| |
---|
Pobun
|
(Gan droi at ei gydymaith.) F'annwyl gydymaith, fe wyddost, fe wyddost—
|
Cydymaith
|
Gwn. [Nid oeddwn bum cam oddi wrthyt, pan ddaeth Angau tuag atat, Pobun, ac fe glywais yr ymddiddan oll. Yr oedd fy nghalon yn neidio i'm gwddf! Dyn llawen, cyn iached â'r gneuen, oeddit ti hyd yr awr hon.] Bellach, daw'r dagrau i'm llygaid wrth edrych arnat, Pobun, fy nghydymaith.
|
Pobun
|
Llawer o ddiolch iti, f'annwyl gydymaith.
|
Cydymaith
|
Beth sy'n dy flino eto, dywed rhag blaen.
|
Pobun
|
[Buost yn gyfaill da i mi erioed, cefais di bob amser yn ffyddlon.]
|
Cydymaith
|
[Ac felly y'm cei bob amser hefyd. A choelia fi, pe bai dy daith yn union ar ei phen i uffern, fe'm ceit i'n gydymaith hyd y fan.]
|
Pobun
|
[Rhoed Duw, fy nghyfaill hoff, mai teilwng fwyf innau ohonot.]
|
Cydymaith
|
[Nid teilyngdod yw'r peth, buasai'n gywilydd o'r mwyaf gennyf pe na bawn i onid yn bostio ar air a'm bod wedyn yn amharod yn fy ngweithred.]
|
Pobun
|
Fy nghyfaill!
|
Cydymaith
|
Siarad â mi yn rhydd, rhaid ì mi gael popeth yn glir o'th enau di dy hun; mi safaf gyda thi hyd yr awr olaf, yn gymwys fel y dylai Cydymaith Da.
|
|
Pobun ar fedr siarad.
|
Cydymaith
|
Y mae dy drueni yn gwasgu'n drwm arnaf. Pa beth bynnag o faterion y byd hwn sy'n poeni dy galon di, mi edrychaf atynt ar dy ran yn ffyddlon. [Dywed, a wnaeth rhywun gam dro â thi? Cânt eu cosb o'm llaw i fy hun â'r dur miniog, pe bai raid i mi lyfu'r llwch am hynny.]
|
Pobun
|
Nid wy'n poeni dim am bethau felly, Duw a'i gŵyr!
|
Cydymaith
|
'Rwyt ti'n poeni llawer efallai ynghylch dy arian a'th eiddo, am nad oes iti'r un etifedd.
|
Pobun
|
[Nac wyf, gyfaill, nac wyf!
|
Cydymaith
|
[Nid rhaid wrth lawer o eiriau—fe saif d'ymddiried ynof fi. Mae'r weithred brynu'r tir hwnnw'n ddigon diogel; tebyg mai d'ewyllys fyddai fynd dy gyfoeth i'th feistres serchog, gymaint ag a fo teg, dros byth.]
|
Pobun
|
[Na, annwyl gyfaill, gwrando arnaf]
|
Cydymaith
|
[Arbed i ti dy hun y drafferth, Pobun, deallaf di heb lawer iawn o eiriau.]
|
Pobun
|
Och! peth arall sy'n fy mhoeni i, [peth llawer nes,] fy nghyfaill annwyl.
|
Cydymaith
|
[Allan ag ef, gad ei glywed rhag blaen—o enau cyfaill cysur fydd.]
|
Pobun
|
[Ie, tydi, fy nghyfaill.]
|
Cydymaith
|
[Onid egluri di i mi? Efallai nad erys i ti lawer o amser.]
|
Pobun
|
[Och fi! peth chwerw fyddai hynny.]
|
Cydymaith
|
[Dywed imi'r peth! ar unwaith, Pobun. Pa beth a dâl cyfeillgarwch onid hynny?]
|
Pobun
|
[Pe tywalltwn fy nghalon allan i ti ac i tithau droi dy gefn arnaf a digio wrth fy ngeiriau, yna byddai imi gymaint ddengwaith o flinder a gwae!]
|
Cydymaith
|
[Syr, fel y dywedais wrthych eisoes, felly y gwnaf.]
|
Pobun
|
[Taled Duw i ti.] Gorchmynnwyd i mi fynd ymaith. Y mae'r ffordd yn bell a llawn blinder; a pha beth wedyn? [Rhaid i mi roi cyfrif o'm cyfoeth a'm holl fywyd, ger bron fy lluniwr a'm barnwr goruchaf!] Am hynny, dyred gyda mi, fy nghydymaith ffyddlon, fel yr addewaist eisoes.
|
Cydymaith
|
Ie, ie. [Dyna'r peth. Addo, a gwrthod wedyn, cywilydd i mi fyddai hynny—mae meddwl am hynny'n fy ngyrru'n boeth.
|
Pobun
|
O, dydi!]
|
Cydymaith
|
Eto, cyn cychwyn ar y daith, fe ddylid cymryd cyngor da.
|
Pobun
|
Beth! Dywedaist wrthyf eisoes na throit mo'th gefn arnaf nac yn fyw nac yn farw, hyd yn oed ped ai'r ffordd ar ei hunion i uffern.
|
Cydymaith
|
Do, dyna oedd fy ngeiriau, yn gywir! Ond, a dywedyd y gwir, nid dyma'r amser i ysmalio felly. Pe cychwynnem ar y daith, pa bryd y deuem drachefn yma? Ha, dyro ateb?
|
Pobun
|
Ni ddoem yma mwy. Ni ddoem mwy hyd ddydd barn.
|
Cydymaith
|
Yna, myn crog Crist, mi arosaf yma. Os dyna ystyr yr alwad, yna, dyma fel y saif pethau—nid af i ddim i'r daith.
|
Pobun
|
Nid ei di?
|
Cydymaith
|
Nid af. Os felly y saif, arosaf yma. [Dywedaf wrthyt beth sydd yn fy meddwl. Gwyddost fy mod i yn agored bob pryd, bid fel y bo, dyma fonid af i ddim i'r daith, er mwyn un enaid byw, yn wir; ie, nid awn er mwyn fy nhad fy hun,—rhoed Duw iddo heddwch tragywydd er hynny.]
|
Pobun
|
Yn enw Duw! Peth arall a addewaist i mi!
|
Cydymaith
|
Da gwn. Ac addewais yn eithaf cywir. A phe byddit ti'n dymuno rhywbeth arall, bod gyda'r merched yn gwmpeini da, neu beth a fynni, yna, ceit fy ngweled wrth dy ystlys cyhyd ag y rhoddai Duw ddiwrnod teg, neu gyda'r ffaglau tân ar ôl iddi nosi—yr wyf yn dywedyd hyn oll o ddifrif.
|
|
Try i fyned ymaith.
|
Pobun
|
O, gyfaill, os gallaf eto d'alw di felly.
|
Cydymaith
|
Pa un bynnag ai cyfeillion fuom ai peidio, o hyn allan ni cherddaf i gam gyda thi.
|
Pobun
|
'Rwy'n erfyn arnat, gwna gymaint â hynny er mwyn tosturi Crist, a dyred i'm canlyn hyd at borth y ddinas.
|
Cydymaith
|
(Gan droi ymaith.) Ni ddof ddim, [ni rof droed o flaen y llall am bris yn y byd. Pe bai gennyf ychydig amser, ni adawn iti fod ar dy ben dy hun, ond yn awr ni allaf aros gyda thi. (Dros ei ysgwydd wrth fynd ymaith.)] Rhoed Duw iti daith ysgafn a hwylus hyd yno, rhaid i mi brysuro ar fy ffordd.
|
Pobun
|
[(gan roi cam ar ei ôl.) I ble'r ei, fy nghyfaill? A adewi di fi yn llwyr?]
|
Cydymaith
|
[Yn llwyr, lwyr. Cymered Duw drugaredd ar d'enaid.]
|
Pobun
|
Da boch, fy nghyfaill, y mae fy nghalon yn friw o'th achos di. Da boch bob pryd, ni welaf i monot fyth eto.
|
Cydymaith
|
Da boch dithau, Pobun, da boch. Dyro i mi dy law. Ie, trist iawn yw gwahanu, 'rwy'n deall hynny'n awr.
|
|
 ymaith.
|