Merch Fach |
Cont yn gwlitho. 'I freuddwyd e. Llwyddodd e byth i neud. Cont fach yn lleitho. Byth i neud hynny. Ddim unwaith. Bastard. Mochyn. Dan fysedd pwy? Dan bawen pwy? Dan ewinedd ellyll mewn hunlle. Dan garn mochyn bawog. Cont fach yn ffaelu gwlitho. |
Mae'r golau yn cryfhau yn raddol...yfyd sŵn y môr. |
|
Merch Fach |
Gwddwg twrci. Crib hen dwrci a tagelle hen dwrci. Crôn llyffant, haen o'r ddafaden wyllt. Yn tyfu dan gledre'n nwylo i. Yn symud. Fentra i ddim cysgu. Fentra i ddim gweud. Fentra i ddim dihuno. Fentra i ddim pido. Wy isie marw. |
Swn gwylanod yn datblygu'n swn numatic dril...ae SCOOT yn ymosod ar ddarn o wal frics gyda'r ebill. Mae e rhywle arall yn y tŷ, lan stârs. |
|
Scoot |
Cont twll yffarn. Cer miwn. Bitsh. Cer miwn. Reit te'r ast... |
Dyw'r pigyn ar y dril ddim yn tyllu'r wal yn effeithiol. Mae SCOOT, sy'n lladdar o chwys, yn oedi i roi pigyn trymach ar y dril. Mae SCOOT yn gwthio'r ebill unwaith eto fewn i'r twll ym maen y wal. |
|
Scoot |
Tria hon am seis te. Bitsh. 'Na ddangos pwy yw'r mishtir. Yntefe'r ast. Yeah. Hasta la vista baby. |
Golau i lawr yn raddol wrthi SCOOT fwrw mlaen â'r drilio. Can gan Bjӧrk "Like Someone in Love". Delwedd o BETH yn paratoi ar gyfer ei noson gynta. |