| |
---|
Pobun
|
(Gan gyfodi mewn ing.) Er mwyn Duw, dywed, fy nghariad, pam y llysg y golau mor wan? A phwy sydd y tu cefn i mi yma? Ni cherdd ar wyneb daear ei debyg o ddyn.
|
|
Saif Angau ychydig draw. Cyfyd pawb.
|
Angau
|
Pobun, a wyt ti mor llawen dy fryd? A lwyr anghofiaist ti dy grewr?
|
Pobun
|
Paham y gofynni hynny yn awr? A yw'n dy boeni di? Pwy wyt? Pa beth a fynni?
|
Angau
|
Oddi wrth Fawrhydi dy luniwr y'm danfonwyd atat ti, a hynny ar frys; o'r herwydd, yma y safaf.
|
Pobun
|
Sut? Dy anfon ataf i? (A'i law ar ei galon.) Gallai hynny fod. Gallai! Fy nghydymaith da, fy meistres annwyl...
|
Meistres Pobun
|
Cymorth, Arglwydd Waredwr!
|
Angau
|
Er na roi di iddo Ef ond ychydig barch, yn ei nefoedd fry fe'th gofia Ef, ym mha wedd, gwneir hynny'n hysbys iti yn y man.
|
Pobun
|
(A'i olwg i lawr.) Pa beth a fyn fy Nuw gennyf i?
|
Angau
|
Mi ddywedaf iti. Cyfrif, dyna a fynn gennyt, heb oedi!
|
Pobun
|
Nid wyf i mewn modd yn y byd yn barod i fedru rhoi cyfrif felly. Pe bai raid i mi ei roi, fe fyddai'n helbul arnaf. Nid adwaen i mohonot ychwaith—pa gennad ydwyt ti?
|
Angau
|
Dyma fì, Angau! Nid ofnaf undyn. Dof at bawb. Nid arbedaf neb.
|
|
Ffy llawer o'r gwahoddedigion.
|
Pobun
|
[Beth? Nid oedi di ddjm amdanaf; a disgyn yr wyt ar ddyn heb rybudd yn y byd, a'i hoedl yntau ar ei gorau? Gwaed Duw! Nid chwarae teg mo hynny; ni chei di nemor glod erddo, canys fel yr wyf newydd ddywedyd, nid wyf i ddim yn barod; nid parod ychwaith mo'r llyfr cyfrif; pe cawn i eto ddeng mlynedd neu ddeuddeg, byddai'r llyfr mewn trefn gennyf, fel na byddai arnaf un ofn. Mi wnawn hynny drwy gymorth Duw. Gad lonydd imi, drwy drugaredd Dduw, gael imi roddi trefn ar amgylchiadau.]
|
Angau
|
[Ni thâl na dagrau na gweddi yma, rhaid cychwyn ar y daith rhag blaen.]
|
Pobun
|
O Dduw trugarog ar d'orsedd yn y nef, tosturia wrthyf yn fy nghyfyngder. Oni chaf ar yr hynt hon ddim un i gyd-deithio â mi ond y sawl a ddanfonaist? Ai rhaid i mi fynd o'r byd hwn heb un i'm tywys, mi, na byddwn yma byth ar fy mhen fy hun, ond y byddai raid i mi bob amser gael cymdeithion?
|
Angau
|
Dyma ben ar bob cymdeithas, ni waeth i ti heb wasgu dwylaw'n ofer. Brysia, rhaid i ti'n awr fynd o flaen gorsedd Dduw, yno, fe gei dy gyflog. [Ai tybio'r oeddit yn d'ynfydrwydd mai at dy wasanaeth di dy hun y rhoed iti dda'r byd hwn, yn gystal a'th einioes dy hun?]
|
Pobun
|
Felly yn wir y meddyliwn.
|
Angau
|
[Nid felly; nid oedd y cwbl ond echwyn i ti; wedi dy fynd ti ymaith, eiddo arall fydd y cwbl, ac wedi ennyd, tery ei awr yntau yn ei dro, a rhaid iddo adael y cwbl a mynd.] Chwyrn y byddaf i'n dyfod.
|
Pobun
|
[Dim ond un diwrnod! Dim ond heno, hyd godiad haul, fel y gallwyf drwy edifarhau fynd i mewn i mi fy hun a gwrando ar ddysg yr offeiriad a'm gwneud fy hun yn well, fel y mynnit ti.]
|
Angau
|
[Ni allaf i ganiatáu mo hynny. Pan fyddaf i'n dyfod wyneb yn wyneb â dyn, rhof ergyd chwyrn i'w galon, ac ni bydd rybudd ymlaen llaw.]
|
Pobun
|
Gwae fi, daeth amser wylo arnaf!
|
Angau
|
Ni bydd wylo ond gwastraffu amser.
|
Pobun
|
Gwae fi, pa beth a wnaf? Pe na bai i mi ond rhyw orig fach yn rhydd i gael hyd i ryw gydymaith, fel na byddai raid i mi fod o flaen fy marnwr ar fy mhen fy hun yn unig.
|
Angau
|
Ai tybio'r wyt ti y gellit ddyfod o hyd i rywun o'r fath? O'm rhan fy hun, rhof iti fy ngair mai gwrthod y gymwynas a wnai pawb.
|
Pobun
|
Dim ond na bawn yn unig yn y farn honno! Dim ond orig i gael ymddiddan a chyngor, er mwyn tosturi Crist!
|
Angau
|
O'r gorau, mi af o'r golwg; eto, cymer ofal rhag ofera'r oediad hwn, ond ei ddefnyddio'n gall fel Cristion.
|
|
Mynd o Angau o'r golwg.
|