl
A gorwedd gyda hi, a'i gŵr yn y gad.

Absalom
Gad i'r hen stori. Oni thalodd Dafydd
Yn ddrud mewn penyd ac mewn edifeirwch?
Tosturiodd Duw; maddeuodd Nathan Broffwyd!
Pa synnwyr i ti ddal yn ddig o hyd?

Ahitoffel
Fe'i priododd-hi,—a dyna gŵyn ei wlad.
Dywysog, sôn yr ydym am wleidyddiaeth,
Am agwedd Hebron, nid fy agwedd i.
Pam na chymerodd hi yn ordderch iddo?
Goddefent hynny... Yr hyn ni faddau gwlad
I frenin byth ydyw priodi ei butain.

Absalom
Beth sydd a wnelo hynny â threthi Hebron?

Ahitoffel
Mwy nag a dybi-di... Pa bryd y gwelaist
Bathseba olaf?

Absalom
Welais-i mo'r Frenhines
Ers dyddiau bellach. Prin yn wir y daw
Ar draws fy llwybr i, os gall hi beidio.
(Yn ysgafn.)
Mae Solomon a minnau'n eithaf ffrindiau.

Ahitoffel
Wyddost-ti ddim p'le mae-hi?

Absalom
Na wn i.
Clywais ei bod ar daith i weld ei thylwyth.

Ahitoffel
O! mae hi'n gyfrwys; ond mae sbïwyr da'n
Glustiau a llygaid gennyf trwy'r holl deyrnas.
Ym Methlehem y mae-hi, yn gweithio cynllwyn
Gyda Beneia i'th anfon di'n llysgennad
I Tyrus bell, ac wedyn codi plaid
I wneud i'r Brenin enwi Solomon
Fel ei olynydd, a'i arwisgo felly.

Absalom
'Feiddiai-hi byth.

Ahitoffel
Fe feiddiai unrhyw beth
Er mwyn ei mab, o'r dydd y daethost adref.

Absalom
Beth yw dy gyngor?

Ahitoffel
F'arglwydd Dywysog,
Camp fawr y gwleidydd yw marchogaeth plaid.
Pan gyrchwn Hebron 'fory â'n gosgordd gref,
Yn lle'u gwastrodi, lediwn eu gwrthryfel;
Ac Absalom fydd yn teyrnasu yn Hebron.

Absalom
F'arglwydd Ahitoffel, bradwriaeth yw!

Ahitoffel
Dywysog, 'rwy'n rhy hen i air fy nychryn,
Fel bygwth bwcan ar ryw blantos ofnus.
Os achub gwlad rhag rhwygiad yw bradwriaeth,
A diogelu Dafydd, galw fi'n fradwr;
Os gweld ymhellach na'n gelynion craff
A tharo'r ergyd gyntaf yw bradwriaeth,
Os rhoi mewn grym dy weledigaeth fawr
Am uno'r llwythau oll trwy rin un deml
Yw bod yn fradwr, yna bradwr wyf.
Oherwydd safaf tros dy hawl hyd angau.
(Esgyn i fyny at yr Orsedd.)

Absalom
A phe cytunwn, byddai 'nhad yn ddiogel?

Ahitoffel
Ni leddir brenin gan chwaraewyr gwyddbwyll.
Digon fydd cau o'i gwmpas a'i ddirymu,
Megis y dwedaist,—dal i'w alw'n frenin
A'r wir lywodraeth ar dy ysgwydd di.
(Cymer y goron i fyny oddi ar y bwrdd.)
Edrych, Dywysog, edrych! Dyma'r goron
A wisgwyd gynt gan frenin cyntaf Israel
Yn nydd ei nerth, yna gan Ddafydd Fawr;
A gaiff hi fynd yn drydydd, gennyt ti,
I laslanc preplyd o dan fawd ei fam
Am fod y gwir etifedd yn rhy lednais
I ddal ar gyfle?

Absalom
Na chaiff, yn enw Duw!
Beth sydd yn rhaid ei wneud?

Ahitoffel
(Wedi dychwelyd y goron i'w lle.)
Pan awn i Hebron
Yfory, a'r osgordd gadarn gyda ni,
Fe'th gyfyd dy gyd-drefwyr di'n gyd-frenin.

Absalom
Beth am Gaersalem?

Ahitoffel
Gyda sydyn gyrch,
Y dydd pan gedwir gŵyl yn Llys Caersalem
I ganlyn dawns a gwin, disgynnwn arnynt,
Nyni a thylwyth Hebron. Yn eu braw
A'u syndod rhaid fydd derbyn ein telerau,
A byddi'n frenin heb ddim tywallt gwaed.

Absalom
(Gan esgyn ato i ymyl yr orseddfainc.)
Abhitoffel, beth wyt-ti? Ai proffwyd doeth
Yn gweld trwy'r llen, a'th air fel gair y nef?
Ai adlais i uchelgais llosg fy mron?
Ai cennad Satan, y gwrthryfelwr mawr
A gododd blaid yn erbyn Gorsedd Nef
A chael ei hyrddio i'r pwll?

Ahitoffel
(Yn llefain.)
A chodi yno
Deyrnas arwrol, gref, a saif hyd heddiw!
(Gan newid cywair a throi â gwên ai Absalom mewn addfwynder tawel.)
Na, fy Nhywysog, nid wyf ond hen ŵr
A welodd fflam ei freuddwyd mewn gŵr ifanc
A'i ddilyn ef hyd dranc.
(Gan ei orseddu'n dirion.)
Bydded Gweledydd
Yn eistedd bellach ar yr orsedd hon.
(Penlinia Ahitoffel o'i flaen, a chymryd ei law.)
A boed i minnau'r fraint yn gyntaf un
O ddweud, "Byw byth fo'r Brenin Absalom!"
(Cusana law'r Tywysog mewn gwrogaeth.)


LLEN

a1a2, g1a2, g2a2, g3a3, g1a3, g2