GOLYGFA 8 Bord fechan yn cael ei gosod ar ganol gofod gwag, ganol y llawr. Lliain wen yn cael ei gosod ar y ford. Sedd foethus (Mastermind-aidd) yn cael ei gosod un pen o'r ford. Bwrdd gwyddbwyll yn cael ei osod ar ganol y lliain ar ganol y ford. |
|
Sylwebydd |
(Yn cwtsio ar ymyl yr olygfa.) (Sibrwd i feic.) Helo. A chroeso i'r sesiwn Dosbarth Meistr arbennig hon. Mae'r ford, y bwrdd a'r gadair yn barod ar gyfer ymddangosiad y Meistr ei hun. O – a dyma hi'n dod... Arweinydd y cyngor. Cyngor Sir Iawn. Ac wrth iddi gymryd ei lle wrth y bwrdd, dyma gyfle i fi gyflwyno rhai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd â'r gêm i rai o'r rheolau mwyaf sylfaenol. Fel y'ch chi'n gweld, mae'r bwrdd yn ymdebygu i fwrdd gwyddbwyll neu ddrafftiau. Ond yn y fan honno, fwy neu lai, mae'r tebygrwydd yn gorffen. Mae'r gêm cabiné – cabinet i'w roi yn ei ffurf Gymraeg – yn gêm go wahanol. Yn y lle cyntaf, fel y gwelwch chi heno, gêm un chwaraewr yw hi. Ac yn ail – fel y gwelwch chi wrth i'r darnau gael eu gosod, nid du a gwyn yw'r unig liwiau. Eich pleidleisiau chi, gatre, wrth gwrs sydd wedi penderfynu faint o weision sydd gan y Chwaraewyr i'w gwthio o le i le. Fel y gwelwch chi heno, ry' chi wedi rhoi i'r Meistr-Chwaraewr mwy o weision gwyrdd nag unrhyw liw arall. Ond, am fod yma hefyd un gwas coch, twr o rai melyn ac ambell i un gwyn hefyd, does gan y Meistr-Chwaraewr ddim mwyafrif o'i phlaid. Mae hi'n mynd i orfod chwarae gêm glyfar iawn fan hyn er mwyn ffurfio cabinet a fydd yn ei helpu i gadw rheolaeth ar fwrdd y chwarae. Felly, wrth i'r cloc ar gyfer y sesiwn cyntaf hwn gael ei osod yn ei le... |
Gosod y cloc. |
|
Sylwebydd |
Mae hi'n canolbwyntio'n galed... Drychwch ar yr holl ganolbwyntio yna... A... |
Y Meistr-Chwaraewr yn taro'r cloc. |
|
Sylwebydd |
Odi. Mae hi wedi dechrau. Beth fydd ei symudiad cyntaf, tybed? Odi hi'n mynd i drio cael gwared ar rai o'r gweision melyn hynny sy'n sefyll yn ffordd ei gweision gwyrdd? |
Llaw y Meistr-Chwaraewr pe bai ar wireddu hynny, yna, yn sydyn yn tynnu nôl ac yn symud y gwas coch. |
|
Sylwebydd |
W! Symudiad annisgwyl yn y fan honno. Beth sydd yn ei meddwl, tybed? |
Y Meistr-Chwaraewr yn symud gwas gwyrdd dros ben y gwas coch. |
|
Sylwebydd |
Aha! |
Y Meistr-Chwaraewr yn gosod y gwas coch ymysg ei rhes gefn gan osod gwas gwyrdd ar ei ben. |
|
Sylwebydd |
W! Da iawn. Symudiad da. Fel ry' chi'n gweld, trwy'r symudiad yna mae'r meistr wedi troi gwas coch – yr unig was coch – yn was gwyrdd. Coch yw e yn y gwaelod o hyd. Ond gwyrdd yw e i bob golwg. Symudiad craff iawn. |
Y Meistr yn paratoi i gyflawni symudiad arall. Ystyried un neu ddau opsiwn. Yn y pen draw yn cyflawni'r un gamp o feddiannu â dau was gwyn. |
|
Sylwebydd |
O – Ie. Fel o'n i'n disgwyl, wedi gweld ei symudiad cyntaf, mae hi nawr wedi cyflawni'r un tric a dau was gwyn – dau chwaraewr annibynnol. Un ohonyn nhw, rhyngddo chi a fi, a allai fod wedi peri tipyn bach o drafferth i'r Meistr. Ond ma' hi wedi'i fachu a – ie... |
Y Meistr yn gosod y ddau ar y rhes gefn nesaf at y 'brenin' coch/gwyrdd. |
|
Sylwebydd |
... fel y'ch chi'n gweld, eu troi o fod yn chwaraewyr annibynnol i fod yn weision gwyrdd. I weld beth yw oblygiadau hynny, draw â ni at y ein sylwebydd, R Ben Igol. |
R Ben Igol |
Gadewch i ni rewi'r chwarae ar y pwynt yma a gweld, eto, be sy'n mynd mlan mewn gwirionedd. Nawrte, ry' chi'n cofio fy nghyfaill yn dweud mai'r tric yw ffurfio cabinet fydd yn ddigon cryf i'w helpu i reoli'r bwrdd yn grwn. Wel – wrth feddiannu'r gweision coch a gwyn hyn mae hi ar ei ffordd tuag at y nod hynny. Unwaith mae gyda chi ddau was ar ben ei gilydd, mae gennych was sydd â dwbl y grym. Yn wahanol i'r gweision normal sydd ddim ond yn gallu symud ffor' na neu ffor' na, ma'r uwch-Weision hyn – y gweision Cabinet – yn gallu mynd i ba gyfeiriad bynnag ma nhw am. A – meddech chi – siwt ma'r Gweision Cabinet yma – os y'n nhw mor rhydd a holl bwerus – ddim yn creu problemau i'r Meistr? Nawrte, mae'r ateb yn yr hyn y'ch chi ddim yn gweld – yr hyn dyw'r camerâu ddim yn gallu dangos i chi. Ond, os edrychwch chi'n ofalus iawn iawn iawn, falle fe welwch chi fod yna rywbeth yn dal y tope gwyrdd wrth y gwaelodion, beth bynnag bo'u lliw. Y'ch chi'n gallu gweld beth yw e? Weda'i wrthoch chi – punnoedd. Wyth mil ohonyn nhw. Ma' pob un o'r Gweision Cabinet hyn yn cael £8,000 ychwanegol y flwyddyn – o law'r Meistr-Chwaraewr – am yr hawl a'r fraint o wisgo'r goron werdd. Does gan rein – y gweision cyffredin – dim owns o rym, a gweud y gwir. Allan nhw gico a sgrechen a bygwth fel ma' nhw am. Gwneith hi fawr ddim o wahaniaeth. Ac os penderfynith un o'r Gwesion Cabinet fynd eu ffordd eu hunain, wel 'Ffein' medde'r Meistr. Ond fydd hi'n 'ta-ta' i'r £8,000 ychwanegol wedyn. Mae cynghorwyr – y rhan fwyaf ohonynt, yn ddi-os – yn gweithio'n galed am y £12,000 a ganiateir iddynt. Mae aelodau'r cabinet – o gofio yr oriau ychwanegol a'r cyfrifoldebau mawr ma nhw'n cario – yn haeddiannol o'r tâl ychwanegol. Ond yr hyn y mae'r system cabinet wedi'i greu yw... |
Meistr-Chwaraewr |
Gêm. Gêm wleidyddol sy'n rhoi llawer o bŵer yn nwylo – yn y pen draw – un Person. Fi. |