a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a2, g1a2, g2
Ⓗ 1994 Siôn Eirian
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 4


ACT UN

GOLYGFA 4

Mae LINDA'n brysur yn rhoi haen drom o golur ar ei hwyneb.

Mae'r ffôn yn canu.

Linda

Ie? Odyn... Un blond, un brwnet... Fi – ifanc, gwallt hir, tywyll. Allwn ni ddim trafod pethe felna ar y ffôn, sori... Fifteen Horizon View. Chi'n gyfarwydd â...? O.K. Tata cariad.



Mae'n dychwelyd at ei cholur. Ond mae hi'n ymwybodol o'r oerni yn y parlwr. Mae hi'n tynn'r gwresogydd letric bach yn nes ati. Does dim gwres yn dod ohono. Mae LINDA a'n rhoi cnoc iddo. Mae'r gwresogydd yn diffodd.

Linda

Shit, shit, shit...



Mae'r ffôn canu eto.

Linda

Helo... blond a brwnet... Y blond, gwallt hir... Wel, sneb wedi cwyno... Hang on... Sai'n siarad â time wasters... Beth? Reit, ffyc off... (Ffôn i lawr.) Wancyr...



Unwaith eto mae LINDA'n dychwelyd at ei phlastar o golur, gan ganolbwyntio nawr ar ei eyeliner.

Daw MARY i fewn cario dau becyn o fish a chips wedi eu lapio. Wrth basio mae hi'n lluchio un pecyn i gôl LINDA.

Linda

Shit...

Mary

Sori... Ishe bwyd arnot ti?

Linda

Ffyc off! Ddim ar draul rhoi'n wyneb mlân.

Mary

Iesu, mae'n oer. Raid ti fyta rwbeth Lind. Ma byw ar win chep a dôp yn mynd i whare'r ber a dy du fiwn di. Ond os yw côt yn dachre troi'n rhacs, tria o leia gadw'r leining yn un pishyn. Lind? Ma rhaid ti drio edrych ar ôl dy hunan. Ne fydd neb moyn ti rhagor.

Linda

Gwd. (Eiliad.) Be sy da ti?

Mary

Mini cod a chips.

Linda

Mini cod a chips...

Mary

Der mlân. Cyn ddo nhw oeri.

Linda

Arhosan nhw ddim yn dwym fwy na dwy funud fan hyn. Ma'r ffycin heater na'n ffycd. Newydd gonco mas.

Mary

Hyd no'd pan o'dd hwnna yn gwitho o'dd e ddim ddigon i gadw'r lle dwym... O'dd arfer bod cyllyll a ffyrc, a plat yn y cwpwrt ma...

Linda

Sa i di mynd nhw... Scoot... Symud popeth mas o ma pishyn wrth bishyn.



Mae LINDA a MARY nawr yn bwyta chips wrth siarad.

Linda

Fydd y mysedd i'n drewi o finegyr.

Mary

Felse'r pyntyrs yn mynd i fecso anyway.

Linda

Ma gormod da fi fan hyn.

Mary

Byt. Rhaid i rywun ddishgwl ar dy ôl di. A fi yw'r unig un neith. (Eiliad.) Weles i un arall, un newydd 'to nithwr. Yn gwitho ar gornel y stryd tu fas i'r Metropole.

Linda

Ddim problem ni.

Mary

Ru'n osgo.

Linda

O, Crist...

Mary

Ond odd hon mor ffresh, mor ddi-glem...

Linda

Mary, ma asgwrn yn y fish ma. Ffycin asgwrn. (Eiliad.) Dou ffycin asgwrn. Ti'n gwbod bod gas da fi fish a esgyrn.

Mary

Ofynnes i am fillet.

Linda

Troi arno i, ffindio esgyrn wrth i fi lyncu...

Mary

O'n i ffaelu agor y bastard cod lan yn y siop, i neud analysis. Ofynnes i am fillet, O.K...

Linda

Ffycin esgyrn Mary.

Mary

Allan nhw ddim X-Rayo'r blydi peth cyn i ffrio fe. Nawr ffycin byt e.

Linda

(Yn pigo'i dannedd a poeri.) Siwto ti se'n i'n tagu ar y ffycin thing yma. Pynctshro y nhwll llyncu i... Iesu.

Mary

Popeth wy'n ddod i ti, ma rhwbeth yn ffycin rong. Y takeaway Tandoori, Mexican o'r El Paso. Chinese o'r chinky corner, kebabs, burgers, Papa Joe Pizza...

Linda

Nid fi sy'n gofyn i ti ddod a nhw...

Mary

Pob teip o fwyd sy ar ga'l yn y byd, wy'n dod ag e i ti. A ma wastod rhwbeth yn ffycin rong.

Linda

Jyst cia hi Mary. Ti'n gwbod be sy'n rong.

Mary

Esgyrn yn y fish, spare ribs yn llawn gwthi, pizza yn soggi, sâm Indians yn staeno dy fysedd a dan dy winedd di, kebabs yn stico rhwng dy ddannedd di. Dim byth thenciw Mary. Wastod ffycin conan...

Linda

Ti sy wastod yn ffycin conan. Neud ffycin ffafre os neb ishe...

Mary

Beth yw'r ffycin yappan, y dannod ma Linda?

Linda

Mother ffycin Teresa Horizon View.

Mary

Y?

Linda

So, es ti siarad â hi. Cynnig help. Cynnig iddi ddod yn bart o'r tîm ife?

Mary

Beth yw'r broblem Linda?

Linda

Ti mor ffycin sofft.

Mary

Wy'n cymryd piti dros ferch newydd ar y gêm. Merch sy'n nyrfys, sy'n rhynnu ar gornel stryd. Gymres i biti drostot ti flynyddo'dd nol...

Linda

O'n i yn fine. O'dd dim isie piti neb arno...

Mary

Duw a ŵyr ble byddet ti nawr se'n i ddim...

Linda

Wedi lando ar yn ffycin drâd met. Fydde popeth yn sorted...

Mary

Allet ti fod yn farw nawr, se'n i ddim wedi edrych ar dy ôl di. Ffor ny o't ti'n hedo Linda. Walle dylen i fod wedi gadel i ti bwdru. Ti a'r holl drwbwl ti di ddod yn y sgil.

Linda

Trwbwl? Wy'n talu'n ffordd... (Mae hi'n sgrwnsho'r chips fyny yn papur lapio.)... Ma lot o ddynon yn gofyn amdano i. Yr un ifanc, yr un bert...

Mary

Ti'n ffycin liability Lind. Pan ffindies i ti, o't ti ar y ffordd mas.

Linda

O'dd bywyd neis 'da fi. Gwbod ble o'n ni'n mynd. I had it made. Welest ti mo'no i yn yr amsere da, pan o'n i'n really hapus... Fi a Sigi...

Mary

Paid dechre Linda, paid â dechre.

Linda

Mae'n siwto ti i bido credo... Wel fues i'n hapusach nag wyt ti erio'd wedi bod yn dy fywyd.

Mary

Linda!

Linda

Ond wedyn ddest ti, a dy ffycin help, dy ffycin lifeline...

Mary

Jyst cia dy ffycin ben Linda. Ti'n y nghlywed i? Cia'i?

Linda

Fel se neb o'r menwod erill yn fame, fel se da neb arall ferch sy di mynd trwy'r holl gachu 'na... Jyst achos honna o's rhaid i ni watsho ti tri newid y ffycin byd, trio arbed pob bitch ddwl sy mewn trybini... jyst achos dy ffycin ferch di...



Mae cloch y drws ffrynt yn canu.

Linda

A stwffa dy ffycin chips lan dy din 'fyd...



Cloch drws ffrynt yn cael ei chanu eto.

Mary

Sa i'n barod.



Dyw LINDA ddim yn symud. Mae hi nawr wedi eistedd eto ac yn cymryd llwnc o win.

Mary

Linda...



Cloch y drws ffrynt yn canu eto.

Mary

Cer nei di!

Linda

Ond wy newydd neud...

Mary

Sa i'n barod fenyw. Cer.



Wrth i'r gloch ganu am y pedwerydd tro mae LINDA'n codi ac yn cerdded allan – fymryn yn sigledig. Mae MARY'n arllwys llond myg o win iddi ei hunan. Clywir cerddoriaeth yn dechrau chwarae ar ghetto blaster yn y stafell nesa. Mae MARY'n cymryd ambell lowc o'r bwyd. Mae hi hefyd yn newid o'i siwmpir gynnes i flows denau ac yn newid o'i sgidie bob dydd i bar sawdl uchel coch. Wrth newid mae hi'n rhynnu o deimlo brath yr oerfel. Yn ystod hyn mae hi'n ymgomio â'r mwnci.

Mary

Yffarn Grist. Ma hi'n ô'r mas fanna heddi. Os yw hi fel ffridj miwn fan hyn, ma'i fel freezer mas fanna. Fydde ti ddim yn para mwy na phum muned mas 'na. Ny'r jyngl oera ar y blaned ma, yw'r ddinas fowr frwnt na mas co. (Rhywle yn y cefndir swn ebillio neu hoelio eto.) A gobitho bod e, Mr. Scoot yn rhynnu mas 'na, ne lan 'na... Gobitho gwmpith e ar y iâ, a gobitho rhewith yr hen dyrdyn i farwolaeth cyn i neb ffeindio fe. (Mae hi'n eistedd yn ymyl y mwnci.) Ond gewn ni anghofio amdano fe a'i deip cyn bo hir. Wy'n dala i safio. Fyddwn ni mewn wlad well un o'r diwrnode ma. Fi a Debs fach. Yn llygad yr haul. Yn bywn'n fras. Diolch yn fowr James. Ie, un potel arall o'r Chateau de... Runpethteaux plis James. A paced newydd o Rizlas. Lwchodd rheina yn y jacuzzi gynne. Do. Coch ne gwyrdd? Y Rizlas lliw aur plis James. Y seis hir... (Mae hi'n ail gynnau joint Linda.) A'r amphetamines yn cannu grwndi trw ngwythienne i, fel cadillacs bach arian ar y tarmac twym. Ochor bella'r pool fydd bryncyn bach, a ffelt gwyrdd drostot fe, a ffloc bach o ddefed yn crwydro nôl a mlân, yn f'atgoffa i o gytre. A cwpwl o beilons bach plastic, yn ganhwylle ar y gacen. A tequila sunrise trw straws bobo bore, i roi hwfrad dda i realiti'r dydd cyn dechre dim.



Sŵn cân gan Bjӧrk ac yna llais ifanc, Debbie neu ei rhith yn siarad tra bo MARY'n eistedd yn llonydd.

Llais
Ddim er y mwyn i Mami,
Gormod o ffafre wy di ga'l, gormod o help.
Hol fi o Lunden. Helpu fi gico'r arfer.
Fydden'n i'n farw nawr, onibai...
Yn freichie i'n fyw o dwlle.
Rhai diweddar, yn whysu gwa'd tene,
Rhai hen. Dan grofen frwnt o greithie.
Hôl fi wrtho fe.
Dim gwythienne glân ar ôl dan i gron e.
Erbyn chi ddod odd e'n injecto gwyn i lyged.
Rhacsan y bedsit, rhacsan i gorff, rhacsan i ben.
Se'r heroin ddim di'n lladd i, mi fydde fe.
A peth o'r amser o'n i'n edrych mlân at 'ny.
Pidwch breuddwydo Mam. Dim am y dyfodol.
Dim da fi yndo fe. Fydda i ddim ma.
Newch be chi'n neud, breuddwydwch am be chi moyn
Er mwyn rhywbeth a rhywun arall.
Mae'n rhy hwyr i fi nawr, Mami.
Rhy hwyr ers pan es i bant, yn fourteen.
Peder blynedd a bywyd cyfan yn ôl.
A rwbryd pry'ny, âth pob dyfodol ar goll.



Golau i lawr ar y parlwr. Sŵn tafarn prysur.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a2, g1a2, g2