| Daw Pobun i lawr mewn gwisg wen laes.  Ffon pererin yn ei law, eì wyneb yn welw fel angau, ond wedi newid ei olwg.  Â tuag at y lleill.   | 
        |
| Gweithredoedd Da | 
        [Oni theimlais i fod Pobun yn dyfod? Ie, ef ydyw, a daw yma. Yr oedd rhywbeth yn dywedyd wrthyf mai ef ydoedd. Fe allodd fodloni ei Arglwydd, 'rwy'n teimlo drwy f'aelodau oll y nerth at ehedeg fry!]  | 
        
| Pobun | 
        Weithion, rhowch i mi yn ffyddlon eich dwylaw, cefais y cymun Sanct. [Bendigedig a fo'r sawl a barodd i mi hyn ac a roes i mi hefyd gyngor da. Bellach, boed diolch i chwi am aros mor ofalus amdanaf gyda gweddïau dyfal.] Ac weithian, gadewch i ni gychwyn ar y daith. Doded pawb ei law ar y ffon hon a chanlyned fi i'm bedd.  | 
        
| Gweithredoedd Da | 
        Ni thynnaf i mo'm llaw oddi ar y ffon cyn bod y daith ar ben.  | 
        
| Ffydd | 
        Mi safaf gyda thi megis y sefais gynt gyda Iwdas Maccabaeus.  | 
        
| Ant i fyny'r llwyfan.  Daw Angau ymlaen a'u canlyn.  Safant wrth y bedd.   | 
        |
| Pobun | 
        (Gan gau ei lygaid.) Weithion, rhaid i mi fynd i'r bedd, sydd cyn ddued â'r nos. Trugarha wrthyf yn dy holl-allu, Arglwydd!  | 
        
| Ffydd | 
        Safaf yn d'ymyl a gwyliaf di.  | 
        
| Gweithredoedd Da | 
        A deuaf innau gyda thi, Pobun.  | 
        
| Pobun | 
        O Arglwydd Waredwr, aros gyda mi, arnat y galwaf am drugaredd.  | 
        
| Gweithredoedd Da | 
        (Gan ei gynorthwyo i'r bedd a'i ganlyn ymo.) Arglwydd, boed dawel ein diwedd ni, i'th lawenydd di yr awn i mewn.  | 
        
| Pobun | 
        [(Yn y bedd fel na weler onid ei ben a'i ysgwyddau.) Gan iti fy mhrynu'n rhydd, cadw eto f'enaid fel nas coller ac fel yr esgynno atat Ti yn y dydd diweddaf gyda theulu'r gwaredigion.]  | 
        
| [Sudda o'r golwg.]   | 
        |
| Ffydd | 
        Weithion, fe orffennodd ei ddynol daith. Saif yntau gerbron ei Farnwr yn llwm a noeth a'i weithredoedd yn unig gydag ef, a hwythau'n gyfnerth iddo ac yn eiriol drosto. Bendithiant ef; tybiaf mai lleisiau'r angylion a ddaw i'm clyw, a hwy yn galw ar yr enaid tlawd i blith eu nefol raddau.  | 
        
| Angylion yn canu.   LLEN  |