GOLYGFA 9 |
|
Cyflwynydd 1 |
Mae hynny'n wir, wrth gwrs. Ond dim ond hyd at ryw bwynt. A'r pwynt yw hyn: yng Nghaerdydd, dim ond un sgwâr ar fwrdd Llywodraeth Cymru yw Ceredigion. |
Ar y ford tu cefn i gêm Ceredigion, mae un person yn sefyll yn union tu ôl i fwrdd draffts ac un wrth ei ochr. Mae trydydd person (gwas) yn dal y bwrdd ei hunan. |
|
Person 2 |
Yes, Minister. I suggest that will be an excellent move. |
Cyflwynydd 2 |
Siwt mae excellent move y bwrdd hwn (Llywodraeth Cymru) yn dod yn symudiadau ar y bwrdd hwn (Ceredigion)? Dyw'r ateb ddim gan y ferch hon... |
Merch 1 |
Helo. Fi yw Polly. Polly A. |
Cyflwynydd 2 |
Dyw'r ateb ddim gan y ferch hon chwaith... |
Merch 2 |
Helo. Fi yw Polly. Polly B. |
Cyflwynydd 2 |
Ond y ferch hon – gyda hon mae'r ateb... |
Merch 3 |
Helo. Fi yw Polly. Polly C. Dewch â nhw mewn, bois! |
Pawb sydd ar gael yn whilbera / cario parseli trwchus i'r amlwg a'u dosbarthu ymysg y gynulleidfa. Mae pob parsel â phennawd arno sy'n dweud 'polisi' hwn / llall a rhybudd bod rhaid ei ddarllen cyn cyfarfod llawn nesaf y cyngor (fory/drannoeth.) Tra fod y dosbarthu'n digwydd... |
|
Merch 3 |
Ac unwaith byddwch chi wedi bennu darllen rheina fydd 'na lwyth arall yn y post i chi yn barod i chi eu darllen â help rhein... |
Pawb yn helpu i ddosbarthu cribau ymysg y gynulleidfa. |
|
Swyddog |
Cyfarfod cyngor yn dechrau mhen 30 eiliad. |
Pawb yn hastu'r gynulleidfa i ddarllen y polisïau. Swyddog yn ail-adrodd y rhybudd – 15 eiliad / 10 eiliad / cyfrif lawr. Erbyn hyn, mae pawb wedi ymffurfio yn swyddogion ac yn gynghorwyr ar gyfer y cyfarfod cyngor. |