| |
---|
Ffydd
|
(Wrth Bobun.) Chwerddaist am fy mhen ar hyd dy oes, a bernaist air Duw yn oferedd; bellach, yn dy awr olaf, a ddaw amgen lleferydd o'th enau di?
|
Pobun
|
'Rwy'n credu, yn credu.
|
Ffydd
|
Truan o leferydd!
|
Pobun
|
O, trugarhaed Duw! 'Rwy'n credu'n gadarn yn efengyl Iesu Grist, a ddysgwyd i mi wrth liniau fy mam. Credaf fod popeth sydd ynddynt hwy yn wir a sanctaidd oll. Rwy'n credu, 'rwy'n credu.
|
Ffydd
|
Darn go druan o Ffydd yw hynny. Ni chyfyd hynny iti bont i groesi drosodd. Oni wyddost ti am beth gwell?
|
Pobun
|
[Credaf yn amynedd Duw, od edifarhao neb mewn pryd; ond bum i mewn pechod yn rhy hir fel nad oes i mi yma drugaredd.]
|
Ffydd
|
[(Gan gymryd cam yn nes ato.) A drochwyd di mor llwyr mewn chwant, a'th suddo cyn ddyfned mewn nwyd, fel na ddaw dros dy wefus mo'r peth a ryddhai d'enaid yn dragywydd?]
|
Pobun
|
Credaf—
|
Ffydd
|
A gredi di yn Iesu Grist, a ddaeth oddi wrth y Tad, yn ddyn cyffelyb i ninnau, a aned o wraig farwol, a thrwy loes merthyrdod a roes ei fywyd trosot ti, ac a gyfododd o farw fel y'th gymodid ti â Duw?
|
Pobun
|
Credaf! Felly y gwnaeth Ff, dileodd ddigofaint y Tad, gan ennill tragwyddol iachâd i ddynion, a marw ei Hun dros hynny ar y grog. Eto mi wn na bydd hynny les onid i'r sawl a fo sanctaidd a da; drwy weithredoedd da a dyhewyd y pryn Ef fywyd tragwyddol. Ond gwelwch, dyma fy ngweithredoedd i: y mae fy mhechodau yn un mynydd mor drwm yn gorwedd arnaf fel na all Duw roi gras i mi, gan mai efô yw'r perffaith gyfiawn.
|
Ffydd
|
Ai Cristion amheus felly ydwyt ti, ac onid adwaenost Drugaredd Dduw?
|
Pobun
|
Ofnadwy yw cosb Duw!
|
Ffydd
|
Fe faddau Duw'n ddifesur!
|
Pobun
|
Tarawodd Pharao, tarawodd Sodom a Gomorra, tarawodd, tarawodd!
|
Ffydd
|
Na, aberthodd Ei unig fab i boen y byd o orsedd y goleuni, megis y genid Ef fel dyn, ac nad ai neb mwy'n golledig, dim un, nid y gwaethaf, na, [ond cael ohono fywyd tragwyddol. "Er mwyn Pechadur y deuthum i, nid rhaid i'r iach wrth feddyg"; daeth y geiriau o'r genau na allai ddywedyd celwydd.] Os credi di ynteu yn y bywyd hwn, yna maddeuir i ti dy bechodau, a dofir llid Duw.
|
Pobun
|
O, y mae deiriau'n dyner; yr wyf fel pe'm ail-enid. Credaf, cyhyd ag yr anadlaf ar y ddaear, y byddaf gadwedig drwy Grist.
|
Ffydd
|
Daeth yr awr. Bellach, dos i'th olchi'n lân oddi wrth dy bechodau.
|
Pobun
|
[Pa le y mae ffynnon gysegredig fel y gallwyf fynd yno'n ddi-oed?]
|
|
[Gwelir mynach draw.]
|
Ffydd
|
[Mae cymorth da yn disgwyl amdanat. Drwy ei wasanaeth ef bydd d'enaid yn lân. Dyred yn ôl mewn gwisg wen, yna ti ei draw yn fy llaw i, ac i'th ganlyn di, bydd hefyd i'th weithredoedd rym a nerth.]
|
Pobun
|
[(Ar ei liniau.) O, Dduw tragywydd! O, ddwyfol wedd! O, union Ffordd! O, oleuni nefol! Yma y llefaf arnat yn fy olaf awr; llef un truan a ddaw o'm genaui. O, fy Ngwaredwr, erfyn di ar i'm Crewr fod yn rasol tuag ataf ar y diwedd, pan ddêl y gelyn uffernol yn agos ataf, a phan wasgo angau creulon fy ngwddf hyd oni'm tago, erfyn ar iddo Ef arwain f'enaid fry. A phar, O, Waredwr, drwy d'eiriolaeth dy hun, fy ngosod i ar ei ddeheulaw Ef, i fyned gydag Ef i'w ogoniant. Gwrando ar fy ngweddi gan ddarfod iti drengi ar y Grog a phrynu'n heneidiau ni.]
|
|
Gorwedda ar ei wyneb mewn gweddi. Cân yr organ yn uwch, tra gwelir Mam Pobun yn mynd heibio yn y gwyll, fel pe bai'n mynd i offeren fore, a gwas o'i blaen yn dwyn llusern.
|